| (0, 2) 53 | Trwm. A! Rhy drwm yw'r meddwl |
| (0, 2) 54 | sydd i'm calon mal swmbwl, |
| (0, 2) 55 | nis gad i mi na huno |
| (0, 2) 56 | nac esmwythdra i beidio. |
| (0, 2) 57 | ~ |
| (0, 2) 58 | Pwy allai fod yn llawen |
| (0, 2) 59 | a fai'n trin y fath fargen, |
| (0, 2) 60 | heb wybod beth sydd orau, |
| (0, 2) 61 | ai mynd, ai trigo gartre? |
| (0, 2) 62 | ~ |
| (0, 2) 63 | Fy ngwlad yw gwlad yr Asia, |
| (0, 2) 64 | fy nhrigfan sy yn nhref Troea, |
| (0, 2) 65 | fy ngheraint, fy nghymdeithion |
| (0, 2) 66 | a'm holl annwyl garedigion, |
| (0, 2) 67 | y nhw a minnau o'r untu |
| (0, 2) 68 | yn yr unfan yn gwladychu. |
| (0, 2) 69 | ~ |
| (0, 2) 70 | Mae'r byd yn chwerthin arna i! |
| (0, 2) 71 | Oni ddaw help mewn amser |
| (0, 2) 72 | fe aeth hyn i gyd yn ofer! |
| (0, 2) 73 | ~ |
| (0, 2) 74 | Mae Groeg i gyd yn arfog, |
| (0, 2) 75 | wrth Droea mae'n llidiog. |
| (0, 2) 76 | Er gwroled ydyw Hector, |
| (0, 2) 77 | er gwyched ydyw Troelus, |
| (0, 2) 78 | a meibion brenin Piramus, |
| (0, 2) 79 | er bod dynion cyn wyched |
| (0, 2) 80 | yn nhref Troea ac a aned, |
| (0, 2) 81 | mae rhai o'r Groegwyr mor wychion |
| (0, 2) 82 | ag allai fod o ddynion, |
| (0, 2) 83 | a holl gryfdwr y rhyfel |
| (0, 2) 84 | yn siŵr yw'r cyfiawn afael. |
| (0, 2) 85 | ~ |
| (0, 2) 86 | Os aros a rhyfela |
| (0, 2) 87 | o blaid cenedl Troea |
| (0, 2) 88 | ac amddiffyn eu pechod |
| (0, 2) 89 | yn erbyn fy nghydwybod, |
| (0, 2) 90 | fe ddaw diwrnod o'r diwedd |
| (0, 2) 91 | y dygir yn llwyr y dialedd, |
| (0, 2) 92 | pan fyddo'r tân mor greulon |
| (0, 2) 93 | yn llosgi Troea dirion |
| (0, 2) 94 | a gwaed gwŷr yn aberoedd |
| (0, 2) 95 | yn llenwi ei holl ystrydoedd. |
| (0, 2) 96 | Ni cheir amser yno i fyfyr |
| (0, 2) 97 | beth sydd orau i wneuthur. |
| (0, 2) 98 | ~ |
| (0, 2) 99 | Os gwrthod fy nghrediniaeth, |
| (0, 2) 100 | fy ngwlad, fy mraint, fy nghoweth, |
| (0, 2) 101 | fy ngheraint, fy nghyndeithion, |
| (0, 2) 102 | a myned at y gelynion, |
| (0, 2) 103 | beth a ddoedir amdana |
| (0, 2) 104 | ond 'ffalster ai difetha?' |
| (0, 2) 105 | Ar Groecwyr a ddoedan |
| (0, 2) 106 | "siomes ei wlad ei hunan, |
| (0, 2) 107 | Bydd diau im syn innau |
| (0, 2) 108 | os rhown goel arno yntau." |
| (0, 2) 109 | ~ |
| (0, 2) 110 | Ac or achos hyn yma |
| (0, 2) 111 | ar Apollo mi hydera; |
| (0, 2) 112 | Ar pethau a orchymyn |
| (0, 2) 113 | rho fy mryd ar i galyn. |
| (0, 2) 114 | ~ |
| (0, 2) 115 | Sinon, cyrch di i mi |
| (0, 2) 116 | ddŵr gloyw yr aberthu, |
| (0, 2) 117 | a dwc yma ffiledi |
| (0, 2) 118 | i gwmpasu yr allorau; |
| (0, 2) 119 | Bid ffrancwmsens yn barod, |
| (0, 2) 120 | cymysg y rhain a'r wermod; |
| (0, 2) 121 | Gole di y tân ynddyn |
| (0, 2) 122 | a does ymaith oddi wrthyn. |
| (0, 2) 123 | ~ |
| (0, 2) 124 | Y mae yma eisie |
| (0, 2) 125 | ydafedd o dri lliwie. |
| (0, 2) 126 | Mae Apolo yn llawenychu |
| (0, 2) 127 | yn y rhod rhifedy. |
| (0, 2) 128 | Apolo, beth sydd orau — |
| (0, 2) 129 | ai mynd ai trigo gartre? |
| (0, 2) 130 | ~ |
| (0, 2) 131 | Apolo, fo drodd dy ateb |
| (0, 2) 132 | y lleuad yw gwrthwyneb; |
| (0, 2) 133 | A thryddod ti, Apolo, |
| (0, 2) 134 | yr oedd Syrse yn gweithio. |
| (0, 2) 135 | Apolo, beth sydd orau — |
| (0, 2) 136 | ai mynd ai trigo gartre? |
| (0, 2) 137 | Trwyddod ti y cafodd hefyd |
| (0, 2) 138 | Medea i holl gyfrwyddyd; |
| (0, 2) 139 | Trwyddod ti y cafodd Enon |
| (0, 2) 140 | wybodaeth ac arwyddion; |
| (0, 2) 141 | A thrwyddot ti mae Cassandra |
| (0, 2) 142 | yn profwydo i Droya. |
| (0, 2) 143 | ~ |
| (0, 2) 144 | Apolo, beth sydd orau — |
| (0, 2) 145 | ai mynd ai trigo gartre? |
| (0, 2) 146 | Ti a droist yr afonydd |
| (0, 2) 147 | yn gwrthwyneb y gelltydd; |
| (0, 2) 148 | Ti a wnaethost y mor, Apolo, |
| (0, 2) 149 | heb na llenwi ne threio. |
| (0, 2) 150 | ~ |
| (0, 2) 151 | Apolo, pwy un a ddinystrir, |
| (0, 2) 152 | ai yr Troeaid ai'r Groegwyr? |
| (0, 5) 1007 | Gwybyddwch, f'arglwyddi, mai Troean y'm genedigaeth; |
| (0, 5) 1008 | gwybyddwch mai myfi a ddwg i chwi gyntaf oruchafiaeth; |
| (0, 5) 1009 | gwybyddwch mai myfi yw'r arglwydd Calchas, |
| (0, 5) 1010 | yn eich holl flinder a wnaeth i chwi urddas. |
| (0, 5) 1011 | Mi a fum yn proffwydo |
| (0, 5) 1012 | bob amser i'ch cysuro |
| (0, 5) 1013 | y dinistriech chwi â rhyfel |
| (0, 5) 1014 | tref Troea cyn ymadael. |
| (0, 5) 1015 | ~ |
| (0, 5) 1016 | Deuthum fy hun atoch mewn malais |
| (0, 5) 1017 | i roddi i chwi fy holl gyngor a'm dyfais, |
| (0, 5) 1018 | heb edrych unwaith am ddim ar a wyddoch |
| (0, 5) 1019 | ond rhoddi i gyd fy ymddiried ynddoch. |
| (0, 5) 1020 | Y cwbwl i gyd y gollais |
| (0, 5) 1021 | o fewn Troea ar a feddais; |
| (0, 5) 1022 | diwgyn gennyf, trwy feddwl, |
| (0, 5) 1023 | er eich mwyn chwi, golli'r cwbwl. |
| (0, 5) 1024 | ~ |
| (0, 5) 1025 | Pan fum yn aberthu i Apolo ddiwaetha, |
| (0, 5) 1026 | o'r rhyfel gofynais a'i ateb oedd hyn yma: |
| (0, 5) 1027 | fod y "dialedd yn agos ar ddigwyddo iddi" — |
| (0, 5) 1028 | hyn a wn hefyd trwy reol Astronomi — |
| (0, 5) 1029 | y bydd tân a gwreichion |
| (0, 5) 1030 | dros Droea yn greulon, |
| (0, 5) 1031 | a'r dialedd hyn sydd agos, |
| (0, 5) 1032 | cyn pen y nawfed wythnos. |
| (0, 5) 1033 | ~ |
| (0, 5) 1034 | Hefyd mae Neptun a Ffebws, y duwiau |
| (0, 5) 1035 | y rhain a wnaeth o bobtu y caerau, |
| (0, 5) 1036 | yn ddicllon iawn wrth genedl Troea, |
| (0, 5) 1037 | oblegid hyn bydd haws eu difetha. |
| (0, 5) 1038 | Oherwydd nas talent |
| (0, 5) 1039 | i rhain y pethau a ddylent, |
| (0, 5) 1040 | caerau hon a losgir |
| (0, 5) 1041 | a'i phobl a distrywir. |
| (0, 5) 1042 | ~ |
| (0, 5) 1043 | Ond unferch, hon yn wirion, gartref a adewais |
| (0, 5) 1044 | (pan gollais i o Droea) yn ei gwely'n ddifalais. |
| (0, 5) 1045 | Annaturiol dad a chreulon iddi oeddwn, |
| (0, 5) 1046 | hon gyda mi yn ei huncrys nas dygaswn. |
| (0, 5) 1047 | Gan hiraeth a gofalon |
| (0, 5) 1048 | a hir ddygais i'm calon |
| (0, 5) 1049 | nis gallaf, fy arglwyddi, |
| (0, 5) 1050 | yr owran mo'r byw hebddi. |
| (0, 5) 1051 | ~ |
| (0, 5) 1052 | Llawer yr owran o garcharwyr a ddalied |
| (0, 5) 1053 | o'r Troeans - mae'r rhain mewn mawr gaethiwed. |
| (0, 5) 1054 | Pes cawn un o'r rhain yma i gyfnewid |
| (0, 5) 1055 | â brenin Priaf am fy unferch Cresyd: |
| (0, 5) 1056 | atolwg i mi gaffael |
| (0, 5) 1057 | un o'r rhain yn fy ngafael |
| (0, 5) 1058 | a deisyf cael Antenor - |
| (0, 5) 1059 | hwn nid hawdd mo'i hepgor. |
| (0, 9) 1755 | Fy mendith i ti a ffyno, f'anwylyd a'm un llygad; |
| (0, 9) 1756 | nis cysgaith noswaith ddiofal gan ofal mawr amdanad. |
| (0, 9) 1757 | A flinaist yn dyfod yma? |
| (0, 9) 1758 | Mae'r newyddion o Droea |
| (0, 9) 1759 | nad ydynt hwy ond aros |
| (0, 9) 1760 | y gwrthwyneb sydd yn agos. |