| (Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod? | |
| (Y Tad) Syr, da y boch. | |
| (1, 0) 65 | Da y boch i gyd. |
| (Y Fam) Syr, a glywsoch chwi rywbeth am y Frenhines? | |
| (Y Fam) Syr, a glywsoch chwi rywbeth am y Frenhines? | |
| (1, 0) 67 | Pa Frenhines? |
| (Y Fam) Heddwch yw ei henw. | |
| (Y Fam) Heddwch yw ei henw. | |
| (1, 0) 69 | Ai amdani hi y disgwyliwch? |
| (Y Fam) Dywedir ei bod hi i drigo gyda ni am byth. | |
| (Y Fam) Dywedir ei bod hi i drigo gyda ni am byth. | |
| (1, 0) 71 | Gyfeillion, colli amser yr ydych. |
| (1, 0) 72 | Gwrando ar ddychymyg. |
| (1, 0) 73 | A fu, a fydd. |
| (Y Fam) Ond Syr, er mwyn hynny yr aeth ein meibion allan i'w cheisio. | |
| (Y Fam) Ond Syr, er mwyn hynny yr aeth ein meibion allan i'w cheisio. | |
| (1, 0) 75 | Canwaith yr a dynion allan ar neges, a chanwaith, pan ddont yn eu holau, gweigion fydd eu dwylaw. |
| (Y Tad) Oni ddont â hi, ni bydd yfory ond megis doe. | |
| (Y Tad) Ni bydd diwedd ar golled, ac ofer a fydd gwaith dynion yn dragywydd. | |
| (1, 0) 78 | Ofer fydd eu gwaith yn dragywydd. |
| (1, 0) 79 | A fu, a fydd. |
| (Y Wyryf) Ai felly y lleferwch yn y farchnadfa? | |
| (Y Wyryf) Oni welwch chwi y mynnai'r bobl hi yn Frenhines dros byth? | |
| (1, 0) 84 | Ie, unwaith eto, y mae'r bobl yn breuddwydio. |
| (Y Plentyn) Oni ddaw breuddwydion i ben? | |
| (1, 0) 97 | Y mae 'r bobl yn cadw gŵyl. |
| (1, 0) 98 | Dyna eu harfer. |
| (1, 0) 99 | Y maent yn ddedwydd am awr─ac anghofiant. |