| (1, 1) 367 | Ydw', Mr. Morgan. |
| (1, 1) 368 | 'Does gen' i fawr o waith i' wneud yr wythnos yma—mae Mr. Jones ar ei wylia... |
| (1, 1) 369 | Aeth Lewis allan heddiw? |
| (1, 1) 373 | O doeddwn i ddim eisio iddo fo ddwad yma'n arbennig, Mr. Morgan. |
| (1, 1) 379 | Reid dda, diolch. |
| (1, 1) 380 | Mae'n dda gen' i'ch cyfarfod chi. {Ysgwyd llaw.} |
| (1, 1) 386 | Helo, Lewis. |
| (1, 1) 388 | Fuost di ddim yn dy waith heddiw? |
| (1, 1) 391 | Be'—wyt ti wedi dechra' ar dy wylia'n barod? |
| (1, 1) 394 | Wyt ti'n meddwl bod hynny'n beth doeth, Lewis? |
| (1, 1) 397 | Ond mae hynny drosodd 'rwan, Lewis. |
| (1, 1) 400 | Ond difaterwch ydy' hyn, nid rhyddid. |
| (1, 1) 401 | Beth am dy ddyfodol di? |
| (1, 1) 404 | Mi ydw' i'n siomedig iawn ynot ti, Lewis. |
| (1, 1) 406 | Ond wyt ti ddim yn gweld dy gamsyniad? |
| (1, 1) 407 | Mae gen' ti gyfrifoldeb, fel aelod o gymdeithas. |
| (1, 1) 408 | Fedri di mo'i daflu o i ffwrdd fel hen ddilledyn. |
| (1, 1) 421 | 'Rwyt ti'n gwneud drwg mawr i ti dy hun beth bynnag. |
| (1, 1) 439 | Mae 'run fath i ti ag i filoedd o hogia' eraill, Lewis. |
| (1, 1) 440 | 'Does yna neb yn gwarafun seibiant i ti. |
| (1, 1) 441 | Be' sy'n fy siomi i ydy' dy agwedd di at fywyd. |
| (1, 1) 443 | Dy hunan-dosturi a'th ddifaterwch. |
| (1, 1) 449 | Y ffaith am dani, Lewis, 'chymeri di mo dy feirniadu. |
| (1, 1) 450 | 'Rwyt ti wedi colli pob uchelgais i bob golwg. |
| (1, 1) 452 | Wel, edrych arnat dy hun. |
| (1, 1) 453 | Mi ddechreuaist ti 'studio at y gyfraith. |
| (1, 1) 454 | A dyma ti heddiw yn prynu a gwerthu ceir ail-law! |
| (1, 1) 456 | Nid dyna'r cwestiwn— |
| (1, 1) 458 | Nid arian ydy' popeth, Lewis. |
| (1, 1) 459 | A pheth arall—wyt ti'n siwr ei fod o'n arian gonest? |
| (1, 1) 461 | Dim ond rhywbeth glywais i am dy bartner di, |
| (1, 1) 464 | 'Does gan neb air da iawn iddo fo, coelia fi. |
| (1, 1) 465 | Hwyrach na wyddost ti mo hynny. |
| (1, 1) 466 | Ond da ti, bydd yn ofalus. |