| (Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod? | |
| (Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod? | |
| (1, 0) 8 | Ni fedrwn ni ddim dywedyd. |
| (1, 0) 9 | Buom yn disgwyl yn hir. |
| (1, 0) 10 | Gwelwch fod yr Orsedd yn wag. |
| (Y Fam) Weithiau, byddaf yn ofni na ddaw'r Frenhines byth yn ei hôl atom eto. | |
| (Y Plentyn) Ac a ddont hwy i gyd yn eu holau ar ôl cael hyd iddi hi? | |
| (1, 0) 17 | Na ddont, ni ddont i gyd yn eu holau. |
| (Y Plentyn) Paham yr aeth hi i ffwrdd a'n gadael? | |
| (Y Plentyn) Paham yr aeth hi i ffwrdd a'n gadael? | |
| (1, 0) 19 | Dynion a'i gyrrodd i ffwrdd. |
| (Y Plentyn) Ond, mi glywais ddywedyd ei bod hi'n brydferth iawn, a bod y byd yn ddedwydd pan fo hi ar ei gorsedd. | |
| (Y Plentyn) Sut yr oedd pethau pan oedd y byd yn ddedwydd? | |
| (1, 0) 24 | Yr oedd fy mab yn gweithio gyda mi. |
| (1, 0) 25 | Yr oeddwn i yn hen ac yn gwybod pethau, ac yntau yn ieuanc ac yn gryf. |
| (1, 0) 26 | Gweithiem ein dau gyda'n gilydd. |
| (1, 0) 27 | Daw llawenydd mawr i ddynion fo'n gweithio. |
| (1, 0) 28 | A'r llawenydd yw, gweled y peth fo yn eu meddwl o'r diwedd yn cymryd ffurf yng ngwaith eu dwylaw. |
| (1, 0) 29 | Weithiau, byddwn i yn blino, ac yn cofio bod yn rhaid i'm dyddiau gweithio ddyfod i ben, ond byddwn yn edrych ar fy mab, ac yn dywedyd wrthyf fy hun "Pan gymerer fi oddiwrth y dasg, bydd ef yn aros a'i fab ar ei ôl yntau." |
| (1, 0) 30 | Ac yna, byddwn yn gwenu, canys byddwn fodlon. |
| (1, 0) 31 | Peth mawr i ddynion yw gwybod na adewir mo waith y byd heb ei wneuthur. |
| (1, 0) 32 | A chlyw dithau, 'r un bach, pan fo'r orsedd yn wag, bydd dynion yn drist, am fod yn rhaid iddynt ddinistrio. |
| (Y Plentyn) {Wrth y FAM.} | |
| (Y Plentyn) Clywais fod dynion yn dda ac yn ddoeth. | |
| (1, 0) 56 | Nac ydynt, yr un bach, dim ond eu bod yn dymuno bod felly. |
| (1, 0) 57 | Weithiau, bydd Balchter yn rhodio yn eu mysg, mewn clog aur, ac yn llefaru geiriau chŵyddedig ac yna, dyna ddiwedd ar ddaioni a doethineb. |
| (Y Wyryf) {Gan edrych i'r dde.} | |
| (Y Wyryf) Dyma un yr adwaenom ei wyneb. | |
| (1, 0) 60 | Ie; un fydd yn cerdded mewn lleoedd cyhoeddus. |
| (Y Fam) Hwyrach bod ganddo newyddion am y Frenhines fawr. | |
| (Y Fam) Hwyrach bod ganddo newyddion am y Frenhines fawr. | |
| (1, 0) 64 | Syr, da y boch. |
| (Yr Amheuwr) Da y boch i gyd. | |
| (Yr Amheuwr) Canwaith yr a dynion allan ar neges, a chanwaith, pan ddont yn eu holau, gweigion fydd eu dwylaw. | |
| (1, 0) 76 | Oni ddont â hi, ni bydd yfory ond megis doe. |
| (1, 0) 77 | Ni bydd diwedd ar golled, ac ofer a fydd gwaith dynion yn dragywydd. |
| (Yr Amheuwr) Ofer fydd eu gwaith yn dragywydd. | |
| (1, 0) 91 | Gwelwch dyrfa ar y ffordd. |
| (Y Fam) Dont y-ffordd yma. | |
| (Yr Amheuwr) Y maent yn ddedwydd am awr─ac anghofiant. | |
| (1, 0) 100 | Pwl yw fy ngolwg i. |
| (Y Fam) {Wrth y WYRYF.} | |
| (Y Plentyn) Ni wyddwn i y gallai gwŷr a gwragedd fod mor llawen. | |
| (1, 0) 106 | Dywedwch─ |
| (1, 0) 107 | Pwy sy'n cerdded o'u blaenau? |
| (Y Wyryf) Rhywun mewn gwisg wen; a'i hwyneb yn dawel a phrydferth. | |
| (Y Wyryf) Dacw hi yn gwenu, ac─O─y mae bendith yn ei gwên. | |
| (1, 0) 111 | Y Frenhines yw hi. |
| (Y Fam) Ie, y Frenhines, a'i henw yw Heddwch. | |
| (Y Wyryf) O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni, a'u câr, ac a garant. | |
| (1, 0) 115 | O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni sy'n adeiladu'r byd yn Deml wrth dy gynllun Di. |
| (Y Plentyn) O Dduw, diolch y plant bach i Ti. | |
| (Y Plentyn) O Dduw, diolch y plant bach i Ti. | |
| (1, 0) 117 | Pwy sy'n cerdded yn ochr y Frenhines? |
| (Y Wyryf) Rhywun yn ei harwain gerfydd ei llaw at yr orsedd. | |
| (Y Fam) O, Frenhines, dyna'n gweddi i gyd. | |
| (1, 0) 135 | Hebot ti, nid ŷm ni ddim, ac nid yw gwaith ein dwylaw ond llwch. |
| (Y Frenhines) O, fy mhobl, oni fynnwch chwi gofio? | |
| (Y Frenhines) Paham y gyrr dynion fi o'u plith─i ddim ond dysgu eilwaith faint eu hangen amdanaf? | |
| (1, 0) 143 | O, Frenhines dawel, fwyn, dyma ni'n dysgu unwaith eto. |
| (Y Fam) Dyma ni'n dysgu, a mawr yw ein hangen. | |
| (Y Frenhines) Daeth ef i'm ceisio ar hyd ffordd gofidiau, lle y mae bob amser waed hyd y cerrig. | |
| (1, 0) 162 | O, Ŵr Ieuanc o'r ffordd chwerw, pa beth a rydd yr hen wŷr iti, fel y deui yn dy ôl o'th hynt? |
| (Y Fam) O, fab rhyw fam druan, drist, pa beth a ofynni gennym ni, a fu'n disgwyl am ein meibion? | |
| (Y Plentyn) Os gwelwch yn dda, a gaf i eich cusanu? | |
| (1, 0) 169 | Gofynnwch a fynnoch. |
| (1, 0) 170 | Dywedwch yn awr pa beth a ddymunech gennym. |
| (Y Gŵr Ieuanc) Na bo rhaid i mi fwyta bara cardod. | |
| (Y Gŵr Ieuanc) Eistedd am ychydig yn awr ac eilwaith yn yr heulwen ac ymddiddan â'm cyfeillion. | |
| (1, 0) 174 | Nid ydych yn gofyn digon. |
| (1, 0) 175 | (Wrth y DYRFA.) |
| (1, 0) 176 | Gyfeillion, ai dyna'r cwbl a haeddodd ef? |
| (Y Dyrfa) Nage. | |
| (Y Dyrfa) Llefared eto. | |
| (1, 0) 179 | Aethoch ar hyd ffordd gofidiau a chawsoch ein Brenhines. |
| (1, 0) 180 | Bellach gofynnwch y peth a ewyllysio 'ch calon. |