| (Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un. | |
| (Scweier) Gwêd dy stori. | |
| (1, 0) 163 | Ma'r si ar lêd, syr, fod Beca a'i merched ar garlam wyllt drwy y gymdogaeth. |
| (Dafi) Hwre, bendigedig! | |
| (Scweier) Cer ymlaen â dy stori, Twm, yn lle sefyll fel mwlsin fan 'na. | |
| (1, 0) 167 | 'Rodd y cipar a finne yn câl bob o beint yn Tafarn Spite heno, pan ddaeth gwas Hafod Isa miwn gan waeddi yn wyllt tros y lle fod Beca a'i merched ar gefen ceffyle ar garlam wyllt drwy y lle, eu bod nhw wedi torri gât New Inn, ac eu bod ar eu ffordd i dorri gât Drefach; eu bod wedi gyrru i dŷ Salmon y Cybydd a'i dynnu o'i wely, a bwgwth llosgi ei helem wenith os na addewai roi help i bobol dlawd y plwy. |
| (1, 0) 168 | Eu bod wedi cario plentyn Sian Pantfoel i dŷ Twm Sâr, a bwgwth towlu Twm i Bwll y Dibyn yn afon Teifi, os na wnai addaw priodi Sian. |
| (1, 0) 169 | Yr oedd y ddau frawd gan fawr eu dychryn yn barod i addaw unrhyw beth. |
| (1, 0) 170 | Yna fe aethant— |