| (0, 3) 313 | Fy ngrasusol arglwyddi, |
| (0, 3) 314 | gyrrasoch i'm cyrchu |
| (0, 3) 315 | mewn digofaint a dicllondeb; |
| (0, 3) 316 | rwy'n ofni gwrthwyneb. |
| (0, 3) 353 | Fy arglwyddi trugarog, |
| (0, 3) 354 | na fyddwch chwi rhy chwannog |
| (0, 3) 355 | i golli gwaed gwirionddall |
| (0, 3) 356 | dros ddrwg beiau arall. |
| (0, 3) 357 | Os gwnaeth fy nhad Calchas i chwi benyd, |
| (0, 3) 358 | diflais ydoedd Cresyd; |
| (0, 3) 359 | efe mewn euog ateb |
| (0, 3) 360 | a minnau mewn gwiriondeb; |
| (0, 3) 361 | y tad yn gwneuthud camwedd |
| (0, 3) 362 | a'r ferch yn dwyn y dialedd — |
| (0, 3) 363 | Dyna gyfraith rhy atgas, |
| (0, 3) 364 | ymhell yn erbyn eich urddas. |
| (0, 3) 365 | ~ |
| (0, 3) 366 | Pes gwnaethai fi'n gydnabyddus |
| (0, 3) 367 | â'i ddichell frad twyllodrus, |
| (0, 3) 368 | nis buaswn i mewn gafael |
| (0, 3) 369 | yn aros ym mysg y rhyfel, |
| (0, 3) 370 | na rhyfelwyr yn tramwy |
| (0, 3) 371 | cyn fynyched lle y byddwy. |
| (0, 3) 372 | ~ |
| (0, 3) 373 | Ef a wyddai, fy arglwyddi, |
| (0, 3) 374 | nas gallai ymddiried i mi, |
| (0, 3) 375 | a hynny a barodd iddo |
| (0, 3) 376 | mor ddisymwth ymado. |
| (0, 3) 377 | ~ |
| (0, 3) 378 | Gwae fi na byddai f'einioes |
| (0, 3) 379 | yn iawn abl i ddigywio |
| (0, 3) 380 | yr uthr weithred honno |
| (0, 3) 381 | ac na liwid, er aros, |
| (0, 3) 382 | i un o'm cenedl mo'r achos, |
| (0, 3) 383 | fy arglwyddi, ni ddymunwn |
| (0, 3) 384 | i chwi yr awron mo'm pardwn. |
| (0, 4) 663 | Croeso, fy ewythr; amser da yw i'ch dyfodiad. |
| (0, 4) 664 | A ddowch chwi yn nes, i'r goleuni, |
| (0, 4) 665 | i ddywedyd chwedlau newydd i mi? |
| (0, 4) 666 | Newyddion a gaf glywed; |
| (0, 4) 667 | anfynwch rwy'n eich gweled. |
| (0, 4) 673 | Mae'n ysgrifennu am ryfel Thebes: |
| (0, 4) 674 | nid yw'n sôn am eich meistres. |
| (0, 4) 675 | Mae yn ysgrifennu'n eglur |
| (0, 4) 676 | am ddigwyddiad yr holl ryfel |
| (0, 4) 677 | ac am esgob yn dostur. |
| (0, 4) 678 | Amffiorac aeth yn ddigrel |
| (0, 4) 679 | i uffern gyda'r cythrel, |
| (0, 4) 680 | a'r modd bu farw Laiws |
| (0, 4) 681 | trwy waith ei fab Edipws. |
| (0, 4) 682 | ~ |
| (0, 4) 683 | Mae hyn yn ddifyrrwch |
| (0, 4) 684 | i fwrw amser heibio |
| (0, 4) 685 | ac i esmwythau tosturwch, |
| (0, 4) 686 | lle mae fel arfer yn gwreiddio. |
| (0, 4) 687 | Ni a ollyngwn hyn mewn ango. |
| (0, 4) 688 | Pa newydd am y Groegwyr? |
| (0, 4) 689 | Ydy Hector yn brysur? |
| (0, 4) 697 | Y mae'n dda gennyf glywed |
| (0, 4) 698 | eu bod yn wychion ill deuwedd; |
| (0, 4) 699 | yn wir mae'n anodd gweled |
| (0, 4) 700 | i fab brenin gymaint rhinwedd |
| (0, 4) 701 | a bod mor foneddigaidd. |
| (0, 4) 702 | Rhinweddol yw naturiaeth |
| (0, 4) 703 | lle bo uchel enedigaeth. |
| (0, 4) 704 | ~ |
| (0, 4) 705 | I Hector mae anrhydedd - |
| (0, 4) 714 | I Hector mae anrhydedd, |
| (0, 4) 715 | I Troelus mae cariad, |
| (0, 4) 716 | rhai yn sôn mewn gwirionedd |
| (0, 4) 717 | ei fod bob dydd dros ei wlad |
| (0, 4) 718 | yn ymladd yn wastad. |
| (0, 4) 719 | Mae'n dda gennyf glywed |
| (0, 4) 720 | eu canmoliaeth cyn fynyched. |
| (0, 4) 742 | Ni chewch yr owran mo'r gennad: |
| (0, 4) 743 | mae i mi chwaneg siarad. |
| (0, 4) 748 | Os bydd y meddwl o'r gorau, |
| (0, 4) 749 | diniwed a fydd geiriau. |
| (0, 4) 750 | Atolwg, gadewch glywed |
| (0, 4) 751 | beth yw meddwl eich siarad. |
| (0, 4) 757 | Yr un a ofno ddoedyd, |
| (0, 4) 758 | ofned gael ei geisio; |
| (0, 4) 759 | yr un a wyr ei glefyd, |
| (0, 4) 760 | o'i glefyd mae'n haws ei helpio. |
| (0, 4) 768 | Mi wrandawaf ar eich geiriau. |
| (0, 4) 769 | Bellach cerddwch rhagoch, |
| (0, 4) 770 | gwyliwch siarad rhyw bethau |
| (0, 4) 771 | yn erbyn hyn a wyddoch. |
| (0, 4) 772 | Fydd merch ac ysgymun |
| (0, 4) 773 | os gwneir gormod yn ei herbyn. |
| (0, 4) 809 | O fy ewythr, yr oeddwn erioed yn coelio |
| (0, 4) 810 | pes buaswn trwy fy anap wedi digwyddo |
| (0, 4) 811 | i garu Troelus, Achilles, neu Hector |
| (0, 4) 812 | na fuasech i unig drugarog o'ch cyngor, |
| (0, 4) 813 | eithr fy rhegi |
| (0, 4) 814 | trwy gwbwl wrthwynebu. |
| (0, 4) 815 | Ni wyddis i bwy y coelir |
| (0, 4) 816 | yn y byd anghywir. |
| (0, 4) 826 | Da yw'r byd os anwylfab brenin Asia |
| (0, 4) 827 | aiff ar ei liniau i ferch amddifad o Droea. |
| (0, 4) 830 | A fo drugarog unwaith |
| (0, 4) 831 | a gaiff drugaredd eilwaith. |
| (0, 4) 832 | A drigarha wrth weiniaid, |
| (0, 4) 833 | trugaredd Duw i'w enaid! |
| (0, 4) 862 | O Pandar. Mae eto i'm cof fynediad Calchas, |
| (0, 4) 863 | mae eto i'm cof pwy amddiffynnodd fy urddas. |
| (0, 4) 864 | Oni bai Hector a'i rywiogrwydd, |
| (0, 4) 865 | merch a fuaswn i wedi tramgwydd. |
| (0, 4) 866 | Gwasanaeth neb pe'i mynnwn, |
| (0, 4) 867 | ei wasanaethu ef a ddylwn, |
| (0, 4) 868 | trwy gadw ohono fy urddas. |
| (0, 4) 869 | Croeso wrth ei gymdeithas. |
| (0, 4) 870 | ~ |
| (0, 4) 871 | Dymuno yr wyf arnoch, er mwyn y gwir arglwydd, |
| (0, 4) 872 | ac er anrhydedd y gwirionedd a boneddideiddrwydd, |
| (0, 4) 873 | fod hyn yn tyfu heb ddichelgar feddylie, |
| (0, 4) 874 | a'ch wyllys chwi i mi, fel y mae fy wyllys i, i chwithe. |
| (0, 4) 875 | Gwna gwbwl o'm gallu |
| (0, 4) 876 | beunydd ich llawenychu, |
| (0, 4) 877 | trwy na bo arwydd |
| (0, 4) 878 | o ddim anonestrwydd. |
| (0, 4) 879 | ~ |
| (0, 4) 880 | Er hyn i gyd rwy'n eich rhybuddio chwi, Troelus, |
| (0, 4) 881 | er eich bod yn anwylfab i frenin Priamus, |
| (0, 4) 882 | na feddyliwch allu fod arnaf fi'n rheolwr |
| (0, 4) 883 | mewn cariad, yn amgenach nag a berthyn i wasanaethwr. |
| (0, 4) 884 | Hawdd yw gennym ddigio |
| (0, 4) 885 | o gellweirir ddim a'n briwo. |
| (0, 4) 886 | Eich taledigaeth chwi a fydd |
| (0, 4) 887 | fel y byddo eich rhyglydd. |
| (0, 4) 888 | ~ |
| (0, 4) 889 | O hyn allan, fy nghywir farchog dedwydd, |
| (0, 4) 890 | trowch heibio drymder, cofleidiwch lawenydd; |
| (0, 4) 891 | mewn hyn o obaith, eich hunan ymsicrhewch, |
| (0, 4) 892 | i gwna fi yngore ar droi hyn i ddifyrrwch. |
| (0, 4) 893 | Am bob trymder a chytsydd, |
| (0, 4) 894 | e daw bellach lawenydd. |
| (0, 4) 895 | Croeso wrth wamal naturiaeth |
| (0, 4) 896 | mewn gwasnaethwr i'm gwasanaeth. |
| (0, 4) 962 | O Dduw! Pa beth yw'r glendid bydol? |
| (0, 4) 963 | Hwn mae dysg ar gam yn ei alw yn beth dedwddol? |
| (0, 4) 964 | Cymysg yw a llawer o chwerwder beunydd, |
| (0, 4) 965 | yn llawn ofer anwadalaidd lawenydd. |
| (0, 4) 966 | Os oes lawenydd, |
| (0, 4) 967 | pwy heddiw a wyr i ddeunydd? |
| (0, 4) 968 | Oes a wyr yn wastadol |
| (0, 4) 969 | oddi wrth lawenydd bydol? |
| (0, 4) 970 | ~ |
| (0, 4) 971 | O y frau olwyn i lawenychu dyn, yn anwadol, |
| (0, 4) 972 | i bara ddyn bynnag i bych di yn arddal, |
| (0, 4) 973 | naill ai fo a wyr oddi wrth dy lawenydd darfodedig, |
| (0, 4) 974 | ai nis gwyr ddim oddi wrth dy gylenic. |
| (0, 4) 975 | Os gwyr, i mae yn gelfydd; |
| (0, 4) 976 | mor anwadal yw'r llawenydd |
| (0, 4) 977 | sydd yn tyfu oi ysturiaeth |
| (0, 4) 978 | o dywyllwch anywbodaeth! |
| (0, 4) 979 | ~ |
| (0, 4) 980 | O gwyddys fod llawenydd a thramgwyddiad diffygiol, |
| (0, 4) 981 | y modd y mae yr holl bethau daerol, |
| (0, 4) 982 | am bob gwaith y bydd yn ofnus yn ei feddwl i golli, |
| (0, 4) 983 | dros hynny o amser y bydd sicr o'i feddiannu. |
| (0, 4) 984 | Nis gall undyn wneuthur deunydd |
| (0, 4) 985 | ar dwyllodrus lawenydd; |
| (0, 4) 986 | wrth ei gadw, mae'n ofalus; |
| (0, 4) 987 | wrth ei golli, mae'n beryglus. |
| (0, 4) 996 | Beth a all yr Hedyd truan i wneuthur |
| (0, 4) 997 | pan fo yng ngrafanc y gwalchaidd eryr? |
| (0, 4) 998 | Beth all morwyn wan ond ochain |
| (0, 4) 999 | pan fo cryfder mawr yn harwain? |
| (0, 4) 1000 | Cyn sicred ac ym ganed, |
| (0, 4) 1001 | mae'n rhaid ymroi i dynged; |
| (0, 4) 1002 | a'th dynged titheu, Cresyd, |
| (0, 4) 1003 | ydiw dwyn y gofalfyd. |
| (0, 6) 1113 | O f'enaid yn fy nghalon, fy nghoel a'm holl ddifyrwch, |
| (0, 6) 1114 | och yr amser y'm ganed i ddigwydd i mi fath dristwch, |
| (0, 6) 1115 | pan allo un boregwaith ein dosbarthu ni oddi yma, |
| (0, 6) 1116 | bellach rhaid ymadael, neu fo ddarfu amdana. |
| (0, 6) 1117 | ~ |
| (0, 6) 1118 | O dywyllnos, fe'th waned yn hud dros loywddydd perffaith |
| (0, 6) 1119 | ar amserau â'th hagr alarwisg ddiffaith, |
| (0, 6) 1120 | a thros amser mae pob peth i'w esmwythyd mewn bwriad: |
| (0, 6) 1121 | dynion ac anifeiliaid yn hawdd all achwyn arnad; |
| (0, 6) 1122 | y dydd yn rhoi trafael yma, |
| (0, 6) 1123 | tithau'r nos yn rhoddi esmwythdra. |
| (0, 6) 1124 | Tydi yr owran o lawer |
| (0, 6) 1125 | a ffoist ynghynt na'th amser. |
| (0, 6) 1164 | O gywir galon a chwbwl o'm ymddiried, |
| (0, 6) 1165 | mae'r chwarae hwn cyn belled wedi myned |
| (0, 6) 1166 | fel y caiff yn gyntaf yr haul syrthio i lawr o'r wybren |
| (0, 6) 1167 | a'r gwalchaidd eryr ymgymharu â'r glomen |
| (0, 6) 1168 | a phob craig ysmudo |
| (0, 6) 1169 | o'r tir a'r fan y byddo |
| (0, 6) 1170 | cyn darffo i Troelus symud |
| (0, 6) 1171 | o gywir calon Cresyd. |
| (0, 8) 1414 | Och i'm calon os allan oddi yma rhaid im fyned! |
| (0, 8) 1415 | Anffortunus forwyn, i ddwyn anffortun y'th aned. |
| (0, 8) 1416 | Ai rhaid it ymadael â Throelus, gywir farchog, |
| (0, 8) 1417 | a byw ym mysg dieithriaid anrhugarog? |
| (0, 8) 1418 | Och! i'r nos am dywyllu; |
| (0, 8) 1419 | Och! i'r dydd am lewyrchu; |
| (0, 8) 1420 | Can och! A fyddo i'r weithred |
| (0, 8) 1421 | sydd achos i mi i fyned! |
| (0, 8) 1422 | ~ |
| (0, 8) 1423 | Beth a wnaiff Troelus? A beth a wnaiff innau? |
| (0, 8) 1424 | Pa fodd y byddwn fyw heb fodd yn yr unlle? |
| (0, 8) 1425 | Pa fodd y llawenycha? Ni chaf fi aros. |
| (0, 8) 1426 | Fy nhad, Calchas, tydi ydiw'r achos! |
| (0, 8) 1427 | ~ |
| (0, 8) 1428 | Ai i fyw mewn prudd-der i'r byd y'm ganed? |
| (0, 8) 1429 | Os gwir hyn, gwir ydyw fod tynged. |
| (0, 8) 1430 | All pysg fyw heb ddŵr yn yr afon Nilus? |
| (0, 8) 1431 | Pa fodd y gall Cresyd fyw heb ei Throelus? |
| (0, 8) 1433 | Hyn a wnaf i, Troelus, y dydd yr ymadawon, |
| (0, 8) 1434 | arf lifed nis cariaf, rhag fy mod yn greulon. |
| (0, 8) 1435 | Onis lladd prudd-der fi y diwrnod hwnnw, |
| (0, 8) 1436 | fy lluniaeth a wrthodaf, i gaffael marw. |
| (0, 8) 1437 | Cyn sicred ac y'm ganed, |
| (0, 8) 1438 | os oddi yma rhaid im fyned, |
| (0, 8) 1439 | hyn a fydd fy nhynged, |
| (0, 8) 1440 | modd y caffoch chwithau glywed. |
| (0, 8) 1441 | ~ |
| (0, 8) 1442 | A'm dillad i, Troelus, a gaiff fod yn dduon, |
| (0, 8) 1443 | yn arwydd fod Cresyd yn gywir ei chalon. |
| (0, 8) 1444 | Meddyliwch am y geiriau pan ddigwydd yr achosion; |
| (0, 8) 1445 | yno y cewch wybod fy nghywirdeb ffyddlon. |
| (0, 8) 1446 | A hyn a gofia i chwi |
| (0, 8) 1447 | fy ffyddlondeb a'm caledi, |
| (0, 8) 1448 | a'r modd y darfu i Cresyd |
| (0, 8) 1449 | er eich mwyn golli ei bywyd. |
| (0, 8) 1450 | ~ |
| (0, 8) 1451 | Fy nghywir galon, yn dragwyddol rwy'n ordeinio |
| (0, 8) 1452 | i ti ganlyn ysbryd Troelus i gydgŵyno; |
| (0, 8) 1453 | er bod ein cyrff yn y ddaear yn gorwedd yn llonydd, |
| (0, 8) 1454 | ein ysbrydion a gydrodia 'rhyd y trugarog feysydd. |
| (0, 8) 1455 | Y rhain a elwir Eleisos - |
| (0, 8) 1456 | nid oes dim poen yn aros |
| (0, 8) 1457 | lle mae Orffews â'i dreiglad |
| (0, 8) 1458 | efo Eurydice ei gariad. |
| (0, 8) 1460 | Tithau, Pandar, a fuost achos o lawenydd mwy nag unwaith, |
| (0, 8) 1461 | yr owran yr wyt yn achos o brudd-der eilwaith. |
| (0, 8) 1462 | Nis gwn beth a ddywedaf wrthyt am hyn, |
| (0, 8) 1463 | ai bod it groeso, ai nad oes un gronyn. |
| (0, 8) 1464 | Dy achos fu yr digwyddiad |
| (0, 8) 1465 | i mi wasanaethu cariad; |
| (0, 8) 1466 | hwn sydd yn diwedd rhyngom, |
| (0, 8) 1467 | mewn prudd-der a gofalon. |
| (0, 8) 1468 | Ewch! Ewch! |
| (0, 8) 1495 | Er bod yn frenhines pes cawswn, |
| (0, 8) 1496 | hyn yma nis mynaswn. |
| (0, 8) 1497 | Ar y cwbwl, pell ac agos, |
| (0, 8) 1498 | y mae'r haul yn ymddangos. |
| (0, 8) 1499 | ~ |
| (0, 8) 1500 | Fy ngwir galon, chwi a wyddoch hyn yr owran, |
| (0, 8) 1501 | o bydd un yn wastad yn ochain ac un yn tuchan, |
| (0, 8) 1502 | heb geisio rhyw ddfyais o'i ddolur i'w helpu, |
| (0, 8) 1503 | nid yw hyn ond ffolineb: mae'r boen yn chwanegu. |
| (0, 8) 1504 | Gen yn bod wedi cyfarfod, |
| (0, 8) 1505 | yn deuoedd, yma yn barod |
| (0, 8) 1506 | mae'n fadws i ni ddechrau |
| (0, 8) 1507 | a gwneuthur y peth sydd orau. |
| (0, 8) 1508 | ~ |
| (0, 8) 1509 | Pes cyd-ymgynghores ni mewn modd ac amser, |
| (0, 8) 1510 | nid rhaid i ni gymryd hanner hyn o brudd-der. |
| (0, 8) 1511 | Mae digon o gelfydd |
| (0, 8) 1512 | all helpu hyn o gaethfyd: |
| (0, 8) 1513 | na chymrwch drwm feddyliau |
| (0, 8) 1514 | fe ddaw hyn i gyd i'r gorau. |
| (0, 8) 1515 | ~ |
| (0, 8) 1516 | Oni wyddoch fod gan fy nhad ewyllys mawr i'm gweled, |
| (0, 8) 1517 | yn unig rhag ofn fy mod yn byw mewn caethiwed. |
| (0, 8) 1518 | Mae'n meddwl fy mod yn byw yma'n amddifad |
| (0, 8) 1519 | oblegid yr achos o'i dwyllodrus fynediad. |
| (0, 8) 1520 | Gwae fi Dduw nas gwyddai |
| (0, 8) 1521 | y sut a'r modd yr ydwyf innau, |
| (0, 8) 1522 | a daed fy myd yn Nhroea - |
| (0, 8) 1523 | mi a wn nas gyrrai byth amdana'. |
| (0, 8) 1524 | ~ |
| (0, 8) 1525 | Wrth fy nhad y dywedaf ddarfod i mi guddio ei gyfoeth |
| (0, 8) 1526 | rhag llosgi Troea a rhag ofn dynion diffaith, |
| (0, 8) 1527 | ac na fedr neb ar a aned onid myfi eu caffael. |
| (0, 8) 1528 | Mae yntau cyn chwanoged, â da nis clyw ymadael. |
| (0, 8) 1529 | Ato fe pan ddelwyf |
| (0, 8) 1530 | fe a goelia'r hyn ddywedwyf; |
| (0, 8) 1531 | yn esgus cyrchu'r mwnws |
| (0, 8) 1532 | mi a ddof eilwaith atoch, Troelus. |
| (0, 8) 1533 | ~ |
| (0, 8) 1534 | Mae'n anodd, medd gŵyr dysgedig ffordd yma, |
| (0, 8) 1535 | llenwi'r blaidd a chael y mollt yn gyfa, |
| (0, 8) 1536 | hynny ydyw, fod llawer un mor chwannog |
| (0, 8) 1537 | ag y treulia swllt yn ceisio'r geiniog. |
| (0, 8) 1538 | Mae henddyn yn enwedig |
| (0, 8) 1539 | yn chwannog i'r da benthyg; |
| (0, 8) 1540 | ag aur y gellid beunydd |
| (0, 8) 1541 | gerfio calon y dyn cybydd. |
| (0, 8) 1550 | Mae rhai hefyd yn trafaelio ac yn siarad |
| (0, 8) 1551 | am dangnefedd rhwng Troea a Groeg yn wastad |
| (0, 8) 1552 | ac y rhoddir Helen adre a'i holl gyfoeth, |
| (0, 8) 1553 | a phawb i ddyfod i'w wlad ei hunan eilwaith. |
| (0, 8) 1554 | Petai ddim i'n cysuro |
| (0, 8) 1555 | ond hyn yma i'w obeithio, |
| (0, 8) 1556 | hyn yna a all ddyfod |
| (0, 8) 1557 | cyn pen y pedwar diwrnod. |
| (0, 8) 1566 | Mi a wn bellach beth sydd rhaid i mi ei wneuthud, |
| (0, 8) 1567 | a hynny a wnaf pes collwn i fy mywyd: |
| (0, 8) 1568 | milltir fechan sydd rhwng y Groegwyr a Throea, |
| (0, 8) 1569 | nis byddaf i ond unawr yn cerdded hyn yma, |
| (0, 8) 1570 | a hwn yn wir a gywiraf |
| (0, 8) 1571 | os byw ac iach a fyddaf. |
| (0, 8) 1572 | Byddwch i'm cyfarfod |
| (0, 8) 1573 | hanner nos y degfed diwrnod. |
| (0, 8) 1600 | Y diwrnod, yr awr, neu'r munud y byddaf i ti anghywir, |
| (0, 8) 1601 | er ofn tad, er cariad-ddyn nac ei dim ar a ellir, |
| (0, 8) 1602 | gwaned Juno, merch Satwrnws, i mi yn dragwyddol |
| (0, 8) 1603 | aros gyda Styx, fel Athamant mewn pydew uffernol. |
| (0, 8) 1604 | Y modd y caf gan Dduw fy helpio, |
| (0, 8) 1605 | pan fo rheithia i mi wrtho, |
| (0, 8) 1606 | gymryd yr eich i'ch dwyfron |
| (0, 8) 1607 | heb achos hyn ofalon. |
| (0, 8) 1608 | ~ |
| (0, 8) 1609 | Hefyd yr wy'n tyngu i holl dduwie nefol, |
| (0, 8) 1610 | i'r dywiesau, i'r Nymffes, ac i adyrdod uffernol, |
| (0, 8) 1611 | i'r Satirs, i'r ffanus, hanner duwie y gelwch, |
| (0, 8) 1612 | y rhain bob amser sy'n aros mewn anialwch; |
| (0, 8) 1613 | fo gaiff Atrop dorri, |
| (0, 8) 1614 | yn gynta, yr ede mae'n ei nyddu, |
| (0, 8) 1615 | cyn bod honof yn anghywir |
| (0, 8) 1616 | i ti, Troelus, er a wnelir. |
| (0, 8) 1617 | ~ |
| (0, 8) 1618 | Tithe, Simoys, sy'n rhedeg fel paladr ysaeth union |
| (0, 8) 1619 | rhyd ystrydoedd Troya i'r moroedd heilltion; |
| (0, 8) 1620 | bydd dyst ar a ddywedwyf wrth fab brenin Priamus - |
| (0, 8) 1621 | y diwrnod y bydd anghywir Cresyd i Troelus |
| (0, 8) 1622 | y diwrnod hwnnw dymchweli |
| (0, 8) 1623 | ac yn ôl dy gefn ti a gerddil |
| (0, 8) 1624 | fy nghorff a'm enaid innau |
| (0, 8) 1625 | a dymchwel i uffern boenau. |
| (0, 8) 1626 | ~ |
| (0, 8) 1627 | Coeliwch hyn, pan ddel Lucina, chwaer i ffebus glayrwen, |
| (0, 8) 1628 | allan o'r llew ac allan o'r maharen, |
| (0, 8) 1629 | Juno, brenhines nefoedd, y modd i'm helpia, |
| (0, 8) 1630 | y ddegfed nos, mi a fyddaf wrth Droea. |
| (0, 8) 1631 | Rhaid cael amser wrth galedi |
| (0, 8) 1632 | i ennill amser i ni. |
| (0, 8) 1633 | Dyma i ti fy nghred ar ddyfod |
| (0, 8) 1634 | hanner nos y degfed diwrnod. |
| (0, 9) 1744 | I chwi, Diomedes, yr wyf yn ddiolchgar, yn enwedig |
| (0, 9) 1745 | am eich poen ac am eich ewyllus da rwy'n rhwymedig, |
| (0, 9) 1746 | eich gwasanaeth, eich cymdeithas, eich cynghorion, |
| (0, 9) 1747 | a derbyn i'r gorau eich holl eiriau caredigion. |
| (0, 9) 1748 | A hyn a ellwch goelio |
| (0, 9) 1749 | er dim a all ddigwyddo, |
| (0, 9) 1750 | o flaen un ar a aned |
| (0, 9) 1751 | ynddoch chwi y bydd f'ymddiried. |
| (0, 9) 1753 | Atolwg i chwi, fy nhad, eich bendith a rhoddwch i mi; |
| (0, 9) 1754 | hiraeth mawr amdanoch hyd yn hyn a ddugum. |
| (0, 12) 1853 | Arnat, Droea, mewn hiraeth a thrymder yr wy'n edrych, |
| (0, 12) 1854 | dy dyrau uchel a'th reiol gaerau cwmpaswych. |
| (0, 12) 1855 | Llawer diwrnod llawen o fewn dy gaerau a gefais |
| (0, 12) 1856 | a llawer o hiraeth amdanat ti a ddygais. |
| (0, 12) 1857 | O, Droea, gwae fi o'r myned! |
| (0, 12) 1858 | O, Troelus, gwae fi dy weled! |
| (0, 12) 1859 | O, Troelus, fy anwylyd, |
| (0, 12) 1860 | wyt ti'n meddwl am Cresyd? |
| (0, 12) 1861 | ~ |
| (0, 12) 1862 | Gwae fi, Troelus, nas gwnaethwn y peth a geisiaist! |
| (0, 12) 1863 | Gwae fi nad aethwm y modd a'r sut y dymunaist! |
| (0, 12) 1864 | Nis buaswn i yr owran yn rhoi ochenaid cyn drymed, |
| (0, 12) 1865 | ni ellesid ddywedyd wneuthur ohonof ddrwg weithred. |
| (0, 12) 1866 | Nid oes ym gael ond trwbwl |
| (0, 12) 1867 | i atgoffau hyn y meddwl; |
| (0, 12) 1868 | y cyffirie sydd ddiweddar |
| (0, 12) 1869 | wedi rhoi'r corff mewn daear. |
| (0, 12) 1870 | ~ |
| (0, 12) 1871 | Mae'n rhowyr yr owran am yr achos yma siarad. |
| (0, 12) 1872 | O arglwyddes y synwyr, ble yr oedd dy dri llygad? |
| (0, 12) 1873 | Y peth a basiodd, mi atgoffais amdano; |
| (0, 12) 1874 | Y peth oedd yn bresenol, mi a wyddwn oddi wrtho. |
| (0, 12) 1875 | Ar y pethau oedd i ddyfod |
| (0, 12) 1876 | nis gwneuthum fawr adeilad |
| (0, 12) 1877 | am nas medrwn eu gweled; |
| (0, 12) 1878 | y mae im yn gwneuthur niwed. |
| (0, 12) 1879 | ~ |
| (0, 12) 1880 | Ond, yn wir, treigled hyn y modd ag y mynno, |
| (0, 12) 1881 | yfory'r nos yn ddiffael y byddaf gyda fo; |
| (0, 12) 1882 | naill ai i'r deau, ai i'r dwyrain, ai i'r gorllewin |
| (0, 12) 1883 | y collaf i fyned at Troelus fy anwylddyn. |
| (0, 12) 1884 | Doeded pawb a fynan, |
| (0, 12) 1885 | fe wnaiff Cresyd ei hamcan; |
| (0, 12) 1886 | Drywant a fy'n siarad |
| (0, 12) 1887 | a genfigen ar gariad. |
| (0, 12) 1927 | Diomedes, Diomedes, mae ti orchymyn fy meddyliau, |
| (0, 12) 1928 | gwae fi erioed wybod oddi wrth ryw bethau. |
| (0, 12) 1929 | Ond mae gwŷr cyn laned o fewn tref Troea |
| (0, 12) 1930 | ag sydd â'u trigfan rhwng Orcades ac India. |
| (0, 12) 1931 | O rhyglydd bodd i chwi ddyfod |
| (0, 12) 1932 | yn lleigus, mae i chwi gennad; |
| (0, 12) 1933 | a phan ddeloch chwi yno, |
| (0, 12) 1934 | chwi ellwch orchymyn croeso. |
| (0, 14) 1967 | Diomedes, Diomedes, gwae fi erioed dy weled, |
| (0, 14) 1968 | anghywir wyf bellach i'r gŵr cywira a aned; |
| (0, 14) 1969 | fy enw da i nis gall neb mo'i helpio, |
| (0, 14) 1970 | a'm gonestrwydd i bellach aiff byth mewn ango, |
| (0, 14) 1971 | pan dwyllais â'm anwiredd |
| (0, 14) 1972 | y marchog mawr ei anrhydedd; |
| (0, 14) 1973 | tra fo dŵr yn tramwy daear |
| (0, 14) 1974 | byth nis gwelir iddo gymar. |
| (0, 14) 1975 | ~ |
| (0, 14) 1976 | Gwae fi o'm geni erioed i fod yn anghywir; |
| (0, 14) 1977 | un gair da byth amdanaf i nis dywedir; |
| (0, 14) 1978 | mewn pob llyfr ac ysgrifen y byddaf i oganus, |
| (0, 14) 1979 | a phob tafod amdanaf i a fydd siaradus. |
| (0, 14) 1980 | A'r merched yn fwyaf |
| (0, 14) 1981 | wrthyf i a fydd ddicaf; |
| (0, 14) 1982 | o'm herwydd i a'm gweithred |
| (0, 14) 1983 | nis rhoir ynddynt byth ymddiried. |
| (0, 14) 1984 | ~ |
| (0, 14) 1985 | Hwy a ddywedant, oblegid fy mod mor annaturiol, |
| (0, 14) 1986 | ddarfod i mi eu cywilddyio'n dragwyddol; |
| (0, 14) 1987 | er nad ydwyf i y cyntaf a fu'n anghywir, |
| (0, 14) 1988 | nid yw hyn o les, mi a wn ni'm esgusodir. |
| (0, 14) 1989 | Er bod rhy hwyr drefnu |
| (0, 14) 1990 | am a basiodd edifaru, |
| (0, 14) 1991 | bellach mi a fyddaf gywir |
| (0, 14) 1992 | i Diomedes er a wnelir. |
| (0, 14) 1993 | ~ |
| (0, 14) 1994 | O, Troelus, gan nad oes i mi ddim well i wneuthud |
| (0, 14) 1995 | ond gorfod ymadael â thydi fy anwylyd, |
| (0, 14) 1996 | ar Dduw yr archaf roddi yn rhwydd pob peth rhagot, |
| (0, 14) 1997 | fel i'r gŵr boneddigeiddiaf a wn erioed ei adnabod. |
| (0, 14) 1998 | Er darfod i mi syrthio |
| (0, 14) 1999 | mewn drygioni mawr i'th ddwylo, |
| (0, 14) 2000 | tra fo carreg mewn afon |
| (0, 14) 2001 | nid ei, Troelus, o'm calon. |
| (0, 17) 2157 | Fenws a Ciwpid, chwi a roesoch im ysbrydol atebion, |
| (0, 17) 2158 | mai myfi a fyddai flodeuyn o fewn Troea dirion. |
| (0, 17) 2159 | Fy nglendid i a'm llawenydd a droed i ofalon: |
| (0, 17) 2160 | yr wyf fel dyn anrhyglyddus o gymdeithas dynion. |
| (0, 17) 2161 | Pwy bellach a'm hymgeledda? |
| (0, 17) 2162 | Pa ryw ddiwedd a ddaw arna? |
| (0, 17) 2163 | Diomedes a'm gwrthododd |
| (0, 17) 2164 | a Troelus wrthyf a sorrodd. |
| (0, 17) 2165 | ~ |
| (0, 17) 2166 | Gwnaethoch im goelio fod cariad yn fy wyneb yn tyfu, |
| (0, 17) 2167 | ac y cedwych chwi bob amser y cariad hyn heb ddiflannu. |
| (0, 17) 2168 | Tydi, fachgen anheilwng, dy eiriau a'm rhoes byth mewn gofal, |
| (0, 17) 2169 | efo dy fam Fenws, y dduwies ddall anwadal. |
| (0, 17) 2170 | Ond yr owran y rhew a'i llosgodd, |
| (0, 17) 2171 | a'r had i mi nis ffynnodd. |
| (0, 17) 2172 | Anghywirdeb ydyw'r achos |
| (0, 17) 2173 | nis gall cariad-ddyn mo'm haros. |
| (0, 17) 2265 | Barned pob dyn a'm gwelodd oes achos i mi o brudd-der, |
| (0, 17) 2266 | hyn yw'r daledigaeth am gyffroi y duwiau uchelder |
| (0, 17) 2267 | ac am fod yn anghywir i farchog ufudd parod. |
| (0, 17) 2268 | Pob llawenydd bydol, o hyn allan rwy'n dy wrthod. |
| (0, 17) 2269 | Gwae i'r awr a gwae i'r diwrnod |
| (0, 17) 2270 | ac ugain gwae i'r tafod |
| (0, 17) 2271 | a chan wae i fab Tideus |
| (0, 17) 2272 | a chan hawddmor fyddo i Troelus! |
| (0, 19) 2278 | O, dywarchen o brudd-der wedi sincio mewn gofalon, |
| (0, 19) 2279 | o carcharedig Cresyd mewn llawer o foddion, |
| (0, 19) 2280 | dy lawenydd aeth ymaith, i ddwyn trymder y'th roddwyd, |
| (0, 19) 2281 | o'th holl ddifyrrwch, noethlwm iawn y'th addewid. |
| (0, 19) 2282 | Dy dynghedfen sydd galed, a gorthrwn fu dy eiriau; |
| (0, 19) 2283 | nid oes i'w gael mo'r eli a iacha dy friwiau. |
| (0, 19) 2284 | Dy orau di aeth heibio a'r gwaethaf i ti nis darfu. |
| (0, 19) 2285 | Gwae fi, Dduw, na buesit cyn hyn wedi fy gladdu, |
| (0, 19) 2286 | lle na buasai sôn |
| (0, 19) 2287 | am Groeg nac Troea. |
| (0, 19) 2288 | ~ |
| (0, 19) 2289 | Ble mae dy ystafell wedi ei gwisgo â sidan drosti? |
| (0, 19) 2290 | Mae dy aur-frodiad glustogau a'th amrosgo wely? |
| (0, 19) 2291 | Mae'r llysiau gwresog a'r gwinoedd i'th gysuro? |
| (0, 19) 2292 | Ble mae'r cwpanau o aur ac arian yn disgleirio? |
| (0, 19) 2293 | Mae dy felys fwydydd a'th ddysglau gloywon gwastad? |
| (0, 19) 2294 | Mae dy flasus seigiau a phob newydd arferiad? |
| (0, 19) 2295 | Ble mae'r dillad gwychion a'r mynych ddyfeisiau? |
| (0, 19) 2296 | Ble mae'r lawnd a'r camlad a'r euraidd nodwyddau? |
| (0, 19) 2297 | Hyn i gyd a gefaist |
| (0, 19) 2298 | a'r cwbl o hyn a gollaist. |
| (0, 19) 2299 | ~ |
| (0, 19) 2300 | Ble mae dy erddi yn llawn o risiau gwychion? |
| (0, 19) 2301 | Ble mae'r tiau bychain yn llawn o fentell gwyrddion? |
| (0, 19) 2302 | Ble mae'r wastad alay a llysian wedi ei thrwsio |
| (0, 19) 2303 | lle y byddit Mai ac Ebrill arferol i rodio |
| (0, 19) 2304 | i gymryd y boreywlith wrth dy bleser a'th esmwythdra |
| (0, 19) 2305 | ac i wrando ar achwyn y felwswbwnc Ffilomela, |
| (0, 19) 2306 | gyda llawer glan arglwyddes dan ganu carolau, |
| (0, 19) 2307 | gan ystys y gwyrddion fentyll ai cyson doriadau? |
| (0, 19) 2308 | Hyn a fu ac a ddarfu |
| (0, 19) 2309 | pethau eraill rhaid croesawu. |
| (0, 19) 2310 | ~ |
| (0, 19) 2311 | Ffortun ffiaidd! |
| (0, 19) 2312 | ~ |
| (0, 19) 2313 | Cymer lety'r clipan am dy eurblas uchelgrib, |
| (0, 19) 2314 | am dy esmwythglyd wely cymer hyn o wellt oerwlyb, |
| (0, 19) 2315 | am dy fwydydd gwresog a'r gwinoedd o bell a ddyged |
| (0, 19) 2316 | cymer fara toeslyn a sucan sur i'w yfed. |
| (0, 19) 2317 | Am fy eurglais melys a'th garolau cyn fwyned |
| (0, 19) 2318 | cymer oernad gerwin, dychryn gan bawb dy glywed. |
| (0, 19) 2319 | Am dy bryd, dy wedd, dy lendid a'th hawddgarwch |
| (0, 19) 2320 | cymer wyneb gwresog, brychlyd, yn llawn o ddiffeithwch. |
| (0, 19) 2321 | Ac yn lle dy liwt, ymarfer |
| (0, 19) 2322 | â'r cwpan yma a'r claper. |
| (0, 19) 2323 | ~ |
| (0, 19) 2324 | Chwychwi arglwyddesau o Droea a Groeg ymwrandewch |
| (0, 19) 2325 | am annedwyddol fuchedd, ac i ffortun na ymddiriedwch. |
| (0, 19) 2326 | Fy mawr anras, yr hwn nis gall neb mo'i orfod, |
| (0, 19) 2327 | gwnewch yn eich meddwl ohonof i ryfeddod. |
| (0, 19) 2328 | Fel yr ydwyf i'r owran nid hwyrach i chwithau fod; |
| (0, 19) 2329 | er eich glendid a'ch gwychder i'r un diwedd y gellwch ddyfod, |
| (0, 19) 2330 | neu i ddiwedd a fo gwaeth, os oes gwaeth na gwaethaf. |
| (0, 19) 2331 | Am hyn bid bob amser eich meddwl ar y diwethaf. |
| (0, 19) 2332 | ~ |
| (0, 19) 2333 | Dim ydyw eich glendid ond darfodedig flodeuyn; |
| (0, 19) 2334 | dim ydyw eich goruchafiaeth a phob peth sydd i'ch canlyn |
| (0, 19) 2335 | ond gwynt yn chwythu yng nghlustiau eraill faswedd, |
| (0, 19) 2336 | eich siriol wynebpryd diflannu a wnaiff o'r diwedd. |
| (0, 19) 2337 | Bid ohonof i bob amser esiampl yn eich meddwl |
| (0, 19) 2338 | yr hon sy'n dwyn tyst ar hyn i gyd yn gwbwl. |
| (0, 19) 2339 | Pob peth daearol mal gwynt i ffwrdd a wisga; |
| (0, 19) 2340 | am hyn bid bob amser eich meddwl ar y diwaetha. |
| (0, 19) 2354 | Pwy ydoedd yr arglwydd aeth heibio diwethaf, |
| (0, 19) 2355 | a fu mor drugarog i ni â hyn yma? |
| (0, 19) 2358 | Ai hwn yw mab y brenin Priamus? |
| (0, 19) 2359 | O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus! |
| (0, 19) 2360 | Dy gariad, dy lendid, dy foneddigeiddrwydd, farchog, |
| (0, 19) 2361 | a gyfrifais yn ychydig pan oeddwn ifanc oludog. |
| (0, 19) 2362 | Fy meddwl oedd yn llawn o wag oferedd gwamal, |
| (0, 19) 2363 | a beunydd yn dringo i dop yr olwyn anwadal, |
| (0, 19) 2364 | a hyn a'm twyllodd yn anghywir i fab brenin Priamus. |
| (0, 19) 2365 | O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus! |
| (0, 19) 2366 | ~ |
| (0, 19) 2367 | O wir gariad arnaf, ti a gedwaist dy urddas |
| (0, 19) 2368 | mewn gonestrwydd a theilyngdod ym mhob cymdeithas; |
| (0, 19) 2369 | i ferched a gwragedd amddiffynnwr fuost ffynedig, |
| (0, 19) 2370 | a'm meddwl innau ar faswedd, oferedd llygredig; |
| (0, 19) 2371 | a hyn a'm twyllodd yn anghywir i fab brenin Priamus. |
| (0, 19) 2372 | O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus! |
| (0, 19) 2373 | ~ |
| (0, 19) 2374 | Cariadau, gochelwch, ac yn hyn byddwch ddyfal, |
| (0, 19) 2375 | i bwy a rhoddwch eich cariad a thros bwy y dygwch ofal. |
| (0, 19) 2376 | Deallwch hyn, nad oes ond ychydig o'r rai perffaith |
| (0, 19) 2377 | ar y gellwch goelio iddynt ar gael cywirdeb eilwaith. |
| (0, 19) 2378 | Ofer yw'r trafael - profwch hyn pan y mynnoch; |
| (0, 19) 2379 | fy nghyngor i chwi - eu cymryd yn y modd ag y'u caffoch. |
| (0, 19) 2380 | Chwi a'u cewch hwynt cyn sicred yn eu gweithred a'u harfer |
| (0, 19) 2381 | ag ydyw ceiliog y ddrycin sy'n y gwynt bob amser. |
| (0, 19) 2382 | ~ |
| (0, 19) 2383 | Yr wyf yn deisyf arnat roi fy nghorff mewn daear galed |
| (0, 19) 2384 | i ymborthi nadredd, llyffain, a mân bryfed; |
| (0, 19) 2385 | fy nghwpan, fy nghlaper, a chwbwl o'm anghenrhaid |
| (0, 19) 2386 | rhan hynny ym mysg fy nghymdogion trueiniaid. |
| (0, 19) 2387 | Yr aur, yr arian a roddes Troelus i mi, |
| (0, 19) 2388 | cymer i ti hynny er help ar fy niwarthu. |
| (0, 19) 2389 | Y fodrwy a'r ruwbi sy'n y fodrwy wedi ei gweithio, |
| (0, 19) 2390 | hon a hebryngodd Troelus yn arwydd oddi wrtho, |
| (0, 19) 2391 | dod hon iddo cyn gynted ag y derfydd amdana', |
| (0, 19) 2392 | a gwna fe'n gydnabyddus o'r farwolaeth yma. |
| (0, 19) 2393 | ~ |
| (0, 19) 2394 | Yr wyf yn gorchymyn fy ysbryd gyda Diana i driog, |
| (0, 19) 2395 | 'rhyd meysydd a choedydd a dyfroedd i rodio. |
| (0, 19) 2396 | O, Diomedes, ti a gefaist yr holl arwyddion |
| (0, 19) 2397 | a hebryngodd Troelus i mi yn anerchion. |
| (0, 19) 2398 | Annrhugarog oeddyt, o fab i frenin Tideus! |
| (0, 19) 2399 | O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus! |