| (1, 0) 1 | Sgubor Cefn Eithin, Llanfair Moyddin, fore Sadwrn yn yr Haf. |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr. |
| (1, 0) 4 | Yn y cornel i'r dde y mae cryglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr. |
| (1, 0) 5 | Yn y pen nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan. |
| (1, 0) 6 | ~ |
| (1, 0) 7 | Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan. |
| (1, 0) 8 | Cedwir ef felly am ychydig amser, nes bod y gyunlleidfa ar fin anesmwytho. |
| (1, 0) 9 | Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos. |
| (1, 0) 10 | Pan ddel cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael â rhai crwydryn cyffredin. |
| (1, 0) 11 | Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog. |
| (1, 0) 14 | Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed. |
| (1, 0) 15 | Y mae mwy o awyrgylch y gwir dramp o gylch hwn. |
| (1, 0) 16 | Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coed-foneddig - yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael. |
| (1, 0) 17 | ~ |
| (1, 0) 18 | Y mae ei wyneb hefyd yn gyd'wedd â'r dillad - wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin. |
| (1, 0) 19 | Y mae ei farf "gafr" a'i wallt ac aeliau trwchus yn frith. |
| (1, 0) 20 | ~ |
| (1, 0) 21 | Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen. |
| (1, 0) 22 | Cyfyd o'r gwellt yn fwy disymwth na Dafydd, a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar |
| (1, 0) 23 | ôl rhai Dafydd. |
| (1, 0) 117 | Edrych Malachi yn synfyfyrgar am ysbaid. |
| (1, 0) 118 | Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd. |
| (1, 0) 119 | Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc. |