| (0, 15) 2021 | F'anwylyd Troelus, os deallt y breuddwyd yma a fynwch, |
| (0, 15) 2022 | a chlywed y gwirionedd amdana a chwnychwch, |
| (0, 15) 2023 | mae'n rhaid i chwi glywed hen ystoriau lawer |
| (0, 15) 2024 | a hanes argwlyddi perthynasol i hyn o fater. |
| (0, 15) 2025 | Ac felly y cewch chi wybod |
| (0, 15) 2026 | o ble mae'r baedd yn dyfod, |
| (0, 15) 2027 | a phwy ydiw'r baedd hefyd, |
| (0, 15) 2028 | fel y mae hen lyfre yn doedyd. |
| (0, 15) 2029 | ~ |
| (0, 15) 2030 | Diane, hon sy mewn digofaint mawr a diclloni |
| (0, 15) 2031 | wrth Roegwyr ar achos am na aberthen iddi, |
| (0, 15) 2032 | a phan welodd y dduwies y llyn yma ei dirmygu, |
| (0, 15) 2033 | hi a fagodd greulondeb ac a weithiodd drygioni. |
| (0, 15) 2034 | Trwy faedd creulon ffyrnig |
| (0, 15) 2035 | yn gimyn ac ych pascedic; |
| (0, 15) 2036 | hwn yw distriwio ei gwinydd, |
| (0, 15) 2037 | ei hyde a'i perllanwydd. |
| (0, 15) 2038 | ~ |
| (0, 15) 2039 | I ladd y baedd yma, fo goded pobl lawer; |
| (0, 15) 2040 | y mysg y rhain, fo ddoeth arglwydd Meleager. |
| (0, 15) 2041 | Hwn oedd yn cari rhyw ferch lan, anianol, |
| (0, 15) 2042 | hon oedd yn aros yn y wlad yn wastadol. |
| (0, 15) 2043 | I'r baedd y doeth gwrthwyneb |
| (0, 15) 2044 | trwy nerth a grym gwroldeb; |
| (0, 15) 2045 | y baedd ei hun a laddodd, |
| (0, 15) 2046 | a'i ben i hon a hebryngodd. |
| (0, 15) 2047 | ~ |
| (0, 15) 2048 | A'r baedd hwn sy'n arwyddo Diomedes mab Tideus; |
| (0, 15) 2049 | hwn sy'n dowod o Feleager fel y clywsoch, Troelus. |
| (0, 15) 2050 | Ble bynnag y mae Cresyd, dy arglwyddes anwyl dithe, |
| (0, 15) 2051 | mae hi yn eiddo Diomedes, a Diomedes yn ei heiddo hithe. |
| (0, 15) 2052 | Hawdd y gelli fynd yn drymgla |
| (0, 15) 2053 | allan o ddadl yw hyn yma; |
| (0, 15) 2054 | Diomed sy'n ei meddwl yr owran |
| (0, 15) 2055 | a thithe, Troelus, y sydd allan. |