| (1, 1) 427 | 'Dydw i ddim yn eich styrbio chi, Mr. Defis? |
| (1, 1) 430 | Wedi dwad â'r llyfr yma'n ôl i Dilys rydw i. |
| (1, 1) 437 | O ia. |
| (1, 1) 440 | O mae'n debyg eich bod chi. |
| (1, 1) 441 | Gweithio'n Swyddfa'r Cyngor Dosbarth rydw i. |
| (1, 1) 445 | Wel ydi ma' hi. |
| (1, 1) 450 | Peidiwch â gadael i mi dorri ar eich sgwrs chi. |
| (1, 1) 461 | P'nawn da. |
| (1, 1) 463 | Maddeuwch i mi, Mr. Defis─mae yna olwg braidd yn ddigalon arnoch chi. |
| (1, 1) 464 | Oes yna rywbeth allan o'i le? |
| (1, 1) 467 | Tewch! |
| (1, 1) 468 | Mae'n ddrwg gen i glywed. |
| (1, 1) 469 | Oes dim posib cael neb i gymryd ei le fo? |
| (1, 1) 473 | Mi fuaswn i'n helpu tawn i'n medru. |
| (1, 1) 474 | Ond fuo fi 'rioed ar lwyfan. |
| (1, 1) 475 | Does gen i ddim syniad sut i actio. |
| (1, 1) 476 | Ydio'n bart mawr? |
| (1, 1) 479 | Meddwl roeddwn i, efalla' y buasech chi'n medru torri'r part allan. |
| (1, 1) 490 | Mae hi'n edrych yn o ddrwg felly, Mr. Defis. |
| (1, 1) 494 | Beth ydi'r mater ar Harri Huws, wyddoch chi? |
| (1, 1) 496 | A pha bryd mae'r perfformiad cynta'? |
| (1, 1) 498 | Wel dydi hi ddim yn anobeithiol felly; Mr. Defis. |
| (1, 1) 499 | Mae nhw'n medru gwneud gwyrthia' heddiw efo "Penicillin" ac "M and B" a'r cyffeiria' newydd yma. |
| (1, 1) 501 | Siwr o fod i chi. |
| (1, 1) 502 | Fydd o ddim wedi mendio'n llwyr wrth gwrs. |
| (1, 1) 503 | Ond mi ddylai fod yn ddigon da i gymryd ei bart am un noson. |