| (0, 3) 195 | Fy naturiol dad a'm brenin, |
| (0, 3) 196 | mae hyn i gyd yn erbyn |
| (0, 3) 197 | y pethau a ddylem ni eu gwneuthyd |
| (0, 3) 198 | er mwyn achub ein bywyd |
| (0, 3) 199 | a dirywstro ein dynion |
| (0, 3) 200 | a byw y modd y buom |
| (0, 3) 201 | a rhoddi Helen adre |
| (0, 3) 202 | i'r colledwr a'i pia — |
| (0, 3) 203 | er cael ohonom ein heddwch, |
| (0, 3) 204 | ein esmwythdra a'n diofalwch, |
| (0, 3) 205 | a gollwng y dieithriaid |
| (0, 3) 206 | 'rhyd yr un ffordd i fyned. |
| (0, 3) 213 | Meddyliwch chwi, o'ch synnwyr, |
| (0, 3) 214 | pes gorchfygem ni'r Groegwyr |
| (0, 3) 215 | nid oes dim i'w gaffael |
| (0, 3) 216 | ond Helen yn ein gafael; |
| (0, 3) 217 | ac nis gellid mo hynny |
| (0, 3) 218 | heb golli rhai o bobtu. |
| (0, 3) 225 | Dyna ennill gorchestol! |
| (0, 3) 226 | Cael argwlyddes annaturiol |
| (0, 3) 227 | a werthai ei gŵr priod |
| (0, 3) 228 | er mwyn dilyn pechod; |
| (0, 3) 229 | a ganlynai dieithriaid |
| (0, 3) 230 | a gwrthod y fan y'i ganed! |
| (0, 3) 231 | Ei meddwl yw oferedd, |
| (0, 3) 232 | ei bryd sy i gyd ar faswedd. |
| (0, 3) 233 | Nis gall na ddaw gwrthwyneb |
| (0, 3) 234 | o hir ddilyn godineb. |
| (0, 3) 235 | Fy meddwl a'm cyngor innau |
| (0, 3) 236 | yw rhoddi i bawb a ddylai. |
| (0, 3) 237 | ~ |
| (0, 3) 238 | Troelus, fy annwyl frawd, |
| (0, 3) 239 | na amddifynwch mo bechawd. |
| (0, 3) 287 | Fy arglwyddi, rhaid gwylied |
| (0, 3) 288 | rhag eich twyllo trwy ymddiried. |
| (0, 3) 345 | Perwch i'w thaflu |
| (0, 3) 346 | i bydew dyfndu, |
| (0, 3) 347 | Rhy lân yw y llosgi |
| (0, 3) 348 | am y fath ddrygioni. |