| (0, 1) 1 | Rostra a lefelau yn ôl yr angen. |
| (0, 1) 2 | Ar ddechrau'r ddrama, bydd rhai o'r rostra hyn yn cynrychioli clogwyn; sleid o fynyddoedd, awyr a rhimyn o fôr ar y seiclorama. |
| (0, 1) 3 | ~ |
| (0, 1) 4 | Miwsig. |
| (0, 1) 5 | ~ |
| (0, 1) 6 | Mae Jonah yn eistedd yn fyfyriol ar y clogwyn, ar ôl ennyd neu ddau, daw'r Dieithryn heibio iddo. |
| (0, 1) 7 | Miwsig yn distewi. |
| (0, 1) 10 | Y Dieithryn yn edrych o'i amgylch. |
| (0, 1) 81 | Gostyngir y goleuadau ar Jonah a'r Dieithryn a daw llais Jonah yn awr ar dâp drwy'r corn-siarad. |
| (0, 1) 82 | Miwsig ysgafn, addas, yn y cefndir i gyfleu atgof. |
| (0, 1) 83 | Goleuer rhannau o'r llwyfan yn ôl yr angen. |
| (0, 1) 84 | Daw y cymeriadau i'r golwg fel y cyfeirir atynt a mynd yn grŵp at un o'r rostra i sgwrsio mewn meim. |
| (0, 1) 85 | Mae'r Capten yn gwisgo cap pig-gloyw, siersi las ac esgidiau uchel. |
| (0, 1) 86 | Mae Prothero yn gwisgo het-galed a dillad sydd braidd yn rhy fawr iddo; Prydderch yn gwisgo cap a dillad sydd braidd yn rhy fychan iddo. |
| (0, 1) 87 | Mae gan Prys gap wedi'i weu â thasel arno. |
| (0, 1) 178 | Daw Cymdoges 1 a Chymdoges 2 i mewn. |
| (0, 1) 239 | Mae'n mynd allan dan fwmian. |
| (0, 1) 240 | Mae'r ddwy Gymdoges yn mynd y ffordd arall. |
| (0, 1) 254 | Mae Prydderch yn tynnu cerdyn bychan o'i boced a'i astudio'n fanwl a myfyrgar gan ei droi drosodd a throsodd. |
| (0, 1) 255 | Bydd yn gwneud hyn o bryd i'w gilydd drwy'r olygfa. |
| (0, 1) 273 | Mae'r Capten yn meidio'n ddramatig ar un o'r rostra ac efelychu'r wraig dan sylw. |
| (0, 1) 283 | Daw Jonah, fel bachgen, ymlaen ar y llwyfan ac eistedd yn ymyl y grŵp i wrando'n astud ar eu sgwrs, heb iddyn nhw fod yn ymwybodol ohono ar y cyntaf. |
| (0, 1) 321 | Mae Prys yn hanner-troi a gweld y bachgen $onah am y tro cyntaf. |
| (0, 1) 335 | Mae'r Capten yn neidio am Jonah yn sydyn a chogio'i lindagu. |
| (0, 1) 405 | Mae Prothero yn dod at Prydderch, y ddau yn sefyll yn glôs wyneb yn wyneb fel dau geiliog. |
| (0, 1) 406 | Daw'r Dieithryn i'r golwg ond erys yng nghefn y llwyfan, ac nid oes neb yn ymwybodol ohono. |
| (0, 1) 420 | Mae Prothero yn gafael yn Prydderch yn sydyn, ac mewn chwinciad, yn ei roi'n ddeheuig ar ei hyd ar lawr ac eistedd arno. |
| (0, 1) 424 | Mae Prothero yn gafael ym mraich Prydderch a rhoi tro bach iddi. |
| (0, 1) 429 | Mae'r Capten a Prys yn cyrcydu i edrych. |
| (0, 1) 451 | Rhydd Prothero un tro arall i fraich Prydderch yna cyfyd y ddau ar eu traed. |
| (0, 1) 452 | Mae hyn i gyd, wrth gwrs, wedi bod rhwng chwarae a difri, ond i Jonah, a fwn eu gwylio'n syn — mae'n llawn arwyddocâd o bwys. |
| (0, 1) 463 | Mae'r Capten, Prys a Prothero yn cychwyn i ffwrdd, ond saif Prydderch yn yr unfan fel petai'n chwilio am rywbeth. |
| (0, 1) 471 | Rhydd Prydderch y cerdyn yn ofalus yn ei boced a mynd at y lleill. |
| (0, 1) 478 | Mae'r pedwar yn mynd allan heb roi mwy o sylw i fonah. |
| (0, 1) 479 | Daw'r Dieithryn ymlaen. |
| (0, 1) 508 | Saib ennyd. |
| (0, 1) 516 | Mae'r Dieithryn yn troi i fynd oddi ar y llwyfan. |
| (0, 1) 517 | Saif am ennyd i gyffwrdd â'r ysgubell. |
| (0, 1) 518 | Cyn mynd o'r golwg, try at Jonah. |
| (0, 1) 521 | Mae'r Dieithryn yn mynd allan, a gadael Jonah mewn cryn benbleth. |
| (0, 1) 522 | Eistedd ar un o'r rostra i fyfyrio. |
| (0, 1) 523 | Rhed rhai o'r pentrefwyr ar y llwyfan, a sefyll yn syn wrth weld Jonah. |
| (0, 1) 550 | Mae Jonah yn neidio ar ben y rostrwm. |
| (0, 1) 642 | Mae'r Pentrefwyr yn symud yn ffug-fygythiol at Jonah a'i bwnio o'r naill i'r llall. |
| (0, 1) 665 | Mae Jonah yn edrych o'i amgylch a gweld yr ysgubell. |
| (0, 1) 666 | Daw syniad iddo, ac fe'i gwelir yn cau ei ddyrnau a meddwl yn ddyfal. |
| (0, 1) 696 | Y Pentrefwyr yn ffurfio cylch. |
| (0, 1) 713 | Maen nhw'n gafael yn Jonah, ei godi i fyny a'i gario o amgylch y llwyfan, yna ymddengys ei nain, ond nid oes neb yn ei gweld ar y cychwyn. |
| (0, 1) 784 | Mae'r hen wraig yn mynd oddi ar y llwyfan. |
| (0, 1) 785 | Eistedd onah yn fyfyrgar am ennyd neu ddau. |
| (0, 1) 786 | Yna, mae rhywbeth yn peri iddo droi. |
| (0, 1) 787 | Mae'n neidio i fyny pan wêl yr ysgubell yn codi a dechrau dawnsio. |
| (0, 1) 792 | Tywyllwch. |
| (0, 1) 793 | Miwsig. |