| (1, 1) 154 | Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad? |
| (1, 1) 156 | Dyna i chi ryfedd, a finna'n siarad efo fo ryw chwarter awr yn ôl! |
| (1, 1) 158 | Newydd fod yn gweld Uncle Enoc medda fo. |
| (1, 1) 162 | Na, dydw i ddim yn meddwl. |
| (1, 1) 166 | Hm? |
| (1, 1) 168 | O dim ond ei fod o eisio barn Doctor James. |
| (1, 1) 170 | Y "Sailor's Rest". |
| (1, 1) 173 | Rhyw fath o gartre i hen longwrs, rydw i'n deall. |
| (1, 1) 174 | Ar ôl iddyn nhw reteirio o'r môr. |
| (1, 1) 177 | Dydw i ddim yn cofio'n iawn. |
| (1, 1) 178 | I ffwrdd yn rhywle, ond mae o'n le ardderchog, medda Doctor James. |
| (1, 1) 180 | Ydy, medda fo. |
| (1, 1) 181 | Wedi blino byw ar ei ben ei hun. |
| (1, 1) 183 | Be sy Nhad? |
| (1, 1) 186 | O? |
| (1, 1) 187 | Wel da iawn, Nhad! |
| (1, 1) 188 | Mae'n biti gweld yr hen greadur ei hunan bach yn y tŷ yna. |
| (1, 1) 193 | Am y llyfr hwnnw oeddwn i'n ddarllen ddoe. |
| (1, 1) 194 | Roedd o ar y cwpwrdd y bore yma. |
| (1, 1) 195 | Ydy Wili John wedi bod efo fo eto? |
| (1, 1) 197 | Ond mi ydw i eisio mynd â fo i'r llyfrgell y pnawn yma, Nhad! |
| (1, 1) 199 | Naddo, ond yn reit fuan 'r 'wyn credu. |
| (1, 1) 201 | A, dyma fo! |
| (1, 1) 205 | O dydy o ddim mor ddrwg â hynny, Mam. |
| (1, 1) 206 | Dipyn yn groes, dyna'r cwbwl. |
| (1, 1) 207 | Mae ei galon o yn y lle iawn. |
| (1, 1) 209 | Wel dydy hi ddim yn rhy hwyr i mi ddechra, Mam. |
| (1, 1) 211 | O dim ond bod yna ryw ddyn ifanc wedi gofyn imi fynd efo fo i'r pictiwrs nos fory. |
| (1, 1) 215 | Doctor James, Nhad. |