| (1, 0) 1 | Lle agored yw'r olygfa, a gorsedd yno ar ychydig risiau. |
| (1, 0) 2 | Os chwaraeir y pasiantb dan do, gellir addurno'r Orsedd â llenni syml. |
| (1, 0) 3 | Dyfodfa ar y chwith ac un arall ar y dde. |
| (1, 0) 4 | Lle bo disgynlen i'w chael, bydd y TAD, y FAM, y WYRYF, a'r PLENTYN ar y llwyfan pan goder y llen. |
| (1, 0) 5 | Lle na chaffer disgynlen, dont i mewn o'r dde. |
| (1, 0) 6 | Dengys ew dillad mai pobl gyffredin fyddant. |
| (1, 0) 62 | Daw'r AMHEUWR i mewn. |
| (1, 0) 63 | Gŵr hen iawn a llwyd a theneu yw, a gwisg ddu amdano. |
| (1, 0) 88 | Clywir Emyn Heddwch yn ymchŵyddo'n araf ar y chwith. |
| (1, 0) 122 | Daw o'r chwith dyrfa o'r BOBL, tan ganu Ewyn Heddwch. |
| (1, 0) 123 | Dont ynghyd o bobtu i'r Orsedd, a'u hwynebau tua'r agorfa. |
| (1, 0) 124 | ~ |
| (1, 0) 125 | Yma daw BRENHINES HEDDWCH i mewn, yn ei gwyn, a'i hwyneb yn dawel a mwyn a glân. |
| (1, 0) 126 | Arweinia'r gŵr ieuanc hi gerfydd ei llaw tua'r Orsedd. |
| (1, 0) 127 | Gwisg milwr amdano ef, a honno yn ddrylliau ac yn ystaeniau. |
| (1, 0) 128 | Gwn ynghrog dros ei ysgwydd. |
| (1, 0) 129 | Gan sefyll o flaen yr orsedd, disgwylia'r FRENHINES ennyd oni ddarffo'r canu. |
| (1, 0) 152 | Eistedd y FRENHINES ar yr Orsedd. |
| (1, 0) 153 | Tyrr y dyrfa i floeddio cymeradwyaeth. |
| (1, 0) 167 | Plyg y GŴR IEUANC i gusanu'r PLENTYN. |
| (1, 0) 168 | Rhed murmur o gydymdeimlad trwy'r DYRFA. |