| (Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod? | |
| (Y Frenhines) Yn llawen y cymeraf yr Orsedd. | |
| (1, 0) 154 | Felly o'r diwedd, dyma ben ar fy nhasg innau. |
| (Y Frenhines) Tasg a wnaed yn dda. | |
| (Y Tad) Dywedwch yn awr pa beth a ddymunech gennym. | |
| (1, 0) 171 | Na bo rhaid i mi fwyta bara cardod. |
| (1, 0) 172 | Bod i mi gael gweithio tra gallwyf. |
| (1, 0) 173 | Eistedd am ychydig yn awr ac eilwaith yn yr heulwen ac ymddiddan â'm cyfeillion. |
| (Y Tad) Nid ydych yn gofyn digon. | |
| (Y Tad) Bellach gofynnwch y peth a ewyllysio 'ch calon. | |
| (1, 0) 181 | A ganiatewch chwi ewyllys fy nghalon? |
| (Y Dyrfa) Gwnawn! | |
| (Y Dyrfa) Yn rhwydd. | |
| (1, 0) 184 | Pe mynnech ganiatau i mi ewyllys fy nghalon, rhoddwch i mi wybod na orfydd byth i'r plentyn hwn gerdded y ffordd a gerddais i, rhoddwch i mi wybod nad rhaid byth mwy i ferched wylo am ddynion a fo marw cyn eu hamser, rhoddwch i mi wybod wneuthur ohonof yn wir y dasg a osodasoch arnaf, rhoddwch i mi wybod mai dyma ddiwedd hirfaith alanas goch y byd. |
| (Y Frenhines) Lleferwch! | |
| (1, 0) 193 | Cludais hwn fel dy was di, ac eto fel dy was yr wyf yn ei osod wrth dy draed. |
| (1, 0) 195 | Dowch, gyfeillion, bellach, tyngwn ffyddlondeb. |
| (1, 0) 197 | A'm holl galon, tra bwyf byw, yr wyf yn ymrwymo i ti. |