| (Cynulleidfa) Gan hynny, yr ydym yn offrymu ac yn cyflwyno i ti, O! Arglwydd | |
| (Huw) Fedra i ddim. | |
| (1, 2) 233 | Pam? |
| (Huw) Am mai dyna ydi dymuniad y Corff Llywodraethol. | |
| (Huw) Am mai dyna ydi dymuniad y Corff Llywodraethol. | |
| (1, 2) 235 | Be' am ddymuniad y bobl? |
| (Huw) Mae 'na bobol ar y Corff Llywodraethol. | |
| (Huw) Mae 'na bobol ar y Corff Llywodraethol. | |
| (1, 2) 237 | Dydw i ddim. |
| (Huw) Nid fy mai i ydi hynny. | |
| (Huw) Dydw i ddim arno fo fy hun. | |
| (1, 2) 240 | Nid fy mai i ydi hynny. |
| (1, 2) 241 | Ylwch. |
| (1, 2) 242 | Yn y festri 'na mae 'na dri dwsin o Lyfra Gweddi. |
| (1, 2) 243 | Dydyn nhw ddim gwaeth. |
| (Huw) Ond nid... | |
| (Huw) Ond nid... | |
| (1, 2) 245 | Mi es i. |
| (1, 2) 246 | Nid 'mod i'n edliw cofiwch. |
| (1, 2) 247 | Mi es i, yn un swydd i Gaerdydd i nhôl nhw. |
| (1, 2) 248 | Yr holl ffordd. |
| (1, 2) 249 | Ei prynu nhw efo f'arian fy hun. |
| (1, 2) 250 | Nid 'mod i'n edliw cofiwch. |
| (1, 2) 251 | Mi wna'i rywbeth i'r hen eglwys 'ma. |
| (1, 2) 252 | 'Dach chi'n gwybod hynny. |
| (1, 2) 253 | Rhywbeth. |
| (1, 2) 254 | Ond mae pobol y plwy' 'ma'n... |
| (Huw) {Wedi gwylltio.} | |
| (Huw) Ydach chi? | |
| (1, 2) 258 | Lle ma'ch asgwrn cefn chi? |
| (Huw) Dyna un peth na ch'es i mo ngeni efo fo. | |
| (Huw) Rŵan os wnewch chi... | |
| (1, 2) 261 | Magu asgwrn cefn ydach chi. |
| (1, 2) 262 | Byw yn yr hen fyd 'ma roith hwnnw ichi. |
| (Huw) Felly. | |
| (Huw) Felly. | |
| (1, 2) 264 | Mae'i Gymraeg o'n warthus. |
| (Huw) O. | |
| (Huw) O. | |
| (1, 2) 266 | Yn merwino clustia' eglwyswr o'r iawn ryw. |
| (Huw) Tybed. | |
| (Huw) Tybed. | |
| (1, 2) 268 | Mae'n rhaid moderneiddio popeth heddiw. |
| (1, 2) 269 | Sgubo'r hen betha' fel tasa nhw'n faw. |
| (Huw) Mae'n rhaid inni symud efo'r oes. | |
| (Huw) Mae'n rhaid inni symud efo'r oes. | |
| (1, 2) 271 | Symud i le? |
| (Huw) Mae hynny i fyny i ni. | |
| (Huw) Faint o'r... | |
| (1, 2) 274 | Yn onest rŵan. |
| (1, 2) 275 | Ydach chi'n hapus efo Cymraeg y gwasanaeth newydd 'ma? |
| (Huw) A bod yn onest? | |
| (Huw) Mae'n well gen i Gymraeg y Llyfr Gweddi. | |
| (1, 2) 279 | Ewch yn ôl at yr hen Lyfr Gweddi 'ta? |
| (Huw) Ond dydi'r gwasanaeth newydd 'ma ddim yn ddrwg i gyd, cofiwch. | |
| (Huw) Ac nid son am yr iaith 'rydw i. | |
| (1, 2) 282 | Mae'n rhaid i iaith crefydd... |
| (Huw) Mae iddo fo'i ragoriaethau. | |
| (Huw) Mae iddo fo'i ragoriaethau. | |
| (1, 2) 284 | Pa ragoriaethau? |
| (Huw) Rhagoriaethau diwinyddol. | |
| (Huw) Pan oedd Cranmer yn... | |
| (1, 2) 287 | Pwy? |
| (Huw) Cranmer. | |
| (Huw) Yfo oedd yn gyfrifol am... | |
| (1, 2) 290 | Ylwch. |
| (1, 2) 291 | Dyn cyffredin ydw i. |
| (1, 2) 292 | Peidiwch â dechra' lluchio llwch i fy ll'gada i, |
| (Huw) {O'r neilltu.} | |
| (Huw) Roeddwn i'n meddwl fod y werin Gymraeg yn diwinyddion o'r groth? | |
| (1, 2) 295 | Be? |
| (Huw) Dim byd. | |
| (Huw) Dim byd. | |
| (1, 2) 299 | Be' amdani. |
| (Huw) Be' amdani, be? | |
| (Huw) Be' amdani, be? | |
| (1, 2) 301 | Be' am wasanaeth y Llyfr Gweddi. |
| (1, 2) 302 | Sul nesa'? |
| (Huw) Mi feddylia'i dros y peth. | |
| (Huw) Mi feddylia'i dros y peth. | |
| (1, 2) 305 | Be aeth o'i le bore 'ma? |
| (Huw) Be' ydach chi'n feddwl? | |
| (Huw) Be' ydach chi'n feddwl? | |
| (1, 2) 307 | Mwydro tipyn, on'd oeddach? |
| (1, 2) 308 | Tua'r diwedd. |
| (1, 2) 309 | Be' sy? |
| (Huw) Rhyw ben'sgafnder ddoth drosta i. | |
| (Huw) Dyna'r cwbl,. | |
| (1, 2) 312 | Gormod â'ch trwyn yn yr hen lyfra 'na ydach chi. |
| (Huw) {Yn goeglyd.} | |
| (Huw) Mae'n rhaid cael pregeth yn barod ichi, bydd? | |
| (1, 2) 315 | Rhywbeth syml mae'n nhw eisio yma. |
| (Huw) Ond 'dydi popeth ddim yn syml, yn nac ydi? | |
| (Huw) Ond 'dydi popeth ddim yn syml, yn nac ydi? | |
| (1, 2) 317 | Yn yr ochra' yma; ydyn. |
| (1, 2) 318 | 'Dydi syniada Awstin Sant am amser yn golygu dim i ni. |
| (1, 2) 319 | Dim. |
| (Huw) {O'r neilltu.} | |
| (Huw) "Duw gadwo y werin." | |
| (1, 2) 322 | Mae 'na fawredd mewn symlrwydd cofiwch. |
| (Huw) {Yn edrych arno.} | |
| (Huw) Mae'n well imi... | |
| (1, 2) 326 | O. |
| (1, 2) 327 | Un peth arall. |
| (1, 2) 328 | Dowch yma. |
| (1, 2) 329 | 'Drychwch. |
| (1, 2) 330 | Mae'r fynwent 'ma'n friw i lygaid rhywun. |
| (1, 2) 331 | Welis i rioed y fath sgrwff. |
| (1, 2) 332 | Ddaru chi dd'eud wrth y Wil Huws 'na am ddwad yma efo'i bladur? |
| (1, 2) 333 | Ddaru chi? |
| (Huw) Mi a'i weld o 'fory. | |
| (Huw) Beth bynnag... | |
| (1, 2) 336 | Ewch heno nesa'. |
| (Huw) A'i wraig o'n cwyno? | |
| (Huw) A'i wraig o'n cwyno? | |
| (1, 2) 338 | Pa wahaniaeth wneith hynny? |
| (Huw) Mae ganddo fo ddigon ar ei blat. | |
| (Huw) Mwy na digon. | |
| (1, 2) 341 | Y felan eto m'wn, Duw annw'l Dad. |
| (Huw) Mae hi'n ddynes wael. | |
| (Huw) Mae hi'n ddynes wael. | |
| (1, 2) 343 | Cwyno fuo hanes honno 'rioed. |
| (Huw) Mae hi'n dioddef oddi wrth ei nerfau. | |
| (Huw) Mae hi'n dioddef oddi wrth ei nerfau. | |
| (1, 2) 345 | Nerfa'. |
| (1, 2) 346 | Twt lol. |
| (1, 2) 347 | Hen bryd iddi dynnu'i hun at 'i gilydd. |
| (1, 2) 348 | Wn i ddim be ydi nerfa'. |
| (Huw) Gwyn eich byd chi. | |
| (Huw) Gwyn eich byd chi. | |
| (1, 2) 350 | A wyddoch chi pam? |
| (Huw) Mae gen i syniad. | |
| (Huw) Mae gen i syniad. | |
| (1, 2) 352 | Am fod gen i Ffydd. |
| (1, 2) 353 | Ffydd yn yr Hollalluog. |
| (Huw) Ffydd, ia? | |
| (Huw) Hy. | |
| (1, 2) 356 | Ac 'neith eich holl bregethu modern chi ddim siglo mymryn arni hi. |
| (Huw) Dim hyn'na oedd fy mwriad i. | |
| (Huw) Dim hyn'na oedd fy mwriad i. | |
| (1, 2) 358 | Naci? |
| (Huw) Naci. | |
| (1, 2) 362 | Dyna be' cadwodd hi i fynd. |
| (1, 2) 363 | Ffydd, |
| (Huw) Pwy? | |
| (Huw) Pwy? | |
| (1, 2) 365 | Y musus. |
| (Huw) Ia. | |
| (Huw) Ia. | |
| (1, 2) 367 | Ffydd syml. |
| (1, 2) 368 | At y diwedd. |
| (1, 2) 369 | Roedd o'n gysur iddi. |
| (Huw) Mae ffydd yn fwy na chysur. | |
| (Huw) Mae ffydd yn fwy na chysur. | |
| (1, 2) 371 | Meidrol ydan ni cofiwch, Dysgwch dderbyn hynny. |
| (1, 2) 372 | Bodlonwch. |
| (Huw) Be ydach chi'n feddwl? | |
| (Huw) Be ydach chi'n feddwl? | |
| (1, 2) 374 | Lladdwch o. |
| (1, 2) 375 | Rwan. |
| (1, 2) 376 | Ne' mi lladith o chi. |
| (Huw) Lladd be? | |
| (Huw) Lladd be? | |
| (1, 2) 378 | Wyddoch chi ddim? |
| (Huw) Na wn i. | |
| (Huw) Na wn i. | |
| (1, 2) 380 | Petha' mawr o'ch blaen chi felly, on'd oes? |
| (Huw) Petha' mawr? | |
| (Huw) Petha' mawr? | |
| (1, 2) 382 | Am ddwad nos Ferchar? |
| (Huw) Mm? | |
| (Huw) Mm? | |
| (1, 2) 384 | Nos Ferchar. |
| (1, 2) 385 | I'r Steddfod? |
| (Huw) {Braidd yn sbeitlyd.} | |
| (Huw) Go brin. | |
| (1, 2) 388 | Glyw'is i eich bod chi'n englynwr o fri. |
| (Huw) Lle clywsoch chi'r fath lol? | |
| (Huw) Lle clywsoch chi'r fath lol? | |
| (1, 2) 390 | 'Roeddwn i'n meddwl mai tynnu 'nghoes i 'roeddan nhw. |
| (Huw) I ddweud y lleia'. | |
| (Huw) I ddweud y lleia'. | |
| (1, 2) 393 | Mae 'na le i betha' felly cofiwch. |
| (1, 2) 394 | Rhan o fywyd, on'd ydi? |
| (1, 2) 395 | Hwyl, syml, pobol... gyffredin. |
| (Huw) Hy. | |
| (Huw) Hy. | |
| (1, 2) 398 | Ugain punt. |
| (Huw) Be? | |
| (Huw) Be? | |
| (1, 2) 400 | Peidiwch a chynnig mwy nag ugain punt i Wil Huws. |
| (1, 2) 401 | Llawn ddigon i ddyn am waith tridia'. |
| (1, 2) 402 | A chofiwch Sul nesa'. |
| (Huw) Sul nesa', | |
| (Huw) Sul nesa', | |
| (1, 2) 404 | Cymun o'r Llyfr Gweddi. |