| (Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod? | |
| (Y Tad) Gwelwch fod yr Orsedd yn wag. | |
| (1, 0) 11 | Weithiau, byddaf yn ofni na ddaw'r Frenhines byth yn ei hôl atom eto. |
| (1, 0) 12 | Pa sawl diwrnod hir y buom yn gwylio ac yn disgwyl? |
| (Y Wyryf) Fy mam, rhaid i ni gredu. | |
| (Y Plentyn) Ond, mi glywais ddywedyd ei bod hi'n brydferth iawn, a bod y byd yn ddedwydd pan fo hi ar ei gorsedd. | |
| (1, 0) 21 | Bydd, f'anwylyd, bydd y byd yn ddedwydd. |
| (Y Plentyn) Nid wyf i yn cofio'r Frenhines ar ei gorsedd. | |
| (Y Plentyn) A pha beth yw'ch cof chwithau am yr amser yr oedd y byd yn ddedwydd? | |
| (1, 0) 35 | Cofio yr wyf ddedwydded oedd fy nghartref, a'm llawenydd yn fy ngofal i gyd. |
| (1, 0) 36 | Cofio lleisiau fy meibion, eu chwerthin sydyn, fel y byddent yn rhoi pwt o gân, ac fel y byddent yn siarad mor dyner wrthyf i. |
| (1, 0) 37 | Cofio sŵn eu traed yn dyfod at y drws, ac fel y cawn innau, pan fyddent yn ddigalon, yr hen, hen ddawn gan Dduw, i fedru eu cysuro. |
| (Y Plentyn) Ac ni byddech y pryd hwnnw yn eistedd yn ddistaw wrth y tân, ac yn ceisio cuddio'r dagrau? | |
| (Y Plentyn) Ac ni byddech y pryd hwnnw yn eistedd yn ddistaw wrth y tân, ac yn ceisio cuddio'r dagrau? | |
| (1, 0) 39 | Na byddwn, yr un bach. |
| (1, 0) 40 | Y pryd hwnnw, pan eisteddwn wrth y tân, meddwl y byddwn "Yfory, rhaid i mi wneud y naill beth neu'r llall iddynt." |
| (1, 0) 41 | Ac ambell waith, pan godwn fy ngolwg, troent hwythau a gwenu arnaf. |
| (Y Plentyn) {Wrth y WYRYF.} | |
| (Y Tad) Ie; un fydd yn cerdded mewn lleoedd cyhoeddus. | |
| (1, 0) 61 | Hwyrach bod ganddo newyddion am y Frenhines fawr. |
| (Y Tad) Syr, da y boch. | |
| (Yr Amheuwr) Da y boch i gyd. | |
| (1, 0) 66 | Syr, a glywsoch chwi rywbeth am y Frenhines? |
| (Yr Amheuwr) Pa Frenhines? | |
| (Yr Amheuwr) Pa Frenhines? | |
| (1, 0) 68 | Heddwch yw ei henw. |
| (Yr Amheuwr) Ai amdani hi y disgwyliwch? | |
| (Yr Amheuwr) Ai amdani hi y disgwyliwch? | |
| (1, 0) 70 | Dywedir ei bod hi i drigo gyda ni am byth. |
| (Yr Amheuwr) Gyfeillion, colli amser yr ydych. | |
| (Yr Amheuwr) A fu, a fydd. | |
| (1, 0) 74 | Ond Syr, er mwyn hynny yr aeth ein meibion allan i'w cheisio. |
| (Yr Amheuwr) Canwaith yr a dynion allan ar neges, a chanwaith, pan ddont yn eu holau, gweigion fydd eu dwylaw. | |
| (Y Plentyn) Oni ddaw breuddwydion i ben? | |
| (1, 0) 86 | Clywch! |
| (1, 0) 87 | Pa sŵn yw hwnyna? |
| (Y Wyryf) Lleisiau, lleisiau llawen lawer. | |
| (Y Tad) Gwelwch dyrfa ar y ffordd. | |
| (1, 0) 92 | Dont y-ffordd yma. |
| (Y Wyryf) O, pedfai 'r Frenhines! | |
| (Y Wyryf) O, pedfai 'r Frenhines! | |
| (1, 0) 94 | O'r diwedd. |
| (1, 0) 95 | Y Frenhines! |
| (Yr Amheuwr) {A saif o'r neilliu yn ddidaro.} | |
| (1, 0) 102 | Dywedwch i ni ba beth a welwch. |
| (Y Wyryf) Tyrfa o wŷr a gwragedd; ac y maent yn llawen. | |
| (Y Tad) Y Frenhines yw hi. | |
| (1, 0) 112 | Ie, y Frenhines, a'i henw yw Heddwch. |
| (1, 0) 113 | O, Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni famau dynion. |
| (Y Wyryf) O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni, a'u câr, ac a garant. | |
| (Y Plentyn) Druan gŵr, mor flinedig yw ei olwg! | |
| (1, 0) 120 | Pwy sy'n ei harwain gerfydd ei llaw at yr Orsedd? |
| (Y Wyryf) Dyn ieuanc, yn lluddedig a gwael, a gwisg milwr amdano, | |
| (Y Dyrfa) Ein hewyllys i gyd. | |
| (1, 0) 134 | O, Frenhines, dyna'n gweddi i gyd. |
| (Y Tad) Hebot ti, nid ŷm ni ddim, ac nid yw gwaith ein dwylaw ond llwch. | |
| (Y Tad) O, Frenhines dawel, fwyn, dyma ni'n dysgu unwaith eto. | |
| (1, 0) 144 | Dyma ni'n dysgu, a mawr yw ein hangen. |
| (Y Wyryf) O dyro i ni eto'n ôl y dyddiau hyfryd hynny yr oedd eu gwynfyd yn fwy nag a wyddem. | |
| (Y Tad) O, Ŵr Ieuanc o'r ffordd chwerw, pa beth a rydd yr hen wŷr iti, fel y deui yn dy ôl o'th hynt? | |
| (1, 0) 163 | O, fab rhyw fam druan, drist, pa beth a ofynni gennym ni, a fu'n disgwyl am ein meibion? |