| (Cynulleidfa) Gan hynny, yr ydym yn offrymu ac yn cyflwyno i ti, O! Arglwydd | |
| (Huw) Y... y... | |
| (1, 2) 565 | Mae hi'n hardd. |
| (Huw) Mm? | |
| (Huw) {Yn troi ato.} | |
| (1, 2) 568 | Chweched ganrif? |
| (Huw) Chweched ganrif? | |
| (Huw) Chweched ganrif? | |
| (1, 2) 570 | Yr eglwys. |
| (1, 2) 571 | Chweched ganrif ydi hi? |
| (Huw) Felly mae'n nhw'n dweud. | |
| (Huw) Felly mae'n nhw'n dweud. | |
| (1, 2) 573 | Ond 'dydach chi ddim mor siwr. |
| (Huw) Chweched? | |
| (Huw) Maddeuwch i mi, mae'n rhaid imi... | |
| (1, 2) 580 | Huw Williams? |
| (Huw) Be? | |
| (Huw) Be? | |
| (1, 2) 582 | Dyna'ch enw chi, on'd e? |
| (1, 2) 583 | Huw Williams? |
| (Huw) Sut gwyddoch chi? | |
| (1, 2) 586 | Rheithor, Y Parchedig Huw Williams, M.A. (Cantab.) |
| (Huw) O. | |
| (Huw) Hy. | |
| (1, 2) 590 | Caergrawnt. |
| (Huw) Ia. | |
| (Huw) Ia. | |
| (1, 2) 592 | Pa goleg? |
| (Huw) Ioan Sant. | |
| (Huw) Ioan Sant. | |
| (1, 2) 594 | Yr un coleg a fi. |
| (Huw) {Yn meirioli tipyn.} | |
| (Huw) Tybed. | |
| (1, 2) 597 | Blynyddoedd? |
| (Huw) Pum deg chwech hyd at bum deg wyth. | |
| (Huw) A ch'tha? | |
| (1, 2) 600 | Gorffen ddwy flynedd yn ôl. |
| (Huw) Dal ar ei draed, felly. | |
| (Huw) Dal ar ei draed, felly. | |
| (1, 2) 602 | Cystal ag erioed. |
| (1, 2) 603 | Ydi. |
| (Huw) Coleg difyr. | |
| (Huw) Coleg difyr. | |
| (1, 2) 605 | Dyddiau difyr. |
| (Huw) Bendigedig. | |
| (Huw) Bendigedig. | |
| (1, 2) 607 | Coleg Edmwnd Prys. |
| (Huw) A'r Esgob William Morgan. | |
| (Huw) A'r Esgob William Morgan. | |
| (1, 2) 609 | Glywsoch chi'r côr yn ddiweddar? |
| (Huw) Do,. | |
| (Huw) Yn enwedig ei dehongliad nhw o'r salmau cân. | |
| (1, 2) 615 | "Dy babell di mor hyfryd yw |
| (1, 2) 616 | O Arglwydd byw y lluoedd." |
| (Huw) {Yn edrych ar y porth.} | |
| (Huw) Rhag mor dra thirion... ydoedd." | |
| (1, 2) 620 | Ydoedd? |
| (Huw) Hyfryd oedd byw yn yr unfed ganrif ar bymtheg. | |
| (Huw) Hyfryd oedd byw yn yr unfed ganrif ar bymtheg. | |
| (1, 2) 622 | Sinicaidd iawn ar fore Sul. |
| (1, 2) 624 | Yr haul 'ma fel fynno fo bore 'ma. |
| (1, 2) 625 | Rŵan, 'ta. |
| (Huw) Ar eich gwyliau? | |
| (1, 2) 628 | Bwrw'r Sul... |
| (1, 2) 629 | Dyna ni. |
| (Huw) Yma? | |
| (Huw) Yma? | |
| (1, 2) 631 | Ym Mangor. |
| (1, 2) 632 | Y ddarpar wraig yn y coleg. |
| (1, 2) 633 | Gorffen 'leni hefyd... |
| (1, 2) 634 | Daria! |
| (Huw) Ac wedi cael swydd? | |
| (Huw) Ac wedi cael swydd? | |
| (1, 2) 636 | Be? |
| (Huw) Ydi hi wedi cael gwaith? | |
| (Huw) Ydi hi wedi cael gwaith? | |
| (1, 2) 638 | Do. |
| (Huw) Ymhle? | |
| (Huw) Ymhle? | |
| (1, 2) 640 | Yn y Rhondda. |
| (1, 2) 641 | Athrawes. |
| (Huw) Swydd galed i ferch. | |
| (Huw) Swydd galed i ferch. | |
| (1, 2) 643 | Dibynnu. |
| (Huw) Dibynnu ar be'? | |
| (Huw) Dibynnu ar be'? | |
| (1, 2) 645 | Dibynnu ar yr ysgol. |
| (1, 2) 646 | Ches i 'rioed le i gwyno. |
| (1, 2) 648 | Dyna ni. |
| (1, 2) 649 | Sefwch yn llonydd. |
| (Huw) Ond... | |
| (Huw) Ond... | |
| (1, 2) 651 | Sefwch yn llonydd... |
| (1, 2) 652 | Dyna ni. |
| (1, 2) 653 | Llun lliw o'r Parchedig Huw Williams, M.A. (Cantab) yn sefyll tu allan i borth ei eglwys Geltaidd ar fore Sul yn nhymor y Grawys. |
| (Huw) {Yn gwenu.} | |
| (Huw) Hyddysg iawn yn y flwyddyn eglwysig. | |
| (1, 2) 656 | Diolch yn fawr, |
| (Huw) Dylanwad Caergrawnt. | |
| (Huw) Dylanwad Caergrawnt. | |
| (1, 2) 658 | Coeliwch neu beidio, 'roeddwn inna' ar fin mynd i'r barchus arswydus swydd. |
| (Huw) Be' ddigwyddodd? | |
| (Huw) Be' ddigwyddodd? | |
| (1, 2) 660 | Wel... |
| (Huw) Difaru? | |
| (Huw) Difaru? | |
| (1, 2) 662 | Weithia'. |
| (1, 2) 663 | Gan amlaf ar fore Llun. |
| (1, 2) 664 | Mae plant yn swnllyd iawn ar fore Llun. |
| (Huw) Athro ydach chitha? | |
| (Huw) Athro ydach chitha? | |
| (1, 2) 666 | Ia. |
| (Huw) Pwnc? | |
| (1, 2) 669 | Ysgrythur. |
| (Huw) Difyr? | |
| (Huw) Difyr? | |
| (1, 2) 671 | Dim llei gwyno. |
| (1, 2) 672 | Mae'r cyflog yn iawn a'r gwyliau'n hir. |
| (1, 2) 673 | Diddordeb? |
| (Huw) Wn i ddim, | |
| (Huw) Wn i ddim, | |
| (1, 2) 675 | Efo gradd o Gaergrawnt chaech chi ddim trafferth i gael swydd. |
| (1, 2) 677 | Damia. |
| (1, 2) 678 | Ffilm wedi darfod. |
| (1, 2) 679 | Mi ddylwn i fod wedi prynu ffilm arall. |
| (1, 2) 680 | 'Ryda ni ar ganol project ar eglwysi Celtaidd. |
| (1, 2) 681 | A dyma fi, yma o bob man, heb ffilm. |
| (1, 2) 682 | Hurt 'te? |
| (Huw) Ydi hi'n bosib dysgu Sgrythur bellach? | |
| (Huw) Ydi hi'n bosib dysgu Sgrythur bellach? | |
| (1, 2) 684 | Dibynnu be 'dach chi'n feddwl wrth Ysgrythur. |
| (Huw) Wel. | |
| (Huw) Yr eglwys fore... | |
| (1, 2) 689 | Ydi. |
| (1, 2) 690 | Ond nid dyna'r gwaith pwysica' i athro 'Sgrythur. |
| (Huw) Dydw i ddim yn eich dilyn chi. | |
| (Huw) Dydw i ddim yn eich dilyn chi. | |
| (1, 2) 692 | Mae'n rhaid imi fod yn fugail yn ogystal ag athro. |
| (Huw) Dwyn gwaith yr eglwys? | |
| (Huw) Dwyn gwaith yr eglwys? | |
| (1, 2) 694 | Mae'r eglwys wedi methu. |
| (1, 2) 696 | Sut mae hi, yma? |
| (Huw) Hy. | |
| (Huw) Hy. | |
| (1, 2) 698 | Mor ddrwg â hynny. |
| (Huw) 'Dydyn nhw'n gwybod dim. | |
| (Huw) A dydyn nhw ddim eisiau deall dim. | |
| (1, 2) 702 | Yng nghanol y Cymry Cymraeg? |
| (1, 2) 703 | Wel wir. |
| (Huw) Wyddoch chi mai Cymru ydi'r wlad fwyaf anghrefyddol yn Ewrop? | |
| (Huw) Drosodd. | |
| (1, 2) 712 | Ac mi fyddwch chitha' yma i gau'r drws? |
| (Huw) Emosiwn. | |
| (Huw) 'Does neb efo'r arfau meddyliol i wrthsefyll dim. | |
| (1, 2) 717 | Ac mi gan nhw ei llyncu gan seciwlariaeth. |
| (Huw) Mae o'n digwydd eisoes. | |
| (Huw) Mae o'n digwydd eisoes. | |
| (1, 2) 719 | Pam gwastraffu'ch amser a'ch talent yma, felly? |
| (Huw) Pa ddewis arall sy gen i? | |
| (Huw) Pa ddewis arall sy gen i? | |
| (1, 2) 721 | Gwrand'wch. |
| (1, 2) 722 | I achub cymdeithas, i achub y byd seciwlar mae'n rhaid i'r bobl orau dreiddio i'w ganol o. |
| (1, 2) 723 | Bod wrth law yn y mannau tyngedfennol. |
| (1, 2) 724 | Lle mae'r penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud. |
| (1, 2) 725 | Mewn gwleidyddiaeth, mewn llywodraeth leol, yn y byd addysg. |
| (1, 2) 726 | Yn y byd. |
| (1, 2) 727 | Yn y byd. |
| (1, 2) 728 | Yno mae'n lle ni. |
| (1, 2) 729 | Yn arwain pethau ac yn creu cymdeithas Gristnogol. |
| (1, 2) 730 | Cymdeithas wâr. |
| (1, 2) 731 | Cymdeithas dda. |
| (Huw) A dyma fi. | |
| (Huw) Yn edwino ar gyrion cymdeithas. | |
| (1, 2) 735 | Yn ddyn deallus. |
| (1, 2) 736 | Yn ddyn efo rhywbeth mawr i'w gynnig. |
| (Huw) Rhywbeth mawr? | |
| (Huw) Rhywbeth mawr? | |
| (1, 2) 738 | Ia. |
| (1, 2) 739 | Rhywbeth mawr. |
| (1, 2) 740 | Mawr. |
| (Huw) Mi olygai fynd yn ôl i'r coleg. | |
| (Huw) Mi olygai fynd yn ôl i'r coleg. | |
| (1, 2) 743 | Dim o angenrheidrwydd. |
| (Huw) Braidd yn hen i ddechrau eto, on'd ydw? | |
| (Huw) Braidd yn hen i ddechrau eto, on'd ydw? | |
| (1, 2) 745 | Mae'r dewis yn glir. |
| (1, 2) 746 | Cael byw yn y byd neu farw, yma. |
| (1, 2) 747 | Gogoniant neu ebargofiant. |
| (1, 2) 748 | Rydach chi'n haeddu gogoniant. |
| (Huw) Gogoniant. | |
| (1, 2) 751 | Anfarwoldeb. |
| (Huw) Anfarwoldeb. | |
| (Huw) Anfarwoldeb. | |
| (1, 2) 753 | Mi fedra' i 'nabod mawredd. |
| (Huw) {Yn edrych i'w wyneb.} | |
| (Huw) Cinio? | |
| (1, 2) 757 | Mm? |
| (Huw) Ddowch chi am damaid o ginio? | |
| (Huw) Ddowch chi am damaid o ginio? | |
| (1, 2) 759 | Rhyw dro eto. |
| (1, 2) 760 | Hynny ydi, os byddwch chi yma. |
| (Huw) Mi fydd eich cariad chi'n... | |
| (Huw) Mi fydd eich cariad chi'n... | |
| (1, 2) 763 | Cariad? |
| (Huw) Ym Mangor. | |
| (Huw) Ym Mangor. | |
| (1, 2) 765 | O. |
| (1, 2) 766 | Ia. |
| (1, 2) 767 | Wrth gwrs. |
| (1, 2) 769 | Huw. |
| (Huw) Huw? | |
| (Huw) Huw? | |
| (1, 2) 771 | Enw gwael. |
| (1, 2) 772 | Rhy gyffredin o lawer. |
| (Huw) Ella. | |
| (Huw) Ella. | |
| (1, 2) 774 | Mae hogia' Ioan Sant yn haeddu gwell? |
| (Huw) Ydyn nhw? | |
| (Huw) Ydyn nhw? | |
| (1, 2) 776 | Ydyn! |
| (1, 2) 777 | Maen nhw. |
| (1, 2) 778 | Llawer gwell. |