| (1, 2) 137 | Wel f' Arglwydd Grey, pa fodd yr ydych chwi |
| (1, 2) 138 | Yn teimlo fel mae'r amser yn nesau |
| (1, 2) 139 | I chwi wynebu Owen de Glendore? |
| (1, 2) 145 | Ai nid wyt ti yn teimlo iasau oer |
| (1, 2) 146 | O ddychryn erch yn rhedeg trwy dy waed, |
| (1, 2) 147 | A pheri i'th wallt i sefyll ar dy ben, |
| (1, 2) 148 | Wrth feddwl cael cyfarfod bwystfil gwyllt, |
| (1, 2) 149 | Fel y darluniaist ti Glyndwr imi? |
| (1, 2) 157 | Beth fy mab! |
| (1, 2) 158 | A feiddi godi dy blentynaidd lais |
| (1, 2) 159 | Yn erbyn mawrion gwlad yn llys dy dad? |
| (1, 2) 165 | Dy ddyled iddo? |
| (1, 2) 179 | Mae'n gofus genyf glywed genyt son |
| (1, 2) 180 | Am hyn o'r blaen, a thalu iddo wnaf |
| (1, 2) 181 | Ryw adeg eto. |
| (1, 2) 207 | Arglwyddi Lloegr! Y mae gwaith o'n blaen |
| (1, 2) 208 | Sy'n galw am ddoethineb, ac am bwyll, |
| (1, 2) 209 | Fel gellir gwneyd cyfiawnder a phob un |
| (1, 2) 210 | O'n hufydd ddeiliaid, wrth gyfreithiau'n tir. |
| (1, 2) 211 | Mae Arglwydd Grey, ac Owen de Glendore, |
| (1, 2) 212 | Eill dau o'n blaen; ac hawlio maent, |
| (1, 2) 213 | Pob un o'r ddau, neillduol ddarn o dir |
| (1, 2) 214 | A elwir Croesau. Ein dyledswydd ni |
| (1, 2) 215 | Yw gwrando hawl pob un o'r ddau ymgeisydd, |
| (1, 2) 216 | A phenderfynu, fel bo iawn a theg, |
| (1, 2) 217 | Cydrhwng y ddau yn ol cyfreithiau'n gwlad, |
| (1, 2) 218 | Ac os y cyfyd unrhyw ddyrus bwnc |
| (1, 2) 219 | O Gyfraith lythyrenol ger ein bron, |
| (1, 2) 220 | Ein doeth Brif farnwr yma heddyw sydd, |
| (1, 2) 221 | I'n harwain drwy y dyrus lwybrau hyn. |
| (1, 2) 222 | Cyfiawnder! ei theg glorian ddaliwn ni. |
| (1, 2) 223 | Y ddau ymgeisydd ddont a'u nwyddau'n mlaen; |
| (1, 2) 224 | Gascoigne a farna a wna'r nwyddau'r tro: |
| (1, 2) 225 | Cewch chwithau ddweyd pa fodd y try y glorian! |
| (1, 2) 226 | Fy Arglwydd Grey o Ruthyn ddaw yn mlaen |
| (1, 2) 227 | Yn gyntaf oll i nodi i'n ei hawl. |
| (1, 2) 252 | Syr Owen de Glendore! beth ddwedwch chwi? |
| (1, 2) 283 | Ha! fuost ti Glyndwr a'th gledd o'r wain, |
| (1, 2) 284 | O blaid y bradwr yn ein herbyn ni? |
| (1, 2) 287 | A wyddost ti |
| (1, 2) 288 | Dy fod drwy hyn yn gosod 'n awr dy ben |
| (1, 2) 289 | Mewn perygl. |
| (1, 2) 294 | Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, a yw hyn |
| (1, 2) 295 | Yn dal o'i bwyso mewn clorianau deddf? |
| (1, 2) 312 | A wyt ti'n meiddio roddi her i neb, |
| (1, 2) 313 | Yn mhresenoldeb brenin ar ei sedd? |
| (1, 2) 316 | A wyt ti yn ein barfu ni fel hyn! |
| (1, 2) 317 | Cei fyn'd yn rhwym, nes oero'th ysbryd poeth! |
| (1, 2) 326 | Gwnaf ar dy air, ond caled goddef hyn. |
| (1, 2) 328 | Urddasol bendefigion, rhaid'i ni |
| (1, 2) 329 | Arfogi ein brenhinol urddas 'n awr. |
| (1, 2) 330 | Ac yn fwy felly, gan fod ereill yn |
| (1, 2) 331 | Annghofio rhoi i'r llys ddyledus barch. |
| (1, 2) 332 | 'Nawr aed y prawf yn mlaen. |
| (1, 2) 336 | Cenad wyf yn ro'i. |
| (1, 2) 382 | Gwell f'ai it' ro'i dy ben yn safn y llew, |
| (1, 2) 383 | Na chodi yma ger ein bron dy gloch. |
| (1, 2) 384 | Pe na buasai'm mab yn eiriol drosot, |
| (1, 2) 385 | Er mwyn y caredigrwydd wne'st ag ef. |
| (1, 2) 386 | Anghofio eto wnaf dy eiriau llym. |
| (1, 2) 397 | Yr hawl amlycaf a ddangosodd ef |
| (1, 2) 398 | O'n blaen ni, ydoedd hawl i golli ei ben! |
| (1, 2) 399 | Ond doed a ddel, gadawaf ef yn rhydd. |
| (1, 2) 400 | Cyhoeddi raid im' 'nawr, nol deddf y wlad, |
| (1, 2) 401 | Fod tir y Croesau'n eiddo Arglwydd Grey. |