| Golygfa 8 daw pump person i eistedd yn y sêt fawr. |
|
| Arweinydd |
(Codi, troi a chyhoeddi.) Y Drefn. (Eistedd.) |
| Gwas Bach |
(Codi a sefyll ar ris isaf y pwlpud.) Gwas Bach. |
| Gwas Mawr |
(Codi a sefyll ar ris nesaf y pwlpud.) Gwas Mawr. |
| Mistir |
(Codi a sefyll ar ris nesaf y pwlpud.) Mistir. |
| Gŵr y Plas |
(Codi a sefyll ar ris nesaf y pwlpud.) Gŵr y Plas. Y Tirfeddiannwr. Y Sgweier – beth bynnag ry' chi am ei alw. |
| Mistir |
Nage, gyfaill. Beth bynnag mae e am i chi ei alw. |
| Gŵr y Plas |
'Syr', wrth reswm. |
| Arweinydd |
Ac ar y brig. |
| Gŵr y Plas |
Ar gopa'r mynydd. |
| Gwas Bach |
Ar ben y domen... |
| Yr arweinydd yn esgyn i'r pwlpud... |
|
| Arweinydd |
Y Brenin. |
| Gŵr y Plas |
(Yn ei gywiro.) Y Frenhiniaeth. (Pawb.) Y Sefydliad. |
| Gŵr y Plas yn eistedd mewn cadair seml-urddasol. Yr Arweinydd, y Mistir, y Gwas Mawr a'r Gwas Bach yn ei godi yn ei gadair i'w hysgwyddau. |
|
| Gŵr y Plas |
For King and Country! |
| Y Pedwar |
For King and Country! |
| Gŵr y Plas |
For King and Country! |
| Y Pedwar |
For King and Country! |
| Gŵr y Plas |
Dros ein brenin, dros ein gwlad! |
| Y Pedwar |
Dros ein brenin, dros ein gwlad! |