| (0, 1) 2 | Golygfa 1 |
| (0, 1) 3 | Mae Nicias yn eistedd yn fyfyrgar ar y llwyfan-ffedog. |
| (0, 1) 4 | Dealler mai ar lan afonig y mae, ac o bryd i'w gilydd clywir crawcian y llyffantod yn y brwyn cyfagos. |
| (0, 1) 5 | Cymer ambell ddracht o botel win sydd ganddo, a thoc, dengys ei werthfawrogiad ohono drwy fytheirio'n hyglyw a chyda boddhad amlwg. |
| (0, 1) 6 | ~ |
| (0, 1) 7 | Yna, heb yn wybod iddo, daw Iris, ei wraig, a Harmonia, ei fam-yng-nghyfraith, i'r golwg o'r ochr arall. |
| (0, 1) 8 | Safant mewn syndod. |
| (0, 1) 21 | Daw'r ddwy ymlaen at Nicias. |
| (0, 1) 95 | Exit lris a Harmonia. |
| (0, 1) 103 | Daw merch ifanc ymlaen gyda phecyn o bamffledi. |
| (0, 1) 144 | O dan ddylanwad y gwin mae'n syrthio i gysgu. |
| (0, 1) 145 | Miwsig addas. |
| (0, 1) 146 | Ymddengys Dionysos wedi'i wisgo fel twristiad nodweddiadol, gyda'i gamera a'i recordydd-tâp. |
| (0, 1) 147 | Mae'n cario cas mawr trwm. |
| (0, 1) 148 | Daw at Nicias ac edrych arno, ac ar ôl ennyd neu ddau mae hwnnw'n agor ei lygaid. |
| (0, 1) 149 | Y miwsig yn distewi. |
| (0, 1) 184 | Nid yw Dionysos yn ateb. |
| (0, 1) 185 | Saif ac edrych o'i amgylch. |
| (0, 1) 197 | Saib, Dionysos yn meddwl. |
| (0, 1) 204 | Mae Dionysos yn arogli'r botel win. |
| (0, 1) 241 | Cymer y cas mawr |
| (0, 1) 244 | Mae Nicias yn arwain y ffordd oddi ar y llwyfan. |
| (0, 1) 245 | Ar ôl ennyd neu ddau, agorir y llenni a gwelir nifer o rostra yn cynrychioli sgwâr yn Athen. |
| (0, 1) 246 | Mae nifer o bobl yma ac acw, rhai'n eistedd; rhai'n sgwrsio, eraill yn darllen papur-newydd neu chwarae cardiau ac yn y blaen. |
| (0, 1) 247 | Mae'r Côr — a fydd ar brydiau'n ymrannu'n ddau grŵp — yn sefyll gyda'i gilydd yn weddol agos i ffrynt y llwyfan. |
| (0, 1) 248 | Daw Dionysos a Nicias at y gris sy'n codi o'r gynulleidfa i'r llwyfan, a phetruso yno am ychydig. |
| (0, 1) 249 | Mae un o'r Côr yn eu gweld a thynnu sylw'r lleill atynt. |
| (0, 1) 267 | Gwelir rhywun yn mynd at y ddau ymwelydd |
| (0, 1) 271 | Mae Dionysos yn dringo'r gris o'r llawr i'r llwyfan a Nicias yn honcian yn llafurus ar ei ôl. |
| (0, 1) 272 | Rhydd y cas yn ofalus i lawr ac eistedd ar un o'r rostra i gael ei wynt ato. |
| (0, 1) 280 | Mae Dionysos yn cerdded hwnt ac yma i edrych ar y bobl gyda'u gwahanol ddiddordebau, ond does neb yn cymryd y sylw lleiaf ohono. |
| (0, 1) 281 | Yn sydyn, clywir cyffro, a daw dau ddyn i'r golwg yn hebrwng dyn arall rhyngddynt â'i arddyrnau mewn cyffion. |
| (0, 1) 282 | Gwelir nifer o bobl ifainc yn ceisio'u rhwystro. |
| (0, 1) 289 | Teflir y gwrthwynebwyr o'r fordd gan y ddau dditectif ac ânt â'r carcharor ar draws y sgwâr ac o'r golwg, heb i neb gymryd fawr sylw ohonynt. |
| (0, 1) 290 | Daw Dionysos yn ôl at Nicias. |
| (0, 1) 320 | Daw llais drwy'r corn-siarad. |
| (0, 1) 343 | Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r bobl wedi ymgynnull ger un o'r rostra, a gwelir Cleon yn dringo arno. |
| (0, 1) 344 | Adwaith cymysglyd gan ei gynulleidfa. |
| (0, 1) 386 | Mae rhai yn y dyrfa yn bygwth troi'n erbyn y protestwyr, ond atelir hwy gan Cleon. |
| (0, 1) 403 | Rhai o'r dyrfa'n chwerthin |
| (0, 1) 413 | Mae Cleon fel petai'n brwydro i reoli ei deimladau. |
| (0, 1) 451 | Adwaith cymysglyd o'r gynulleidfa |
| (0, 1) 455 | Adwaith cymysglyd eto a gwelir Cadmos yn dringo ar rostrwm arall. |
| (0, 1) 458 | Mae'r dyrfa'n troi oddi wrth Cleon i wrando ar Cadmos. |
| (0, 1) 473 | Adwaith cymysglyd y dyrfa. |
| (0, 1) 490 | Adwaith y dyrfa eto. |
| (0, 1) 497 | Adwaith cymysglyd. |
| (0, 1) 503 | Yn ystod y cynnwrf daw Cadmos a Cleon i lawr oddi ar eu rostra a mynd ymaith i annerch cynulleidfa mewn rhan arall o'r Ddinas. |
| (0, 1) 525 | Daw llais drwy'r corn-siarad. |
| (0, 1) 532 | Erbyn hyn mae'r bobl wedi mynd yn ôl at eu gweithgareddau a'u diddordebau blaenorol. |
| (0, 1) 533 | Nid oes neb yn cymryd nemor ddim sylw o'r datganiad ar wahân i'r grŵp ifanc a fu'n protestio eisoes. |
| (0, 1) 534 | Mae'n nhw'n sefyll fel petaent wedi'u syfrdanu. |
| (0, 1) 559 | Mae Dionysos yn mynd at y grŵp sy'n chwarae cardiau, gyda'i recordydd-tâp, a'r meicroffon yn ei law. |
| (0, 1) 571 | Mae un o'r chwaraewyr yn amlwg wedi twyllo |
| (0, 1) 581 | Mae'r ddau yn mynd i yddfau'i gilydd. |
| (0, 1) 582 | Daw'r lleill rhyngddynt, ac o'r diwedd mae'r cyffro'n tawelu. |
| (0, 1) 589 | A'r chwarae ymlaen, try Dionysos at hen wraig sy'n croesi'r sgwâr. |
| (0, 1) 627 | Exit yr hen wraig dan fwmial. |
| (0, 1) 628 | Try Dionysos at ddyn busnes llewyrchus yr olwg a ddaw heibio |
| (0, 1) 647 | Pwyntio at ddau ddyn mewn dillad peirianwyr yn dod heibio |
| (0, 1) 664 | Exit y gweithwyr. |
| (0, 1) 665 | Daw merch ifanc heibio. |
| (0, 1) 690 | Exit y ferch, edrych Dionysos ar y weddw am ennyd, yna try at y grŵp ifanc. |
| (0, 1) 696 | Maent yn troi eu cefnau arno ac o'r diwedd try yntau at 'y côr. |
| (0, 1) 725 | Mae'r côr yn mynd allan, a thywyllir y llwyfan i gyd ac eithrio pelydryn ar Dionysos a Nicias. |
| (0, 1) 787 | Mae Nicias yn sefyll yn syfrdan, fel tae'n ansicr beth i'w wneud. |
| (0, 1) 788 | Tyn ei gap a disgyn yn drwsgl ar un ben-lin. |
| (0, 1) 789 | Rhydd Dionysos arwydd iddo godi ar ei draed. |
| (0, 1) 863 | Exit Dionysos. |
| (0, 1) 864 | Saib ennyd |
| (0, 1) 868 | Llen neu dywyllwch. |
| (0, 2) 869 | Golygfa 2 |
| (0, 2) 870 | Gwelir Nicias yn dal i eistedd yn fyfyrgar fel o'r blaen. |
| (0, 2) 871 | Daw un o'r dynion a oedd yn chwarae cardiau ato. |
| (0, 2) 942 | Mae'r gweddill o'r grŵp yn gadael eu chwarae cardiau, a dod atynt. |
| (0, 2) 959 | Daw y ferch ifanc heibio. |
| (0, 2) 969 | Pawb yn chwerthin. |
| (0, 2) 970 | Daw'r hen wraig fyddar heibio. |
| (0, 2) 987 | Wrth weld y lleill yn dechrau symud tuag ato yn fygythiol, saif Nicias ar ei draed i'w amddiffyn ei hun, a'r cas. |
| (0, 2) 988 | Mae'n sgarmes mewn dim, a phery hyn am ennyd, nes yr ymddengys Dionysos. |
| (0, 2) 989 | Y foment honno, mae ei ymosodwyr yn cilio'n ôl oddi wrth Nicias. |
| (0, 2) 990 | Erbyn hyn, gwelir bod Dionysos wedi newid i ddillad ffurfiol, fel dyn busnes llewyrchus ar ei ffordd i'r swyddfa — siaced ddu, trowsus streip, het-galed ac ymbarel. |
| (0, 2) 993 | Try'r bechgyn yn llechwraidd a mynd ymaith. |
| (0, 2) 1021 | Daw Iris i'r golwg |
| (0, 2) 1053 | Exit Iris |
| (0, 2) 1060 | Exit Dionysos. |
| (0, 2) 1061 | Cwyd Nicias ei ysgwyddau wrth dderbyn yr anochel. |
| (0, 2) 1062 | Yna cymer y cas a dilyn Dionysos oddi ar y llwyfan. |
| (0, 2) 1063 | Gostynger y goleuadau. |
| (0, 2) 1064 | Pan ddônt i fyny drachefn nid oes neb ar y llwyfan ond ar ôl ennyd neu ddau, daw Dionysos a Nicias i'r golwg, yn edrych braidd yn flinedig, fel petaent wedi bod yn teithio am hir. |
| (0, 2) 1065 | Dealler eu bod wedi cyrraedd glan yr afon Stycs. |
| (0, 2) 1114 | Mae Nicias yn ufuddhau. |
| (0, 2) 1118 | Mae Nicias yn ymdrechu'n lew, yna clywir llais Charon o'r pellter.} |
| (0, 2) 1123 | Daw Charon i'r golwg yn ei gwch — hwnnw'n symud, mae'n debyg, ar olwynion anweledig — a gwthir ef ymlaen drwy gymorth polyn. |
| (0, 2) 1124 | Mae gan Charon gap pig-gloyw, siersi-longwr las ac esgidiau bysgota. |
| (0, 2) 1225 | Mae Nicias yn cymryd y polyn a sefyll yn simsan yn y cwch. |
| (0, 2) 1226 | Eistedd Charon o flaen Dionysos. |
| (0, 2) 1233 | Mae Nicias yn meimio pwnio'r cwch ymlaen. |
| (0, 2) 1234 | Gostynger y goleuadau yn araf. |
| (0, 2) 1242 | Tywyller y llwyfan yn llwyr. |
| (0, 2) 1243 | Clywir eu lleisiau ohono. |
| (0, 2) 1252 | Clywir sŵn Nicias yn tuchan wrth ymdrechu'n galed |
| (0, 2) 1257 | Daw goleuadau i fyny ychydig gyda llewyrch gwyrdd a gwelir cysgodion y llyffantod ar y rostra sydd y tro hwn yn cynrychioli creigiau a cherrig yng nghanol yr Afon Stycs. |
| (0, 2) 1258 | Clywir miwsig "Llyffantaidd" yn y cefndir, ynghŷd â chrawcian. |
| (0, 2) 1266 | Cryfhaer y goleuadau a'r miwsig. |
| (0, 2) 1267 | A gwelir y llyffantod yn dawnsio. |
| (0, 2) 1268 | Ar ddiwedd y ddawns, mae Nicias ar fin ail-ddechrau pwnio'r cwch ymlaen |
| (0, 2) 1354 | Ar ôl y corawd hwn, gostynger y goleuadau ychydig, tra bo'r llyffantod yn dawnsio o'r golwg |
| (0, 2) 1358 | Mae Nicias yn meimio pwnio gyda'r polyn. |
| (0, 2) 1359 | Miwsig i fyny ychydig, yna cryfhaer y goleuadau unwaith eto, y tro hwn gyda llewyrch melyn |
| (0, 2) 1364 | Rhydd Nicias y polyn i Charon, a gesyd hwnnw ef yn ofalus yn y cwch. |
| (0, 2) 1365 | Yna mae'n neidio i'r lan, a meimio rhwymo'r cwch yn ddiogel |
| (0, 2) 1375 | Gwelir Dionysos yn sibrwd yng nghlust Charon. |
| (0, 2) 1376 | Ar y cyntaf, mae hwnnw'n ysgwyd ei ben yn bendant fel petai'n anghytuno'n llwyr â chais Dionysos. |
| (0, 2) 1377 | Yna, dan berswâd, ymddengys, toc, ychydig yn fwy bodlon. |
| (0, 2) 1417 | Mae Dionysos yn eistedd ar rostrwm isel ond saif Nicias yn ofnus ar ei draed. |
| (0, 2) 1424 | Rhydd Nicias y cas iddo, ac ar ôl ei agor mae Dionysos yn tynnu dwy botel allan. |
| (0, 2) 1425 | Rhydd un i Nicias. |
| (0, 2) 1431 | Eistedd Nicias. |
| (0, 2) 1432 | Mae Dionysos yn agor ei botel a chymryd dracht ohoni, ond saif Nicias fel petai'n ansicr beth i'w wneud. |
| (0, 2) 1500 | Clywir sŵn fel drwm draw. |
| (0, 2) 1504 | Mae'r sŵn yn cynyddu a daw Cerberws i'r golwg. |
| (0, 2) 1505 | Plisman yw ar gefn beic. |
| (0, 2) 1506 | Ar ôl rhoi'r beic o'r neilltu a thynnu'r clipiau oddi ar odrau ei drowsus, daw atynt yn awdurdodol. |
| (0, 2) 1507 | Try Nicias ei ben y ffordd arall. |
| (0, 2) 1687 | Mae pen Cerberws yn disgyn ac yntau'n cysgu â'i geg yn llydan agored. |
| (0, 2) 1700 | Maent yn mynd heibio i Cerberws ar flaenau eu traed. |
| (0, 2) 1705 | Exit Dionysos a Nicias. |
| (0, 2) 1706 | Mae Cerberws yn dal i chwyrnu cysgu. |
| (0, 2) 1707 | Tywyller y llwyfan neu cauer y llenni |
| (0, 3) 1708 | Golygfa 3 |
| (0, 3) 1709 | Llwyfan gwag, a llewych coch ar y goleuadau, yna daw Dionysos a NIciAs i'r golwg, ac y mae'n amlwg iddyn nhw deithio'n hir |
| (0, 3) 1751 | Daw nifer o bobl ar draws y llwyfan yn dioddef pangau eithaf cyffuriau. |
| (0, 3) 1752 | Ânt o'r golwg yr ochr arall. |
| (0, 3) 1756 | Clywir sŵn rhyfel — er enghraifft ffrwydradau, ergydion magnelau ac yn y blaen. |
| (0, 3) 1757 | Ar yr un pryd, gwelir fflachiadau ar y seiclorama i awgrymu tân, ac amrywiol oleuadau ynglŷn â brwydr. |
| (0, 3) 1758 | Yna tawelwch. |
| (0, 3) 1759 | ~ |
| (0, 3) 1760 | Lliw coch ar y seiclorama, miwsig yn y cefndir — awgrymaf Adagio yn G {Trefniant Giazotto} gan Tomas Albinoni |
| (0, 3) 1761 | ~ |
| (0, 3) 1762 | Yna daw côr o ferched ymlaen yn araf, gydag ystum trallod Groegaidd. |
| (0, 3) 1763 | Safant yn grŵp fel silŵet yn erbyn cochni'r cefndir. |
| (0, 3) 1764 | Ennyd o ddistawrwydd ac eithrio'r miwsig isel yn y cefndir. |
| (0, 3) 1765 | Mae Dionysos yn tynnu ei het, a Nicias ei gap. |
| (0, 3) 1811 | Cryfhaer y miwsig ychydig tra bo'r merched yn mynd oddi ar y llwyfan. |
| (0, 3) 1812 | Daw'r goleuadau i fyny. |
| (0, 3) 1817 | Tywyller y tu ôl i'r llwyfan, neu tynner y llenni-canol yn araf er mwyn darparu ar gyfer yr olygfa nesaf ym mhencadlys Plwton. |
| (0, 3) 1854 | Mae Nicias yn gafael yn y cas a dilyn Dionysos oddiar y llwyfan. |
| (0, 3) 1855 | Miwsig addas am ennyd, yna goleuer cefn y llwyfan — neu agorer y llenni canol — a gwelir Plwton fel dyn-busnes yn eistedd tu ôl i'w ddesg yn sgrifennu. |
| (0, 3) 1856 | Mae cloch y teliffôn yn canu. |
| (0, 3) 1868 | Rhydd Plwton y ffôn i lawr a sgrifennu nodyn ar ei lyfr nodiadau. |
| (0, 3) 1869 | Daw ei ysgrifenyddes i mewn. |
| (0, 3) 1892 | Exit yr ysgrifenyddes a dod yn ôl yn syth gyda Dionysos a Nicias. |
| (0, 3) 1893 | Rhydd Dionysos amnaid i Nicias aros efo'r cas ar drothwy'r "swyddfa" fel tae, a mynd ei hun i fyny at Plwton. |
| (0, 3) 1894 | Mae hwnnw'n codi i'w gyfarch. |
| (0, 3) 1913 | Cân Plwton gloch, a daw ei gynghorwyr i mewn a sefyll yn drefnus gerllaw. |
| (0, 3) 1914 | Hwy fydd y côr. |
| (0, 3) 1920 | Mae'r côr yn troi fel un i edrych yn syn ar Nicias, sy'n sefyll yn unig, gyda'r cas bondigrybwyll, ar un ochr i'r llwyfan. |
| (0, 3) 1921 | Mae'n symud yn swil o un droed i'r llall wrth iddyn nhw syllu arno. |
| (0, 3) 1922 | Try'r côr yn ôl i wrando ar Plwton. |
| (0, 3) 1940 | Saif Dionysos ar un o'r rostra |
| (0, 3) 1984 | Mae Nicias yn adweithio'n swil wrth i'r côr gyfeirio a phwyntio ato. |
| (0, 3) 2019 | Exit Côr A. |
| (0, 3) 2021 | Mae pawb ond Nicias yn fferu'n hollol ddisymud mewn dwysfyfyrdod. |
| (0, 3) 2022 | Gwelir Nicias yn crafu ei ben mewn penbleth. |
| (0, 3) 2023 | Distawrwydd llethol am ennyd. |
| (0, 3) 2025 | Gostynger y goleuadau i dywyllwch llwyr. |
| (0, 3) 2026 | Clywir llais Nicias o'r tywyllwch. |
| (0, 3) 2048 | Daw'r goleuadau i fyny'n raddol. |
| (0, 3) 2050 | Daw Plwton a'r lleill allan o'r myfyrdod a gwelir Côr A yn dychwelyd. |
| (0, 3) 2083 | Saif Dionysos am ennyd fel petai'n ystyried y geriau a glywodd, yna daw yn araf i ffrynt y llwyfan. |
| (0, 3) 2084 | Daw Plwton ato. |
| (0, 3) 2085 | Tywyller y cefndir — neu tynner y llenni-traws gan adael pelydryn ar y ddau. |
| (0, 3) 2086 | Gwelir Nicias hefyd yn y cysgod. |
| (0, 3) 2127 | Mae Plwton yn mynd â Dionysos o'r neilltu. |
| (0, 3) 2128 | Cryfhaer y pelydryn ar Nicias. |
| (0, 3) 2144 | Daw Dionysos ato. |
| (0, 3) 2184 | Mae Nicias yn teimlo yn ei boced a thynnu'r botel allan, edrych arni a'i rhoi yn ôl. |
| (0, 3) 2193 | Exit Dionysos a Nicias. |
| (0, 3) 2194 | Pelydryn ar y cas am ennyd, yna tywyllwch. |
| (0, 3) 2195 | ~ |
| (0, 3) 2196 | Miwsig. |
| (0, 4) 2197 | Golygfa 4 |
| (0, 4) 2198 | Daw Dionysos a Nicias i'r golwg ar eu ffordd i'r afon Stycs. |
| (0, 4) 2201 | Eisteddant ar rostrwm isel yn weddol agos i ffrynt y llwyfan. |
| (0, 4) 2258 | Clywir dwndwr draw. |
| (0, 4) 2270 | Rhed Nicias ac ymguddio y tu ôl i'r rostrwm. |
| (0, 4) 2271 | Daw Cerberws i'r golwg. |
| (0, 4) 2272 | Mae Dionysos yn mynd i'w gyfarfod. |
| (0, 4) 2308 | Try Cerberws ei gefn a rhydd Dionysos yr arwydd i Nicias ddianc, a gwelir hwnnw'n mynd ar flaenau ei draed. |
| (0, 4) 2309 | Yn anffodus mae'n baglu a syrthio ar ei hyd ar lawr. |
| (0, 4) 2310 | Try Cerberws a'i weld. |
| (0, 4) 2313 | Neidia Nicias ar ei draed a dechrau rhedeg. |
| (0, 4) 2317 | Rhed Cerberws ar ei ôl dan chwythu ei bib. |
| (0, 4) 2318 | Wrth iddynt groesi'n ôl a blaen ar draws y llwyfan, fflachier y goleuadau. |
| (0, 4) 2319 | ~ |
| (0, 4) 2320 | Miwsig cyflym. |
| (0, 4) 2321 | ~ |
| (0, 4) 2322 | Wedi iddynt redeg droeon ar draws y llwyfan fel hyn, a neidio ambell waith i fyny ac i lawr y rostra, gostynger y goleuadau i dywyllwch. |
| (0, 4) 2323 | Mae sŵn llais a phib Cerberws yn pellhau; felly hefyd y miwsig, ond pery o hyd yn y cefndir. |
| (0, 4) 2324 | ~ |
| (0, 4) 2325 | Ar ôl ychydig eiliadau, cryfhaer y goleuadau, gyda llewych gwyrdd, a dealler mai'r afon Stycs yw'r llwyfan yn awr. |
| (0, 4) 2326 | Clywir eco pell o bib Cerberws, drwy'r miwsig; yna daw Nicias i'r golwg gan bwnio'r cwch yn ffyrnig ymlaen. |
| (0, 4) 2327 | O'r diwedd mae'n cyrraedd y lan — a'r byd hwn! |
| (0, 4) 2328 | Neidia allan a disgyn yn flinedig a swrth ar yr union rostrwm lle y cysgai ar ddechrau'r ddrama. |
| (0, 4) 2329 | Mewn dim mae mewn trwmgwsg. |
| (0, 4) 2330 | ~ |
| (0, 4) 2331 | Gwelir y cwch yn mynd yn ôl ac o'r golwg ohono'i hun. |
| (0, 4) 2332 | ~ |
| (0, 4) 2333 | Mae'r goleuadau'n melynu, a chlywir yr un miwsig ag a gafwyd ar y dechrau yn ogystal â chrawcian y Llyffantod. |
| (0, 4) 2334 | ~ |
| (0, 4) 2335 | Ar ôl ennyd neu ddau, daw Iris a Harmonia i'r golwg. |
| (0, 4) 2336 | Maer miwsig yn distewi. |
| (0, 4) 2345 | Mae Iris yn mynd at Nicias a rhoi ei llaw ar ei ysgwydd. |
| (0, 4) 2402 | Clywir crawcian y Llyffantod a sibrwd fel lleisiau ar yr awel yn dweud geiriau olaf y gwrol-rai yn Hades. |
| (0, 4) 2405 | Clywir y geiriau hyn deirgwaith. |
| (0, 4) 2457 | Mae Harmonia yn chwerthin a throi i fynd oddi ar y llwyfan. |
| (0, 4) 2466 | Exit Iris ar ôl et mam. |
| (0, 4) 2467 | ~ |
| (0, 4) 2468 | Unwaith eto clywir crawcian y Llyffantod ac ar eu traws y sibrwd fel o'r blaen. |
| (0, 4) 2471 | Gwrendy Nicias am ennyd neu ddau fel petai'n ceisio penderfynu pa sŵn i'w ddewis a'i dderbyn. |
| (0, 4) 2472 | Yna cymer ddracht o'r botel a'i thaflu ymaith. |
| (0, 4) 2474 | Try ar ei sawdl a mynd oddi ar y llwyfan. |
| (0, 4) 2475 | Mae'r crawcian a'r sibrwd yn toddi i'w gilydd fel y gostyngir y goleuadau'n raddol. |
| (0, 4) 2476 | Daw miwsig i fyny. |
| (0, 4) 2477 | ~ |
| (0, 4) 2478 | Tywyllwch |