| (1, 2) 251 | Er dylai eto farw Hamlet ein |
| (1, 2) 252 | Hanwylaf frawd, fod yn ei cof yn îr, |
| (1, 2) 253 | A bod yn weddus iawn i ninau ddwyn |
| (1, 2) 254 | Ein tristwch ni a thristwch mawr ein gwlad |
| (1, 2) 255 | Yn gydgasgledig mewn un ael o wae; |
| (1, 2) 256 | Er hyn i gyd, â natur brwydrodd pwyll, |
| (1, 2) 257 | Fel y gwnawn ddoeth dristâu am dano ef, |
| (1, 2) 258 | Yn nghyd a chofio am ein lles ein hun. |
| (1, 2) 259 | Am hyny gynt ein chwaer, yn awr ein hoff |
| (1, 2) 260 | Frenines, a chydgyfranogydd o'r |
| (1, 2) 261 | Filwraidd a rhyfelgar deyrnas hon, |
| (1, 2) 262 | A gymerasom, megys gyda rhyw |
| (1, 2) 263 | Lawenydd tra hanerog,—gydag un |
| (1, 2) 264 | Chwerthinus lygad, ac un llygad gwlyb; |
| (1, 2) 265 | A llon ddigrifwch yn yr arwyl, ac |
| (1, 2) 266 | A galar-gân yn y briodas, gan |
| (1, 2) 267 | Gydbwyso'u mwyniant gyda'r alaeth oll,— |
| (1, 2) 268 | Yn wraig; ac yn hyn oll nì wnaethom ni |
| (1, 2) 269 | Yn groes i'ch mawr ddoethineb, yr hwn aeth |
| (1, 2) 270 | Yn rhwydd o blaid y pethau hynod hyn. |
| (1, 2) 271 | Ac am hynyna oll, ein diolch mawr. |
| (1, 2) 272 | Yn awr y canlyn, fel y gŵyr pob un, |
| (1, 2) 273 | Fod Fortinbras ieuengaidd gyda rhyw |
| (1, 2) 274 | Syniadau gwagsaw am ein breiniol werth; |
| (1, 2) 275 | Neu ynte 'n tybied fod eìn teyrnas ni |
| (1, 2) 276 | Bron ag ymddatod, neu mewn cywair drwg, |
| (1, 2) 277 | O achos marw ein hanwylaf frawd,— |
| (1, 2) 278 | A chan freuddwydio am y fantais fêdd, |
| (1, 2) 279 | Ni pheidiodd â llythyrau ein blino ni, |
| (1, 2) 280 | Gan erfyn arnom ro'i i fyny yr |
| (1, 2) 281 | Holl diroedd hyny gollwyd gan ei dad, |
| (1, 2) 282 | Trwy bob rhwym cyfraith i law'n dewraf frawd; |
| (1, 2) 283 | Hynyna am dano ef. Am danom ni, |
| (1, 2) 284 | Ac am ein cyfarfyddiad y pryd hwn, |
| (1, 2) 285 | Hyn ydyw 'r pwnc: yggrifenasom ni. |
| (1, 2) 286 | Yn awr, at Norway, ewythr Fortinbras,— |
| (1, 2) 287 | 'R hwn trwy anallu a gorweiddiog 'stâd, |
| (1, 2) 288 | Nis clyw ond prin beth yw bwriadau 'i nai,— |
| (1, 2) 289 | Fel gallom rwystro ei rodiad pellach ef; |
| (1, 2) 290 | Yn gymaint a bod yr holl drethi, a'r |
| (1, 2) 291 | Holl restrau, a'r llawn gyfraniadau 'n cael |
| (1, 2) 292 | Eu codi oll oddiar ei ddeiliaid ef:— |
| (1, 2) 293 | Ac yma gyrwn chwi, Cornelius dda, |
| (1, 2) 294 | A chwithau, Voltimand, i gludo ein |
| (1, 2) 295 | Hanerchiad hwn at Norway hen, heb ro'i |
| (1, 2) 296 | I chwi bersonol genad i wneud dim |
| (1, 2) 297 | Negesaeth gyda 'r brenin, pellach nag |
| (1, 2) 298 | A ganiateir gan yr erthyglau hyn: |
| (1, 2) 299 | Rhwydd hynt i chwi; a'ch brys ganmolo eich |
| (1, 2) 300 | Ffyddlondeb i'ch dyledswydd, yn y tro. |
| (1, 2) 302 | Ni anmeuwn ddim; o galon rho'wn ffarwel. |
| (1, 2) 304 | Yn awr, Laertes, beth yw 'ch newydd chwi? |
| (1, 2) 305 | Soniasoch am ddymuniad; pa beth yw, |
| (1, 2) 306 | Laertes? Ni chei ymresymu gyda pen |
| (1, 2) 307 | Y Daniad byth, ac wed'yn golli 'th lais: |
| (1, 2) 308 | Pa beth, Laertes, a ddymunet gael; |
| (1, 2) 309 | Nas gwnawn ei gynyg, cyn it' ofyn dim? |
| (1, 2) 310 | Nid yw perthynas calon gyda 'r pen, |
| (1, 2) 311 | Na'r llaw 'n fwy ufudd i y safn, |
| (1, 2) 312 | Nag ydyw gorsedd Denmarc i dy dad. |
| (1, 2) 313 | Pa beth, Laertes, fynit ti ei cael? |
| (1, 2) 322 | Ond a oes genych ganiatâd eich tad? |
| (1, 2) 323 | Beth dd'wed Polonius? |
| (1, 2) 330 | Laertes, dewis d' awr; dy amser da, |
| (1, 2) 331 | A'th gyfleusderau goren wrth dy fryd — |
| (1, 2) 332 | Yn awr, fy nghefnder Hamlet,— |
| (1, 2) 335 | Paham y mae 'r cymylau eto yn |
| (1, 2) 336 | Ymhongian drosot ti? |
| (1, 2) 365 | Mae yn felus iawn, |
| (1, 2) 366 | A chanmoladwy yn dy natur di, Hamlet, |
| (1, 2) 367 | I roi y parch galarus hwn i'th dad; |
| (1, 2) 368 | Ond rhaid dy fod yn gwybod; wele 'th dad |
| (1, 2) 369 | A gollodd dad; a chollodd hwnw dad; |
| (1, 2) 370 | A'r un oedd fyw, yn gorfod, am ryw hyd, |
| (1, 2) 371 | Ymroi i alar fel y gweddai fab: |
| (1, 2) 372 | Ond mae parâu mewn annyddanwch yn |
| (1, 2) 373 | Gyndynrwydd tra annuwiol; gofid yw |
| (1, 2) 374 | Sydd yn annynol; ac arddangos wna |
| (1, 2) 375 | Ewyllys sydd anufudd iawn i'r Nef; |
| (1, 2) 376 | A chalon heb gael nefol nerth i'w rhan |
| (1, 2) 377 | A meddwl diamynedd; deall gwyrol, |
| (1, 2) 378 | Heb gael dysgyblaeth iawn: canys am |
| (1, 2) 379 | Yr hyn y gwyddom a raid ddygwydd, ac |
| (1, 2) 380 | Sydd mor gyffredin, ag yw unrhyw beth |
| (1, 2) 381 | I synwyr dyn, paham, gan hyny, y rho'wn |
| (1, 2) 382 | Mewn gwrthwynebrwydd croes, anniddig, hyn |
| (1, 2) 383 | At ein calonau? Ffei, mae hyn yn fai |
| (1, 2) 384 | Yn erbyn Nef, yn fai yn erbyn yr? |
| (1, 2) 385 | Un marw, yn fai yn erbyn natur, ac |
| (1, 2) 386 | I reswm, gwrthun yw; i'r hwn y mae |
| (1, 2) 387 | Marwolaeth tadau yn gyffredin beth. |
| (1, 2) 388 | A'r hwn sy 'n dweud o'r cyntaf un erioed, |
| (1, 2) 389 | I'r hwn fu farw heddyw, Hyn sydd raid. |
| (1, 2) 390 | Atolwg fab, gan hyny bwrw di |
| (1, 2) 391 | Y galar afraid hwn i'r ddaear laith, |
| (1, 2) 392 | A meddwl bellach ein bod ni fel tad: |
| (1, 2) 393 | Cân's sylwed byd, ti yw 'r agosaf un |
| (1, 2) 394 | I'n gorsedd, ac nid gronyn llai o serch |
| (1, 2) 395 | Nag a ddangosa 'r tad anwylaf at |
| (1, 2) 396 | Ei fab, ddangoswn ninau atat ti. |
| (1, 2) 397 | Yn wir, mae'th fwriad di o fyn'd yn ôl |
| (1, 2) 398 | I Wittenberg, i'r ysgol, yn dra chroes |
| (1, 2) 399 | I'n dymuniadau; ac atolwg 'rym |
| (1, 2) 400 | Ar i ti aros yma, yn holl wên |
| (1, 2) 401 | A chysur ein golygon, penaf gŵr, |
| (1, 2) 402 | O fewn ein llys, ein câr a'n hanwyl fab. |
| (1, 2) 407 | Wel, mae hyn yn ateb serchog iawn a theg; |
| (1, 2) 408 | Bydd fel nyni yn Denmarc.—Meistres, de'wch; |
| (1, 2) 409 | Mae y cydsyniad mwynaidd, parod hwn, |
| (1, 2) 410 | Gan Hamlet, yn mawrloni 'm calon i: |
| (1, 2) 411 | Oherwydd hwn, ni chaiff un iechyd da |
| (1, 2) 412 | A yfa Denmarc heddyw, fod heb ei |
| (1, 2) 413 | Gyhoeddi i'r cymylau gyda thwrf |
| (1, 2) 414 | Magnelau; yna twrf y brenin a |
| (1, 2) 415 | Adseinia'r nef drachefn, nes bydd yn ail- |
| (1, 2) 416 | TIboefaru daear-daran. Dew'ch i ffordd. |
| (2, 2) 1366 | Croesaw, gu Rosencrantz a Guildenstern! |
| (2, 2) 1367 | Bu'm yn hiraethu am eich gwel'd yn hir. |
| (2, 2) 1368 | 'Roedd pwys y gwaith oedd genyf i chwi wneud |
| (2, 2) 1369 | Yn peri imi anfon gyda brys. |
| (2, 2) 1370 | Chwi glywsoch am drawsffurfiad Hamlet, gwn: |
| (2, 2) 1371 | Efelly galwaf fi ef; gan nad yw |
| (2, 2) 1372 | Nac yr allanol nac y mewnol ddyn |
| (2, 2) 1373 | Yn debyg i'r hyn fyddai: pa beth yw |
| (2, 2) 1374 | Yn amgen na marwolaeth brudd ei dad, |
| (2, 2) 1375 | A barodd ei arweiniaw ef mor bell |
| (2, 2) 1376 | O ddealltwriaeth iawn am dano ei hun, |
| (2, 2) 1377 | Nis gallaf fi freuddwydio: erfyn 'r wyf |
| (2, 2) 1378 | I chwi eich dau, yn gymaint ag eich bod |
| (2, 2) 1379 | O ddyddiau mor ieuengaidd wedi eich dwyn |
| (2, 2) 1380 | I fyny gydag ef; ac hefyd, gan eich bod |
| (2, 2) 1381 | Mor gydnabyddus â'i ieuenctyd a'i |
| (2, 2) 1382 | Dymherau ef,—fod i chwi orphwys am |
| (2, 2) 1383 | Beth amser yn ein llys; fel galloch chwi |
| (2, 2) 1384 | Trwy gwmni ei hudo i bleserau; ac |
| (2, 2) 1385 | I gasglu hyd y byddo yn gyfleus, |
| (2, 2) 1386 | A oes un dim, nas gwyddom ni, yn ei |
| (2, 2) 1387 | Dristâu fel hyn, yr hyn pe 'i gwyddid sydd |
| (2, 2) 1388 | Yn gorphwys yn ein gallu i'w wellâu. |
| (2, 2) 1409 | Ein diolch, Rosencrantz, gu Guildenstern. |
| (2, 2) 1423 | Ti fuost eto 'n dad newyddion da. |
| (2, 2) 1432 | O adrodd hyny; 'rwy 'n awyddus iawn |
| (2, 2) 1433 | Am glywed. |
| (2, 2) 1437 | Dos i'w moesgyfarch, dwg y ddau i fewn. |
| (2, 2) 1439 | Fe ddywed, anwyl Gertrude, iddo ef |
| (2, 2) 1440 | Ddarganfod pen a ffynon holl an-hwyl |
| (2, 2) 1441 | Eich mab. |
| (2, 2) 1446 | Wel, ni a'i chwiliwn ef. Mawr groesaw i chwi, |
| (2, 2) 1447 | Gyfeillion da! mynega, Voltimand, |
| (2, 2) 1448 | Pa air oddiwrth ein brawd o Norway? |
| (2, 2) 1479 | Boddlona ni yn dda, |
| (2, 2) 1480 | A phan y cawn gyfaddas amser, ni |
| (2, 2) 1481 | Ddarllenwn, ac atebwn, yn ei bryd, |
| (2, 2) 1482 | Ar ol rhoi dwys ystyriaeth idd y peth. |
| (2, 2) 1483 | Yn y cyfamser, diolch wnawn i chwi |
| (2, 2) 1484 | Am wneud eich gwaith mor brydlon ac mor dda. |
| (2, 2) 1485 | Ewch i'ch gorphwysfa; heno ni a wnawn |
| (2, 2) 1486 | Gydwledda: croesaw calon i chwi 'n ol. |
| (2, 2) 1542 | Ond sut dderbyniad roddodd hi i'w serch? |
| (2, 2) 1544 | Fel ffyddlawn a thra anrhydeddus ddyn. |
| (2, 2) 1573 | A dybiwch chwi mai hyny yw? |
| (2, 2) 1578 | Erioed, hyd ag y gwyddom ni. |
| (2, 2) 1586 | Pa fodd y gallwn roddi mwy o brawf |
| (2, 2) 1587 | I'r peth? |
| (2, 2) 1601 | Nyni |
| (2, 2) 1602 | A fynwn wneuthur prawf o hono ef. |