| (1, 0) 363 | 'Dw i ddim yn codi bwganod. |
| (1, 0) 536 | Chytunan nhw byth, Morris. |
| (1, 0) 538 | Ro'n nhw byth dragwyddol sêl bendith ar y fath beth. |
| (1, 0) 541 | Wnân nhw ddim. |
| (1, 0) 542 | Coelia di fi. |
| (1, 0) 548 | Cwrs golff drws nesa i fynwant? |
| (1, 0) 554 | Paid â rhygyfu. |
| (1, 0) 562 | Mi dynni di nyth cacwn yn dy ben. |
| (1, 0) 574 | A hogia'r iaith 'ma. |
| (1, 0) 575 | Be am rheini? |
| (1, 0) 577 | Traddodiad. |
| (1, 0) 578 | Treftadaeth a ballu. |
| (1, 0) 580 | A'r boi 'na sy'n sgwennu yn Y Tŵr. |
| (1, 0) 581 | Mi fydd yn fêl ar fysadd hwnnw bydd? |
| (1, 0) 583 | Mwy nag wyt ti'n feddwl. |
| (1, 0) 584 | Cofio'r helynt gaethon ni efo'r parc 'na bum mlynadd yn ôl? |
| (1, 0) 586 | Fo wthiodd y cwch i'r dŵr. |
| (1, 0) 587 | Llythyru, deisebu, protestio a hynny am fisoedd dallta. |
| (1, 0) 589 | Ia, e'lla. |
| (1, 0) 598 | Pam wyt ti wedi marcio fan'ma? |
| (1, 0) 599 | Pa dwll fydd hwn? |
| (1, 0) 606 | Pam? |
| (1, 0) 607 | Be sy? |
| (1, 0) 609 | Fedri di ddim statu honno? |
| (1, 0) 611 | Ydi hynny o dragwyddol bwys? |
| (1, 0) 626 | 'Dw i'n gaddo dim. |
| (1, 0) 629 | O, ia, wrth gwrs. |
| (1, 0) 630 | Mi fyddi di'n fanno, byddi? |
| (1, 0) 632 | Ia, wel, rhyw feddwl o'n i ma'r peth calla' fydda iti... |
| (1, 0) 634 | Rhaid bod yn ddoeth, rhaid? |
| (1, 0) 659 | Rhyw bicio draw. |
| (1, 0) 660 | Dyna'r cwbwl. |
| (1, 0) 665 | Be? |
| (1, 0) 667 | Dim o gwbwl. |
| (1, 0) 672 | Rhy falch o ga'l gneud rwbath. |
| (1, 0) 676 | Be? |
| (1, 0) 679 | O, ia. |
| (1, 0) 680 | Mi ddylwn i fod wedi deud wrth Morris 'ma. |
| (1, 0) 682 | Na fydd hi yma. |
| (1, 0) 684 | Wedi gorfod rhuthro i Warrington. |
| (1, 0) 686 | Ia. |
| (1, 0) 687 | Yr hogan 'cw. |
| (1, 0) 691 | Ia. |
| (1, 0) 692 | Y babi. |
| (1, 0) 694 | Ydi. |
| (1, 0) 711 | Dim, hyd y gwn i. |
| (1, 0) 713 | 'Dw i ddim yn meddwl. |
| (1, 0) 715 | Na fydd. |
| (1, 0) 716 | Wir rŵan. |
| (1, 0) 725 | Lle ddeudodd Joyce o'dd y bwrdd 'na? |
| (1, 0) 726 | Y rhiwal ia? |
| (1, 0) 728 | Drws nesa i'r hen feudy ma' hwnnw, os 'dw i'n cofio'n iawn. |
| (1, 0) 917 | Y gist 'na. |
| (1, 0) 918 | Ma' hi'n llawn o ryw hen gelfi. |
| (1, 0) 922 | Fi? |
| (1, 0) 929 | Yli, fel hen ffrind, 'dw i am roid gair o gyngor iti. |
| (1, 0) 930 | Taswn i'n dy le di mi faswn i'n anghofio am hyn. |
| (1, 0) 931 | 'Dan ni'n dau'n rhy hen i dynnu rhyw hen helynt i'n penna. |
| (1, 0) 932 | Ro'dd Nans a finna'n ca'l rhyw sgwrs bach noson o'r blaen. |
| (1, 0) 933 | 'Dan ni'n dau wedi bod bum mlynadd ar hugain ar ryw gyngor ne'i gilydd. |
| (1, 0) 934 | Nans druan wedi cyfri'r blynyddo'dd. |
| (1, 0) 935 | E'lla y dylan ni'n dau ga'l rhyw hoe bach. |
| (1, 0) 936 | Rhoid lle i rywun fengach... |
| (1, 0) 937 | Ca'l tawelwch yn y tŷ. |
| (1, 0) 938 | Dim ffôn yn canu o fora gwyn tan nos. |
| (1, 0) 939 | 'Dw i 'di gofyn am ymddeoliad cynnar o'r ysgol 'na. |
| (1, 0) 940 | Ma'n nhw'n rhoi tua deng mlynadd dyddia yma. |
| (1, 0) 941 | Ydyn, rhyw ddeng mlynadd. |
| (1, 0) 942 | Yr hen gwricwlwm cenedlaethol 'ma. |
| (1, 0) 943 | Poen enaid a dim byd arall. |
| (1, 0) 944 | Melltith. |
| (1, 0) 945 | Symud yn nes at Karen e'lla. |
| (1, 0) 946 | Mi fydd hi angen help efo'r babi 'ma. |
| (1, 0) 947 | Am gario mlaen i nyrsio medda hi... |
| (1, 0) 948 | Helpu efo'r mortgage a ballu, wy'st ti?... |
| (1, 0) 949 | na, 'dw isio i'r peth bach ddwad i 'nabod i... |
| (1, 0) 950 | Ma' rhywun yn haeddu tawelwch, tydi? |
| (1, 0) 951 | Tawelwch yn rhwbath... |
| (1, 0) 952 | Be fydda'r gair hwnnw y bydda Wilias sgŵl yn 'i ddysgu inni stalwm. |
| (1, 0) 953 | Amheuthun? |
| (1, 0) 954 | Ia. |
| (1, 0) 955 | Amheuthun. |
| (1, 0) 956 | Tawelwch yn rhwbath amheuthun. |
| (1, 0) 958 | Mm? |
| (1, 0) 961 | O... |
| (1, 0) 962 | Ydi... |
| (1, 0) 963 | Siŵr o fod. |
| (1, 0) 966 | Ydi... meddan nhw. |
| (1, 0) 968 | Be ddeuda i wrthi? |
| (1, 0) 970 | Gwyneth. |
| (1, 0) 972 | Y boncan. |
| (1, 0) 974 | Does dim rhaid ca'l gwarad ohoni, nac oes? |
| (1, 0) 981 | Mi cornelith fi. |
| (1, 0) 982 | Ti'n 'i nabod hi'n ddigon da. |
| (1, 0) 983 | Be ddeuda i? |
| (1, 0) 996 | Ro'dd hwn yn yr hen gist 'na... |
| (1, 0) 997 | I be mae o'n da? |
| (1, 0) 1000 | O, ia. |
| (1, 0) 1001 | Cofio rŵan. |
| (1, 0) 1002 | Be haru mi? |
| (1, 0) 1005 | Na, na chwara teg. |
| (1, 0) 1008 | Yma ma'u lle nhw. |
| (1, 0) 1009 | Creiria'r hen gyff. |
| (1, 0) 1016 | Ma'n ddrwg gin i Joyce. |
| (1, 0) 1087 | Iawn. |
| (1, 0) 1088 | Iawn. |
| (1, 0) 1090 | Tydw i'n gneud. |
| (1, 0) 1092 | Be arall ti'n feddwl 'dw i'n drio'i 'neud? |
| (1, 0) 1094 | Lle ma' hi isio fo? |
| (1, 0) 1097 | Yn lle? |
| (1, 0) 1106 | Pwy? |
| (1, 0) 1110 | O. |
| (1, 0) 1111 | Hwnna. |
| (1, 0) 1114 | Rhywun wedi colli'i ffordd e'lla. |
| (1, 0) 1124 | Ddo' i heibio tua'r saith 'ma, ia? |
| (1, 0) 1126 | Rhaid imi ffonio Nans gynta. |
| (1, 0) 1127 | Holi sut ma' pawb a ballu. |
| (1, 0) 1130 | Siŵr o 'neud. |
| (1, 0) 1155 | Falch o dy weld di 'mechan i. |