| (1, 0) 1 | O safle'r gynulleidfa y rhoddir holl gyfarwyddiadau'r llwyfan. |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | Ar hyd ffrynt y llwyfan rhed ffordd wledig. |
| (1, 0) 4 | Yn y cefndir y mae allt o goed wedi ymwisgo ag irddail haf. |
| (1, 0) 5 | Rhwng yr allt a'r ffordd mae clawdd glas isel ac ynddo, oddeutu canol y llwyfan, adwy a llwybr yn arwain ohoni drwy'r allt i'r afon gerllaw. |
| (1, 0) 6 | Gwelir goleu'r lleuad yn y coed ac ym mharthau pellaf y llwyfan. |
| (1, 0) 7 | ~ |
| (1, 0) 8 | Gerllaw'r adwy, ar fin y ffordd, y mae tân coed yn cynneu. |
| (1, 0) 9 | O bobtu'r tân y mae bocs cyfleus i eistedd arno. |
| (1, 0) 10 | O'r neilltu, mae bocs arall a ddefnyddir fel ystorfwrdd. |
| (1, 0) 11 | Arno gorwedd tryblith o blatiau, cyllyll, ffyrc, dau gwpan tin, sypynnau o ddefnyddiau'r arlwy a llusern. |
| (1, 0) 12 | Ar y llawr yn agos i'r tân mae llusern arall a phadell ffrio yn cynnwys stêc a winwyn. |
| (1, 0) 13 | Teifl y tân a'r ddau lusern, ffrwd o oleuni ar y rhan hon o'r llwyfan. |
| (1, 0) 14 | ~ |
| (1, 0) 15 | Pan gwyd y llen, gwelir TWM TINCER yn eistedd ar y bocs ar y dde, yn bwyta ei swper o'r plat sydd ar ei lin. |
| (1, 0) 16 | Dyn canol oed ydyw TWM, garw'r olwg arno a diraen ei wisg. |
| (1, 0) 17 | Wrth ei weld yn syllu'n drist ar ei gwpan gwag, sylweddolir ar unwaith ei fod heb ddim i'w yfed. |
| (1, 0) 18 | Sych ei blat a thusw o laswellt o'r clawdd a gloewa ef a darn o bapur. |
| (1, 0) 19 | Yna tania ei bibell ac ymollwng i'w mwynhau. |
| (1, 0) 20 | ~ |
| (1, 0) 21 | Clywir DICI BACH DWL yn canu ar yr aswy. |
| (1, 0) 28 | Daw DICI BACH DWL i mewn o'r aswy yn cario torth o fara a jar galwyn. |
| (1, 0) 29 | Llanc ifanc ydyw, ei wisg yn wladaidd a charpiog a chanddo hen het feddal am ben toreth o wallt anghryno. |
| (1, 0) 30 | Dengys ei wyneb syn fod ei feddwl hytrach yn bwl. |
| (1, 0) 31 | Er hynny nid oes ynddo ddim i beri atgasedd; i'r gwrthwyneb mae'n ennyn tosturi a thynerwch. |
| (1, 0) 32 | Dic |
| (1, 0) 34 | Diawch, Twm, mae oglau hyfryd ar y stêc a'r winwns 'na. |
| (1, 0) 37 | Gesyd DICI 'r dorth gyda'r pethau eraill ar y bocs ac estyn y jar i TWM. |
| (1, 0) 38 | Mae yntau'n arllwys llond cwpan o'r cwrw ac yn ei yfed yn awchus. |
| (1, 0) 39 | Mae DICI yn dal y badell ffrio wrth ben y tên gan fwynhau'r arogl. |
| (1, 0) 47 | Clywir ci yn cwyno'n isel ar y dde. |
| (1, 0) 63 | Mae'r asyn yn nadu o'r dde. |
| (1, 0) 77 | Clywir swn rhegen yr yd o'r pellter ar yr aswy. |
| (1, 0) 106 | Clywir si'r gwynt yn y coed. |
| (1, 0) 152 | Daw JENKINS Y CIPAR i mewn o'r aswy─gwr talgryf, canol oed, wedi ymwisgo yn ol dull cyffredin dynîon o'r alwedigaeth honno. |
| (1, 0) 211 | A ymaith ar yr aswy. |
| (1, 0) 226 | Daw a'r taclau potsio allan. |
| (1, 0) 227 | Mae'r lleuad yn araf ddiflannu tu cefn i'r cymylau. |
| (1, 0) 237 | Mae TwM yn trin y dryfer, tra mae DICI yn rhwymo'r clwtyn am y pren. |
| (1, 0) 278 | Maent eto yn ymddangos fel dau dincer diniwed yn paratoi swper ar fin y ffordd. |
| (1, 0) 279 | Fel peth priodol i'r amgylchiad, mae TWM yn dechreu mwmian emyn Cymreig heb fod yn rhyw sicr iawn o'r nodau. |
| (1, 0) 280 | Mae DICI yn ymuno ag ef. |
| (1, 0) 281 | ~ |
| (1, 0) 282 | Daw ESGOB CANOLBARTH CYMRU i mewn ar y dde, yn cerdded yn lluddedig ac yn cario bag. |
| (1, 0) 283 | Mae llwch y fordd ar ei wisg esgobyddol. |
| (1, 0) 284 | Hen foneddwr hynaws ydyw'r ESGOB a chanddo wyneb serchog iawn. |
| (1, 0) 285 | Saif am ennyd gan syllu drwy a thros ei spectol fel un byr iawn ei olwg. |
| (1, 0) 316 | Mae cyflwr YR ESGOB a'i diriondeb yn dechreu ennill serch TWM a DICI. |
| (1, 0) 325 | Eistedda'r ESGOB gydag ochenaid o ollyngdod. |
| (1, 0) 343 | Mae Dici 'n dal plat a TwM yn arllwys arno gynnwys y badell ffrio. |
| (1, 0) 430 | Clywir rhegen yr yd. |
| (1, 0) 440 | Clywir dylluan yn galw gerllaw. |
| (1, 0) 469 | Dynesa DICI at YR ESGOB. |
| (1, 0) 470 | Mae ei symudiadau didrwst a chwimwth, ynddynt eu hunain, yn llawn cyfaredd. |
| (1, 0) 471 | Mae'n fyw drwyddo gan angerdd ei ddyhead hoenus a lledradaidd ac y mae ei lais yn isel a hudolus. |
| (1, 0) 535 | Clywir rhegen yr yd eto. |
| (1, 0) 552 | Brysia trwy'r coed yn y cefn. |
| (1, 0) 564 | Daw DICI yn ol yn cario nifer o frithyllod. |
| (1, 0) 610 | Dechreua'r Esgob symud ymaith gan gario ei fag. |
| (1, 0) 616 | A'r EsGOB ymaith ar y dde. |
| (1, 0) 644 | Ant ymaith rhwng y coed yn y cefn, a DICI yn chwerthin rhyngddo a'i hun. |
| (1, 0) 645 | Erys y llwyfan yn wag am ychydig eiliadau. |
| (1, 0) 646 | Daw JENKINS Y CIPAR i mewn o'r aswy yn llechwraidd. |
| (1, 0) 664 | Clywir murmur, yna mae distawrwydd. |
| (1, 0) 665 | Mae JENKINS yn plygu'n isel ac yn symud yn y cysgod i fan cyfleus i ymosod ar y dyn sy'n agoshau. |
| (1, 0) 666 | ~ |
| (1, 0) 667 | Daw'r ESGOB i mewn o'r dde yn cario ei fag a rhai o'r dillad oedd ynddo. |
| (1, 0) 668 | Mae golwg druenus arno─ei ddillad yn wlyb, ei goler yn llipa a brwnt, ei het wedi diflannu. |
| (1, 0) 669 | Mae wedi tynnu ei got a charia hi ar ei fraich. |
| (1, 0) 670 | Hefyd y mae wedi diosg ei "gaiters" ac ymddengys modfedd neu ddwy o'i "pants" uwchben ei socs glas hen ffasiwn. |
| (1, 0) 745 | A JENKINS ymaith ar yr aswy. |
| (1, 0) 746 | Mae'r ESGOB yn ysgwyd y dwr o'i got ac yn ei gwisgo. |
| (1, 0) 747 | Gesyd ei gaiters wrth y tân i sychu. |
| (1, 0) 748 | Egyr ei fag a thyn allan ei grys nos sydd yn wlyb iawn. |
| (1, 0) 749 | Gwasg y dwr ohono a thaena'r dilledyn ar focs wrth y tân. |
| (1, 0) 750 | Fel y mae effeithiau'r drochfa a'r sgarmes yn cilio, daw ei hynawsedd arferol i'r amlwg drachefn. |
| (1, 0) 751 | Clywir si'r awel yn y coed ac y mae yntau yn gwrando gyda gwen foddhaus. |
| (1, 0) 752 | Clywir dylluan gerllaw. |
| (1, 0) 776 | Cerdda yn ol a blaen eto. |
| (1, 0) 777 | ~ |
| (1, 0) 778 | Daw DICI a TWM yn ol, DICI a samwn mawr yn ei law. |
| (1, 0) 779 | Gan TWM mae'r dryfer a het yr ESGOB a gafodd yn yr afon. |
| (1, 0) 780 | Am foment, nid ydynt yn canfod YR ESGOB, canys yn yr ymdrech i ennill y fuddugoliaeth arno ei hun, mae ef wedi cerdded i'r cysgod. |
| (1, 0) 781 | Mae DICI yn agos i'r tân cyn i'r ESGOB sylweddoli eu bod wedi dychwelyd. |
| (1, 0) 855 | Daw JENKINS i mewn o'r aswy. |
| (1, 0) 919 | Mae'n symud i'r dde. |
| (1, 0) 922 | Clywir rhegen yr yd wrthi yn ddygn iawn. |
| (1, 0) 925 | A TWM, YR ESGOB a DICI allan ar y dde. |
| (1, 0) 926 | ~ |
| (1, 0) 927 | LLEN |