| (Bernardo) Pwy sydd yna? | |
| (Hamlet) Siarada; nid af fi yn mhellach gam. | |
| (1, 5) 914 | Clyw fi. |
| (Hamlet) Mi wnaf. | |
| (Hamlet) Mi wnaf. | |
| (1, 5) 916 | Fy awr sydd bron a d'od, |
| (1, 5) 917 | Pan orfydd im' ddychwelyd eto i |
| (1, 5) 918 | Yr ufel, a'r poenydiol fflamau tân. |
| (Hamlet) O, druan ysbryd wyt! | |
| (Hamlet) O, druan ysbryd wyt! | |
| (1, 5) 920 | Na wag dosturia wrthyf, eithr rho |
| (1, 5) 921 | Wrandawiad tra difrifol i'r hyn sydd |
| (1, 5) 922 | I'w draethu genyf. |
| (Hamlet) Siarad, ydwyf rwym | |
| (Hamlet) O wrandaw. | |
| (1, 5) 925 | Felly wyt i ddial pan |
| (1, 5) 926 | Y clywi. |
| (Hamlet) Beth? | |
| (Hamlet) Beth? | |
| (1, 5) 928 | Ysbryd dy dad wyf fi; |
| (1, 5) 929 | Ddedfrydwyd dros ryw hyd, i rodio 'r nos, |
| (1, 5) 930 | Ac, yn y dydd, rhwym i ymprydio wyf |
| (1, 5) 931 | Mewn eirias dan, nes i'r beïau anfad a |
| (1, 5) 932 | Gyflawnais i yn nyddiau 'm cnawd, oll gael |
| (1, 5) 933 | Eu llosgi a'u glanâu. |
| (1, 5) 934 | Gwaherddir fi ddadguddio pethau cudd |
| (1, 5) 935 | Fy ngharchar caeth, ac onide mi ro'wn |
| (1, 5) 936 | Fath hanes it, y gwnai'r ysgafnaf air |
| (1, 5) 937 | Ddyrwygo 'th enaid; rhewi 'th ieuanc waed, |
| (1, 5) 938 | A gwneud i'th lygaid neidio megys ser, |
| (1, 5) 939 | Dy rwym gudynau i ymddatod, ac |
| (1, 5) 940 | I bob gwalltflewyn sefyll ar dy en |
| (1, 5) 941 | Fel pluen-fonion ar y draenog hyll; |
| (1, 5) 942 | Ond ni cheir gwneud yr erch ddadguddiad hwn, |
| (1, 5) 943 | O'r bythol fyd, i glustiau cig a gwaed:— |
| (1, 5) 944 | Gwna wrando, gwrando, O gwrando! os erioed |
| (1, 5) 945 | Y ceraist ti dy anwyl dad,— |
| (Hamlet) O'r nefoedd fawr! | |
| (Hamlet) O'r nefoedd fawr! | |
| (1, 5) 947 | Diala 'r mwrddrad annaturiol ac |
| (1, 5) 948 | Erchyllaidd hwn. |
| (Hamlet) Mwrddrad? | |
| (Hamlet) Mwrddrad? | |
| (1, 5) 950 | Mwrddrad erchyll ar |
| (1, 5) 951 | Y goreu; hwn yn fwy echryslon fyth, |
| (1, 5) 952 | Dyeithrol, a thra annaturiol oedd. |
| (Hamlet) Prysura, d'wed, fel gallwyf fyned ar | |
| (Hamlet) I ddial hyn. | |
| (1, 5) 956 | Mi wela 'th fod yn barod, ac yn wir |
| (1, 5) 957 | Mwy llwrf y byddet nag yw 'r tewion chwyn |
| (1, 5) 958 | Sy'n braenu 'n dawel ar lân Lethe draw |
| (1, 5) 959 | Pe na wneit symud gyda hyn! Yn awr, |
| (1, 5) 960 | Clyw, Hamlet; d'wedir, tra yr hunwn yn |
| (1, 5) 961 | Fy mherllan, i sarph fy ngholynu 'n llym; |
| (1, 5) 962 | Mae holl glust Denmarc felly yn cael cam, [9] |
| (1, 5) 963 | Trwy hanes gau am fy marwolaeth i: |
| (1, 5) 964 | Ond gwel! a gwybydd di, ardderchog lanc, |
| (1, 5) 965 | Y sarph golynodd fywyd d' anwyl dad, |
| (1, 5) 966 | A geir yn awr yn gwisgo 'i goron ef. |
| (Hamlet) O fy mhrophwydol enaid! f' ewythr oedd? | |
| (Hamlet) O fy mhrophwydol enaid! f' ewythr oedd? | |
| (1, 5) 968 | Ië, y bwystfil godinebus, ac |
| (1, 5) 969 | Ymlosgol hwnw, âg arabaidd swyn, |
| (1, 5) 970 | A rhoddion bradus (O arabedd tra |
| (1, 5) 971 | Drygionus! ac O roddion! feddent y |
| (1, 5) 972 | Galluoedd i hud-dwyllo i'r fath radd!) |
| (1, 5) 973 | Enillodd i'w drachwantau ewyllys fy |
| (1, 5) 974 | Mrenines dra rhinweddol, fel y gwnai |
| (1, 5) 975 | Ymddangos i fy ngolwg i fy hun; |
| (1, 5) 976 | O Hamlet, y fath godwm ydoedd hwn! |
| (1, 5) 977 | Oddiwrthyf fi, yr hwn â'm cariad oedd |
| (1, 5) 978 | O'r urddas hwnw, ag i fyn'd law yn llaw |
| (1, 5) 979 | A'r addunedau wnes wrth uno â hi; |
| (1, 5) 980 | A syrthio ar adyn gwael, nad ydoedd ei |
| (1, 5) 981 | Naturiol ddoniau ond tlawd i'r eiddof fi! |
| (1, 5) 982 | Ond rhinwedd, gan na fyn ei symud er |
| (1, 5) 983 | Ei charu hi gan anniweirdeb mewn |
| (1, 5) 984 | Ffurf nefol, felly chwant, er iddo gael, |
| (1, 5) 985 | Ei rwymo gydag angel claer, a wna |
| (1, 5) 986 | Foddloni 'i hunan mewn nefolaidd wely, |
| (1, 5) 987 | A hir ymborthi ar ysgarthion gwael. |
| (1, 5) 988 | Yn araf! tebyg ydyw hyn i sawr |
| (1, 5) 989 | Y bore wynt, rhaid im' fod yn fyr:— |
| (1, 5) 990 | Tra'n cysgu yn fy mherllan, f' arfer oedd |
| (1, 5) 991 | Ar bob prydnawn, ar fy niogel awr |
| (1, 5) 992 | Fe ddaeth dy ewythr mewn lladradaidd fodd, |
| (1, 5) 993 | A sudd y melldigedig bela [10] mewn |
| (1, 5) 994 | Costrelan fach, ac yna i ddorau 'm clust |
| (1, 5) 995 | Tywalltodd y distylliad mallus; hwnw sydd |
| (1, 5) 996 | A'i effaith mor elynol i waed dyn, |
| (1, 5) 997 | Fel, â chyflymdra arian byw, rhed trwy |
| (1, 5) 998 | Naturiol ddorau a rhodfeydd y corff; |
| (1, 5) 999 | A chyda dirfawr frys yn ebrwydd y |
| (1, 5) 1000 | Posela ac y cawsia, fel y gwna |
| (1, 5) 1001 | Defnyna egr droi y llaeth, y teneu a'r |
| (1, 5) 1002 | Iachusol waed: efelly gwnaeth i mi, |
| (1, 5) 1003 | Ac yn y man daeth clafr i godi mewn |
| (1, 5) 1004 | Modd gwahanglwyfus, gyda drewllyd gên |
| (1, 5) 1005 | Tra ffiaidd, tros fy llyfnaidd gorff i gyd. |
| (1, 5) 1006 | Fel hyn bu i mi, yn cysgu, trwy law brawd, |
| (1, 5) 1007 | O fywyd, coron, a brenines gall, |
| (1, 5) 1008 | Ar unwaith fy nifuddio; a'm tori i lawr |
| (1, 5) 1009 | Yn mlodau 'm pechod, heb gymuno, heb |
| (1, 5) 1010 | Ymbarotoi, na derbyn cyn fy nhranc |
| (1, 5) 1011 | Eneiniad olaf, heb gael ystyried dim,— |
| (1, 5) 1012 | Fy ngyru ge's i'm cyfrif olaf â |
| (1, 5) 1013 | Fy holl anmherffeithderau ar fy mhen: |
| (1, 5) 1014 | O! erchyll! erchyll! tra erchyllaidd! Os |
| (1, 5) 1015 | Oes natur ynot ti, na oddefa hyn; |
| (1, 5) 1016 | Na oddef i deyrnwely Denmarc fod |
| (1, 5) 1017 | Yn lwth trythyllwch, gyda llosgach drwg. |
| (1, 5) 1018 | Ond pa fodd bynag äi trwy 'r weithred hon, |
| (1, 5) 1019 | Na lygra'th feddwl, na âd i'th enaid wneud |
| (1, 5) 1020 | Dim cynllun oll, yn erbyn dy hoff fam; |
| (1, 5) 1021 | Gad hi i'r nefoedd, ac i'r drain sydd yn |
| (1, 5) 1022 | Lletŷa yn ei bron, i'w phigo a'i |
| (1, 5) 1023 | Cholynu hi. Ffarwel ar unwaith it'! |
| (1, 5) 1024 | Mae 'r fagïen yn dangos nesrwydd gwawr, |
| (1, 5) 1025 | A llwydo mae ei aneffeithiol dân: |
| (1, 5) 1026 | Ffarwel, ffarwel, ffarwel! O cofia fi! |
| (1, 5) 1126 | Tyngwch. |
| (Hamlet) Ha, ha. 'rhen fachgen! a | |
| (1, 5) 1137 | Tyngwch. |
| (Hamlet) Hic et ubique? [13] — Am hyny, bydded i'n | |
| (1, 5) 1146 | Tyngwch wrth ei gledd. |
| (Hamlet) Da d'wedaist ti, hen dwrch! A elli di | |
| (1, 5) 1174 | Tyngwch! |