| (1, 0) 1 | Cegin Pen y Rhos, tyddyn bychan dwy acer ar ymyl y Rhos Fawr yn Sir Gaernarfon. |
| (1, 0) 2 | Yn y pared gyferbyn, y mae ffenestr fechan bedair cwarel, yn dangos trwch mawr y mur, ac ar yr ochr chwith iddi, dresel dderw hen ffasiwn iawn, yn dal pethau hen a newydd, llestri gan mwyaf. |
| (1, 0) 3 | Rhwng y dresel a'r ffenestr, y mae cloc wyth niwrnod yn perthyn i genhedlaeth neu ddwy ar ol y dresel; a ffyn ac umbrela neu ddau yn y gongl wrth ei ochr. |
| (1, 0) 4 | Ar yr ochr dde i'r ffenestr, cwpwrdd gwydr, yn llawn o lyfrau. |
| (1, 0) 5 | Ar y pared de, y mae'r tân o dan simdde fawr, a mainc yn cyrraedd oddiwrtho i'r llawr, o dan y simdde. |
| (1, 0) 6 | Y mae drws y siambr yn y pared chwith, ac yn nes i gefn yr ystafell, y mae llen laes yn cuddio gwaelod y grisiau sy'n arwain i'r llofft. |
| (1, 0) 7 | Nid oes lofft o gwbl uwchben y gegin ei hunan, ac y mae'r nenbrennau i'w gweled yn amlwg. |
| (1, 0) 8 | Y mae'r drws cefn yn y gongl dde y tu ol i'r simdde. |
| (1, 0) 9 | ~ |
| (1, 0) 10 | Ar ganol y llawr, y mae bwrdd bychan ac oilcloth arno, a Beibl mawr a llyfr arall wedi eu gadael yno er y noson cynt. |
| (1, 0) 11 | Ar y mur, llun Williams Pant-y-celyn, a Gladstone, a darlun lliwiedig o frwydr Tel-el-Kebir. |
| (1, 0) 12 | Y mae popeth yn boenus o lân. |
| (1, 0) 13 | Ar gadair rhwng y ddau ddrws y mae dillad plentyn, ac esgidiau o dani, a dwy hosan ar gefn y gadair. |
| (1, 0) 14 | ~ |
| (1, 0) 15 | Pump o'r gloch y bore ydyw, yn y gaeaf, felly y mae y popeth yn hollol dywyll. |
| (1, 0) 28 | John yn myned at y drws ac yn sefyll fel o'r blaen ac yn ochneidio. |
| (1, 0) 41 | Y ddau yn eistedd i lawr wrth y bwrdd ac yn bwyta. |
| (1, 0) 125 | Catrin yn tacluso'r bwrdd. |
| (1, 0) 126 | Curo ar y drws, a dyn mewn dillad chwarelwr yn dyfod i fewn. |
| (1, 0) 149 | Ifan yn pesychu o'r siambar. |
| (1, 0) 188 | Tomos yn troi tua'r drws. |
| (1, 0) 202 | Ifan yn pesychu o'r siambar. |
| (1, 0) 205 | Ifan yn pesychu eto. |
| (1, 0) 206 | Distawrwydd. |
| (1, 0) 207 | John yn dal i ddatod ei esgidiau, ac wedi datod un esgid, yn rhoi ei law ar yr hosanau ar gefn y gadair, ac yna yn edrych ar ei law. |
| (1, 0) 220 | Sŵn traed dynion ar y ffordd yn rhedeg am y trên. |
| (1, 0) 221 | John yn edrych ar y cloc. |
| (1, 0) 222 | Ifan yn pesychu eto. |
| (1, 0) 228 | John yn cau ei esgidiau i fyny ar unwaith, ac yn gafael yn ei het a'i flwch bwyd.} |
| (1, 0) 232 | Yn agor y drws ac yn myned allan. |
| (1, 0) 233 | Sŵn ei draed yn rhedeg i'w glywed ar y ffordd. |
| (1, 0) 234 | Catrin a Tomos yn edrych yn syn ar eu gilydd, ac yn dal esgid bob un yn eu llaw... |
| (1, 0) 235 | Trên y gweithwyr yn chwibanu. |
| (1, 0) 236 | ~ |
| (1, 0) 237 | LLEN |
| (2, 0) 238 | Y mae deugain mlynedd o amser rhwng Act 1 ag Act 2. |
| (2, 0) 239 | ~ |
| (2, 0) 240 | Llyfrgell yn nhy Ifan Morris yng ngorllewin Llundain, tua naw o'r gloch y nos. |
| (2, 0) 241 | Ffenestr Ffrengig yng nghefn yr ystafell, a llenni trymion arni; ar y dde i'r ffenestr, cwpwrdd yn llawn o lyfrau. |
| (2, 0) 242 | Drws ar yr ochr chwith, a rhyngddo a'r ffenestr yr hen gloc a welsom yn nhy John Morris. |
| (2, 0) 243 | Tân ar y llaw dde. |
| (2, 0) 244 | Bwrdd mawr derw yn y canol, a phentwr o lyfrau gleision, papurau, etc., arno. |
| (2, 0) 245 | Ar soffa wrth y tân y mae Mrs. Morris yn eistedd yn darllen. |
| (2, 0) 246 | ~ |
| (2, 0) 247 | Ifan Morris yn dyfod i mewn; y mae ef a'i wraig mewn evening dress, gan eu bod newydd orffen eu cinio. |
| (2, 0) 248 | Y mae'n debig iawn i'w dad, ond ei fod ychydig yn dalach ac yn sythach ei gerdded, ond y mae ei wallt yn wynnach nag oedd gwallt ei dad, pan welsom ef. |
| (2, 0) 249 | Y mae ei wyneb yn feinach, ac yn dangos mwy o graffter, er nad oes dim mwy o ôl diwylliant arno. |
| (2, 0) 265 | Yn chwilio eto a'i gefn at ei wraig; hithau'n araf yn cymryd papur newydd odditan un o'r llyfrau ar y bwrdd, ac yn ei guddio'n llechwraidd o dan glustog y soffa. |
| (2, 0) 301 | Yn ail oleu ei sigar ac yn codi ei goesau ar y soffa. |
| (2, 0) 302 | Distawrwydd mawr.─ |
| (2, 0) 303 | Mrs.Morris yn edrych yn bryderus arno.─ |
| (2, 0) 304 | Yntau 'n dal i ddarllen. |
| (2, 0) 305 | Yn codi'n sydyn. |
| (2, 0) 351 | Cynnwrf wrth y drws. |
| (2, 0) 352 | Llais. |
| (2, 0) 357 | Ifan Morris yn neidio i fyny ac yn rhedeg at y drws, ond cyn iddo ei gyrraedd, y mae'r drws yn agoryd, a Tomos yn dyfod i fewn. |
| (2, 0) 358 | Mae ei wisg yn od o wladaidd, a bag mawr ganddo yn un llaw, a het ac umbrela yn y llall. |
| (2, 0) 359 | Mae erbyn hyn yn hen ddyn, a gwaith caled y chwarel wedi ei grymu. |
| (2, 0) 360 | Hawdd gweled er hynny ar ei wyneb nad yn ofer y bu yn ysgol bywyd. |
| (2, 0) 413 | Yn symud at y drws. |
| (2, 0) 414 | Drws yn agor a llais y forwyn yn galw enw Sir Henry Fawcett-Edwards. |
| (2, 0) 415 | Y Prif-weinidog yn dyfod i mewn. |
| (2, 0) 416 | Dyn tâl main, a wyneb ganddo na allai'r un dewin yn y byd ei ddarllen. |
| (2, 0) 417 | Ond gallai dyn craff ddyfalu llawer─er engraifft, ei fod wedi gweled gormod, ac wedi deall rhy ychydig─a'i fod wedi blino ar yr unig beth yr oedd yn ei ddeall, sef y byd. |
| (2, 0) 440 | Yn troi at y drws. |
| (2, 0) 441 | Llais y forwyn. |
| (2, 0) 442 | Mrs. Morris yn mynd at y drws, ac yn dyfod yn ol a pharsel yn ei llaw. |
| (2, 0) 447 | Ifan mewn distawrwydd yn agor y papur ac yn codi i fyny bâr o esgidiau plentyn, ac hosanau─ei esgidiau a'i hosanu ei hunan─a welsom yn Act I. |
| (2, 0) 456 | LLEN |