| Y gerddoriaeth yn uchel iawn. Mae ALUN a HAN wedi meddwi. Mae gan HAN bentwr o wydrau shot plastig a photel o Tequila. Mae hi'n arllwys shot o Tequila yr un iddynt. |
|
| Han |
Un, dau, tri... |
| Mae'r ddau yn yfed. Mae HAN ar fin arllwys eto. |
|
| Alun |
Stop! |
| Han |
Beth? |
| Alun |
Stop. |
| Han |
P... pam? |
| Alun |
Achos. |
| Han |
Achos? |
| Alun |
Achos. |
| Han |
Achos. |
| Alun |
'Drych. |
| Mae ALUN yn cyfeirio at y gynulleidfa. |
|
| Alun |
'Drych. |
| Mae HAN yn chwerthin. |
|
| Han |
'Drycha arnyn nhw. |
| Alun |
(I'r gynulleidfa.) Helooooo! |
| Han |
Good looking! |
| Alun |
Ti'n galw fi'n g... good looking? |
| Han |
Nagw. Nagw. Na... nagw. |
| Alun |
Strangely attractive, falle... |
| Han |
(Yn cyfeirio at y gynulleidfa.) Na, nhw. |
| Alun |
Nhw? |
| Han |
Nhw. |
| Mae HAN yn chwerthin. Mae ALUN yn chwerthin. |
|
| Alun |
Helooooo! |
| Han |
Shots! |
| Alun |
Nhw? |
| Han |
Ie. I... ie. |
| Alun |
Shots! |
| Mae ALUN yn cymryd y pentwr o wydrau shot ac yn dechrau eu dosbarthu i'r gynulleidfa. Mae HAN yn dilyn gyda'r botel o Tequila ac yn llanw'r gwydrau. Y ddau'n gofyn i'r aelodau o'r gynulleidfa sydd â shot i beidio ag yfed eto. Pan mae'r shots wedi'u dosbarthu, mae ALUN a HAN yn cymryd un hefyd. |
|
| Han |
Reit. Reit. Shhhhh... |
| Mae hi'n cyfeirio at y rheolwr llwyfan i ddiffodd y gerddoriaeth. Y gerddoriaeth yn dod i ben. |
|
| Han |
Ok. Ok. Ok. |
| Alun |
Ok. Ma' hwn yn cool. |
| Han |
Ok. Shhh. Shhh. Ok? Ar ôl tri. |
| Alun |
Un, dau – |
| Han |
Na, fi sy'n 'neud. |
| Alun |
Na. |
| Han |
Ie. |
| Alun |
Ok. |
| Han |
Exactly. |
| Alun |
Exactly. |
| Han |
Barod? Barod? Shhh. Barod? |
| Alun |
Barod. |
| Han |
Un, dau, tri... go! |
| Y ddau yn yfed. Y gynulleidfa'n yfed hefyd gobeithio – ALUN a HAN yn annog, efallai. |
|
| Han |
(Yn gweiddi-canu.) Lawr y lôn goch! Lawr y lôn goch! |
| Alun |
Hang on! |
| Han |
Beth? |
| Alun |
Hang on. |
| Han |
Ie. Beth? |
| Alun |
Rydw i... |
| Han |
Ie...? |
| Alun |
Rydw... |
| Han |
Ie...? |
| Alun |
Fi'n mynd i fod yn sick. |
| Han |
Naaaa... |
| Mae ALUN yn chwydu. Mae HAN yn cwympo i'r llawr yn chwerthin. |
|
| Alun |
Paid. Paid chwerthin. |
| Mae HAN, sydd yn dal i chwerthin, yn gafael mewn gwydraid o ddŵr. |
|
| Alun |
Cau dy ben. Fi'n sâl. Fi'n – |
| Mae ALUN yn chwydu eto. Mae HAN yn rhoi'r gwydraid ar y bwrdd coffi. |
|
| Alun |
Coaster! Rho fe ar y fucking coaster! |
| Mae HAN yn gwneud. |
|
| Alun |
Beth sy'n anodd am roi drink ar coaster? Seriously. Na. Na. Seriously. Beth sy'n anodd amdano fe? |
| Mae ALUN yn mynd at y bwrdd coffi. |
|
| Alun |
Fi aleidalodd hwnna. Fi al... alei... buildodd y bwrdd 'na. Nornäs. Ti'n deall? Swedish. Nornäs. Mae'n meddwl 'beautiful'. |
| Han |
Yw e? |
| Alun |
Na. Ond y point yw mai fi greodd y Nornäs 'na. My own sweat and blood. Ti'n gweld? Felly mae angen parch. "Respect the Nornäs. Appreciate the Nornäs. Use a coaster." Ti'n deall? |
| Han |
Ti'n really feddw. |
| Alun |
Shut up. Nawr gwed e. |
| Han |
Dweud beth? |
| Alun |
Dwi'n caru'r Nornäs. |
| Han |
Dwi'n caru'r Nornäs. |
| Alun |
Eto. |
| Han |
Dwi'n caru'r Nornäs. |
| Alun |
Yn uwch. |
| Han |
Dwi'n caru'r Nornäs. |
| Alun |
(I'r gynulleidfa.) Gwedwch e! |
| Mae ALUN yn parhau fel hyn nes bod y gynulleidfa'n ymateb. |
|
| Alun |
Yn uwch! |
| Y gynulleidfa'n ymateb. |
|
| Alun |
Uwch! |
| Y gynulleidfa'n ymateb. |
|
| Alun |
Good! So beth 'yn ni wedi dysgu? Han? |
| Han |
Love the Nornäs. |
| Alun |
Ac os wyt ti'n caru'r Nornäs, beth wyt ti'n ddefnyddio? |
| Han |
Coaster. |
| Alun |
Eto. |
| Han |
Coaster. |
| Alun |
Good. |
| Mae ALUN yn cwympo i'r soffa. Saib. |
|
| Han |
Fi'n teimlo'n guilty. |
| Alun |
Fel dylet ti. |
| Han |
Na, ddim am y coaster. |
| Alun |
O. |
| Han |
Am Mam. |
| Alun |
Mam? |
| Han |
Achos bod ni'n mwynhau. |
| Alun |
Yn euog? |
| Han |
Am ein bod ni'n joio a Mam wedi mynd. |
| Alun |
Mae'n teimlo'n annaturiol. Od. |
| Han |
Ie. |
| Alun |
Fel nad oes gan bobol sy'n galaru hawl i fwynhau. |
| Han |
Er na fydde Mam ishe i ni fod yn ddiflas. |
| Alun |
Gwir. |
| Han |
Mi fydde Mam ishe i ni gario 'mlan. |
| Alun |
Ie. Fi'n credu. |
| Han |
Dim doubt. Ond fi'n dal i deimlo'n ofnadw' o euog. |
| Alun |
Capel. |
| Han |
Beth? |
| Alun |
Capel sydd wedi gwneud i ni deimlo fel 'na. Magwraeth capel. |
| Han |
Ti'n meddwl? |
| Alun |
Ma' ysgol Sul yn magu euogrwydd. |
| Han |
Beth? |
| Alun |
Euogrwydd yw sail crefydd. |
| Han |
Na. |
| Alun |
Mae'n bwydo ar euogrwydd. |
| Han |
Ti'n siarad nonsens. |
| Alun |
Nac ydw. |
| Han |
Wyt. |
| Alun |
Falle. |
| Han |
Yn bendant. |
| Alun |
Ti'n meddwl? |
| Han |
Y galar sy'n gwneud i ni deimlo'n euog. |
| Alun |
Galaru? |
| Han |
Ma'r galar yn diffodd rheswm. |
| Alun |
Yr alcohol sy'n diffodd rheswm. |
| Han |
Rationality. Ti'n gwbod? |
| Alun |
Rationality. |
| Han |
Does dim byd rational am farwolaeth. Ma' galaru yn dod ag emosiynau rhyfedd mas mewn pobol. |
| Alun |
Ma' Tequila'n dod ag emosiynau rhyfedd allan mewn pobol hefyd. |
| Han |
Serious. Gwranda. |
| Alun |
Fi yn gwrando. |
| Han |
Dyna'r rheswm dros yr euogrwydd. Mae'n anodd egluro achos dyw'r euogrwydd ddim yn rational. |
| Alun |
Psych... ti fel psycho... whatever. |
| Han |
Ni'n teimlo pethe' od. Pethe sy fel arfer yn annaturiol yn y sefyllfa. |
| Alun |
Fi ishe watcho Jeremy Kyle. |
| Han |
Gweld... annaturiol! |
| Alun |
Hang on... |
| Mae ALUN mynd ati i droi'r teledu ymlaen. |
|
| Han |
Sai'n credu bod Jeremy Kyle 'mlan nawr. |
| Alun |
Repeats. Ma' nhw'n dangos repeats yn y nos. |
| Han |
Pam wyt ti ishe gweld Jeremy Kyle, anyway? |
| Alun |
Achos... |
| Han |
Ie...? |
| Alun |
Achos... |
| Han |
Achos beth? |
| Alun |
Dim syniad. Fi'n casáu Jeremy Kyle. |
| Han |
Idiot. |
| Mae HAN yn ymddangos ar 'Skype'. Unwaith eto, mae ALUN wedi ei ddal rhwng yr HAN ar y llwyfan a'r HAN ar y sgrin. |
|
| Han |
(Ar y sgrin.) Sai byth yn galw ti'n idiot. Pam rhoi hwnna mewn? |
| Alun |
Ffuglen. Dyw e ddim yn real. |
| Han |
Beth? Hwn? |
| Alun |
Jeremy Kyle. |
| Han |
(Ar y sgrin.) Ma'r olygfa meddwi ti 'di danfon draw yn bizarre hefyd... |
| Alun |
Fi'n siŵr bod y Jeremy Kyle Show yn scripted. Drama wedi'i seilio ar ryw fath o realiti. |
| Han |
(Ar y sgrin.) Yr holl beth. |
| Alun |
Mae'r gwir yna yn rhywle, ond mae'n anodd gweld lle mae'r ffuglen a'r ffaith yn cwrdd. |
| Han |
(Ar y sgrin.) Fi ddim yn hoffi'r audience interaction ar ddechrau'r olygfa chwaith. Mae'n teimlo'n forced. Alun... (Ar y sgrin.) Sai ishe bod yn negatif ond... Pam ydw i dal 'ma? (Ar y sgrin.) Constructive criticism. |
| Alun |
(I'r gynulleidfa.) Pam mae hi dal yma? |
| Han |
(Ar y sgrin.) Seriously, s'neb yn lico audience interaction. Yn enwedig cynulleidfaoedd Cymraeg. Bydd raid i ti gael gwared o'r stwff 'da'r alcohol. |
| Alun |
Pam? |
| Han |
(Ar y sgrin.) Sai'n credu bod neb yn mynd i yfed shots yn y theatr. Mae'n weird. Dim ond weirdos fydde'n 'neud e. |
| Alun |
(I'r tun 'Quality Street'.) Pam mae hi'n dal i fod 'ma? |
| Han |
(Ar y sgrin.) A'r tun. 'Da pwy wyt ti'n siarad? (Ar y sgrin.) Mae'n hen bryd i ti agor y tun. Alun? (Ar y sgrin.) Ti 'di cadw'r dirgelwch yn ddigon hir. 'Da pwy wyt ti'n siarad, Alun? Beth sydd yn y tun? (Ar y sgrin.) Pryd wyt ti'n mynd i ddatgelu cynnwys y tun? |
| Alun |
Leia. |
| Han |
Leia? (Ar y sgrin.) Ma'r gynulleidfa wedi aros digon. 'Da Leia wyt ti'n siarad? (Ar y sgrin.) Come on... Neu Leia sydd yn y tun? (Ar y sgrin.) Put them out of their misery. Ti'n gwrando? (Ar y sgrin.) Ti'n clywed? |
| Alun |
Y ddau. |
| Han |
Beth? |
| Alun |
Rwy'n siarad â Leia. Leia sydd yn y tun. |
| Han |
(Ar y sgrin.) Jyst agora fe. Sai'n deall. |
| Alun |
Mae angen i mi egluro. |
| Han |
(Ar y sgrin.) Agora fe. Egluro beth? |
| Alun |
Mae'n gymhleth. |
| Han |
(Ar y sgrin.) Agora fe. |
| Alun |
Gad i fi – |
| Han |
Alun... (Ar y sgrin.) Agora'r blydi tun! |
| Alun |
Fine! Fine... ok... |
| Yn ofalus, mae ALUN yn codi'r caead oddi ar y tun. Mae HAN yn edrych i mewn. |
|
| Han |
Beth yn y byd...? |