| (Martha) {Yn codi ei phen.} | |
| (1, 0) 162 | Oti-ddi wedi mynd? |
| (Martha) Oti. | |
| (1, 0) 165 | Fyswn-i wedi dod lawr ond {braidd yn sarhaus} allswn-i ddim dod o hyd i'm |dressing-gown|. |
| (Martha) Pam ych-chi wastod yn gwed petha cas am Ellen? | |
| (Martha) Pam ych-chi wastod yn gwed petha cas am Ellen? | |
| (1, 0) 167 | Beth wetas-i'n gas? |
| (1, 0) 171 | Otych-chi'n mynd mas? |
| (Martha) Nagw-i─pam? | |
| (1, 0) 174 | 'Rych chi'n dishgwl yn daclus iawn heno. |
| (Miriam) {Oddiuchod.} | |
| (Miriam) O─dyw-hi ddim man'ny nawr. | |
| (1, 0) 179 | Wyr y grotan 'na byth ble ma hi'n gatal dim byd. |
| (Martha) Fe'i dotas hi yn y dror cenol. | |
| (1, 0) 182 | Y bendith mawr─ucian munad i saith, a dyma fi heb hannar gwisgho. |
| (1, 0) 183 | Ble ma'n scitsha-i, otyn nhw'n lân? |
| (Martha) Otyn, ma nhw man'na o dan y sciw. | |
| (Martha) Yn y golch; cymar un glan. | |
| (1, 0) 188 | 'Rych-chi wedi bratu'r hen blant 'na, Martha. |
| (1, 0) 189 | Dos 'ma ddim i'w glwad o fora tan nos ond "Mam, ble ma'r peth hyn?" a "Mam, ble ma'r peth arall?" |
| (Martha) Falla mod i yn wir. | |
| (1, 0) 192 | Nawr, ble ma'n spectol i? |
| (Martha) Fe'i gadawsoch hi ar ffenast y sculeri; dyna 'i ar y ford fach. | |
| (1, 0) 195 | Ma gen-i gant a mil o betha i feddwl am danyn nhw heno. |
| (1, 0) 196 | Seiat bwysig iawn─'dych chi ddim yn dod? |
| (Martha) Na, ddim heno, William. | |
| (Martha) Na, ddim heno, William. | |
| (1, 0) 198 | 'Rych chi'n colli cwrdda'r wthnos yn amlach nag och chi, Martha. |
| (Martha) Otw, falla; ond yn ddweddar, ar ddiwadd y dydd, 'rwy wedi blino cymant, wn i ddim p'am, ond ma'n well gen i gymeryd spel man hyn ar yr aelwd. | |
| (Martha) Otw, falla; ond yn ddweddar, ar ddiwadd y dydd, 'rwy wedi blino cymant, wn i ddim p'am, ond ma'n well gen i gymeryd spel man hyn ar yr aelwd. | |
| (1, 0) 200 | Henant, 'llwn feddwl, henant. |
| (Miriam) {Oddiuchod.} | |
| (Miriam) Mam! | |
| (1, 0) 203 | Dyna hi eto! |
| (Martha) Ia. | |
| (Miriam) Symudsoch-chi riban y ngwallt-i rwla? | |
| (1, 0) 206 | Ti a dy ribana! |
| (1, 0) 207 | Shwt gall dyn feddwl a thrio cofio, a thitha'n gwiddi bob yn ail funad. |
| (Martha) Fe'i gadewast a yn y gecin nithwr gita'r cripa. | |
| (Martha) Ma nhw lawr 'ma. | |
| (1, 0) 211 | Nawr, dyna bapur aelotath morwn Mrs. Morgan. |
| (1, 0) 212 | Rwy'n cretu i fi ddoti-a yn y llyfyr hymna. |
| (Martha) Fe'i gadawsoch-a ar y ford nos Fawrth. | |
| (Martha) Fe gysgast lawar i awr ar honna pan ot ti'n fabi. | |
| (1, 0) 226 | A dyna bapur cyfrifon te-parti'r plant. |
| (Martha) Yn y Beibl mawr ar y ffenast rhwng Matthew a Marc. | |
| (Martha) William, otych-chi'n napod hon? | |
| (1, 0) 232 | 'Dos gen-i ddim amsar i farnu dresses nawr. |
| (1, 0) 234 | Nagw-i, ble cesoch-chi ddi? |
| (Martha) {Braidd yn siomedig.} | |
| (Martha) Os, cymar un o'r ochor arall. | |
| (1, 0) 241 | Alli-di ddim gatal dy fam yn llonydd? |
| (1, 0) 242 | Fe gymrat i phen hi tsa hynny o ryw ddipan i ti. |
| (John) Ble ma'n scitsha i? | |
| (John) Ma ticyn odwtsh yndo chi heno, nagos-a? | |
| (1, 0) 256 | Wyt ti'n wilia'n gwmws fel tsa ti ddim yn folon i weld pilyn decha am dy fam. |
| (John) Wetas-i ddim nag on i'n folon. | |
| (John) Wetas-i ddim nag on i'n folon. | |
| (1, 0) 259 | 'Dych chi'r plant ariod wedi rhoi llawar o gyfla iddi─Beth andras sy ar y bwtwn 'ma─Martha! |
| (John) {Yn chwerthin.} | |
| (1, 0) 264 | Dyna fe, dyna ddicon o dy dafod di. |
| (John) {Yn ffroeni'r awyr yn uchel.} | |
| (1, 0) 272 | Wel, ar y ngair i, am wn i nag w inna hefyd. |
| (Martha) {Yn ddiniwed.} | |
| (Martha) Falla fod Mrs. Jones drws nesa yn gneud ffrois. | |
| (1, 0) 275 | Martha, fe wyddoch o'r gora fod cystlad gen i weld platad o ffrois at y ford a dim. |
| (1, 0) 276 | A pheth arall, ma hi'n siwr o fod yn bryd i rywun gâl pen 'i flwydd yn y tŷ 'ma! |
| (Martha) O, fe gewch rai, cyn hir. | |
| (1, 0) 279 | Wel, wel, wel, wel─wel dyma beth diarth o ryfadd, 'rwy wedi gwishgo 'nhrwsis dŷ Sul. |
| (1, 0) 280 | Nawr, shwt ma hyn yn bod? |
| (1, 0) 282 | Ar bost y gwely y ceso-i a. |
| (Martha) Ryfadd iawn, ontefa? | |
| (1, 0) 285 | Ryfadd yn wir! |
| (1, 0) 286 | Beth gynllwn sy'n bod 'ma heno? |
| (Martha) Dim byd. | |
| (Martha) Dim byd. | |
| (1, 0) 288 | Odd y trwsis hyn ddim ar bost y gwely y bora ma. |
| (1, 0) 290 | A mwy na hynny, odd y petha hyn yn yn nrwsis dwetydd i ddo. |
| (Martha) Wel─wel ma'ch dillad dwetydd chi dicyn yn gomon nawr, a'rwy wedi bod yn cisho 'u gwella nhw. | |
| (Miriam) Fe fyddan nhw yn talu rhent oll ddyddia'u bywyd, a dyma chi a dou dŷ yn rhydd ar ych enw chi. | |
| (1, 0) 294 | Ia, ond nid wrth wishgo'm dillad Sul acha noswath waith y ceso i'r tai 'na cofia. |
| (1, 0) 296 | Na, 'dwy-i ddim yn mynd i wishgo rheina. |
| (John) Fe fyddwch yn edrych yn ddoniol os na newch chi. | |
| (John) Fe fyddwch yn edrych yn ddoniol os na newch chi. | |
| (1, 0) 298 | Na 'na. |
| (Martha) Wy-i am i chi wishgo rhain heno. | |
| (Martha) Wy-i am i chi wishgo rhain heno. | |
| (1, 0) 300 | Wel, pam? |
| (Martha) {Yn erfyniol.} | |
| (Martha) Dim ond─dim ond am y mod i'n gofyn i chi─dyna i gyd. | |
| (1, 0) 304 | Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno. |
| (Martha) Miriam, 'rwy am i ti fynd â rhain at Mrs. Pwal. | |
| (Martha) Ma hi'n mynd i Dreforgan yfory, a fe foddlonws fynd a pharsal i Annie dy whar. | |
| (1, 0) 308 | Ho─parsal arall! |
| (Martha) 'Dych-chi ddim yn folon William? | |
| (Martha) I'ch merch chi'ch hunan ma fa, neu i'r rhai bach, ta-pun. | |
| (1, 0) 311 | Folon, wel am otw-─ond rhowch gyfla i'r ferch i hunan i fod yn fam idd 'i phlant. |
| (Martha) Pitwch a wilia mor ffol. | |
| (Martha) Pitwch a wilia mor ffol. | |
| (1, 0) 313 | Welas-i ariod o'ch tepyg chi, Martha. |
| (1, 0) 314 | Tsa chi'n câl ych ffordd, fe roisach fwyd, dillad, a moddion i holl blant y Cwm, a chelsa dim un fenyw arall ddod yn acos iddyn nhw. |
| (1, 0) 316 | Beth yw hon? |
| (Miriam) O─mam, o'r hen froc wen odd gen-i. | |
| (Martha) Dos dim isha i ti wherthin ar ben gwlanen goch a sâm gwydd; fe achubson dy fywyd di unwaith, ondofa William? | |
| (1, 0) 323 | Do, am wn-i'n wir. |
| (Martha) Do fa, do, ama babi bach Annie yn peswch a pheswch a 'dyw'r doctor yn gneud dim lles iddo fa. | |
| (1, 0) 338 | Nawr, Martha, fe addawsoch y tro dwetha y celsa Gomar hela'i ddillad i'r golch yn Aberystwyth fel rhyw fachgan arall. |
| (Martha) 'Dyw'r landris 'na ddim yn crasu'r dillad fel y dylsan-nhw. | |
| (Martha) Dewch, scrifennwch |address| ar hwnna. | |
| (1, 0) 342 | Pryd smwddsoch-chi rheina? |
| (Martha) Pwy waniath pryd? | |
| (Martha) Ma nhw'n barod nawr. | |
| (1, 0) 345 | Nawr merch-i, fe'u smwddsoch nhw nithwr ar ol i fi fynd i'r gwely, ag odd-hi wedi un ar ddeg prynny. |
| (Martha) Wel, odd rhaid 'i gneud nhw, ond odd-a? | |
| (1, 0) 348 | Os aiff rhywun i'r nefodd, Martha, fe ewch chi, ond os na fydd 'na fashîn gwinio, twbin golchi, a phar o heyrn smwddo, fyddwch chi ddim wrth ych bodd. |
| (John) Beth sy man hyn? | |
| (Martha) Ia, dyna fe. | |
| (1, 0) 361 | A dyma fi'n bratu'm hamsar man hyn pan y dylswn-i fod ar y ffordd i'r capal. |
| (1, 0) 362 | Nawr, y papyra na─ |
| (1, 0) 364 | Dyna un. |
| (1, 0) 366 | Dyna ddou. |
| (1, 0) 367 | A ma 'na un arall eto. |
| (1, 0) 369 | Beth odd hwnnw? |
| (Martha) Llythyr oddiwrth y Cwrdd Mishol. | |
| (Martha) Llythyr oddiwrth y Cwrdd Mishol. | |
| (1, 0) 371 | O ia, nawr ma hwnnw yn yng nghot ddwetydd-i. |
| (Martha) Nag-yw, ma-fa yn y got 'na, y bocad frest 'r ochor with. | |
| (1, 0) 375 | Ma rhyw scêm ar drod gita chi heno. |
| (1, 0) 377 | Wel, 'naf-fi'r tro? |
| (1, 0) 378 | 'Dwy |i| ddim yn newid 'y nghrys na gwishgo |blouse| glân chwaith. |
| (Martha) {Yn troi oddiwrtho.} | |
| (1, 0) 382 | Yn weddol iefa? |
| (1, 0) 383 | Fe ddylswn fod, 'rwy wedi bod o dan y driniath am rai blynydda nawr. |
| (Martha) Otych, ond falla na cheso-i ddim gafal arnoch chi miwn pryd. | |
| (1, 0) 389 | Wel─er─wn i yn y byd. |
| (1, 0) 390 | Falla nag on-i ddim yn erfyn ych gweld chi yn y shôl 'na. |
| (1, 0) 391 | Pam ych-chi'n gwishgo honna heno? |
| (Martha) Gwell i fi 'i gwisgho hi na gatal i'r pryfad 'i byta hi. | |
| (John) Fysa dim crandach ladi na chi yn y wlad, tsa chi 'm ond gwishgo ticyn. | |
| (1, 0) 403 | Dyna fe, well i ti scwto ryw sothach fel 'na i ben dy fam! |
| (John) {O waelod ei galon.} | |
| (John) Fentra-i nag odd 'na ddim llawar i lanach merch yn y wlad pan odd hi'n ifanc. | |
| (1, 0) 406 | Hy!─fydd yn bwnc i ti gâl gafal ar 'i thepyg hi! |
| (Miriam) O mam, beth sy'n bod heno? | |
| (1, 0) 414 | Martha, 'dych chi ddim yn teimlo'n rhy dda heno. |
| (1, 0) 415 | Dim ond hannar gair, ym merch-i, a fe arhosa i yn y tŷ gita chi. |
| (Martha) Na, na, wy'n teimlo o'r gora. | |
| (1, 0) 421 | Wel, ma'r cwbwl gen i nawr. |
| (1, 0) 423 | Wn-i beth wetan-nhw yn y seiat pan welan-nhw fi yn y nillad gora acha nos Iou. |
| (Martha) Wetan-nhw ddim byd. | |
| (1, 0) 443 | Fe wyddwn-i fod 'na bapur arall! |
| (1, 0) 444 | Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul, ma nhw─ |
| (1, 0) 446 | Ffrois! |
| (1, 0) 447 | O'n i'n meddwl fod rhyw felltith neu gilydd gita chi. |
| (1, 0) 448 | Pwy sy'n câl 'i ben blwydd heddy? |
| (Martha) Allwch-chi ddim meddwl, William? | |
| (Martha) Allwch-chi ddim meddwl, William? | |
| (1, 0) 450 | Fe ddylswn fod yn gwpod hefyd. |
| (1, 0) 451 | Nid John, na ma John ym mish Hytra. |
| (Martha) Na─nid John. | |
| (Martha) Na─nid John. | |
| (1, 0) 453 | Annie ym mish Mehefin a Miriam─Miriam? |
| (Martha) Nid Annie na Miriam. | |
| (Martha) Nid Annie na Miriam. | |
| (1, 0) 455 | Gomar ym mish bach, a chitha─chitha ym mish Eprill. |
| (Martha) Ia. | |
| (1, 0) 458 | 'Rarswd mawr! |
| (1, 0) 459 | Nid 'men blwydd i yw-a, iefa? |
| (1, 0) 460 | Nace,─nace─'r wy i ym mish─mish Awst ond wy-i? |
| (Martha) {Yn dawel.} | |
| (Martha) Otych, William, 'rych chi ym mish Awst. | |
| (1, 0) 463 | Wel, 'dos 'ma neb arall. |
| (1, 0) 464 | Penblwydd pwy yw-a? |
| (Martha) Penblwydd hon, William. | |
| (1, 0) 470 | A dyma'n─dyma'n |silver wedding| ni, iefa? |
| (Martha) Ma cyfrifon yr Ysgol Sul tu cefan i'r cloc. | |
| (1, 0) 475 | Fysa dim llawar─fysa dim llawar─i chi─i chi─ |
| (Martha) I fi wed rwpath, William? | |
| (Martha) I fi wed rwpath, William? | |
| (1, 0) 477 | Na, nid felna chwaith. |
| (1, 0) 478 | Fysa ddim llawar i fi─{yn gryg iawn} i fi gofio─i fi feddwl rwpath. |
| (Martha) {Â'i llaw ar eì ysgwydd.} | |
| (Martha) Dych chi byth yn meddwl am betha felna, 'rwy'n gwpod. | |
| (1, 0) 483 | Na, fysa'n fawr i fi gofio! |
| (Martha) Ma'n ddrwg gen-i, William, mod i heb wed rwpath wrtho-chi. | |
| (Martha) Ma'n ddrwg gen-i, William, mod i heb wed rwpath wrtho-chi. | |
| (1, 0) 486 | Pum mlynadd ar ucian─{yn codi ei ben}─a shwrna itha galad 'rych chi wedi gâl. |
| (Martha) Fuws eriod wraig fwy hapus na fi, William. | |
| (Martha) Fuws eriod wraig fwy hapus na fi, William. | |
| (1, 0) 488 | Odd John yn itha iawn; dodd dim glanach crotan na chi yn y cymdogaetha. |
| (1, 0) 489 | A fe ddetho-i â chi o genol y wlad, oddiwrth y dolydd a'r caea, i fwg a lluwch du y cwm hyn. |
| (Martha) Fe adewsoch chitha'r blatur a'r arad i drafod mandral a rhaw'r pwll glo. | |
| (Martha) Fe adewsoch chitha'r blatur a'r arad i drafod mandral a rhaw'r pwll glo. | |
| (1, 0) 491 | Ia, pum mlynadd ar ucian. |
| (1, 0) 492 | 'Rwy'n ych gweld chi nawr; dress wlanan odd am danoch-chi, patrwn mân coch a du─ |
| (1, 0) 494 | A dyna hi! |
| (Martha) Ia, dyma hi. | |
| (Martha) Ia, dyma hi. | |
| (1, 0) 496 | 'Rodd ych bocha chi'n llawnach prynny Martha, ych llyced chi fel sêr, a'ch gwallt fel yr aur melyn─na, fysa'n fawr i fi gofio. |
| (Martha) Dyna, dyna─'dos dim raid i chi ofitio. | |
| (Martha) Dyna, dyna─'dos dim raid i chi ofitio. | |
| (1, 0) 498 | Tswn i wedi meddwl, fe fysa gen-i ryw bresant bach i chi. |
| (Martha) {Yn gwenu.} | |
| (Martha) 'Dos gen i ddim un presant i chi, a 'dwy inna ddim yn disgwl presant oddiwrtho chitha. | |
| (1, 0) 501 | Fe rows Robert lestri arian i Ellen. |
| (Martha) Do, do, ond 'dyn ni ddim 'r un peth. | |
| (Martha) Do, do, ond 'dyn ni ddim 'r un peth. | |
| (1, 0) 503 | Nagyn, 'dyn ni ddim yr un peth. |
| (1, 0) 504 | Ma arno i lawar fwy o ddylad i chi nag sy ar Robert i Ellen. |
| (1, 0) 505 | Ma'ch bocha chi'n welw nawr, ych gwallt yn britho, ych llyced chi'n pylu, a welwch chi'r rhygna 'na sy ar ych gruddia chi─dyna ôl y ddylad sy arnon-ni i chi, y fi a'r plant. |
| (Martha) Beth am y creitha glo sy ar ych gwynab chitha, y cymala poenus, a'r peswch aiff â chi i'r bedd yng nghynt na phryd? | |
| (1, 0) 518 | Fe wn-i beth sy'n ych meddwl chi. |
| (1, 0) 519 | Fe geso i start ym hunan. |
| (1, 0) 520 | Ond yw hi'n depyg iddi! |
| (Ellen) {Yn nesu a chusawu ei chwaer.} | |
| (Ellen) 'Rwy i wedi dy weld di lawar i dro yn depyg i mam, ond heno, â'r shôl 'na ar dy war, fuas bron a chretu i bod hi o flan yn llyced i. | |
| (1, 0) 523 | Dyna fe, lwchi, am wn i nag yw'r Brenin Mawr yn gofalu am restar o fama da, o genhedlath i genhedlath, a ma nhw i gyd yn ryfadd o depyg. |
| (John) Helo, ffrois! | |
| (John) Ble cesoch chi rheina─drws nesa? | |
| (1, 0) 527 | Wel, dewch ymlan. |
| (1, 0) 528 | Ble ma'r llestri? |
| (1, 0) 529 | 'Dos dim llawar o whant bwyd arno-i, ond fe 'llwn-i fyta ffroisan. |
| (Martha) {Gyda chysgod o wên.} | |
| (Martha) Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul? | |
| (1, 0) 532 | Gadewch nhw fod tu cefan i'r cloc. |
| (1, 0) 533 | A─h, ma'r tecil yn berwi. |
| (1, 0) 534 | Desc |
| (1, 0) 535 | Tynn WILLIAM y tegell oddiar y tân ac ymgymerant oll â gosod y bwrdd. |
| (1, 0) 536 | Daw MIRIAM â llestri tê glas a gwyn i'r golwg. |
| (Miriam) Welwch-chi, mam, beth sy gen-i man hyn? | |
| (1, 0) 542 | Dewch ymlan, dewch ymlan. |
| (Martha) Arhoswch i fi gâl plat arall. | |
| (Miriam) 'Rwy'n eilio'r cynyciad. | |
| (1, 0) 571 | Beth! ych mam i ishta lawr, dim byth! |
| (Ellen) {Yn ei gosod mewn cadair tua'r canol.} | |
| (1, 0) 580 | Ishteddwch lawr, ishteddwch lawr. |
| (Martha) {Yn gorffen y frawddeg.} | |
| (1, 0) 588 | Nawr! |
| (Ellen) Os gen-ti ddim gwell cyllath na hon i dorri bara? | |
| (Ellen) Na, rho gyllath arall i fi. | |
| (1, 0) 595 | Gadewch iddi; mae wedi torri'r |record|. |
| (1, 0) 596 | Fe ishteddws man'na yn secur am funad lawn a phawb arall yn gwitho. |
| (Ellen) Wel, ma popath yn barod nawr. | |
| (1, 0) 603 | la, fe ishtedda inna man hyn, Martha man'na, John a Miriam fan'na. |
| (1, 0) 605 | Os 'na rwpath yn isha? |
| (Martha) Os. | |
| (Martha) Os. | |
| (1, 0) 608 | Ag i bwy ma rheina? |
| (Martha) All Gomar a Annie ddim bod 'ma, fe wn, ond 'rwy am weld 'u cwpana nhw ar y ford. | |
| (1, 0) 612 | Wel? |
| (Martha) Ag 'ma 'na un arall. | |
| (1, 0) 615 | Os merch-i, ond ma hi miwn gwlad well, uwchlaw pob gofid a thrallod. |
| (Martha) {Yn syml iawn.} | |
| (Martha) Synnwn-i fawr na ddath mam â hi. | |
| (1, 0) 620 | Wel, gadewch i ni ddechra. |
| (1, 0) 621 | 'Dos dim isha i ni bito bod yn llawan heno. |
| (1, 0) 622 | Ellen, fynnwch-chi ffroisan? |
| (Miriam) Nhad! | |
| (1, 0) 626 | Beth sy'n─ |
| (1, 0) 627 | O ia, ia, fe anghofias. |
| (1, 0) 631 | Diolch i Ti am Dy drugaredda, ond y drugaradd fwya i gyd, diolch i Ti─diolch i Ti─am Martha. |