| Y gerddoriaeth yn uchel iawn. Mae ALUN yn codi'r caead oddi ar y tun 'Quality Street' yn araf a pharchus. Yn yr un ffordd, mae'n codi'r eitem sydd y tu mewn i'r tun: sffêr wen. Dyma LEIA. Mae ALUN yn codi LEIA i'r awyr yn ddefodol, cyn ei rhoi i orffwys ar y bwrdd coffi. Y gerddoriaeth yn diffodd. |
|
| Han |
Alien? |
| Alun |
Ie. |
| Han |
Really? |
| Alun |
O fath. |
| Han |
Fel E.T.? |
| Alun |
Ddim fel E.T. |
| Han |
Sai'n deall. |
| Alun |
Deall beth? |
| Han |
Alien... |
| Alun |
Ie. |
| Han |
Alien? |
| Alun |
Alien. |
| Han |
Alien yw hwnna? |
| Alun |
Sawl gwaith wyt ti eisiau dweud 'alien'? |
| Han |
Ond... |
| Alun |
Ond? |
| Han |
Pêl. Pêl yw hwnna. |
| Alun |
Nage. |
| Han |
Iege. |
| Alun |
Dyw iege ddim yn air. |
| Han |
Dyw aliens ddim yn bodoli. |
| Alun |
Ydyn. |
| Han |
Nadyn. |
| Alun |
Unwaith eto, does dim shwd air â nadyn. |
| Han |
Unwaith eto, does dim shwd beth ag aliens. |
| Alun |
Beth, 'te? |
| Han |
Pêl. |
| Alun |
Pa fath o bêl? Wyt ti wedi gweld pêl fel hyn o'r blaen? |
| Han |
Na. |
| Alun |
Wel dyna ni. |
| Han |
O le ges di fe? |
| Alun |
Hi. |
| Han |
Beth? |
| Alun |
Hi. 'Hi' yw'r bêl. |
| Han |
Pêl! |
| Alun |
Na. Na, Alien. 'Hi' yw'r alien. |
| Han |
Sut wyt ti'n gwbod? Ble ma'r vagina? |
| Alun |
Oh my god. |
| Han |
Beth yw e really, Alun? |
| Alun |
Rydw i wedi dweud – |
| Han |
Come on. Bydda'n onest. |
| Alun |
Jyst gwranda – |
| Han |
Rhyw weird sex toy? |
| Alun |
Pod. |
| Han |
Pod? |
| Alun |
O'n i'n cerdded trwy'r parc pan ddes i o hyd iddi. |
| Han |
Na. |
| Alun |
Ie. |
| Han |
Felly wnes di godi'r peth 'ma o'r llawr? |
| Alun |
Curiosity. |
| Han |
Beth os yw e'n beryglus? |
| Alun |
Hi. Dyw hi ddim yn beryglus. |
| Han |
Sut wyt ti'n gwbod? |
| Alun |
Rydw i'n gwybod. |
| Han |
Falle taw bomb yw e. |
| Alun |
Hi. Wyt ti wedi gweld bomb fel hyn o'r blaen? |
| Han |
Pwy sy'n gwbod pa fath o shit 'ma Isis yn iwso dyddie 'ma. |
| Alun |
Nid bomb yw hi. |
| Han |
Nid 'hi' yw hi. Peth. Gwrthrych. |
| Alun |
Na, mae hi'n fyw. |
| Han |
Sut yn union wyt ti'n gwbod bod y bêl 'ma'n fyw? |
| Alun |
Rydw i'n gwybod. |
| Han |
Ac yn gwbod hefyd mai 'hi' yw'r peth 'ma? Sut wyt ti'n gwbod hyn i gyd? |
| Alun |
Hi ddywedodd. |
| Saib. |
|
| Han |
Hi... ddywedodd? |
| Alun |
Ie. |
| Han |
Mae hi'n siarad 'da ti? |
| Alun |
Eglurodd Leia bopeth. |
| Han |
Leia. Dyna'i henw hi? Really? |
| Alun |
Fi roddodd yr enw iddi. Doedd ganddi ddim enw dynol – |
| Han |
Wilson syndrome. |
| Alun |
Wilson beth? |
| Han |
Y bêl. Yn y ffilm Castaway. Wyt ti 'di tynnu llun gwyneb ar yr ochr arall? |
| Alun |
Sai 'di gweld Castaway. |
| Han |
Fi'n gwbod bod ti'n unig, Alun, ond – |
| Alun |
Unig? Sut wyt ti'n gwybod os ydw i'n unig? |
| Han |
Ti 'di treulio dyddie'n begio i mi beidio â symud. |
| Alun |
Na. |
| Han |
Wyt. |
| Alun |
Pam wyt ti'n dal i fod 'ma, 'te? |
| Han |
Gwed ti. |
| Alun |
Cer nôl at Luke. |
| Han |
Danfona fi nôl at Luke. |
| Alun |
Beth? |
| Han |
Ti sy'n ysgrifennu hwn, ontefe? |
| Alun |
Sai'n deall. |
| Han |
Ffuglen. Cymeriadau yn dy ddrama. |
| Alun |
Na, ma' Leia'n real. Mae hyn i gyd yn real. |
| Han |
Profa fe. |
| Alun |
Profi beth? |
| Han |
Profa fod Leia'n real. Deffra hi. Ife 'na beth ti'n 'neud? Deffro'r alien? |
| Alun |
Pod. Pod gyfathrebu. |
| Han |
O le? |
| Alun |
Ochr arall y bydysawd. |
| Han |
Bangor? |
| Alun |
Solar system arall ar ochr draw'r bydysawd. |
| Han |
Gad i fi a hi sgwrsio. |
| Alun |
Fydd hi ddim yn siarad â ti. |
| Han |
Pam? |
| Alun |
Achos bod ti'n grac. |
| Han |
Fi ddim. |
| Alun |
Ti'n aggresive iawn ar hyn o bryd. |
| Han |
Nadw. |
| Alun |
Wyt. |
| Han |
Na. |
| Alun |
Wyt. |
| Han |
Fi ddim yn fucking aggresive! |
| Saib. |
|
| Han |
Plîs, Alun. Beth sy'n mynd 'mlan? |
| Alun |
Rydw i'n ceisio egluro. |
| Han |
Na. Mewn gwirionedd. |
| Alun |
O'n i'n gwybod na fyddet ti'n credu... |
| Han |
Ti'n creu stwff, Alun. Ma' dy ddychymyg di'n mynd yn wyllt. |
| Alun |
Doeddet ti ddim yn barod. |
| Han |
Barod am beth? |
| Alun |
Am y gwir. Mae'r dynol ryw yn dueddol o fod yn gaeedig – |
| Han |
Dynol ryw? Shut up, Alun. |
| Alun |
Fi ond yn dweud y gwir. |
| Han |
Mae angen help... |
| Alun |
Mae ein byd ni'n fach. Mae yna gymaint sydd eto i'w ddarganfod... |
| Han |
O'n i ddim yn sylweddoli bod ti fel hyn. |
| Alun |
Gymaint allan yn y bydysawd. |
| Han |
Mi ffonia i'r doctor yn y bore. Trefnu therapist neu rywbeth. |
| Alun |
Does dim angen. |
| Han |
Sori... |
| Alun |
Beth? |
| Han |
Fi'n sori. |
| Alun |
Am beth? |
| Han |
Ma' marwolaeth Mam wedi bwrw ti'n galetach nag o'n i'n meddwl. Dim ond nawr fi'n sylweddoli. |
| Alun |
Does gan hyn ddim i wneud â Mam. |
| Han |
Seriously, Alun... |
| Alun |
Paid dod â Mam mewn i hyn. |
| Han |
Alun... |
| Alun |
Ti fel pawb arall. Neb yn deall. Neb yn stopio i ddeall a gwrando. Jyst barnu. Beirniadu. Mae'n hawdd i feirniadu, on'd yw e, Hanna? Yn haws na gorfod gwrando a trio deall a trio helpu. Rwyt ti'n union fel pawb arall. Yn union fel yr idiots eraill sy'n nodio a gwenu a beirniadu a ddim yn becso damn amdana i. |
| Mae HAN yn mynd i adael. |
|
| Alun |
Ble wyt ti'n mynd? |
| Han |
Mas. |
| Alun |
I le? |
| Han |
I glirio 'mhen. |
| Alun |
Ble? |
| Han |
Tesco Metros. Ma' ishe lla'th. |
| Alun |
Beth am Leia? |
| Han |
Ffonia i rywun yn y bore. |
| Alun |
Na, nid dyna – |
| Mae HAN wedi gadael. Saib. |
|
| Alun |
(I LEIA.) Mi ddywedais i. Doedd hi ddim yn barod. |
| Saib. |
|
| Alun |
Wyt ti'n clywed? |
| Saib. |
|
| Alun |
Gormod o wybodaeth newydd ar unwaith. Dyna'n union beth ddychmygais i fyddai'n digwydd. Does dim angen llaeth. Esgus i fynd allan. 'Na'i gyd. Mae semi skimmed milk yn fwy o atyniad na bywyd o blaned arall. Familiarity. Dyna'n union ddywedais i, ontefe? Wyt ti yna? |
| Saib. |
|
| Alun |
Mae hi wedi mynd nawr. Mae hi wedi ffoi. |
| Saib. |
|
| Alun |
Wyt ti'n grac? Wyt ti'n grac gyda fi am dy ddangos di i Han? Dwed. Dwed wrtha i os wyt ti. |
| Saib. |
|
| Alun |
Gwranda... Wyt ti yna? |
| Saib. |
|
| Alun |
Wyt ti yna, Leia? |
| Leia |
Rydw i yma, Alun. |
| Tywyllwch. Cerddoriaeth. |