|  |  | 
|---|
| 
 
 | Mae PETER yn gafael am ANNE ac yn edrych am allan drwy ffenest yr atig. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Gwena! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Mi ydw i! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Nagwyt! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ddyliwn i fynd nol lawr. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ddim eto! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be am dy fam? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ffysian ma hi. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Pam wyt ti isio mi wenu o hyd? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ma'n y ngneud i'n hapus. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Gafael yn dynn. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Del wyt ti! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Nachdw! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Wyt Anne! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be sy'n ddel amdana i? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Bob dim! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Y'n llygid i? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ia! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be arall? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Dy ddimpyls di! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Does gynna i'm dimpyls! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Oes wrth ti wenu! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ma hynna'n hyll! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Fydda i'n meddwl amdana ti bob nos. 
 
 | 
| Anne 
 
 | A finna! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Fysa ni… efo'n gilydd… tasa ni'm yn fama? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Cydia'n dynn! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Diolch Anne. 
 
 |