| (1, 0) 1 | Pan gyfyd y llen, gwelir ROLANT HUW yn eistedd ar y seil wrth y tân, yn darllen "Seren tan Gwmwl", o waith Jac Glan-y-Gors. |
| (1, 0) 2 | Y mae'n amlwg fod sylwadau miniog a bachog yr awdur wrth fodd ei galon. |
| (1, 0) 3 | Tyrr allan i chwerthin yn uchel. |
| (1, 0) 4 | Daw ei wraig #Sara |
| (1, 0) 5 | i mewn, a chyn gynted ag y daw drwy'r drws, dywed: |
| (1, 0) 8 | Y mae ganddi swp o ddillad yn ei breichiau, ac y mae yn eu rhoi ar y bwrdd o'i blaen. |
| (1, 0) 9 | Yn ystod yr ymddiddan a ganlyn, y mae'n eu trin a'u dosbarthu, etc. |
| (1, 0) 91 | Daw IFOR i mewn drwy ddrws y gegin fach, yn ddrwg ei dymer. |
| (1, 0) 92 | Y mae ar ganol gwisgo, a heb ei gôt. |
| (1, 0) 166 | Cyflyma'r tempo yma. |
| (1, 0) 188 | Erbyn hyn y mae Ifor wedi cilio'n araf ac ofnus at ddrws y gegin fach. |
| (1, 0) 189 | Mae ei fam yn mynd ati i'w gysuro dan fflangell lem ei dad. |
| (1, 0) 233 | Rolant yn mynd allan i'r cyntedd. |
| (1, 0) 234 | Clywir lleisiau'r ddau yno. |
| (1, 0) 237 | Daw y ddau i mewn. |
| (1, 0) 294 | Oddi yma ymlaen, cyflyma'r tempo, hyd at exit Mr. Foster, a chyfyd tymer Rolant. |
| (1, 0) 295 | Erys Mr. Foster yn ddi-gyffro bron. |
| (1, 0) 386 | Yn ystod y sgwrs sy'n dilyn, y mae ROLANT yn bur anesmwyth, heb allu setlo'i lawr i wneud dim. |
| (1, 0) 387 | Mae SARA erbyn hyn wedi cael pecyn yr hen Feti at ei gilydd. |
| (1, 0) 388 | Y mae'n paratoi i fynd allan. |
| (1, 0) 403 | Y mae SARA yn mynd. |
| (1, 0) 404 | Chwilia ROLANT am lyfr, cymer un a gwna ei hun yn gyfforddus i ddarllen ar y setl wrth y tân, fel ar ddechrau'r chwarae. |
| (1, 0) 405 | ~ |
| (1, 0) 406 | Ymhen ysbaid gwelir drwy'r ffenestr wyneb JAC GLAN-Y-GORS. |
| (1, 0) 407 | Edrycha hwnnw o'i gwmpas yn wyliadwrus, yna y mae'n tapio'n ddistaw ar y ffenestr. |
| (1, 0) 408 | Cwyd Rolant ei olwg, ond y mae ei gefn at y ffenestr, ac ni wêl Jac. |
| (1, 0) 409 | ~ |
| (1, 0) 410 | Dechreua'r tapio drachefn, yn uwch. |
| (1, 0) 411 | Trŷ Rolant at y ffenestr, a gwêl wyneb Jac. |
| (1, 0) 412 | Neidia ar ei draed, gan sibrwd gyda chryn syndod, "Jac"! |
| (1, 0) 413 | ~ |
| (1, 0) 414 | Amneidia Rolant arno i ddod i mewn drwy'r cefn, a rhuthra i dynnu llenni'r ffenestr at ei gilydd. |
| (1, 0) 415 | Diffodda'r ddwy gannwyll sydd ar y silf-ben-tân, nes bod y llwyfan rhwng tywyll a golau. |
| (1, 0) 416 | ~ |
| (1, 0) 417 | Yna egyr ddrws y bac, a daw JAC i mewn. |
| (1, 0) 418 | Y mae hwnnw'n cario pecyn bychan. |
| (1, 0) 419 | ~ |
| (1, 0) 420 | Yn ystod rhan gyntaf yr ymgom sy'n dilyn, ymddengys Rolant yn lled anesmwyth, yn edrych o gwmpas yr ystafell yrŵan ac yn y man, a chlustfeinio am unrhyw sŵn dieithr. |
| (1, 0) 443 | Y mae'n cymryd yr unig gannwyll, ac yn croesi i oleuo'r ddwy arall ar y silff-ben-tân. |
| (1, 0) 513 | Mae'n dal i chwerthin, ac ni all Rolant yntau beidio ag ymuno yn yr hwyl. |
| (1, 0) 514 | ~ |
| (1, 0) 515 | A phan fo'r chwerthin ar ei fan uchaf, daw JANET FOSTER, merch y Person, i mewn heb gnocio, yn ôl ei harfer. |
| (1, 0) 516 | ~ |
| (1, 0) 517 | Saif yn sydyn pan wêl pwy sydd yno. |
| (1, 0) 518 | Derfydd y chwerthin hefyd yn sydyn iawn. |
| (1, 0) 521 | Cyfyd y ddau. |
| (1, 0) 522 | Rolant yn araf araf, ond Jac ar unwaith, heb anghofio'i foesau da. |
| (1, 0) 523 | Mae'n amlwg na ŵyr Rolant druan beth i'w wneud â'r sefyllfa newydd hon. |
| (1, 0) 524 | Wedi edrych o un i'r llall yn ddigon ffwndrus, dywed yn drwsgl braidd: |
| (1, 0) 567 | Drwy'r adeg, hyd at ei exit y mae Rolant yn lled aneswyth ac anghyfforddus yn ystod y sgwrs rhwng Janet a Jac. |
| (1, 0) 568 | Ond y mae'r ddau yna yn mwynhau pob moment ohoni. |
| (1, 0) 569 | Dylai'r ddau ddangos hyn yn glir, er mwyn datblygu'r gomedi. |
| (1, 0) 593 | Y mae Rolant a Jac bron â chael eu taro'n fud gan syndod. |
| (1, 0) 594 | Ond dywed y ddau o'r diwedd, bron gyda'i gilydd: |
| (1, 0) 646 | Mae'n mynd o gwmpas yr ystafell, ac edrych yng nghwpwrdd y dresel, etc., tra y sieryd y ddau arall. |
| (1, 0) 665 | Wedi i Rolant fynd allan ceir distawrwydd am ennyd neu ddau. |
| (1, 0) 666 | Yma dywed Janet yn eithaf swynol: |
| (1, 0) 676 | Cyflyma'r tempo yn sydyn. |
| (1, 0) 677 | Sieryd Janet yn gyflym mewn 'stage whisper', gan dorri'r brawddegaw'n gwta, ond pob gair a ddywed yn dangos ei bod o ddifrif calon. |
| (1, 0) 689 | Daw Rolant yn ôl. |
| (1, 0) 731 | Daw Jac ato'i hun yn sydyn. |
| (1, 0) 732 | Cyflyma'r tempo ar unwaith. |
| (1, 0) 733 | Sieryd Jac yn gyflym, ac y mae o ddifrif am unwaith. |
| (1, 0) 734 | Darfu'r cellwair. |
| (1, 0) 761 | Y mae'n cydio yn ei bac, ac ar gychwyn allan pan y daw Sara ac Ifor i mewn. |
| (1, 0) 762 | Arafa'r tempo. |
| (1, 0) 774 | Ifor yn croesi at Jac, ac yn estyn ei law iddo. |
| (1, 0) 775 | Mae rhyw golyn yng nghynffon pob ymadrodd o eiddo Ifor yma, ond ymddengys yn eithaf siriol a chyfeillgar: |
| (1, 0) 807 | Clywir cnocio awdurdodol ar y drws canol. |
| (1, 0) 808 | Cyflyma'r tempo ar unwaith. |
| (1, 0) 812 | Cnocio eto, a llais: "Agorwch, yn enw'r Brenin!". |
| (1, 0) 820 | Mae Jac yn camu at y drws hwnnw, ond saif Ifor ar ei ffordd, â'i gefn at y drws. |
| (1, 0) 823 | Cyffro, a'r cnocio yn dal. |
| (1, 0) 833 | Cnocio eto, a llais Mr. Foster i'w glywed. |
| (1, 0) 837 | Egyr y drws, a daw Mr. Foster i mewn. |
| (1, 0) 838 | Dilynir ef gan Capten Rogers, swyddog ym Milishia Sir Ddinbych. |
| (1, 0) 893 | Ac fel yr â Capt. Rogers i gymryd gafael yn Jac, clywir lleisiau'r Milishia oddi allan, ac hefyd lais arall. |
| (1, 0) 894 | Egyr drws, a daw JANET i mewn yn frysiog. |
| (1, 0) 895 | Hawdd gweld bod rhywbeth anghyffredin wedi peri iddi frysio yno. |
| (1, 0) 945 | Yn mynd allan gan floeddio'r geiriau yn histeraidd. |
| (1, 0) 948 | Saib am ennyd neu ddwy. |
| (1, 0) 962 | Â'r Capten allan. |
| (1, 0) 1027 | Y mae'n troi at Jac, a cheisio'i orau i ymddangos mor ddi-gyffro ag y sydd modd. |
| (1, 0) 1037 | Mr. Foster a Rolant yn mynd allan. |
| (1, 0) 1038 | Saib fer. |
| (1, 0) 1064 | Y mae Jac yn ymgrymu i gusanu ei llaw. |
| (1, 0) 1065 | Yn sydyn, tynn hi ato'i hun, a chusana'r ddau ei gilydd. |
| (1, 0) 1066 | Y maent yn ymwahanu, ac â Janet at y drws. |
| (1, 0) 1070 | A chyn iddi fynd allan, dywed yntau'n dawel wrthi. |
| (1, 0) 1072 | LLEN |