| (0, 1) 524 | Wel, wel, wel! |
| (0, 1) 525 | Edrychwch pwy sydd yma ar ei ben ei hun, |
| (0, 1) 526 | Fel meudwy'n dwys-fyfyrio, |
| (0, 1) 527 | A mud-edmygu, heb anadlu bron, |
| (0, 1) 528 | Annisgrifiadwy harddwch bawd ei droed! |
| (0, 1) 529 | A darllen ystyr holl gyfrinach |
| (0, 1) 530 | Bod Yng ngwyrthiol ffurf ei fotwm-bol! |
| (0, 1) 531 | Beth am fynd ato fo i dynnu dipyn ar ei goes |
| (0, 1) 532 | A'i slensio i ddweud pa anturiaethau gwyllt |
| (0, 1) 533 | A gafodd yn ddiweddar! |
| (0, 1) 534 | ~ |
| (0, 1) 535 | Wedi'r cyfan |
| (0, 1) 536 | Dydi o ddim run fath â phawb: mae'n rhaid |
| (0, 1) 537 | Rhoi rhywfaint bach o ryddid i ddychymyg byw |
| (0, 1) 538 | Creadur od fel hwn, a fydd rhyw ddiwrnod — pwy a ŵyr ─ |
| (0, 1) 539 | Yn wleidydd, yn olygydd papur-newydd, |
| (0, 1) 540 | Neu yn fardd! |
| (0, 1) 541 | ~ |
| (0, 1) 542 | Dydd da iti, Jonah, |
| (0, 1) 543 | Sut mae'r hwyl? Mae wythnos, bellach, wedi mynd |
| (0, 1) 544 | A minnau heb dy gwmni. Ble buost ti? |
| (0, 1) 545 | Pa ryfeddodau welaist ti'r tro hwn |
| (0, 1) 546 | Ar lethrau serth y clogwyn? Gad'inni glywed; |
| (0, 1) 547 | Mae yma, fel y gweli, gynulleidfa gref, |
| (0, 1) 548 | Pob un ohonom bron â thorri 'i fol |
| (0, 1) 549 | I rannu dy gyfrinach! |
| (0, 1) 561 | Gorchest fawr oedd honno, Jonah; paid â dweud iti gyflawni un a oedd yn fwy! |
| (0, 1) 572 | Gwarchod pawb! Wel, glywsoch chi! Mae honna'n ddawn |
| (0, 1) 573 | Tu hwnt i bob dirnadaeth! Gad inni glywed mwy! |
| (0, 1) 584 | Faint, Jonah? |
| (0, 1) 585 | Faint? |
| (0, 1) 597 | Roedd hynna'n antur hynod! Oedd yn wir! |
| (0, 1) 598 | Paid â bod yn wylaidd. Jonah, gad inni glywed mwy. |
| (0, 1) 603 | Faint, Jonah, faint? |
| (0, 1) 631 | Wel, wel, mae'n anodd gwybod beth i' ddweud yn iawn, |
| (0, 1) 632 | Ar ôl y fath adroddiad. Fe hoffem ofyn felly ─ |
| (0, 1) 633 | Heb awgrymu dim, — a wyt ti, tybed, yn gorliwio? |
| (0, 1) 685 | Proffwyd! Proffwyd! Mae Jonah bach yn Broffwyd! |
| (0, 1) 686 | Cryned y mynyddoedd: dychryned y moroedd: |
| (0, 1) 687 | Arswyded holl genhedloedd y ddaear, |
| (0, 1) 688 | Mae Jonah bach yn Broffwyd! |
| (0, 1) 689 | Chwi ehediad y nefoedd: chwi bysgod y môr, |
| (0, 1) 690 | Chwi fwystfilod ac ymlusgiaid oll, |
| (0, 1) 691 | Dowch ac ymgrymwch mewn parchus ofn |
| (0, 1) 692 | I Jonah bach y Proffwyd! |
| (0, 1) 693 | Jonah bach y Proffwyd! |
| (0, 1) 701 | Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah! |
| (0, 1) 704 | Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah! |
| (0, 1) 707 | Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah! |
| (0, 1) 710 | Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah! |
| (0, 1) 711 | Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah! |
| (0, 1) 712 | JONAH! |