| (1, 0) 60 | Ffyc mi am dywydd. |
| (1, 0) 61 | O, sori, o'n i'n meddwl na fi o'dd y cynta yma. |
| (1, 0) 62 | Arwel dwi. |
| (1, 0) 65 | Da chi'n iawn gobeithio? |
| (1, 0) 66 | Wel, cystal a medar rhywun fod ia? |
| (1, 0) 68 | Criw da doedd? |
| (1, 0) 70 | Cystal teyrnged â'r un doedd. |
| (1, 0) 74 | Ia, diolch. |
| (1, 0) 75 | Fyddai'm yn un am sgwennu ond chwara teg, o'n i'n ffrindia gora... o'dd a ni'n ffrindia ers ysgol feithrin. |
| (1, 0) 78 | Ia, rhen Ted. |
| (1, 0) 79 | Mae o dal gen i, y tedi. |
| (1, 0) 80 | Fyddai'm yn cysgu efo fo, sa hynny'n od basa, ond mae o gen i o hyd. |
| (1, 0) 82 | Mewn cwpwrdd lly, sentimental de, gin pawb gwpwrdd felly does. |
| (1, 0) 83 | Ella basia'i o'n mlaen. |
| (1, 0) 84 | Y tedi. |
| (1, 0) 85 | Dwi'n deud tedi lot braidd. |
| (1, 0) 86 | Sori. |
| (1, 0) 88 | Heblaw am 'i fam, ia, ella. |
| (1, 0) 89 | Gollodd o'i dad, ond da chi'n gwbod hynny masiwr... |
| (1, 0) 90 | Hen dlawd, oddi'n ffwc o sioc. |
| (1, 0) 92 | I bawb deud gwir. |
| (1, 0) 93 | Ta waeth, ma' 'na fwy ar y ffordd. |
| (1, 0) 94 | Mai'n oer 'ma braidd, rhoswch funud. |
| (1, 0) 96 | Ffyc it, tri bar am danni. |
| (1, 0) 99 | Naddo? |
| (1, 0) 100 | Da 'di letrig ffeiar. |
| (1, 0) 103 | Yws. |
| (1, 0) 105 | Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla... |
| (1, 0) 107 | Eitha de. |
| (1, 0) 108 | Sori, dwi'm yn nabod, y... |
| (1, 0) 110 | A dachi'n...? |
| (1, 0) 117 | Ac Arwel dwi, dwi'n meddwl fod pawb yma yndi? |
| (1, 0) 119 | Mewn ffordd. |
| (1, 0) 120 | Hon ydi'r wêc. |
| (1, 0) 121 | Yn ôl be dwi'n ddallt does 'na neb arall. |
| (1, 0) 123 | A'r syniad ydi aros drw nos heno, ma' hon yma, ma' 'na fwy o stwff hefyd yn y ffrij. |
| (1, 0) 129 | Ia. |
| (1, 0) 139 | Dwi'n gwbod fod o'n fyr rybudd, ac yn niwsans mewn ffordd, ond ffycin niwsans ydi'r busnas ma o un pen iddo fo i'r llall. |
| (1, 0) 140 | N'de? |
| (1, 0) 141 | Tasa ni'n onast lly. |
| (1, 0) 142 | Siŵr dduw fod na'm rhaid chi aros, ond do's na'm llawar ohona ni yma fel ma'i a peth lleia fedra i neud beth bynnag ydi ista 'ma heno am sbel. |
| (1, 0) 144 | Mi sgwennodd o betha i lawr. |
| (1, 0) 145 | Ddim byd swyddogol, ond mi oedd 'na damad o bapur a rhyw fanion erill. |
| (1, 0) 147 | Oedd, ni'n benodol. |
| (1, 0) 148 | Ond chi bia deud. |
| (1, 0) 183 | Dyma ni lwch, helpa dy hun Sbic. |
| (1, 0) 184 | A chitha fyd. |
| (1, 0) 188 | O'n, rhyw fardd ne wbath ia? |
| (1, 0) 189 | Fydda fo'n sôn weithia, dwi'm yn dallt rhyw betha fel'na. |
| (1, 0) 190 | Hold on rwan, rosa ni i Aaron ia? |
| (1, 0) 194 | Ffeif and dreif ydi hi pen yma. |
| (1, 0) 195 | Ond chwara teg i chdi. |
| (1, 0) 196 | Ma' 'na sgwash yma'n rwla os leci di. |
| (1, 0) 200 | Think, don't drink and drive. |
| (1, 0) 202 | Hawdd gweld sut es di'n ffrindia efo fo. |
| (1, 0) 203 | Dwi'n dallt dim am betha fel'na. |
| (1, 0) 210 | Da iawn, reit. |
| (1, 0) 213 | Er cof dwi'n meddwl. |
| (1, 0) 221 | M. |
| (1, 0) 225 | Ia, o'dd o'n meddwl am betha ac yn deud rhyw betha doedd. |
| (1, 0) 226 | Yn wahanol lly, ac yn cîn yn r'ysgol de. |
| (1, 0) 228 | Odda chi'm yn weld o'n, wel, yn wahanol lly? |
| (1, 0) 235 | Ddudish i od? |
| (1, 0) 237 | Ddim bod o'n od, jesd, do'dd o'm yr un fath. |
| (1, 0) 239 | Nace! |
| (1, 0) 240 | Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di. |
| (1, 0) 243 | Ffyc sêc. |
| (1, 0) 246 | Thalith hi ddim i siarad fel'ma. |
| (1, 0) 247 | Cradur. |
| (1, 0) 251 | Ia, wel. |
| (1, 0) 262 | Na. |
| (1, 0) 263 | Na, ma'n iawn i chdi holi, oni'n cymryd fod pawb yn gwbod ne ddim isio gwbod. |
| (1, 0) 266 | Megan? |
| (1, 0) 268 | Reit, wel. |
| (1, 0) 269 | Y, ia. |
| (1, 0) 270 | Crogi. |
| (1, 0) 271 | Crogi nath o. |
| (1, 0) 278 | Dwi'm yn dallt bob dim cofiwch, jesd digwydd bod o'n i o gwmpas. |
| (1, 0) 279 | Dwi'm yn byw yn bell a mi a'th y ffôn, rhif tŷ fama o'dd o ac o'n i'n gweld hynny'n od braidd achos os bydda fo'n cysylltu ar me enger ne wbath fydda fo. |
| (1, 0) 280 | Ond i fam o o'dd yno, o'dd i mewn bach o stad deud gwir. |
| (1, 0) 281 | Oni'n methu dallt hi'n siarad. |
| (1, 0) 282 | A dwnim os na achos bo hi'n crio ac yn gweiddi o'dd hynny ta jesd achos na fi o'dd o. |
| (1, 0) 283 | Oni'n gwbod be o'dd. |
| (1, 0) 287 | Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi. |
| (1, 0) 290 | Dwi 'di dechra wan. |
| (1, 0) 291 | A dyma fi i'r iard a fano oedd hi yn dal y ffôn yn sbio arno fo. |
| (1, 0) 296 | Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly. |
| (1, 0) 297 | Dwn i'm lle ffwc gath o honno. |
| (1, 0) 298 | O'dd 'na fwcad ar i hochor. |
| (1, 0) 299 | Ffycinhel fedrai weld o rŵan. |
| (1, 0) 300 | Bwcad o dan i draed o. |
| (1, 0) 301 | Rhaff am ei wddw fo, dwi'n gwbod bod hynna'n amlwg lly ond... |
| (1, 0) 302 | O'dd 'na olwg arno fo de, oddi wynab o'n ddu fel tasa fo di ca'l stîd. |
| (1, 0) 303 | O'dd o di bod yno ers sbel medda nhw wedyn. |
| (1, 0) 304 | Nes i dorri fo lawr a llacio'r rhaff a trio'r pethma, y CPR, ond dwi ond di weld o ar teledu ac oddi wynab o'n ddu ac o'dd o di chwdu a... |
| (1, 0) 308 | Ddoth 'na ambiwlans, dwni'm pwy o'dd 'di gofyn am dani os na fi ta... a mi drio nhw ond o'dd o'n oer. |
| (1, 0) 309 | O'dd o'n ffycin oer. |
| (1, 0) 315 | Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic. |
| (1, 0) 317 | Odda chdi'n gwbod nad o'dd o'n iawn fyd. |
| (1, 0) 318 | Sut fedra ti beidio. |
| (1, 0) 329 | Ac o'n inna o fewn hannar milltir iddo fo. |
| (1, 0) 332 | Mai'n anodd iawn peidio. |
| (1, 0) 335 | Ma' 'na soffa, ma' 'na gadeiria, carpad faint fynnir. |
| (1, 0) 338 | Do's na'r un o'r rheiny yma, dwi'n farman shit sori. |
| (1, 0) 340 | Rhaid ti frysio, ma' siop Magi Ann yn cau am ddeg. |
| (1, 0) 344 | Be? |
| (1, 0) 347 | Wel dyna o'dd i henw hi, cyn i Magi Ann farw. |
| (1, 0) 349 | A ma'n bwysig cadw'r petha ma. |
| (1, 0) 351 | Sut wydda ti? |
| (1, 0) 358 | Ei di yno'r un fath. |
| (1, 0) 362 | O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... / |
| (1, 0) 364 | /Reis crispies, ffyc off, calzone. |
| (1, 0) 365 | Dyna o'dd gen i. |
| (1, 0) 367 | Nace. |
| (1, 0) 369 | Wel dio'm yn bitsa felly nacdi. |
| (1, 0) 370 | Eniwe, ma' 'na ddewis, dyna o'dd gen i. |
| (1, 0) 371 | A ma'nwn gneud, y, ffish a chips r'un fath. |
| (1, 0) 373 | Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio. |
| (1, 0) 375 | Garantîd. |
| (1, 0) 380 | Gwranda/ |
| (1, 0) 382 | Sut wyddost ti? |
| (1, 0) 385 | Ma'n ddigon agos. |
| (1, 0) 388 | Wel yndi! |
| (1, 0) 389 | Ma'n iawn. |
| (1, 0) 391 | O pam Sbic? |
| (1, 0) 396 | Hold on rŵan. |
| (1, 0) 398 | Nacdw, jesd/ |
| (1, 0) 400 | Na! |
| (1, 0) 401 | Chei di'm deud petha fel'na Sbic. |
| (1, 0) 407 | Dodd o'm yn meddwl dim byd wrth ddeud/ |
| (1, 0) 414 | A'i ar ei ôl o. |
| (1, 0) 470 | Ma' gin Ywain wbath i ddeud. |
| (1, 0) 481 | Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn. |
| (1, 0) 486 | /Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/ |
| (1, 0) 494 | Yws/ |
| (1, 0) 506 | Ma' pobol yn newid. |
| (1, 0) 525 | Yws, callia. |
| (1, 0) 533 | Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach? |
| (1, 0) 537 | Syniad da. |
| (1, 0) 548 | Sa ddigon o gowntars a ballu? |
| (1, 0) 553 | Collwr gwael. |
| (1, 0) 555 | O, iesu do, a gweiddi. |
| (1, 0) 559 | Dwnim. |
| (1, 0) 560 | Cain ella? |
| (1, 0) 568 | Felly weli di hi'n amal iawn {yn ysgwyd y deis} a dyma fina lawr efo chdi. |
| (1, 0) 573 | Fel'na ma'i gneud hi! |
| (1, 0) 581 | Ma' hon fatha'r un am y Ryshians na sgin ti. |
| (1, 0) 583 | Deud ti, Yws, dwi'm yn chofio hi'n ddigon da. |
| (1, 0) 585 | Na, nawn ni ddim. |
| (1, 0) 592 | Yr unig beth dwi'n ddeud ydi sa rhywun yn deud fod na fwnci yn dy dŷ di a sa ti'n mynd i parlwr a gweld chimp yna fasa ti'm yn synnu. |
| (1, 0) 597 | Achos bo nhw'n cerddad ar lawr yn ôl Iolo Williams yn fama. |
| (1, 0) 602 | /ffoc mi/ |
| (1, 0) 615 | Ia, oce, ella bo chi'n coelio honna ond no wê bo nhw yn rhoi llai o'r stwff melyn yn ganol crîm egs bob blwyddyn. |
| (1, 0) 617 | Sa pobol yn sylwi! |
| (1, 0) 621 | Diolch! |
| (1, 0) 627 | O'dd o'n joio'i hun yna doedd, siŵr fod gen ti straeon Lisa. |
| (1, 0) 630 | Dyddia gora dy fywyd di medda nhw. |
| (1, 0) 637 | Do? |
| (1, 0) 655 | O'dd o'n un cyndyn i sgwrsio'n iawn. |
| (1, 0) 696 | Fyny grisia, ail ar y dde, paid a cloi chos ma'r drws yn mynd yn sdyc. |
| (1, 0) 699 | Deud hanas wrtha fi am dano fo. |
| (1, 0) 701 | Plîs. |
| (1, 0) 705 | Sut odda chdi'n nabod o ta? |
| (1, 0) 708 | O. |
| (1, 0) 709 | Peint yn ddrud yno medda fo 'tha ni. |
| (1, 0) 713 | Reffryns o'dd o, paid â phoeni. |
| (1, 0) 726 | Lot yn fa'ma r'un fath. |
| (1, 0) 727 | Diawl mi o'n i. |
| (1, 0) 729 | Ai, jesd ddim 'di gneud lot rioed os ti'n dallt be sgin i. |
| (1, 0) 730 | Methu cychwyn arni ne o'dd wbath yn teimlo'n chwithig, dwnim. |
| (1, 0) 731 | Dwi efo rhywun wan lly, a ma'n grêt. |
| (1, 0) 732 | Jesd oni'n poeni weithia. |
| (1, 0) 734 | Ia, fedrai'm deud pam, o'dd pawb arall doedd efo rhywun lly. |
| (1, 0) 735 | Pwysa ella? |
| (1, 0) 736 | Ond nace chwaith. |
| (1, 0) 737 | O'dd 'na rhywun yn byw wrth ymyl ni stalwm, ben 'i hyn. |
| (1, 0) 738 | Hen lanc, fydda fo'n dod heibio nain bob hyn a hyn, jesd i weld rhywun am wn i, ac o'dd o wastad bach yn od wsti. |
| (1, 0) 739 | Fydda ni'n mynd draw efo bagia Kwics gwag yn yr haf i hel eirin i'w ardd o. |
| (1, 0) 740 | Welist ti rioed le taclusach, Saeson sy 'na rŵan a mai'n gwilydd i weld. |
| (1, 0) 741 | Fydda ni'n hel yr eirin 'ma, a rhei ohonyn nhw mor barod i'w byta nes bo nhw'n bystio wrth i chdi dwtsiad nhw, fydda ni'n cal llond bag bob un mond fod y dyn ma'n ca'l pot ne ddau o jam. |
| (1, 0) 742 | O'n i fymryn o ofn y boi ma, un tro o'n i'n chwara mewn rhyw hen doman dywod, o'dd dad di prynu tywod i neud sment ond 'di adal o a'i lond o o gachu cath erbyn diwadd. |
| (1, 0) 743 | Ta waeth o'n i'n chwara yn y tywod 'ma, ac o'dd y dyn 'ma, Robat odd i enw fo, yn siarad efo dad wrth ymyl. |
| (1, 0) 744 | A dyma fo draw a llenwi'n welingtons i efo'r tywod 'ma a chwerthin, o'n i'n gwisgo nhw gyda llaw. |
| (1, 0) 745 | A chwerthin o'dd o. |
| (1, 0) 746 | Fatha fod o'r peth fwya hileriys ac o'n i ofn am mywyd. |
| (1, 0) 747 | Dwi di anghofio'n mhoint wan. |
| (1, 0) 749 | O nace, y point o'dd, bod y boi ma 'di arfar ei hun gymaint nes fod o 'di mynd yn ormod o fo'i hun, tha sa fo'n jam 'di berwi gormod lly. |
| (1, 0) 750 | Dwi'm isio bod fel'na sti. |
| (1, 0) 752 | Ond da ni'n hapus, ma hi'n gneud y peth athrawon 'ma wan. |
| (1, 0) 753 | Da ni'n meddwl ca'l tŷ, ne oleia llun o un i roi ar wal wrth i ni safio pres am yr ugian mlynadd nesa. |
| (1, 0) 755 | Sian. |
| (1, 0) 757 | Siani Flewog dwi'n galw hi achos, wel, hy. |
| (1, 0) 759 | Sori, dwi'n gwbod bo ni'n deud rhyw betha sydd ddim yn iawn. |
| (1, 0) 760 | Tynnu ar ein gilydd yda ni, dio'm yn gas sti. |
| (1, 0) 762 | Fel'na ma'i. |
| (1, 0) 763 | Rhan o'r hwyl am wn i. |
| (1, 0) 768 | Odda chi'n agos lly? |
| (1, 0) 771 | O, wel, naddo. |
| (1, 0) 772 | Doni'm yn... ond iawn de, chwara teg. |
| (1, 0) 774 | Biti fod o heb sôn deud gwir. |
| (1, 0) 776 | Y? |
| (1, 0) 781 | 'Di hynna'm yn deg. |
| (1, 0) 783 | Iawn oce, ma na lot o betha gwirion yn cal 'u deud ond no wê, no wê na jesd 'pobol pen yma' be bynnag ffwc ydi hynny sydd wrthi. |
| (1, 0) 784 | Ma' 'na bobol yn bob man, a ma' 'na lot mwy sydd yn dal i feddwl y petha ma'i gyd mond bo nhw di dysgu peidio'u deud nhw, ne dysgu sut ma'i ddeud o mewn ffordd sy'n dal yn iawn. |
| (1, 0) 785 | Jesd, paid a'n meirniadu fi plîs. |
| (1, 0) 786 | Gawn ni drafod a ma hynny'n iawn, ond dwi'm isio ffraeo. |
| (1, 0) 787 | Yr unig wahaniath rhyngtha chdi a Yws yn fana ydi cyfla, a lwc mul bo chdi di cal mynd i rwla i ddysgu sut ma' bihafio. |
| (1, 0) 788 | A dwi'n gwbod fod o'n nob sy'n deud petha gwirion ond mae o'n foi iawn hefyd a ma posib bod y ddau beth. |
| (1, 0) 790 | Sori, dwi'n teimlo mod i 'di pregethu. |
| (1, 0) 795 | Dwn i'm. |
| (1, 0) 796 | Dwi'n meddwl hynna lot fy hun. |
| (1, 0) 799 | Yndi tad. |
| (1, 0) 877 | Ma na weatherspoons yn dre, ne os ddowch chi acw na'i wbath i chi. |
| (1, 0) 879 | Deffra twat! |
| (1, 0) 884 | Y? |
| (1, 0) 888 | Dwni'm os dio werth... |
| (1, 0) 890 | Doddna'm llythyr, na esboniad, heblaw am betha o'dd o'n sgwennu eniwe. |
| (1, 0) 891 | O'dd ei fam o'n confinsd fod rheiny'n wbath ond dodda nhw ddim, jesd sgwennu, ond fod 'na wreiddia go iawn iddo fo. |
| (1, 0) 892 | Ond gafo ni betha'n ôl, ei ddillad o a ballu. |
| (1, 0) 893 | Ac yn bocad ei drwsus o, rhoswch mae o gen i yn fy walat, dwnim pam, jesd, odd isio fo fod yn rwla saff. |
| (1, 0) 895 | Dyma ni. |
| (1, 0) 899 | Enwa a rhifa ffôn y pump ohona ni. |
| (1, 0) 900 | Ma'raid fod o di meddwl... ond ddath na'm byd o hynny. |