| (1, 3) 106 | Pa faint o ffordd y sydd oddiyma i Fforres? |
| (1, 3) 107 | Pa bethau yw'r rhai hyn, mor wyw a gwyllt eu golwg? |
| (1, 3) 108 | Nid tebyg monynt i drigolion daear, ac eto, maent a'u traed arni. |
| (1, 3) 109 | Ai byw chwi? |
| (1, 3) 110 | Neu a ydych yn unpeth y gall dyn ei holi? |
| (1, 3) 111 | Mi dybygwn eich bod yn fy neall, gan fod y naill a'r llall ohonoch yn dodi ei bys migyrnog ar ei gwefus denau. |
| (1, 3) 112 | Merched a ddylech fod, wrth eich golwg, ac eto, y mae eich barfau'n gwahardd i mi ddeongli mai dyna ydych. |
| (1, 3) 120 | Ha, ŵr da, pam yr ydych yn cyffroi cymaint, ac yn edrych fel pe bai arnoch ofn pethau â sŵn mor hyfryd ynddynt? |
| (1, 3) 122 | A chwithau, yn enw'r gwir, ai drychiolaethau ydych, ai'r hyn, yn wir, y mae ei lun tu allan arnoch? |
| (1, 3) 123 | Yr ydych yn cyfarch fy nghydymaith bonheddig yn rasol yn awr, ac â darogan gwych am feddiant urddasol a brenhinol obaith nes bod y cwbl fel cyfaredd arno; wrthyf i, ni leferwch ddim. |
| (1, 3) 124 | Os gellwch chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un ni thyf, lleferwch wrthyf innau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas. |
| (1, 3) 141 | Y mae byrlymau ar dir fel ar ddŵr, a dyma rai ohonynt. |
| (1, 3) 142 | I ba le y diflanasant? |
| (1, 3) 145 | A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn sôn amdanynt, ynteu a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n cymryd y rheswm yn garcharor? |
| (1, 3) 147 | Byddwch chwithau eich hun yn frenin. |
| (1, 3) 149 | Ie, dyna'r gair yn union. |
| (1, 3) 150 | Ond, pwy sydd yma? |
| (1, 3) 157 | Pa beth! |
| (1, 3) 158 | A ddichon y diawl ddywedyd y gwir? |
| (1, 3) 169 | Fe ddichon hynny, o'i gredu'n llwyr, eich ennyn chwithau eto hyd at y goron, heblaw Arglwyddiaeth Cawdor. |
| (1, 3) 170 | Ond rhyfedd yw, er mwyn ein hennill ni i'n niwed ein hunain, bydd cyfryngau'r tywyllwch yn fynych yn dwedyd y gwir wrthym, yn ein hennill â rhyw fân bethau gonest i'n bradychu i bethau o'r pwys mwyaf. |
| (1, 3) 171 | Atolwg, geraint, un gair |
| (1, 3) 181 | Gwelwch y synfyfyrdod y mae'n cydymaith ynddo! |
| (1, 3) 184 | Nid yw ei urddas newydd, mwy na'n dilladau dieithr, yn gorwedd yn wastad ar y peth fo tanynt, onid trwy gymorth arfer. |
| (1, 3) 188 | Deilwng Arglwydd, yr ydym at eich galwad pan fynnoch. |
| (1, 3) 193 | Yn llawen iawn. |