| (1, 0) 58 | Pwy?... |
| (1, 0) 59 | Be'?.... |
| (1, 0) 60 | Lle ma'n nhw?... |
| (1, 0) 63 | Dach chi 'di malu'r blydi drws. |
| (1, 0) 68 | Coed tân, myn diawl─dau swllt y bwndal. |
| (1, 0) 74 | Nid fi ddaru... dwi ddim yn talu... |
| (1, 0) 76 | W! |
| (1, 0) 77 | Dim rŵan, Maldwyn. |
| (1, 0) 92 | Gelli! |
| (1, 0) 93 | Dos i ddal llygod bach. |
| (1, 0) 97 | Un joch bach ac mi fydda i'n iawn. |
| (1, 0) 102 | Hold on, Defi John! |
| (1, 0) 104 | Sticia di at dy lefrith, y pwsi meri mew diawl! |
| (1, 0) 110 | Mi'i colla i hi eniwê ar ôl heno. |
| (1, 0) 112 | Mae'r sioe drosodd fy ffrind. |
| (1, 0) 117 | Lle mae'r belt piws 'di mynd? |
| (1, 0) 118 | Lle mae'r belt piws? |
| (1, 0) 124 | Ma'n nhw'n bwysig, dalltwch─nhw'n fan'na, ninna'n fan'ma─fy mhobol i! |
| (1, 0) 125 | Mi fydda i'n rhoi rhyw swfanîr bach iddyn nhw weithia. |
| (1, 0) 127 | Hebddyn nhw, dwi'n ddim! |
| (1, 0) 132 | Dyro i mi sws. |
| (1, 0) 137 | Un bach! |
| (1, 0) 139 | Sws! |
| (1, 0) 143 | Dim isio fi, 'ta─dim isio fi... dŵad y gwir, rŵan, i ni gael dallt 'n gilydd. |
| (1, 0) 145 | Mi gysgis i, do! |
| (1, 0) 147 | Ro'n i wedi blino, 'to'n─ma' hi 'di bod yn sison calad, dallt. |
| (1, 0) 150 | Dwi'n gwbod... |
| (1, 0) 151 | Blydi hel! |
| (1, 0) 153 | Clyw!... dwi wedi deud wrthat ti, do... dwi wedi... dwi wedi... |
| (1, 0) 157 | Do! |
| (1, 0) 158 | Dallt hynny─ac mi 'na i hefyd. |
| (1, 0) 160 | Ac mi wna i, gwnaf─dwi wedi deud. |
| (1, 0) 162 | Ro'n i wedi meddwl deud wrthi ar ôl y matiné. |
| (1, 0) 165 | Do! |
| (1, 0) 166 | Do! |
| (1, 0) 167 | Blydi do! |
| (1, 0) 170 | Cau dy geg am chydig─taswn i'n cael chydig llai o hasyls gin ti. |
| (1, 0) 172 | Rho amsar i mi. |
| (1, 0) 174 | Dydi o ddim yn hawdd, dallt─chwartar canrif o fyw hefo rhywun a deud dy fod chdi wedi rhoi bynsan ym mhopty Dick Whittington. |
| (1, 0) 179 | 'Ti'n meddwl? |
| (1, 0) 184 | Pwy? |
| (1, 0) 186 | Yn yr hotel... mi gyrhaeddodd neithiwr. |
| (1, 0) 194 | Gwatsia di rŵan, 'y ngwas i. |
| (1, 0) 195 | Mi gei di berfformiad heno y gnei di'i gofio am byth. |
| (1, 0) 199 | A dyma chi unwaith eto, y feri dyn... a'r unig un─Robert Deiniol. |
| (1, 0) 207 | Y? |
| (1, 0) 209 | Hei! |
| (1, 0) 210 | Hold on am funud... |
| (1, 0) 214 | Dal yn lle... hei... gwranda'r weiran gaws... |
| (1, 0) 216 | Pa gân gynta? |
| (1, 0) 218 | 'Ti'n boncyrs ne' rwbath─fedar hi ddim canu'r gân gynta. |
| (1, 0) 221 | Ond fedar hi ddim canu 'nghân i. |
| (1, 0) 223 | Ond dyna'r gân gynta. |
| (1, 0) 226 | Ond ma' honno'n dŵad yn syth ar ôl i mi waldio Dic a rhoi cic i'r gath, tydi... |
| (1, 0) 227 | dwi o gwmpas 'y mhetha, dallt... |
| (1, 0) 228 | paid â meddwl 'mod i'n dwlali tap... |
| (1, 0) 229 | a 'di chân hi ddim yn mynd i neud sens, nac 'di, os na welith pawb mam Dic yn rhoi harnis iddo fo... |
| (1, 0) 230 | ma' rhaid iddyn nhw 'ngweld i'n cam-drin yr hogyn. |
| (1, 0) 237 | Bolocs! |
| (1, 0) 239 | Fi sy'n canu gynta, wasi bach... |
| (1, 0) 240 | fi ma'n nhw'n 'i weld gynta ar y llwyfan 'na─ma' hynny yn 'y nghontract i, swîti pei! |
| (1, 0) 242 | Gwatsia di be' 'ti'n 'i ddeud, coc oen... |
| (1, 0) 247 | Dim tra bydd chwythiad yno i─mi ddo i allan pan dwi i fod... |
| (1, 0) 248 | ac os trïwch chi newid petha─mi sincia i'r lot ohonoch chi... |
| (1, 0) 249 | mi a'i allan i fan'na a'ch gneud chi'n sbort... |
| (1, 0) 250 | Fedra i drin cynulleidfa, dallt... |
| (1, 0) 254 | Mi fedra i 'u cael nhw'n fan'na, dalltwch... |
| (1, 0) 256 | Mi o'n i ar y styllod 'na cyn dy fod ti o dy glytia, ledi myc. |
| (1, 0) 264 | A be' mae |o|'n mynd i'w ddeud─'ti 'di meddwl am hynny? |
| (1, 0) 266 | Yr awdur, mêt. |
| (1, 0) 267 | Be' mae o'n mynd i'w neud pan glywith o dy fod ti'n poitsian 'i sgript o? |
| (1, 0) 270 | A be' am y cynhyrchydd? |
| (1, 0) 271 | Mi eith hwnnw i fyny'r wal pan dduda i wrtho fo. |
| (1, 0) 295 | Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel? |
| (1, 0) 298 | Ma' 'mhen i fel bwcad! |
| (1, 0) 300 | Gas gin i'r dŵr golch! |
| (1, 0) 302 | A! |
| (1, 0) 304 | ... 'sa siwgwr yn help, falla. |
| (1, 0) 306 | Gas gin i'r sglyfath─gas gin i goffi'n fwy. |
| (1, 0) 311 | Os mêts. |
| (1, 0) 317 | Ych-a-fi! |
| (1, 0) 320 | O! |
| (1, 0) 321 | Fedra i ddim diodda siwgwr lwmp... mi gymera i'r llall ar binsh... ond byth siwgwr lwmp. |
| (1, 0) 323 | O, oes... o, oes ma' 'na. |
| (1, 0) 324 | Ma' un yn sgwâr, 'tydi, ond ma'r llall yn betha bach, bach, bach crwn. |
| (1, 0) 327 | I bobol gyffredin, ia, falla... ond i'r conisiwar ma' 'na betha... prun bynnag. |
| (1, 0) 329 | Tydi hwn ddim mor ddrwg bellach... |
| (1, 0) 330 | 'di dŵad i arfar â'r piso dryw, falla... |
| (1, 0) 331 | ond ma' rhaid i mi drio, 'toes─ma' rhaid i mi drio'i gael o i lawr. |
| (1, 0) 334 | Pawb â'i aberth... |
| (1, 0) 336 | Hir oes i'r achos dirwestol! |
| (1, 0) 338 | 'Ti'n deud! |
| (1, 0) 341 | Damia be'? |
| (1, 0) 344 | Nac dw─y llinyn trôns diawl! |
| (1, 0) 351 | Neith y peth ddim gweithio heb 'y nghân i, dwi'n deud wrthat ti. |
| (1, 0) 359 | Nac di'r sguthan─dwi'n fan'ma! |
| (1, 0) 372 | Canu, i ni gael y peth drosodd. |
| (1, 0) 374 | Y? |
| (1, 0) 376 | Glywist ti hynna? |
| (1, 0) 380 | 'Di hwnna ddim yn y sgript... creulon ia, ond dim meddw─'di 'meddw' ddim yn y sgript o gwbwl. |
| (1, 0) 382 | Hold on! |
| (1, 0) 384 | Ia... ond dwy hannar... dwy hannar potal... a dim ond pan fydda i'n... |
| (1, 0) 390 | A... ha... ha... clyfar... fi fawr faglodd... paid â galw fo ar dy fam! |
| (1, 0) 400 | Ma' hi 'di newid y blydi cân hefyd─ |
| (1, 0) 401 | ~ |
| (1, 0) 402 | 'Y fi sy'n gorfod diodda |
| (1, 0) 403 | Bob bora a phrynhawn.' |
| (1, 0) 404 | ~ |
| (1, 0) 405 | Dyna oedd y geiria i fod─sdim byd am y fi yn llawn. |
| (1, 0) 408 | Mi ca' hi am hyn! |
| (1, 0) 414 | Gaddo, dim, dallt─uffar o ddim. |
| (1, 0) 418 | Dim dyna'r geiria o gwbwl─ma'r hulpan 'di mynd rownd y twist─colli 'i marblis i gyd! |
| (1, 0) 420 | Desu, gnaf. |
| (1, 0) 427 | Ia... dos... mi geith ganu grwndi i ti ar hyd y ffordd... ewch! |
| (1, 0) 435 | Y bastard bach blewog... |
| (1, 0) 440 | Slwt! |
| (1, 0) 445 | Welist ti hynna, 'ta? |
| (1, 0) 449 | Be' oedd hi a'r gath yn 'i neud? |
| (1, 0) 451 | Ond nid fel heno─ma'r Mici Tiwdor bach 'na rêl sglyfath. |
| (1, 0) 453 | Dim bod ots gen i, dallt─malio dim blydi botwm corn. |
| (1, 0) 455 | Pam ddylwn i? |
| (1, 0) 457 | Malio dim ffuan, dallt. |
| (1, 0) 459 | Be' ti'n 'i feddwl? |
| (1, 0) 461 | Be' 'ti'n drio 'i ddeud, 'ta... be' 'ti'n 'i awgrymu? |
| (1, 0) 463 | Na... na... be' 'ti'n 'i feddwl 'mod i'n ddigon hen i fod yn dad iddi? |
| (1, 0) 465 | Ia... iawn... ond pam fi? |
| (1, 0) 466 | Ma' digon arall yn y lle 'ma sy'n ddigon hen i fod yn dad iddi... be' sgin..? |
| (1, 0) 470 | Yli... gwranda... dallta... nefoedd... ma' 'na ffasiwn beth ag enllib... gwatsia be' 'ti'n 'i ddeud. |
| (1, 0) 472 | Reit. |
| (1, 0) 473 | Pwy ydi pawb? |
| (1, 0) 474 | Dwi isio gwbod. |
| (1, 0) 475 | Enwa pawb sy'n cario straeon. |
| (1, 0) 476 | Pwy ydyn nhw? |
| (1, 0) 478 | Pawb? |
| (1, 0) 492 | Be' 'ti'n 'i feddwl? |
| (1, 0) 494 | 'Ti'n mynd yn rhy bell... un gair arall... |
| (1, 0) 499 | Yli─ ti'n gwbod sut ma' actorion am gario straeon, 'dwyt? |
| (1, 0) 501 | Pwy fo? |
| (1, 0) 503 | Y bastard─ma'r Mici Tiwdor 'na â'i gyllall ynai o'r dechra... 'ti ddim yn dallt hynny? |
| (1, 0) 505 | Fel pwy? |
| (1, 0) 506 | Dŵad wrtha i. |
| (1, 0) 507 | 'Swn i'n licio gwbod pwy. |
| (1, 0) 509 | Chdi? |
| (1, 0) 513 | Dwi wedi bod yn 'i stafall hi weithia, do. |
| (1, 0) 515 | Trin sgript a ballu. |
| (1, 0) 525 | Gwranda, coc oen! |
| (1, 0) 526 | 'Tharith dy droed di ddim llwyfan theatr byth eto. |
| (1, 0) 527 | Mi riportia i di i Equity, Writers' Guild, ac ACTT, dallt. |
| (1, 0) 528 | Rhag ofn dy fod ti'n bwriadu gweithio i Barcud ne' ryw wancyrs bach annibynnol tebyg. |
| (1, 0) 529 | Mi ca' i di, dallt. |
| (1, 0) 530 | Mi gorffenna i chdi unwaith ac am byth! |
| (1, 0) 535 | Ac mi wn i be' 'ti'n trio'i neud, wasi─o gwn. |
| (1, 0) 536 | Paid ti â meddwl 'mod i'n dwp. |
| (1, 0) 537 | Ches i ddim coleg drama fel y gweddill ohonach chi, ond dwi'n dallt, dallt. |
| (1, 0) 539 | Fi i gario'r bwcad olch! |
| (1, 0) 540 | Dyna'r sgîm, 'te? |
| (1, 0) 541 | Ma'r tŷ wedi bod yn hanner gwag ers wsnosa. |
| (1, 0) 542 | Rown ni'r bai ar Deiniol. |
| (1, 0) 543 | Fo 'di'r drwg. |
| (1, 0) 544 | Fo sy'n cambyhafings ac yn llawn o lysh. |
| (1, 0) 545 | Ond dwi ddim am fod yn fwch dihangol i ryw wancyrs fel chi, dalltwch! |
| (1, 0) 549 | Ac mi 'na i 'i ddal o hefyd─yr hen slwt fach iddi. |
| (1, 0) 550 | Glywist ti'r ad-libio gynna fel gweinidog sasiwn. |
| (1, 0) 551 | Cheith hi ddim gneud hynna eto. |