| (Marged) Tom! | |
| (Tom) Weles i eriod shwt ffys am lygoden. | |
| (1, 0) 39 | Hel... Helo. |
| (1, 0) 40 | Beth ti'n neud yn fanna, Twm? |
| (1, 0) 41 | Dala llygod? |
| (Tom) Aw, aw... | |
| (Tom) Tynnwch e yn rhydd gloi! | |
| (1, 0) 48 | Nawr, paid gwylltu, bachan. |
| (1, 0) 49 | Dere 'ma i fi gal e bant. |
| (1, 0) 50 | Hei, Twm, dyma'r llygoden fwya ma'r trap 'ma wedi'i ddala eriôd, siŵr o fod. |
| (Marged) Tom bach, chi mor lletwith â whilber. | |
| (Marged) Nawr triwch roi e'n iawn y tro hyn. | |
| (1, 0) 53 | Os dim cath gyda chi, 'te? |
| (Marged) Os, os, mae cath i gal yma, ond 'dyw e'n dda i ddim, ddim ond i orwedd o fore hyd nos. | |
| (Tom) Os rhyw newydd gyda ti? | |
| (1, 0) 62 | Jiw, alla i ddim aros yn hir achos 'ma Matilda yn paratoi i ddod â llo. |
| (Tom) Ond ma' John y gwas gyda ti i ofalu am honno. | |
| (Tom) Ond ma' John y gwas gyda ti i ofalu am honno. | |
| (1, 0) 64 | O, hen was da yw John, ond 'ma fe yn panico strêt pan fydd buwch yn dod â llo. |
| (1, 0) 65 | Pan gath 'i wraig e fabi llynedd, gorfod iddo fe gal 'kiss of life' yn yr ysbyty. |
| (1, 0) 66 | Wel, beth yw'r arwydd 'na weles i ar ben y lôn 'na: 'Bed and Brecwast'. |
| (Tom) O, ma' Marged yma yn credu gall hi neud rhyw ffortiwn wrth gadw fisitors. | |
| (Marged) Beth o'n i'n weud, Wil, odd hyn: gan fod Mari wedi priodi, odd e'n biti fod y llofft yn wag, a ma' lot o fisitors yn paso ffordd hyn yn yr haf, a mae lot o arian i'w neud o'r busnes 'Bed and Brecwast' yma. | |
| (1, 0) 72 | Weda i un peth, Marged, fi'n methu gweld Tom yn cario Corn Flakes lan llofft bob bore i'r fisitor. |
| (Tom) Edrych 'ma, Wil, dw i ddim wedi cal brecwast 'yn hunan yn y gwely eriod, a dwi ddim yn meddwl cario brecwast i rhyw Jip Jachs ar holides, fi'n eitha siŵr, fe gân nhw godi pan fydd 'u bolie nhw'n galw. | |
| (Tom) Odd dim diolch amser hynny, on i'n rhy sâl i ddod lawr i moyn e. | |
| (1, 0) 76 | Wel, os rhywun wedi dod yma eto 'te? |
| (Marged) Na, ddim ond ddoe rhoion ni'r arwydd lan. | |
| (Marged) Na, ddim ond ddoe rhoion ni'r arwydd lan. | |
| (1, 0) 78 | Cofiwch, fi ddim ishe hela ofan arnoch chi, ond ma' hi'n fusnes risci... |
| (Tom) Beth ti'n foddran bod hi'n risci? | |
| (Tom) Beth sy'n risci amboiti hi? | |
| (1, 0) 81 | Wel, ti ddim yn gwybod pwy yw pwy heddi, wyt ti? |
| (1, 0) 82 | Odd e'n y papurau ddoe, odd 'na wr a gwraig lawr ar bwys San Clêr yn byw mewn fferm fach fynyddig fel hyn ac yn cadw'r Bed a Brecwast yma, ac un nosweth fe ddaeth cnoc ar y drws tua unarddeg y nos, ac fe alwodd dou o'r beth chi'n galw nhw, yr... yr... ym... o... ym... yr Haleliwia Angels yma. |
| (Marged) Hells Angels, ti'n meddwl bachan. | |
| (Marged) Hells Angels, ti'n meddwl bachan. | |
| (1, 0) 84 | Ie, na ti, Hells Angels ar gefen moto beics ac o'n nhw ishe Bed a Brecwast yno, ac felny buodd hi ond yn y bore beth ti'n meddwl ddigwyddodd? |
| (Tom) {Yn sobr.} | |
| (Tom) Ew, na dim syniad ─ beth? | |
| (1, 0) 87 | O'n nhw wedi mynd... wedi mynd... |
| (Tom) A 'dôn nhw ddim wedi talu siŵr o fod. | |
| (Tom) Marged, os daw rhywun yma fydda i yn moyn 'yn nhalu cyn bod nhw'n mynd i'r gwely. | |
| (1, 0) 90 | Twm bach, gad i fi orffen y stori, odd e'n waeth na hynny, o nhw wedi CROGI y ddou a dwgyd y cwbl odd yn y ty. |
| (Tom) Crogi y ddou! | |
| (Marged) | | |
| (1, 0) 98 | O na, na odd e'n eitha gwir, odd | enw'r ffarm a'r bobl, ac echdo' | ddigwyddodd e a mae nhw heb eu dal o hyd. |
| (1, 0) 99 | A chi ishe gwybod peth arall, faint ych chi'n feddwl o'n nhw wedi'i ddwgyd? |
| (Tom) Ugen mil efallai? | |
| (Tom) | | |
| (1, 0) 102 | Ti a dy ugen mil ─ dim ond pym theg punt. |
| (1, 0) 103 | Ie, o'n nhw wedi crogi y ddou am ddim ond pymtheg punt. |
| (1, 0) 104 | | |
| (Tom) Bachgen, bachgen, fi ddim yn credu y galla i gysgu'r haf yma rhagor. | |
| (Marged) O, byddwch dawel o hyd, ma' digon hawdd nabod pobl wrth 'u golwg. | |
| (1, 0) 111 | O, fi ddim yn gweud llai, ond byddwch chi yn fwy gofalus na chodyn. |
| (Tom) Fi wedi gweud o'r dechre nad ydw i'n lico'r busnes yma... | |
| (1, 0) 120 | Beth sy'n bod, bachan? |
| (John) Ma... ma... ma... Matilda... wedi... wedi... bwrw un llo a ma un arall ar y ffordd a dim ond 'i gwt e'n y golwg. | |
| (1, 0) 124 | O danco, delen i ddim fod wedi aros mor hir. |
| (1, 0) 125 | Dere mlan bachan. |
| (Tom) Wyt ti ishe help? | |
| (Tom) {Tom yn tynnu y trap ar ei benlinie.} | |
| (1, 0) 388 | Rarswyd mowr, beth ych chi yn neud yma heno, chwarae cwato. |
| (1, 0) 389 | Os llygoden yn y trap te? |
| (Tom) {Yn codi.} | |
| (Tom) Nagoes, maen nhw yn chwilio gwell lle yma heno na mynd i drape. | |
| (1, 0) 392 | O, wel, beth odd y car yna oedd yn mynd o 'ma jyst nawr. |
| (Marged) O, o, ym, dynion dierth wedi colli ffordd yn te fe, Tom. | |
| (Tom) Ddo'n nhw ddim nôl ffordd hyn rhagor. | |
| (1, 0) 397 | Bachan, gynigoch chi ddim bed and breakfast iddyn nhw te? |
| (Tom) Naddo, achan. | |
| (Tom) Wel beth yw hanes Blodwen te? | |
| (1, 0) 400 | O dou lo perta welest ti, un goch fenyw, a un gwryw du penwyn, a sen i wedi bod funud yn hwy fydde hi wedi bod yn rhy ddiweddar, cofia. |
| (Tom) Ew, go lew achan. | |
| (Tom) Beth wyt ti'n mynd i neud â nhw te? | |
| (1, 0) 412 | O, gwerthu nhw, siŵr o fod, mart nesa, achos mae'n bwysicach i fi lawn bola y Bulk Tank na llanw bolie'r ddou 'na. |
| (1, 0) 413 | Cofia, dwi ddim yn meddwl â'n nhw yn ddrud iawn achos mai twins y'n nhw. |
| (Tom) Reit te, faint ti moyn amdanyn nhw te? | |
| (Tom) Reit te, faint ti moyn amdanyn nhw te? | |
| (1, 0) 415 | Bachan, beth sydd yn bod arno ti, dy'n nhw ddim ond wedi agor 'u llyged achan. |
| (Tom) Wel, gwed bachan, faint ti moyn? | |
| (Tom) Wel, gwed bachan, faint ti moyn? | |
| (1, 0) 417 | Wel dwi ddim wedi meddwl am y peth eto. |
| (Tom) Wel, bachan, mae rhyw syniad gyda ti, bownd o fod. | |
| (Tom) Gwed faint ti'n ddal bachan? | |
| (1, 0) 420 | Wel, Twm bach, mae rhaid i fi weld nhw gynta cyn gallwn ni setlo dim. |
| (Tom) Reit te, heno amdani, a ma ise mynd i dynnu yr arwydd lawr o ben lôn arna i. | |
| (Tom) Reit te, heno amdani, a ma ise mynd i dynnu yr arwydd lawr o ben lôn arna i. | |
| (1, 0) 422 | Bachan, newydd i rhoi e lan wyt ti. |
| (Tom) Ie, na pam rwy i am dynnu e lawr cyn gwelith neb arall e, achos mae well i Marged a fi fagu lloi yn stabl na chadw lloi lan stâr. | |
| (Tom) Cofia un peth, Wil, odd lloi yn eitha tsiep mart diwetha. | |
| (1, 0) 433 | Ond cofia di un peth, mae buwch sbesial yn fam i'r rhain. |
| (Tom) Ie, ie, ond hen darw potel yw 'u tad nhw. | |
| (Tom) Ie, ie, ond hen darw potel yw 'u tad nhw. | |
| (1, 0) 435 | Gwell byth yw hynny bachan. |
| (Tom) Beth ti'n siarad, bachan? | |
| (Marged) Dewch ymlaen nawr, gwisgwch ych cot yn lle siarad trwy'ch hat. | |
| (1, 0) 441 | Reit, chi'n barod te. |
| (Tom) Barod. | |
| (Tom) Jeremy a Patsy Bull. | |
| (1, 0) 446 | Bachan, ble cest ti afael yn yr enw 'na? |