| (1, 0) 1 | GOLYGFA. |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | Cegin mewn ffermdy bychan. |
| (1, 0) 4 | Gyferbyn â'r edrychwyr saif y lle tân. |
| (1, 0) 5 | Ar y chwith mae drws yn cau ar y grisiau sy'n arwain i'r llofft, a drws arall ar y dde yn agor i'r buarth. |
| (1, 0) 6 | Trefner hen soffa lwydaidd ar hyd yr ochr chwith i garreg yr aelwyd â'i chefn at ddrws y llofft, a chadair freichiau yr ochr arall wrth y pentan â'i chefn at ddrws y buarth. |
| (1, 0) 7 | Saif y bwrdd rhwng y gadair freichiau a drws y buarth, a gofaler fod carreg yr aelwyd yn weladwy i'r edrychwyr. |
| (1, 0) 8 | Dodrefner yn y dull mwyaf syml a chyffredin heb ddim gwychter. |
| (1, 0) 9 | Croger almanac uwchben y lle tân. |
| (1, 0) 10 | Pan y cyfyd y llen, gwelir ELIN HUWS mewn cap a shôl yn eistedd yn y gadair freichiau ac yn syllu yn synfyfyriol i'r tân. |
| (1, 0) 11 | Mae ELIN tua 70 mlwydd oed ac yn wannaidd iawn ei hiechyd, a sieryd mewn llais go gwynfanus, fel un wedi hir ddioddef cystudd. |
| (1, 0) 12 | Gwelir ei merch JANE yn smwddio ar y bwrdd ac yn mynd at y tân i newid yr haearn yn awr ac eilwaith. |
| (1, 0) 13 | Mae JANE oddeutu 40 mlwydd oed, ac yn tueddu i fod yn oer a chaled ei natur. |
| (1, 0) 14 | Mae profiad y blynyddoedd wedi ei suro i fesur. |
| (1, 0) 44 | Distawrwydd. |
| (1, 0) 64 | Daw'r Tad i mewn gyda rhaw a bwcedaid o datws: gesyd hwy yn y gongl y tu ol i'r soffa, ac yna daw at y tân i ymdwymo. |
| (1, 0) 65 | Mae tua 70 mlynedd oed, yn ŵr penderfynol, ac i bob golwg yn stoicaidd ei natur. |
| (1, 0) 105 | Gwna JANE felly ac wedyn eistedd ar y soffa gyferbyn â'i mam. |
| (1, 0) 106 | Tyn y tad y spectol o'r câs, glanha hi, a gesyd hi ar ei lygaid. |
| (1, 0) 107 | Chwilia am y bennod a dechreua ddarllen. |
| (1, 0) 111 | Clywir curo gwan ar y drws. |
| (1, 0) 115 | Curir eilwaith dipyn yn drymach. |
| (1, 0) 117 | Tyn JANE y follt ac egyr y drws. |
| (1, 0) 119 | DIC yn dyfod i mewn drwy'r drws a golwg llwm a chystuddiol arno, fel pe'n rhy wan i gerdded. |
| (1, 0) 120 | Sieryd mewn llais bloesg a blinir ef gan beswch trwm. |
| (1, 0) 143 | Goleua JANE y gannwyll ac â'r tad at y cloc sy ar y dresal i'w weindio. |
| (1, 0) 152 | A Dic ar ei liniau o flaen y tân wrth liniau ei fam, a gwelir hi'n teimlo'i ddwylo. |