| (Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod? | |
| (Y Frenhines) O, chwi, a fu bobl i mi, ai eich ewyllys i gyd yw i mi eto gymryd yr orsedd? | |
| (1, 0) 132 | Ie. |
| (1, 0) 133 | Ein hewyllys i gyd. |
| (Y Fam) O, Frenhines, dyna'n gweddi i gyd. | |
| (Y Tad) Gyfeillion, ai dyna'r cwbl a haeddodd ef? | |
| (1, 0) 177 | Nage. |
| (1, 0) 178 | Llefared eto. |
| (Y Tad) Aethoch ar hyd ffordd gofidiau a chawsoch ein Brenhines. | |
| (Y Gŵr Ieuanc) A ganiatewch chwi ewyllys fy nghalon? | |
| (1, 0) 182 | Gwnawn! |
| (1, 0) 183 | Yn rhwydd. |
| (Y Gŵr Ieuanc) Pe mynnech ganiatau i mi ewyllys fy nghalon, rhoddwch i mi wybod na orfydd byth i'r plentyn hwn gerdded y ffordd a gerddais i, rhoddwch i mi wybod nad rhaid byth mwy i ferched wylo am ddynion a fo marw cyn eu hamser, rhoddwch i mi wybod wneuthur ohonof yn wir y dasg a osodasoch arnaf, rhoddwch i mi wybod mai dyma ddiwedd hirfaith alanas goch y byd. | |
| (Y Frenhines) Ai myfi, yn wir, yw Brenhines y Bobl? | |
| (1, 0) 190 | Tydi yw'n Brenhines. |
| (1, 0) 191 | Tydi, Tydi. |