| (1, 1) 714 | On'd dedwydd a godidog |
| (1, 1) 715 | Yw gweithred gwr cywaethog ' |
| (1, 1) 716 | Cysgod crefydd, gwisgiad cry', |
| (1, 1) 717 | Sy'n hardd fantellu'r tyllog. |
| (1, 1) 718 | Peth dawnus yn mhlith dynion, |
| (1, 1) 719 | Yw enw crefydd union, |
| (1, 1) 720 | Ac anrhydeddus barchus bur, |
| (1, 1) 721 | Wrth agwedd gwyr cwaethogion; |
| (1, 1) 722 | Nid yw'r tlodedd daeredd dôn |
| (1, 1) 723 | Ond gwirion a digariad; |
| (1, 1) 724 | Yr iawn arianog enwog wr, |
| (1, 1) 725 | Gaiff wrando'n siwr ei siarad, |
| (1, 1) 726 | Dyna'r dyn trwy |honour| da, |
| (1, 1) 727 | Mae'r mawredd a'r cymeriad; |
| (1, 1) 728 | Mewn |society| a phob swydd, |
| (1, 1) 729 | Mae'n ddedwydd a ddywedo, |
| (1, 1) 730 | Ac yn y purdan gan y Pab |
| (1, 1) 731 | Fe guddir mab ag eiddo; |
| (1, 1) 732 | Yr arian s'yn goreuro swydd, |
| (1, 1) 733 | Gwna i gelwydd gael ei goelio. |
| (1, 1) 734 | ~ |
| (1, 1) 735 | Nid buddiol cydnabyddiaeth |
| (1, 1) 736 | A'r gweiniaid yn eu gweniaeth, |
| (1, 1) 737 | Os can' nhwy'i cynwys, a'n o'u co' |
| (1, 1) 738 | I ffals ymrwbio am rywbeth, |
| (1, 1) 739 | Mae'n rhaid i ddyn pwerus |
| (1, 1) 740 | Fyw'n filain a gofalus, |
| (1, 1) 741 | A rheswm |short|, a golwg sur, |
| (1, 1) 742 | Yn nghanol gwyr anghenus. |
| (1, 1) 743 | Mae'n calonau ni'n yn mhob man |
| (1, 1) 744 | Yn c'ledu o ran ein clydwch, |
| (1, 1) 745 | Talcen putain i ni sydd |
| (1, 1) 746 | Heb arwydd c'wilydd, coeliwch, |
| (1, 1) 747 | A wyneb pres rhag anhap bri, |
| (1, 1) 748 | Yw'n hurddas ni a'n harddwch, |
| (1, 1) 749 | Tebyg ydym ni wrth ein chwant |
| (1, 1) 750 | Heb fethiant i'r lefiathan, |
| (1, 1) 751 | Fe 'sgydwa'i ben, fe chwardd yn bur, |
| (1, 1) 752 | Ar bicell ddur neu darian, |
| (1, 1) 753 | Ac felly ninau, swyddau serth, |
| (1, 1) 754 | Oherwydd nerth ein harian. |
| (1, 1) 855 | Tosturus ydyw ystyried, |
| (1, 1) 856 | Wrth weled anferth wall; |
| (1, 1) 857 | A'r gofid byd sy'n gwasgu, |
| (1, 1) 858 | 'Mron llethu hwn a'r llall, |
| (1, 1) 859 | I b'le troir, na b'o bloedd trwst; |
| (1, 1) 860 | Ac anian ffrwst, rhyw gwynion ffraeth, |
| (1, 1) 861 | A dynol blant yn dynn eu bloedd, |
| (1, 1) 862 | Eu bod yn g'oedd a'u byd yn gaeth, |
| (1, 1) 863 | Prudd, prudd, gwae anfon swn gofidiau sydd, |
| (1, 1) 864 | Yn gas o ran, gwir eisiau 'mroi; |
| (1, 1) 865 | Am rym i ffoi dan rwymau ffydd, |
| (1, 1) 866 | P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'? |
| (1, 1) 867 | Cheir odid beth, o ryddid byd, |
| (1, 1) 868 | Heb gadwyn gofid gyda e'. |
| (1, 1) 869 | ~ |
| (1, 1) 870 | Gofidus byw dan rwymau, |
| (1, 1) 871 | Gofidus bod yn rhydd, |
| (1, 1) 872 | Gofidus nos mewn gwely, |
| (1, 1) 873 | Gofidus ganol ddydd, |
| (1, 1) 874 | Mae gofid blin yn gafod bleth, |
| (1, 1) 875 | Wrth dalu treth neu ddilyn trâd, |
| (1, 1) 876 | I dori dyn ar dir a dwr, |
| (1, 1) 877 | Mae mawr ystwr ymhob rhyw stâd. |
| (1, 1) 878 | Blin, blin, gofidiau traws, gwael fod eu trin, |
| (1, 1) 879 | Eu pwyth sy'n bwys 'mhob peth sy'n bod, |
| (1, 1) 880 | Trwy |riwl| y rhod, trwy'r haul a'r hin, |
| (1, 1) 881 | P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'? |
| (1, 1) 882 | Cheir odid beth o ryddid byd, |
| (1, 1) 883 | Heb gadwyn gofid gydag e'. |
| (1, 1) 884 | ~ |
| (1, 1) 885 | Mae gofid yn y plentyn, |
| (1, 1) 886 | Mae gofid yn y fam, |
| (1, 1) 887 | Mae gofid mewn rhieni, |
| (1, 1) 888 | Mae cyni lawer cam. |
| (1, 1) 889 | Gofidiau'r byd, anfeidrol bwys, |
| (1, 1) 890 | Raid ddiodde'n ddwys o ddydd i ddydd, |
| (1, 1) 891 | Gofidiau maith yw'n iaith a'n tôn, |
| (1, 1) 892 | A gresyn son am groesau sydd— |
| (1, 1) 893 | Briw, briw sy'n dynn ar elfen dynolryw, |
| (1, 1) 894 | Gofidiau crych trwy'r cnawd a'r croen, |
| (1, 1) 895 | Mewn amryw boen 'ry'm ni yma'n byw, |
| (1, 1) 896 | P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'i |
| (1, 1) 897 | Cheir odid beth o ryddid byd, |
| (1, 1) 898 | Heb gadwyn gofid gydag e'. |
| (1, 1) 899 | ~ |
| (1, 1) 900 | Heblaw'r allanol ofid, |
| (1, 1) 901 | Sy'n llid rhwng nef a llawr, |
| (1, 1) 902 | Gofidiau syn olynol, |
| (1, 1) 903 | Tufewnol eto'n fawr, |
| (1, 1) 904 | Cydwybod flin a dibaid floedd, |
| (1, 1) 905 | Sy'n gwaeddi'n g'oedd, a'i gwaed yn gaeth; |
| (1, 1) 906 | Bu Suddas ffals, bu Esau ffol, |
| (1, 1) 907 | Bu Cain a Saul yn cwyno'i saeth, |
| (1, 1) 908 | Duw, Duw, a wnelo i bawb anelu byw, |
| (1, 1) 909 | Trwy gadw a'r draul cydwybod rydd, |
| (1, 1) 910 | Ond ê, ddaw'r dydd, bydd brudd y briw, |
| (1, 1) 911 | Ffydd gre'r creadur newydd eiff i'r ne'; |
| (1, 1) 912 | Fe dderfydd poen, fe dderfydd byd, |
| (1, 1) 913 | Fe dderfydd gofid gydag e'. |
| (1, 1) 1001 | O b'le mae'r holl ofidiau |
| (1, 1) 1002 | A'r plaau sydd yn ein plith? |
| (1, 1) 1003 | Ond 'ddiwrth yr aflan anian wyniau |
| (1, 1) 1004 | A'r melys chwantau chwith, |
| (1, 1) 1005 | Mae melldith barn cyfiawnder |
| (1, 1) 1006 | Yn egrarnom ni, |
| (1, 1) 1007 | Tra fo'm yn aros mewn anwiredd, |
| (1, 1) 1008 | Swn llygredd sarphaidd sy'. |
| (1, 1) 1009 | A rhaid yw deffro dyn |
| (1, 1) 1010 | I weled ei ddrwg wyn, |
| (1, 1) 1011 | Cyn delo mewn cwyn dilys, |
| (1, 1) 1012 | Fel mab afradlon gwarthus, |
| (1, 1) 1013 | Yn dlawd alarus lun. |
| (1, 1) 1014 | Rhaid gwasgu'r grawnion llawn, |
| (1, 1) 1015 | Cyn delo eu nodd yn iawn; |
| (1, 1) 1016 | Rhaid clwyfo cyn cael meddyg, |
| (1, 1) 1017 | 'Does ar yr iach diysig |
| (1, 1) 1018 | Mo'i ddiffyg ef na'i ddawn. |
| (1, 1) 1019 | ~ |
| (1, 1) 1020 | Fel hyn mae llais yr Arglwydd, |
| (1, 1) 1021 | A'i ddoeth berffeithrwydd ef, |
| (1, 1) 1022 | A'i faith ragluniaeth, wir ganlyniad, |
| (1, 1) 1023 | Yn alwad ini o'r nef; |
| (1, 1) 1024 | Dwfr, tân, a gwyntoedd creulon, |
| (1, 1) 1025 | Peryglon o bob rhyw, |
| (1, 1) 1026 | Sydd wrthddrych hynod ini ganfod |
| (1, 1) 1027 | Awdurdod gallu Duw: |
| (1, 1) 1028 | Pob profiad gallu prudd, |
| (1, 1) 1029 | Pob gofid serthfyd sydd, |
| (1, 1) 1030 | Yn rhywbeth fel o rybudd |
| (1, 1) 1031 | I'n galw ni at yr Arglwydd, |
| (1, 1) 1032 | Yn cael hoff arwydd ffydd, |
| (1, 1) 1033 | Os cawn ni nerth o'r nef |
| (1, 1) 1034 | I ymorphwys arno ef, |
| (1, 1) 1035 | Mewn gwir uniondeb gwaraidd |
| (1, 1) 1036 | Ni a gawn, ni a gawn ddigonedd, |
| (1, 1) 1037 | Yn groywaidd o'i law gref. |
| (1, 1) 1038 | ~ |
| (1, 1) 1039 | Ar bwy gorphwysodd Abel |
| (1, 1) 1040 | Yn ddirgel, ond ar Dduw; |
| (1, 1) 1041 | Ac Enoc hefyd, enw cyfion, |
| (1, 1) 1042 | Ga'dd foddion ganddo i fyw; |
| (1, 1) 1043 | Ffydd ffyddlon yn 'raddewid |
| (1, 1) 1044 | Oedd hyfryd i Abraham, |
| (1, 1) 1045 | Ei groes ragluniaeth a ganlynodd, |
| (1, 1) 1046 | Nis gwyrodd naws ei gam; |
| (1, 1) 1047 | Boddloni ar lwybrau ffydd |
| (1, 1) 1048 | Yw'r gylfaen benaf sydd; |
| (1, 1) 1049 | Ymddiried yn yr Arglwydd |
| (1, 1) 1050 | 'Roedd Moses, Job, a Dafydd, |
| (1, 1) 1051 | Trwy'r prawf a'r cystudd prudd; |
| (1, 1) 1052 | O! ryfedd, ryfedd ras, |
| (1, 1) 1053 | Uwchlaw pob gofid cas, |
| (1, 1) 1054 | Trwy gael boddlondeb goleu, |
| (1, 1) 1055 | Gwell pryd o ddail na seigiau |
| (1, 1) 1056 | O gigau breintiau bras. |
| (1, 1) 1057 | ~ |
| (1, 1) 1058 | Yn mha rhyw gyflwr bynag, |
| (1, 1) 1059 | Medd Apostol dinag Duw, |
| (1, 1) 1060 | Tan bob helbulon gofid calon, |
| (1, 1) 1061 | Mi ddysgais foddlon fyw; |
| (1, 1) 1062 | Boddlondeb ffydd, a hyder, |
| (1, 1) 1063 | Bydd ddoethder mawr i ddyn, |
| (1, 1) 1064 | A gweddi fywiol, dduwiol, ddiwad, |
| (1, 1) 1065 | Â'r teimlad yn gyttun; |
| (1, 1) 1066 | Os croes yw'n hoes o hyd, |
| (1, 1) 1067 | Gan bwys gofidiau'r byd, |
| (1, 1) 1068 | Boddlonwn yn yr Arglwydd, |
| (1, 1) 1069 | Cawn adael heibio'n ebrwydd |
| (1, 1) 1070 | Y byd a'i dramgwydd drud; |
| (1, 1) 1071 | Cynaliodd Duw mewn gwên, |
| (1, 1) 1072 | Y tlawd a'i blawd a'i 'sten, |
| (1, 1) 1073 | Gweddiwn am gael profiad |
| (1, 1) 1074 | O'i gerydd yn ei gariad, |
| (1, 1) 1075 | A'i ymweliad i ni, Amen. |
| (1, 1) 1160 | Chwychwi wragedd lygredd lun, |
| (1, 1) 1161 | Bydd a'u gwyn am ga'lyn golud; |
| (1, 1) 1162 | Mawr yw'ch rhyfyg yn mhob rhyw, |
| (1, 1) 1163 | Yn rhwyldaidd i'w gyrhaeddyd; |
| (1, 1) 1164 | Cym'rwch siampl ddyfal ddefod, |
| (1, 1) 1165 | O ran mae'ch einioes mewn och! hynod, |
| (1, 1) 1166 | Achwyn dirfawr, i chwi'n darfod. |
| (1, 1) 1167 | 'Roedd hon yn ddynes anian ddoniau, |
| (1, 1) 1168 | A gogoniant iddi gyneu, |
| (1, 1) 1169 | Ni fedd hi yma rwan ddimau. |
| (1, 1) 1170 | ~ |
| (1, 1) 1171 | Hi aeth o'r byd mae'n chwith i'w bol, |
| (1, 1) 1172 | Am lawn ddigonol giniaw; |
| (1, 1) 1173 | A chan na ddaw hi fyth yn ol, |
| (1, 1) 1174 | Mae'n drwm i Rondol wrando; |
| (1, 1) 1175 | Clywed cwyniad c'leta cynen, |
| (1, 1) 1176 | A llais ehodiad llaes eu haden, |
| (1, 1) 1177 | Taera dim o'r ty i'r domen, |
| (1, 1) 1178 | Chwerw gwaedd y moch a'r gwyddau, |
| (1, 1) 1179 | A'r hwyaid anwyl aeth yn deneu; |
| (1, 1) 1180 | Ow golli Sian, mae gwall i'w 'senau, |
| (1, 1) 1181 | ~ |
| (1, 1) 1182 | Mae'r lloiau bach yn brefu'n gaeth, |
| (1, 1) 1183 | A'r buchod llaeth yn beichio, |
| (1, 1) 1184 | A'r gaseg farchnad, goesreg fwyn, |
| (1, 1) 1185 | Mae hynod gwyn gan hono. |
| (1, 1) 1186 | Och! o'r achos ni cha'r ychen, |
| (1, 1) 1187 | Na'r wyn llywaeth, awr yn llawen, |
| (1, 1) 1188 | Ond eu gwarchae heb odid gyrchen, |
| (1, 1) 1189 | Ni waeth pe dryllid yr hen droellau, |
| (1, 1) 1190 | Fe dorwyd calon troad chwiliau, |
| (1, 1) 1191 | Nerth y gweuoedd aeth o'i couau, |
| (1, 1) 1192 | ~ |
| (1, 1) 1193 | Oer yw'r aelwyd arw nith, |
| (1, 1) 1194 | Mae dwned chwith am dani; |
| (1, 1) 1195 | I'r cwn a'r cathod cethin floedd, |
| (1, 1) 1196 | Awch wallus oedd ei cholli; |
| (1, 1) 1197 | Ac ni chai llygod byth mo'u llwgu, |
| (1, 1) 1198 | Hi gadwa'r yd i gyd i fraenu |
| (1, 1) 1199 | Heibio'n warthus heb ei werthu, |
| (1, 1) 1200 | A'r tylodion, hwy hi a'a lediai, |
| (1, 1) 1201 | Ni roi hi damaid ond i'w ffrindiau, |
| (1, 1) 1202 | Newydd iddi hi fydd dioddeu, |
| (1, 1) 1660 | Ieuengctyd ffri, gwmpeini per, |
| (1, 1) 1661 | Sy'n caru ofer bleser blysig, |
| (1, 1) 1662 | Ac yn dilyn unig daith, |
| (1, 1) 1663 | Naturiaeth ry faith ryfyg; |
| (1, 1) 1664 | Ond er fod rhyddid yn eich rhan, |
| (1, 1) 1665 | Chwi ddylech wiwlan gyfan gofio, |
| (1, 1) 1666 | 'R erdeiniodd doeth Greawdwr dyn, |
| (1, 1) 1667 | Yn addas derfyn iddo, |
| (1, 1) 1668 | Ond pob creadur eglur hyglod, |
| (1, 1) 1669 | Ych a'r asyn wedi eu gosod, |
| (1, 1) 1670 | Sy'n troi tan wybr gan adnabod, |
| (1, 1) 1671 | Gallu defod, gwell na dyn: |
| (1, 1) 1672 | Mae hyny'n g'wilydd i ni'n gwyn, |
| (1, 1) 1673 | Y moch a'r ceirw, a'r meirch o'u cyrau, |
| (1, 1) 1674 | Ehediad awyr, hyder diau |
| (1, 1) 1675 | A edwyn fanoedd en terfynau, |
| (1, 1) 1676 | Naturiaeth ffrwythau, |
| (1, 1) 1677 | Maent oll i'w nod yn well na ni. |
| (1, 1) 1678 | ~ |
| (1, 1) 1679 | Ond ydyw'n dost mor ddrwg yw dyn, |
| (1, 1) 1680 | A Duw ei hun wedi ei wahanu, |
| (1, 1) 1681 | I wneud yn wir, ar nod y nef, |
| (1, 1) 1682 | Ei ewyllys ef a'i allu? |
| (1, 1) 1683 | Gosodwyd bywyd ger ein bron, |
| (1, 1) 1684 | Ac am fyw'n waelion—mae marwolaeth, |
| (1, 1) 1685 | A dewis marw'r y'm ni'n llwyr, |
| (1, 1) 1686 | Ddisynwyr, trwy'r gwasanaeth: |
| (1, 1) 1687 | Dewis pechod, nod anhydyn, |
| (1, 1) 1688 | Sydd a marwolaeth yn ei ddilyn: |
| (1, 1) 1689 | Y siwgwr chwant mae cant yn derbyn, |
| (1, 1) 1690 | Eithaf gwenwyn gwarth a chnawd, |
| (1, 1) 1691 | Ac byth eu cnoi am borthi cnawd. |
| (1, 1) 1692 | Rhyfeddol amlwg mor ddideimlad, |
| (1, 1) 1693 | Wawd anmarchus, ydyw merched, |
| (1, 1) 1694 | A maint sy' o siamplau goleu gweled, |
| (1, 1) 1695 | O rai wnai fyned yn rhy fall |
| (1, 1) 1696 | Mewn gafael Gofid gwendid gwall. |
| (1, 1) 1697 | ~ |
| (1, 1) 1698 | Os dianc meibion am ryw hyd, |
| (1, 1) 1699 | 'Rych chwi'n y Gofid, o ran gafael, |
| (1, 1) 1700 | Fel llawer meinwen, gangen gu, |
| (1, 1) 1701 | A ga'dd ei nesu'n isel. |
| (1, 1) 1702 | C'wilyddio'ch wyneb, aflwydd chwith, |
| (1, 1) 1703 | Wrth fyn'd i blith pob rhith o ddynion, |
| (1, 1) 1704 | A'ch ffryndiau llon oedd gynt gerllaw, |
| (1, 1) 1705 | Dry gwegil draw yn goegion; |
| (1, 1) 1706 | A'ch hen gariadau, eiriau oerwedd, |
| (1, 1) 1707 | Wrth eich pasio'n codi bysedd, |
| (1, 1) 1708 | A chodlant siarad chwedlau guredd, |
| (1, 1) 1709 | Afiach agwedd, ar eich ol, |
| (1, 1) 1710 | I'ch poeni'n ddwys, a'ch pen yn ddol |
| (1, 1) 1711 | Ac heblaw'r cwbwl, drwbwl driban, |
| (1, 1) 1712 | A faeddo'r-bobl, fe ddaw'r baban; |
| (1, 1) 1713 | Dyna'r ergyd, Gofid gyfan, |
| (1, 1) 1714 | Chwi fyddwch truan, bron eich tranc, |
| (1, 1) 1715 | Mewn galar llwyr am goelio'r llanc. |
| (1, 1) 1716 | ~ |
| (1, 1) 1717 | A gwaeth na'i goelio, gwythen gas, |
| (1, 1) 1718 | Os cym'ra'n fas y gwnes ei goesau, |
| (1, 1) 1719 | A'ch gadael chwithau, gwyrthiau gwan, |
| (1, 1) 1720 | I'ch pwnio tan eich poenau. |
| (1, 1) 1721 | Cwyd y plwyf rhag cadw plant, |
| (1, 1) 1722 | A heliant |warrant| helynt oeredd; |
| (1, 1) 1723 | Mae amryw |blag| a Gofid blin |
| (1, 1) 1724 | O drin a dilyn dialedd. |
| (1, 1) 1725 | Hwn yw'r pechod, hynod hanes, |
| (1, 1) 1726 | Dechreu dychryn dyn a dynes; |
| (1, 1) 1727 | Mae amryw leidr a lladrones |
| (1, 1) 1728 | Oddiwrth y |business| yma'n bod, |
| (1, 1) 1729 | Mewn gwallau'r clwyf yn colli clod; |
| (1, 1) 1730 | Ac amryw'n dilyn cam-dystiolaeth, |
| (1, 1) 1731 | Hyll afrywddaidd, a llofruddiaeth, |
| (1, 1) 1732 | I geisio cuddio'u llygredigaeth, |
| (1, 1) 1733 | Anian bariaeth yn y byd, |
| (1, 1) 1734 | Er na phery hyny o hyd, |
| (1, 1) 1735 | Meddyliwch oll o ddilyn chwant, |
| (1, 1) 1736 | Os rhai a ddihangant yn ddihangol, |
| (1, 1) 1737 | Rhaid i'r sawl sy'n tramwy'r farn |
| (1, 1) 1738 | Agweddu barn drag'wyddol. |
| (1, 1) 1739 | Nid ydyw gwatwar, gleber gwlad, |
| (1, 1) 1740 | Na dim siarad ond amserol, |
| (1, 1) 1741 | Wrth waedd cydwybod ddrwg e' rhan |
| (1, 1) 1742 | A phoenau anorphenol. |
| (1, 1) 1743 | Gan hyny ieuenctid ahyddid rhodus, |
| (1, 1) 1744 | Meibion, merched, nid anmharchus, |
| (1, 1) 1745 | I chwi ystyried yn dosturi, |
| (1, 1) 1746 | Wyliadwrus waelod iawn, |
| (1, 1) 1747 | Rhag myn'd i'r llid o'r mwynder llawn; |
| (1, 1) 1748 | Ni cheir y melus heb y chwerw; |
| (1, 1) 1749 | Dull doe'n ol nid eill dyn alw. |
| (1, 1) 1750 | Ceisiwn heddwch cyson heddyw, |
| (1, 1) 1751 | Y fory'n feirw gallwn fod, |
| (1, 1) 1752 | Heb obaith newid byth y nod. |
| (1, 1) 2216 | Dyn anwyd i flinder dan boender dibaid', |
| (1, 1) 2217 | Fel yr 'heda'r wreichionen i'r nen ar ei naid: |
| (1, 1) 2218 | Gwagedd o wagedd, a llygredd sy'n llym, |
| (1, 1) 2219 | A'r byd a'i holl dreigliad yn dwad i'r dim. |
| (1, 1) 2220 | ~ |
| (1, 1) 2221 | O'r pedair elfenau fe greai Dduw'n grych, |
| (1, 1) 2222 | Fyd, a phob creadur a welir yn wych; |
| (1, 1) 2223 | Felly mae diwedd holl agwedd byd llym, |
| (1, 1) 2224 | Yn rhedeg i'w elfen, a'i ddyben i ddim. |
| (1, 1) 2225 | ~ |
| (1, 1) 2226 | O! fel mae troell natur tra eglur yn troi, |
| (1, 1) 2227 | Damweiniau trwy arfaeth rhagluniaeth'n ymgloi; |
| (1, 1) 2228 | Fel olwyn mewn olwyn manylaidd ei grym, |
| (1, 1) 2229 | A'u troion oyfanedd yn diwedd i'r dim. |
| (1, 1) 2230 | ~ |
| (1, 1) 2231 | Mae son am hen dadau fel blodau fu o'r blaen, |
| (1, 1) 2232 | Yn gefnog ardderchog, wyr enwog o raen; |
| (1, 1) 2233 | Y rhei'ny trwy rinwedd oedd ryfedd o rym, |
| (1, 1) 2234 | Er maint eu gogoniant hwy ddaethant i'r dim. |
| (1, 1) 2235 | ~ |
| (1, 1) 2236 | Bu'n hynod frenhinoedd â'u bloedd yn dra blin, |
| (1, 1) 2237 | Trwy rwysg a grymusder mewn trawsder yn trin |
| (1, 1) 2238 | Yn filain ryfelwyr trallodwyr tra llym, |
| (1, 1) 2239 | A'u rhyfyg a'u mawredd yn diwedd i'r dim. |
| (1, 1) 2240 | ~ |
| (1, 1) 2241 | Er cryfder a balchder hoff wychder byd ffol, |
| (1, 1) 2242 | Ni welir fawr elw'r dydd heddyw ar eu hol: |
| (1, 1) 2243 | Monachlogydd a chestyll gorchestol eu grym, |
| (1, 1) 2244 | Er cymaint y gorchwyl hwy gyrchwyd i ddim. |
| (1, 1) 2245 | ~ |
| (1, 1) 2246 | Nid oes i ddyn yma un rhodfa barhaus, |
| (1, 1) 2247 | Ond poen a gofidiau trwy foddau trofaus: |
| (1, 1) 2248 | Rhaid i ni gael cryfdwr Cregwdwr teg rym, |
| (1, 1) 2249 | A greodd y cyfan yn ddoethlan o ddim. |
| (1, 1) 2250 | ~ |
| (1, 1) 2251 | Rhaid felly'n cael ninau â'n c'lonau'n un clais, |
| (1, 1) 2252 | 'N afluniaidd wael anian wag druan rwyg drais; |
| (1, 1) 2253 | Ar dyfroedd diafraid o'n llygaid yn llym, |
| (1, 1) 2254 | Cawn Ysbryd Duw'n gweithio pan ddelom i ddim. |
| (1, 1) 2255 | ~ |
| (1, 1) 2256 | Tra f'o dyn yn gweled ei weithred yn wych, |
| (1, 1) 2257 | A'i serch arno'i hunan mewn anian ddinych, |
| (1, 1) 2258 | Ni ddichon gael bywyd o'r Ysbryd a'i rym, |
| (1, 1) 2259 | Nes byddo i'w ddyn pechod ef ddarfod i ddim. |
| (1, 1) 2260 | ~ |
| (1, 1) 2261 | I'r dim fel plant bychain, heb bechod na chas, |
| (1, 1) 2262 | Yn dlodion drylliedig, sychedig am ras, |
| (1, 1) 2263 | I adnabod a chredu gair Iesu'n gu rym, |
| (1, 1) 2264 | Amen yn dragywydd, ni dderfydd ef ddim. |