| (1, 0) 1 | Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr. |
| (1, 0) 2 | Yn y cornel i'r dde y mae cruglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr. |
| (1, 0) 3 | Yn y ben nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan. |
| (1, 0) 4 | ~ |
| (1, 0) 5 | Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan. |
| (1, 0) 6 | Cedwir eí felly am ychydig amser, nes bod y gynulleidfa ar fin anesmwytho. |
| (1, 0) 7 | Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos. |
| (1, 0) 8 | Pan ddêl cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael a rhai crwydryn cyffredin. |
| (1, 0) 9 | Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog. |
| (1, 0) 12 | Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt, a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed. |
| (1, 0) 13 | Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coeg-foneddig─yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael. |
| (1, 0) 14 | ~ |
| (1, 0) 15 | Y mae ei wyneb hefyd yn gyd-wedd â'r dillad─wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin. |
| (1, 0) 16 | Y mae ei farf '' gafr " a'i waÌlt ac aeliau trwchus yn frith. |
| (1, 0) 17 | ~ |
| (1, 0) 18 | Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "Pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen. |
| (1, 0) 19 | Cyfyd yn fwy disymwth na DAFYDD o'r gwellt a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar ol rhai DAFYDD. |
| (1, 0) 162 | Edrych MALACHI yn synfyfyrgar am ysbaid. |
| (1, 0) 163 | Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd. |
| (1, 0) 164 | Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc. |