| |
---|
|
Llyma y dioddefaint yngymraec ar englynion gair kyrch ynessa i gallwyd wrth ddysc a synwyr a dyallt ai droior llading ynghymraec ac llyma i dechrav ynhwy yn enw duw
|
Y kenadwr
|
1. Tewch ach siarad a gwrandewch am y chwedyl mawr meddyliwch hen ag ífaink yn ych sswydd ychware ich gwydd a welwch 2. Ssuddas dravtvr yn llawen gwerthodd Jessu heb amgen jr twsogion pena yn y tir yn wir er dec ar hvgaen 3. Jessu o nassreth daliasson y gwyr ar arfe krevlon hyd at anas essgob ffraeth mewn rwym kaeth anvonason 4. Negis ffelwn wr gorwlad drwy gael ysgorn a mokiad danvoned essgob anas at gayffas heb ddim kariad 5. Ssyr keyffas lle i denvonen j gynghorwyr mawr adwaenen danvonen at beilatvs ywchel ievstvs kaer sselen 6. Yw farnv yn varwol daith wrth ddefod ievstvs vnwaith am fod Jessu yn draetvr yn yn ddyn yn erbyn kyfraith 7. (Ssyr pilad jestys gwrol vn y arfe yrddasol aeth yw noyadd val i gwn y dydd hwn anrydeddol) 8. Jessu kyrchwyd geir i vron j edrych i weithredon ac erdolwyn y bobloedd tewch a gwrandewch i atebion
|
Syr Peilad
|
9. Rowch ych holl ddyallt chwi atavi jestvs peilad arglwiddi ychel ystad gwrandewch vi drwy vawr cariad 10. Kanys myfi ysydd yn dala r kledd o gyfiownder a mowredd dan ssissar brenin kadarn ac yn rroi barn brenhinedd 11. Ac am hyn idd wi yn gorchymyn ssirif a sserssiant danvn y ddwyn y kyrcharwyr ger vy mron j roi kyfreithie vddyn
|
Yr Iddew Kyntaf
|
12. Anrydeddvs yn ich kaid syr peilad jestys kadarn blaid dissmas dessmas barbas yssy yn van draetiriaid 12a. Chwchwi swyddwyr kyfraeth ffraeth ich pwer i mae penaeth gwybyddwch ar vyrr varny ar yr jessu o nasraeth
|
Yr Ail Iddew
|
12b. Kans meddyliodd grogin jaith a throi yn nasiwn ei kyfraith a thyny yn pobol oi gradd moeswch i ladd ar vnwaith
|
Y Trydydd Iddew
|
12c. I maen gwneythyr ymddiddanon in pobol gredyn ffyddlon ac yn dwedyd mai mab duw a brenin yw iddewon
|
Y iiij Iddew
|
12d. Nid ofne ef bregethy am hyn ir ym yw farny i vyrhav i hoedel ai oes ar y groen i derfyny
|
Syr Peilat
|
12e. Chwi r iddewon dowch garbron ar jessu rowch arwyddion a dangoswch ym i waith mi a rof ywch gyfraith inion 12f. Gwybyddwch ym llys varny wrth vraint gweryd a gally a gwybyddwch eto pam Rac roí kam varn ar jessu
|
Yr Iddew Ail
|
13. Gwrandewch ievstys arnomi ller ymi yn deisif ichwi heddiw yw yn pasc ywchel ddydd ynyd yw yn Rydd ini i dori
|
Syr Peilad
|
14. Pa draetyriaeth achosion o vlaen ystadawl ddynion a ellwchi brofi yn wir ar jessu o dir yr iddewon
|
Yr Iddew Kyntaf
|
15. Oni bai vod i traetyriaeth yn i veddwl traws Ryfeddaeth ni ddygesym fe yr awr hon gar bron ych arglwyddieth
|
Syr Peilad
|
16. Kymerwchi ef eilwaith dan ych power ar vnwaith a rhowchi y farn arno megis i bo ych kyfraith
|
Yr Ail Iddew
|
17. Nid yw gyfion i nyni wrth gyfraith ladd na llosgi na dwyn neb i gael angav ond kadarnhav kyfreithiav
|
Syr Peilad
|
18. Jessu o nassreth gair ymron kyfod dy law yn inion a dywaid wir wrthyfi wyd ti vrenin iddewon
|
Jessu
|
19. A wyd ti yn dywedyd hyn yn ffraeth wrth dy veddwl natyriaith pa vn ai kael gan arall val angall wybodaeth
|
Syr Peilad
|
20. Jessu gwrand o vatebion nid vy ngwaed i yw r iddewon dy bobyl ath gynhedlaeth yn ffraeth ath gyhyddason 21. Ac ymeddiant ith roeson dywaid ym eiriav inion ai brenin iddewon wyd ai nad wyd moes atebion
|
Jessu
|
22. Pei hanffwn i or wlad hon o rywogaeth iddewon vy ngwyssnaythwyr a ymladd kyn ím poynaer gwyr o radd 23. Or achos hyn níd wyvi o gynhedleth yrheni ac ni bv ingychwniad ich gwlad ni chefais barch ynddi
|
Syr Peilad
|
24. Er nad ydiw dy wreiddin or wlad yma nath veithrin mi a ddyweda chwedyl gwir mewn ryw dir ir wyd vrenin
|
Jessu
|
25. Ydd wyd ti yn y ddweydyd oth dafod yn ryw le yn vrenin vy mod j hyny j m ganed i ir tir a thi yn wir a gai wybod 26. Fy siwrnai a gymereis jr byd hwn penn imroddais j ddwyn tyst ar wirionedd nid balchedd a gymerais 27. Dal gida gwirionedd a chida baraint a rhinwedd ac yn wirion er i mwyn jr wyvi yn dwyn kynawd daiaredd
|
Syr Peilad
|
28. Gwelwch nad wyvi iddewon yn kael achos gyfreiddlon j dyly Jessu o nassreth ddwyn marvoleth grevlon
|
Yr Iddewon
|
29. Hyn yw yn kostwm ni gwrandewch bob pasc os gofynwch y gwr ssydd ei alw gar bron brenin iddewon kymerwch 30. Drwy lan gymod ac vrddas o chawn dravtvr i gael gras kymerwch jessu ichwi ni cheissiwni ond barabas
|
Syr Peilad
|
Myn mahownd yr iddewon cchi vynwch roi gwr gwirion j varfolaeth ar ysgroes er nad os dim achosion 32. Nid wyvi yn kael achosion j roi jessu yn gyfreithlon moeswch ym ddwr i molchi y mae r gwr yma yn wirion 33. Mi a molchais nid wi waeth vy nwylaw ei waedolaeth ni ellais i gydgordio na chytvno varfolaeth
|
Yr Iddewon
|
34. Nage gedwchi i waed efo arnomi an plant i ssyrthio a rowch veddwl ych penaeth a bernwch y varfolaeth
|
Syr Peilad
|
35. Er vy mod yn wr pena a bod yn Roi kyfraith arna y mae vo yn wr gwirion ar awr hon mi ai kadwa
|
Yr Iddewon
|
36. Nid ydychithe gowir ych rin j gyfraith ssisar yn brenin mae yn gwnvthyr tresswn heb gel ai alw yn vchel vrenin
|
Syr Peilad
|
37. Paham chwi gewch iddewon weled vy ngally krevlon dywevdwch ym ych myddyliav y gwblav ych wllysiav
|
Yr Iddewon
|
38. Peilatvs jestvs kadarnaf dan ssisar y gwr penaf y mae vo yn dywevdvd ffalstwr yw mae vo yw mab duw gorycha 39. Chwchi yssydd ievstvs geirwir ych kadarnhav yn gelwir pob dyn a wnel kamwedd maith wrth ych kyfraith i treir
|
Syr Peilad
|
40. Paham nad wyti yn traythv pa le ith enw di jessu mae imi yr vn a vynwy ym gradd ai dy ladd ai dy farnw
|