| (Lisa) Ia? | |
| (Arwel) Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla... | |
| (1, 0) 106 | O'n i'n gobeithio sa ti yma, ti'n cadw'n iawn? |
| (Arwel) Eitha de. | |
| (Lisa) Lisa. | |
| (1, 0) 116 | Ywain. |
| (Arwel) Ac Arwel dwi, dwi'n meddwl fod pawb yma yndi? | |
| (Megan) Fydd rhaid i mi fynd, fedrai'm yfed, gen i gar... | |
| (1, 0) 127 | Rosa i Tanci. |
| (Lisa) A fi, gwylnos de. | |
| (Lisa) Cofn i'r diafol fynd â nhw, ne rhag ofn bo nhw'n fyw. | |
| (1, 0) 134 | Ffwc o beth di ca'l dy gladdu'n fyw. |
| (Lisa) Nain o'dd yn sôn, ac am olchi'r corff a ballu, a sut bydda nhw'n gneud sŵn weithia. | |
| (Lisa) Dwi'n gêm. | |
| (1, 0) 150 | Un sesh eto de. |
| (Aaron) Fedra i aros hefyd, masiwr, am sbel. | |
| (Aaron) Sa signal 'ma? | |
| (1, 0) 158 | Ar pwy wyt ti mêt? |
| (Aaron) Foda. | |
| (Aaron) Foda. | |
| (1, 0) 160 | Rhaid ti fynd allan, os ei di lawr stryd de, at y bont, gin ti jans go lew yn fa'no. |
| (Aaron) Oce, diolch, fyddai'm yn hir gobeithio. | |
| (Megan) Be am dana chdi Owain? | |
| (1, 0) 172 | Cefndar, a nabod o eniwe lly, odda ni'n yr un criw yn r'ysgol hefyd, ond adewish i yn sicstîn, nath o ddal ati. |
| (1, 0) 174 | O'dd 'i fam o mor falch pan a'th o i coleg, cynta o'r teulu. |
| (1, 0) 175 | Heblaw am mrawd na'th sports science am bwl ond dodd hynny'm yn cyfri. |
| (1, 0) 176 | Digri efo gafal ynddo fo, o'dd o'n gneud wbath wan fyd doedd? |
| (Megan) PhD rhan amsar. | |
| (Megan) PhD rhan amsar. | |
| (1, 0) 178 | Cinhel ia? |
| (1, 0) 179 | O'dd mam 'di sôn wbath. |
| (Lisa) Doni'm yn gwbod, be o'dd y pwnc? | |
| (Arwel) A chitha fyd. | |
| (1, 0) 187 | Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc? |
| (Arwel) O'n, rhyw fardd ne wbath ia? | |
| (Arwel) Hold on rwan, rosa ni i Aaron ia? | |
| (1, 0) 191 | Mond i ben bont o'dd isio fo fynd. |
| (1, 0) 192 | Ti'n siŵr na chymri di ddim Megan? |
| (Megan) Na, gyrru. | |
| (Arwel) Dwi'n dallt dim am betha fel'na. | |
| (1, 0) 204 | Na finna chwaith, dwi'm isio deud gwir, lol posh uffar. |
| (Lisa) Posh/ | |
| (Arwel) Da iawn, reit. | |
| (1, 0) 212 | Be dduda ni? |
| (Arwel) Er cof dwi'n meddwl. | |
| (Lisa) Be nawn ni wan? | |
| (1, 0) 220 | O'dd o'n wahanol doedd. |
| (Arwel) M. | |
| (Lisa) Deud ti 'tha ni. | |
| (1, 0) 224 | Dwnim, meddwl de, ia? |
| (Arwel) Ia, o'dd o'n meddwl am betha ac yn deud rhyw betha doedd. | |
| (Megan) O'dd o'n gleniach na lot. | |
| (1, 0) 232 | Oedd mi oedd o'n glên, dda iawn efo'i fam. |
| (Lisa) Doni'm yn weld o'n od fatha chi. | |
| (Arwel) Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di. | |
| (1, 0) 242 | O'dd o bach yn od. |
| (Arwel) Ffyc sêc. | |
| (Arwel) Ffyc sêc. | |
| (1, 0) 244 | Ddim mewn ffordd ddrwg. |
| (1, 0) 245 | Ond pan odda ni'n blant, dwnim. |
| (Arwel) Thalith hi ddim i siarad fel'ma. | |
| (Lisa) Sut ddigwyddodd o? | |
| (1, 0) 258 | Ffycin hel di hynna'm yn iawn, holi cwestiwn fel'na. |
| (Lisa) Pam, dwi'n ddigwilydd am mod i isio gwbod sut nath ffrind i mi ladd ei hun yndw? | |
| (Arwel) A dyma fi i'r iard a fano oedd hi yn dal y ffôn yn sbio arno fo. | |
| (1, 0) 292 | Tŷ gwair o'dd o medda chdi. |
| (Arwel) Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly. | |
| (Megan) Doni'm yn gwbod fod o. | |
| (1, 0) 313 | Na fina chwaith rili. |
| (Arwel) Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic. | |
| (Arwel) Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic. | |
| (1, 0) 316 | Soniodd neb 'tha i. |
| (Arwel) Odda chdi'n gwbod nad o'dd o'n iawn fyd. | |
| (Arwel) Sut fedra ti beidio. | |
| (1, 0) 319 | Ia ond, nes i 'rioed... |
| (Lisa) Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo... | |
| (Arwel) Ma' 'na soffa, ma' 'na gadeiria, carpad faint fynnir. | |
| (1, 0) 336 | Be gymri di? |
| (Megan) Mai'n win ne'n rym. | |
| (Megan) Siop Magi Ann? | |
| (1, 0) 342 | Yr OmniSaver ma'n feddwl. |
| (Arwel) Be? | |
| (Arwel) A ma'n bwysig cadw'r petha ma. | |
| (1, 0) 350 | Hen gont oddi. |
| (Arwel) Sut wydda ti? | |
| (Arwel) Sut wydda ti? | |
| (1, 0) 352 | Pawb yn sôn, golwg 'tha bo hi di ista ar ddildo weiran bigog arni hi, dyna fydda taid yn ddeud. |
| (Megan) Ffycin hel Owain. | |
| (Megan) Ffycin hel Owain. | |
| (1, 0) 354 | Taid ddudodd ddim fi, a OmniSaver 'di hi rwan efo bîns own brand a congol i bobol pen yma werthu moron cam a wya' efo cachu arnyn nhw. |
| (1, 0) 355 | Llanast de. |
| (Aaron) Diolchwch fod ganddoch chi siop o gwbwl. | |
| (Aaron) Diolchwch fod ganddoch chi siop o gwbwl. | |
| (1, 0) 357 | A ma'r siop jips yn siop gebabs. |
| (Arwel) Ei di yno'r un fath. | |
| (Arwel) Ei di yno'r un fath. | |
| (1, 0) 359 | Sgin i fawr o ffycin ddewis nagos! |
| (1, 0) 360 | 'Di mam ddim yn gneud swpar ar nos Wenar. |
| (Arwel) O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... / | |
| (Arwel) A ma'nwn gneud, y, ffish a chips r'un fath. | |
| (1, 0) 372 | Dio'm r'un fath. |
| (Arwel) Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio. | |
| (Arwel) Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio. | |
| (1, 0) 374 | Nace. |
| (Arwel) Garantîd. | |
| (Arwel) Garantîd. | |
| (1, 0) 376 | Di'r, peth, di'r sgodyn ddim r'un fath. |
| (Aaron) Be'dio Goldffish? | |
| (Aaron) Be'dio Goldffish? | |
| (1, 0) 378 | Y ffycin batyr de coc oen! |
| (1, 0) 379 | Dio'm cin neisiad, a ma'r chips yn deneuach, chips pacad. |
| (Arwel) Gwranda/ | |
| (Arwel) Gwranda/ | |
| (1, 0) 381 | /a'r pys, di'r pys ddim r'un fath, o dunia ma' nhw'n dŵad. |
| (Arwel) Sut wyddost ti? | |
| (Arwel) Sut wyddost ti? | |
| (1, 0) 383 | Achos ma nhw fatha ffycin pys tun! |
| (1, 0) 384 | Dio ddim r'un fath! |
| (Arwel) Ma'n ddigon agos. | |
| (Arwel) Ma'n ddigon agos. | |
| (1, 0) 387 | Nacdi! |
| (Arwel) Wel yndi! | |
| (Arwel) Ma'n iawn. | |
| (1, 0) 390 | Nacdi! |
| (Arwel) O pam Sbic? | |
| (Arwel) O pam Sbic? | |
| (1, 0) 392 | Achos na ffycin pacis 'dy nhw! |
| (Lisa) Be? | |
| (Arwel) Chei di'm deud petha fel'na Sbic. | |
| (1, 0) 402 | Pam? |
| (Lisa) Achos ma'n ffycin hiliol! | |
| (Lisa) Achos ma'n ffycin hiliol! | |
| (1, 0) 404 | Dwi'm yn rêsist! |
| (Lisa) Wyt os ti'n iwsio geiria felna! | |
| (Lisa) Wyt os ti'n iwsio geiria felna! | |
| (1, 0) 406 | Ond dyna ydyn nhw! |
| (Arwel) Dodd o'm yn meddwl dim byd wrth ddeud/ | |
| (Megan) /Dwi'm yn meddwl na dyna o'dd o'n/ | |
| (1, 0) 410 | /Dwi'n mynd am ffag. |
| (Arwel) A'i ar ei ôl o. | |
| (Arwel) Ma' gin Ywain wbath i ddeud. | |
| (1, 0) 471 | Dwi'n sori am weiddi'r petha 'na, ac am ddeud y gair 'na, dio'm yn un ddylia fod neb yn iwsio. |
| (1, 0) 472 | Es i i hwylia a ma'i 'di bod yn gont o wsos. |
| (Aaron) Ma'i 'di bod yn wsos anodd. | |
| (Lisa) Do. | |
| (1, 0) 477 | Sori. |
| (1, 0) 478 | Dwi'm i fod i deimlo felma, dio'm yn iawn. |
| (Aaron) Ma'n naturiol siŵr. | |
| (Arwel) Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn. | |
| (1, 0) 484 | Na, dio ddim yn iawn. |
| (1, 0) 485 | Odda ni'n ffrindia, yn ffrindia gora, mots be ddudi di Arwel, ni o'dd y dybyl act, ni o'dd y ffrindia gora/ |
| (Arwel) /Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/ | |
| (Arwel) /Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/ | |
| (1, 0) 487 | /Ella bod hi i fi. |
| (1, 0) 488 | Ar y pryd, ella'i bod hi. |
| (1, 0) 489 | O'dd gin ti frodyr a chwiorydd doedd, ffrindia erill, fo o'dd y mrawd i a'n ffrind gora fi. |
| (1, 0) 490 | Jesd gadwch fi ddeud hyn plîs. |
| (1, 0) 491 | Odda ni'n gneud bob dim efo'n gilydd, ma'r rhes o gerrig rotho ni'n r'afon rhyw ha' pan odda ni tua deuddag dal yna. |
| (1, 0) 492 | Gin i graith ar y nghoes lle frifish i efo beic a mi nath o gario fi adra, a fethish i... |
| (Arwel) Yws/ | |
| (Arwel) Yws/ | |
| (1, 0) 495 | /Dwi'm 'di gorffan eto. |
| (1, 0) 497 | O'n i'n disgwl y basa petha'n newid chydig wrth i fi adal ysgol ond odda ni'n dal i fynd i dai'n gilydd a wedyn mynd allan a ballu ac yn ca'l laff. |
| (1, 0) 498 | Ond wedyn dyma fo'n mynd i ffwrdd a iawn oce, weld o bob holides, do'm ots gen i am hynny. |
| (1, 0) 499 | Ond wedyn... fwya sydyn o'dd o fel tasa ni'n bagio o wrth yn gilydd. |
| (1, 0) 500 | Rhyw Ddolig, dyma fi'n weld o'n dre, a do'dd o'm 'di deud fod o allan. |
| (1, 0) 501 | A dyma ni'n siarad am y tywydd a prisia cwrw a be da ni'n neud mewn rhyw ffordd fel tasa ni'n mart lly. |
| (1, 0) 502 | Odda ni'n ddiarth. |
| (1, 0) 503 | A rhyw sgwrs llawn tylla, sgwrs sati'n gal hefo rhywun tu ôl i gowntar ne wrth dorri dy wallt oddi. |
| (1, 0) 504 | Sut ddigwyddodd hynna? |
| (1, 0) 505 | E? |
| (Arwel) Ma' pobol yn newid. | |
| (Arwel) Ma' pobol yn newid. | |
| (1, 0) 507 | Yndyn, a ma nhw'n gadal ac yn ca'l jobsus ac yn gneud pres a grêt de. |
| (1, 0) 508 | Ga nhw brynu tŷ efo llwyth o snobs erill a dod yn ôl i'r tylla tin pentrefi 'ma nhw 'di adal bob hyn a hyn i weld mam a dad sy'n mynd yn hen, yn colli'u lliw fatha'r adeilada, ac yn colli nabod arnyn nhw, a mi ddo nhw a rhyw blant sydd efo acan wahanol i weld nain a taid. |
| (Lisa) 'Di hynna'm yn deg. | |
| (Lisa) 'Di hynna'm yn deg. | |
| (1, 0) 511 | Dwni'm, ond da chi di ca'l ych pregethu do. |
| (1, 0) 512 | Tydw i ddim. |
| (1, 0) 513 | O'dd gin i'm dewis, o'n i'n unig blentyn, mi o'dd 'na dir a dyna fo, tyff shit. |
| (1, 0) 514 | Ddudodd neb hynny ond yn y fynwant 'na fedri di weld o'r iard ma na ddega o gyrff a'th i'r ddaear yn gynt fel fod y tir yna i fi, so pa ddewis o'dd gen i? |
| (1, 0) 515 | Ma' nhw'n deud na rhaid ydi symud i ffwrdd ond ffycin lycshyri 'dio. |
| (1, 0) 516 | Fedrith pawb ddim codi pac, chawn ni ddim. |
| (1, 0) 517 | Da ni ar ôl. |
| (1, 0) 518 | A dwi'm isio piti neb na gneud rhyw esgus jesd deud dwi. |
| (Aaron) So be, odda chdi'n dal hyn yn ei erbyn o? | |
| (Aaron) So be, odda chdi'n dal hyn yn ei erbyn o? | |
| (1, 0) 520 | Nagon i, ond dodd o'm o'i blaid o chwaith. |
| (1, 0) 521 | Ond sti be, ma'r cerrig na'n yr afon ers dros ddeg mlynadd a chydig ar y diawl o ddŵr ma nhw'n sdopio rhag mynd i'r môr. |
| (Megan) Owain. | |
| (Megan) Owain. | |
| (1, 0) 524 | Ywain di'n enw fi! |
| (Arwel) Yws, callia. | |
| (Arwel) Yws, callia. | |
| (1, 0) 526 | Dio jesd ddim yn deg Tanc, dos na'm byd yn ffycin deg. |
| (1, 0) 531 | Sori bois. |
| (Lisa) Ma'n oce. | |
| (Megan) Hangman? | |
| (1, 0) 541 | Ffycin hel. |
| (Megan) Shit, sori nes i'm meddwl, oni, ffyc. | |
| (Megan) Na, gwo on. | |
| (1, 0) 547 | Ofn ca'l stîd mae o. |
| (Arwel) Sa ddigon o gowntars a ballu? | |
| (Arwel) Collwr gwael. | |
| (1, 0) 554 | Gath o sterics rhyw dro efo twister do, ti'n cofio? |
| (Arwel) O, iesu do, a gweiddi. | |
| (Aaron) O'dd o'n chwara twister? | |
| (1, 0) 557 | Ia, tua pump o'dd o cofiwch. |
| (1, 0) 558 | Parti pwy o'dd o? |
| (Arwel) Dwnim. | |
| (Aaron) Jesd lwc ydi hon de. | |
| (1, 0) 570 | Fatha' rhan fwya o betha. |
| (Megan) Reit, bob tro dachi'n cal neidar rhaid chi ddownio. | |
| (Arwel) Fel'na ma'i gneud hi! | |
| (1, 0) 576 | Dwi'n deud 'tha chi, dyna ydi o. |
| (1, 0) 577 | Ma' nhw'n trefnu'r petha 'ma. |
| (Aaron) Ma'n gneud sens. | |
| (Arwel) Deud ti, Yws, dwi'm yn chofio hi'n ddigon da. | |
| (1, 0) 584 | Jesd cymyd y pi newch chi. |
| (Arwel) Na, nawn ni ddim. | |
| (Arwel) Na, nawn ni ddim. | |
| (1, 0) 586 | Iawn, oce, so. |
| (1, 0) 587 | Adag y Cold War, oddi'n ras fawr i fynd i sbês doedd/ |
| (Lisa) /biti na fasa na rhyw enw fwy bachog i hynna de/ | |
| (Lisa) /biti na fasa na rhyw enw fwy bachog i hynna de/ | |
| (1, 0) 589 | /taw. |
| (1, 0) 590 | Felly odd y Ryshans a'r Mericans yn trio cal pobol yn y gofod doedd, a cŵn a mwncis a ffycin... dwni'm... chimps a ballu. |
| (1, 0) 591 | A dydyn nhw ddim r'un peth Tanc, dwi 'di deud o'r blaen, so ffyc off, ma David Attenbrough 'di deud. |
| (Arwel) Yr unig beth dwi'n ddeud ydi sa rhywun yn deud fod na fwnci yn dy dŷ di a sa ti'n mynd i parlwr a gweld chimp yna fasa ti'm yn synnu. | |
| (Megan) A fi, chos sgin i'm parlwr. | |
| (1, 0) 595 | Ma' gin ffycin, y, ma' gin fwnci gynffon reit, i falansio mewn briga a ballu, sgin chimps ddim. |
| (Aaron) Pam fod gan chimps ddim cynffona? | |
| (Arwel) Achos bo nhw'n cerddad ar lawr yn ôl Iolo Williams yn fama. | |
| (1, 0) 598 | Ia, a ffyc off eto achos adar a shit felna mae o'n lecio. |
| (1, 0) 599 | A ma' nhw yn gneud fwy ar lawr na mwncis. |
| (Aaron) Hen dinna' hyll sgynyn nhw de. | |
| (Aaron) Hen dinna' hyll sgynyn nhw de. | |
| (1, 0) 601 | Eniwe so Ryshans/ |
| (Arwel) /ffoc mi/ | |
| (Arwel) /ffoc mi/ | |
| (1, 0) 603 | /Chdi o'dd isio. |
| (1, 0) 604 | Felly ma'r Ryshans yn deud, 'o, dani di gyrru Yuri Gagarin i'r gofod a ma di landioi'n ôl yn saff, ma'n coc ni'n fwy na un neb arall.' |
| (1, 0) 605 | A ma Merica'n mynd 'o shit lle ma Stanley Kubrick i ni gal cogio landio ar y lleuad'/ |
| (Megan) /o Iesu/ | |
| (Megan) /o Iesu/ | |
| (1, 0) 607 | /Ia, ond y point ydi de. |
| (1, 0) 608 | Fod 'na fwy o bobol, a cŵn a ballu 'di cal eu hel i fyny 'na ond bo nhw heb ddod yn ôl ne 'di llosgi. |
| (1, 0) 609 | So ma' 'na lond gwlad o Ryshans yn y gofod 'na, 'di marw, ne 'di ca'l 'u lladd wrth landio a dosna'm sôn o gwbwl am danyn nhw. |
| (Aaron) Fedrai goelio hynna deud gwir. | |
| (Arwel) Ia, oce, ella bo chi'n coelio honna ond no wê bo nhw yn rhoi llai o'r stwff melyn yn ganol crîm egs bob blwyddyn. | |
| (1, 0) 616 | Ffycin ma' nhw! |
| (Arwel) Sa pobol yn sylwi! | |
| (Arwel) Sa pobol yn sylwi! | |
| (1, 0) 618 | Aaron! |
| (Aaron) Ma nhw'n llai, ac yn blasu'n wahanol. | |
| (Arwel) Diolch! | |
| (1, 0) 622 | Mae o'n fwy rich. |
| (Lisa) Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo. | |
| (Lisa) Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo. | |
| (1, 0) 626 | Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd. |
| (Arwel) O'dd o'n joio'i hun yna doedd, siŵr fod gen ti straeon Lisa. | |
| (Aaron) Oedd, fydda ni'n yfad yn tŷ/ | |
| (1, 0) 711 | Fejiterian Tecs/ |
| (Aaron) /y? | |
| (Arwel) Deffra twat! | |
| (1, 0) 880 | Ffyc off. |
| (Aaron) Fydd rhaid i mi throi hi'n o fuan ma'rnai ofn. | |
| (Aaron) Fydd rhaid i mi throi hi'n o fuan ma'rnai ofn. | |
| (1, 0) 882 | Sa well i minna fynd adra fyd. |
| (Megan) Be sgwennodd o, Arwel? | |
| (Megan) O'dd 'na tha llythyr ne wbath? | |
| (1, 0) 887 | Ia, be o'dd hynny? |