| (1, 1) 915 | Pwy sydd yma'n taenu canu cwynion? |
| (1, 1) 916 | Drwg genyf adlais cân anfodlon. |
| (1, 1) 919 | O pa'm na foddlonwn i'n Creawdwr, |
| (1, 1) 920 | Pa fath bynag fyddo'n cyflwr? |
| (1, 1) 921 | Dysgwn ymostwng i'w rymusder, |
| (1, 1) 922 | A'n hamgylchiade mewn iach hyder. |
| (1, 1) 923 | ~ |
| (1, 1) 924 | Mae Paul yn rhoddi pur gyf'rwyddwyd, |
| (1, 1) 925 | Pa fodd i ymddwyn mewn hawddfyd ac adfyd, |
| (1, 1) 926 | I fod yn llawn, neu fod mewn prinder, |
| (1, 1) 927 | Mewn helaethrwydd neu gyfyngder. |
| (1, 1) 928 | ~ |
| (1, 1) 929 | Boddloni tan y cystudd tryma', |
| (1, 1) 930 | Bod mewn addfwynder ac iseldra; |
| (1, 1) 931 | Bod fel Dafydd gyda Simei, |
| (1, 1) 932 | Poen fall deithydd, pan felldithie. |
| (1, 1) 933 | ~ |
| (1, 1) 934 | Dysgwn garu Duw'r goleuni, |
| (1, 1) 935 | Pob peth a weithia er daioni; |
| (1, 1) 936 | Ac os na ddysgwn fod yn foddlon, |
| (1, 1) 937 | Mae pob peth ini dan felldithion. |
| (1, 1) 942 | Diame fod rhai felly'n byw; |
| (1, 1) 943 | Ond pan aeth Dafydd i gysegr Duw, |
| (1, 1) 944 | Dealle'u diwedd hwynt i'r eitha', |
| (1, 1) 945 | Bod cwymp a dinystr ar eu gwartha'. |
| (1, 1) 960 | Mae llaw Rhaglunieth yn ddirgeledd, |
| (1, 1) 961 | Yn godde'i rai ddyfetha'u mawredd; |
| (1, 1) 962 | Fel goddef gynt i Adda gwympo, |
| (1, 1) 963 | Er hyny'n dyner a llaw dano. |
| (1, 1) 964 | ~ |
| (1, 1) 965 | Nid pechod hwnw na'i hiliogeth, |
| (1, 1) 966 | A'i gwnaeth ef yn ddall o'i enedigeth, |
| (1, 1) 967 | Ond fel yr amlygid gallu'r Silo, |
| (1, 1) 968 | Wyrthie mwyndeg wrth eu mendio. |
| (1, 1) 973 | Mae'n gofyn hyn trwy bob caledi, |
| (1, 1) 974 | I ddyn i ymestyn a'i holl egni, |
| (1, 1) 975 | I wneud ei ore'n help yr Arglwydd, |
| (1, 1) 976 | I wella'i gyflwr trwy onestrwydd. |
| (1, 1) 977 | ~ |
| (1, 1) 978 | Ar hyd y nos bu rhai'n ymboeni, |
| (1, 1) 979 | Mewn aflwydd, blinder, a thylodi; |
| (1, 1) 980 | Pan daflent y rhwyd wrth air y Mawredd, |
| (1, 1) 981 | Tu dehe'r llong, hwy gaent ddigonedd. |
| (1, 1) 982 | ~ |
| (1, 1) 983 | A'r gwahan glwyfion oedd yn sefyll, |
| (1, 1) 984 | Yn y porth cyn mentro i'r gwersyll; |
| (1, 1) 985 | Ond pan fentrasant at Raglunieth, |
| (1, 1) 986 | Hwy gaent yn hylwydd lawn gynalieth. |
| (1, 1) 987 | ~ |
| (1, 1) 988 | Peth mawr cael gras a gwir foddlonrwydd, |
| (1, 1) 989 | I fentro'n gwbwl ar yr Arglwydd, |
| (1, 1) 990 | Tu hwnt i ofid, llid a chyffro, |
| (1, 1) 991 | Gwyn eu byd y sawl a'i caffo. |
| (1, 1) 996 | Braint a heddwch i'r gydwybod, |
| (1, 1) 997 | Boddloni yn mhob peth ond ar bechod; |
| (1, 1) 998 | I hyn mi ganaf rai penillion, |
| (1, 1) 999 | Er anog pawb i fod yn foddlon. |
| (1, 1) 1076 | Ffarwel 'rwan, mi af ar gerdded, |
| (1, 1) 1077 | Gobeithio fod rhyw rai'n ystyried; |
| (1, 1) 1078 | Gwirionedd Duw sy'n dda yn mhob agwedd, |
| (1, 1) 1079 | A hwn a'n barna ni yn y diwedd. |