| (Bernardo) Pwy sydd yna? | |
| (Brenin) Pa air oddiwrth ein brawd o Norway? | |
| (2, 2) 1449 | Mae'n |
| (2, 2) 1450 | Dychwelyd yn bur deg eich hanerch chwi |
| (2, 2) 1451 | A'ch dymuniadau. Gyrodd gyntaf peth, |
| (2, 2) 1452 | Pan gyrhaeddasom ni, i atal gwaith |
| (2, 2) 1453 | Ei nai yn gosod trethi; y rhai wnaent |
| (2, 2) 1454 | Ymddangos iddo ef fel darpar at |
| (2, 2) 1455 | Ymosod ar y Polack; ond ar ol |
| (2, 2) 1456 | Ymchwiliad gwell, fe gafodd allan mai |
| (2, 2) 1457 | Yn erbyn eich huchelder chwi yr oedd, |
| (2, 2) 1458 | O achos hyn gofidiwyd ef,—am fod |
| (2, 2) 1459 | Ei nai yn cym'ryd mantais ar |
| (2, 2) 1460 | Ei oed, ei glefyd, a'i anellu, er |
| (2, 2) 1461 | Ei dwyllo, ac anfonodd ef ei wys |
| (2, 2) 1462 | I ddala Fortinbras; yr hon, ar fyr, |
| (2, 2) 1463 | A ufuddäodd; yna derbyn wnaeth |
| (2, 2) 1464 | Geryddiad oddiwrth Norway; ac efe |
| (2, 2) 1465 | O'r diwedd addunedai o flaen ei ewythr, |
| (2, 2) 1466 | Na wnai ef godi byth o hyny arf |
| (2, 2) 1467 | Yn erbyn eich mawrhydi. Oherwydd hyn, |
| (2, 2) 1468 | Hen Norway, wedi ei orchfygu gan |
| (2, 2) 1469 | Ei fawr lawenydd, rhoddodd deirmil o |
| (2, 2) 1470 | Goronau, fel ei flwydd-dâl ef, yn nghyd |
| (2, 2) 1471 | A chenad i ddefnyddio 'r milwyr oll |
| (2, 2) 1472 | Godasai ef yn erbyn gwlad y Pwyl, |
| (2, 2) 1473 | Gan ddeisyf arnoch, fel dangosa hwn.— |
| (2, 2) 1475 | Foddloni rhoi mynediad tawel trwy |
| (2, 2) 1476 | Eich tiriogaethau, ar yr antur hon: |
| (2, 2) 1477 | Ar yr amodau o ddiogelwch, ac |
| (2, 2) 1478 | O ganiatâd, a nodir yna i lawr. |