| (1, 0) 9 | Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? |
| (1, 0) 10 | Am y tro diweddaf, |three cheers| iddo ac hir oes i wasnaethu 'i genedl. |
| (Mr Jones-Roberts) {Staccato yn ei ddull o siarad a defnydd mynych o'r spectol aur i gyfleu ei feddwl.} | |
| (1, 0) 17 | Harri!─ |
| (1, 0) 19 | .} |
| (1, 0) 20 | Mi faddeuwch i mi 'ch dau, ond Harri fydda i'n ei alw er yn hogyn. |
| (Mrs Jones-Roberts) {Yn rasol.} | |
| (1, 0) 24 | Harri, bu Mr. a Mrs. Jones-Roberts yn gefn i mi ac i'r blaid drwy'r blynyddoedd, a syn i mi {fel cadno cyfrwys} na fasa enw Mr. Jones-Roberts ar yr |Honours-list| ers llawer dydd. |
| (Mrs Jones-Roberts) {Yn ostyngedig.} | |
| (1, 0) 31 | Dyna adnod i glensio'r ddadl. |
| (Mr Jones-Roberts) Fel un y mae llwyddiant y blaid yn agos at ei galon─agos iawn os ca i ddweyd─{dan ysgwyd ei ben} wn i ddim a yw'r arweinwyr yn Llundain yn cofio hynny─ond mi fydda i wrth eich cefn tan y diwedd, Mr. Meredith. | |
| (1, 0) 39 | |Veteran|! mewn dysg a profiad efallai, ond rydych yn edrych yn iengach heddiw─ |
| (Mrs Jones-Roberts) {Yn llyncu'r cwbl.} | |
| (1, 0) 47 | Pwy ond y gŵr all siarad am wraig ei fynwes? |
| (Mr Jones-Roberts) {Y spectol yn gweithio.} | |
| (1, 0) 53 | Os dwedodd Harri unwaith y tair wsnos diweddaf mi ddwedodd ganwaith am yr help fuoch chwi'ch dau iddo. |
| (1, 0) 54 | "Mae tact Mrs. Jones-Roberts," medde fo ddoe, "yn amhrisiadwy". |
| (Harri) {Yn dwp.} | |
| (1, 0) 58 | Harri, tasa gen i ddarn o gortyn yn spâr mi faswn yn gofyn iti fel ffafr bersonol i grogi dy hun rhag blaen. |
| (1, 0) 60 | Myrddin mi glywsoch chi─ |
| (Myrddin) | |
| (Mrs Jones-Roberts) Ymhle y buo fo yn y coleg─Oxford neu Cambridge? | |
| (1, 0) 77 | Prifysgol Cymru. |
| (Mrs Jones-Roberts) {Wrth y gŵr.} | |
| (1, 0) 90 | Ie, prifysgol i blant y werin─ |
| (Mrs Jones-Roberts) Cofiwch nid ym yn dweyd dim am y werin. | |
| (1, 0) 93 | Na, na wrth gwrs─mae'u fôts nhw─ |
| (Mr Jones-Roberts) {Staccato.} | |
| (1, 0) 99 | Peth o'r |atmosphere|. |
| (Mr Jones-Roberts) Perswadiwch o i sôn llai am yr hobis yma sydd ganddo─|international fellowship|─|political morality|, a mwy am motos y blaid─ | |
| (1, 0) 102 | Sydd wedi'u cerfio ar ein calon. |
| (Mr Jones-Roberts) Mwy o chware hefyd ar y tant cenedlaethol. | |
| (1, 0) 105 | Ie, oes y byd i'r iaith Gymraeg! |
| (Mrs Jones-Roberts) |Good-bye|, Syr Tomos. | |
| (Myrddin) Be sy'n bod? | |
| (1, 0) 112 | |Atmosphere|─|atmosphere|. |
| (1, 0) 114 | Rhaid cael gwared o'r ddau |atmosphere| yna. |
| (Olifer) Mae Myrddin a finnau'n gorfod cysgu yno heno. | |
| (Olifer) | |
| (1, 0) 117 | Fasa waeth gen i gysgu ar lwyn o gelyn, ond myn brain! 'does dim |tact| yn Harri. |
| (Olifer) Fasa fo byth ar ben y pôl onibae am danom ni'n tri. | |
| (Myrddin) Wneiff o ddim ohoni yn y senedd efo'i lol am frawdoliaeth y cenhedloedd─|political morality| fy nain: chwi sy'n gyfrifol am i ni ei ddewis. | |
| (1, 0) 120 | Hogyn braf ydyw er hynny─thyfith o byth yn ddyn call fel ni'n tri. |
| (Harri) {Yn dod i mewn.} | |
| (1, 0) 124 | Roeddwn yn gobeithio dy fod wedi crogi dy hun. |
| (Myrddin) Mi faddeuwch i ni fel hen ymladdwyr politicaidd, ond rhaid i chwi ddysgu; dioddef ffyliaid, Meredith. | |
| (1, 0) 130 | Sebon, Harri, rhaid cael sebon ymhob cylch. |
| (Harri) Rwy'n ceisio bod o ddifri efo pawb. | |
| (Harri) Rwy'n ceisio bod o ddifri efo pawb. | |
| (1, 0) 132 | Nid bod o ddifri sy'n bwysig ond rhoi'r argraff dy fod o ddifri. |
| (1, 0) 133 | Rwyf fi, er enghraifft, wedi palu celwyddau am chwarter canrif, ond rwy'n ddiolchgar na ches i rioed mo 'nal. |
| (Myrddin) {Fel clochydd.} | |
| (1, 0) 139 | A'ch celwyddau. |
| (1, 0) 140 | Do, efallai; ond mi lwyddais i gamarwain y mwyafrif─drwy help Myrddin a'r Wasg, a diolch am y Wasg!─hen sefydliad bendigedig yw'r Wasg i amddiffyn celwydd bach gwan amddifad. |
| (1, 0) 142 | A dyweded yr holl newyddiadurwyr "Amen." |
| (Myrddin) {Yn casglu'i bapurau.} | |
| (1, 0) 148 | Harri, Harri, does dim shâp politisian ar eiriau fel yna. |
| (1, 0) 149 | Cymer gyngor gan wŷr o brofiad fel ni. |
| (1, 0) 150 | Rhyw fath o lastig yw gwirionedd mewn politics─mi elli ei stretsio, wyddost. |
| (Mrs Oliver) Olifer, rwy'n mynd i'r stesion efo Nan i gyfarfod â mam Meredith, | |
| (1, 0) 154 | Mi fydd yn drêt i'r hen dre fach hyll yma weld dwy mor hardd. |
| (Mrs Oliver) Nid bob dydd mae hi'n gweld dwy wraig i |M.P|. | |
| (Mrs Oliver) Nid bob dydd mae hi'n gweld dwy wraig i |M.P|. | |
| (1, 0) 156 | |Steady on|! dwy wraig i ddau |M.P.|─chaiff |M.P.| ddim ond un wraig ar unwaith, er gofid i rai o'r cnafon. |
| (Mrs Oliver) Chawsoch chi'r un. | |
| (Mrs Oliver) Chawsoch chi'r un. | |
| (1, 0) 158 | |Wrong| eto, chymerais i'r un, roedd digon i'w cael. |
| (Myrddin) Rwan Meredith─sylwn ni ddim ar goegni Syr Tomos, ond yn sicr i chi y mae llawer gwir yn well o'i gelu ac mi welwch hynny'n fuan ym myd politics. | |
| (Harri) Compromeisio─compromeisio, beth yn syml yw hynny? | |
| (1, 0) 173 | Yn syml dyna yw compromeisio─titotal sy'n cashau |ginger-beer| ond â blys cwrw arno yn torri'r ddadl drwy gymysgu'r ddau a gwneud yr hyn elwir yn shandigaff, a shandigaff o gelwydd a gwir yn gymysg yw busnes a pholitics y byd a'r oesoedd, a dyna fydd hi byth.' |
| (Mabli) {O'r drws.} | |
| (1, 0) 182 | Ryda ni i gyd yn Gristnogion, ond y drwg ydi fod Harri o ddifri gyda hi. |
| (Myrddin) Gwawdiwch ymlaen, ond beth yw Meredith well o fyw bywyd yr Apostolion yn yr ugeinfed ganrif? | |
| (Myrddin) Gwawdiwch ymlaen, ond beth yw Meredith well o fyw bywyd yr Apostolion yn yr ugeinfed ganrif? | |
| (1, 0) 184 | Dim o gwbl, ond myn einioes Pharo, mae'n drêt gweld rhywun yn ddigon o ffŵl i wneud y cynnig pan mae pawb ar ôl y torthau a'r pysgod ac yn barod i werthu eu nain am daid rhywun arall. |
| (Myrddin) Hylo, a yw Syr Tomos o fewn ychydig─ | |
| (1, 0) 187 | Na, na, Cristion o deip yr ugeinfed ganrif wyf fi, achos mae rhaff go hir i rai felly. |
| (1, 0) 188 | Wir ddyn byw, fe all paganiaid fel ni'n tri fod yn Gristnogion heddiw drwy drugaredd, ond fod rhyw hurtyn o ddyn fel Harri yn anesmwytho tipyn ar ddaliadau cyfforddus dynion diwiol fel ni. |
| (Olifer) {Yn ddig.} | |
| (Olifer) Yr ydach chi'n cymryd yn ganiataol fod yn rhaid i ddyn werthu'i gydwybod os am lwyddo fel masnachwr neu bolitisian. | |
| (1, 0) 191 | Sut yr oedd yr hen chware gynt? |
| (1, 0) 192 | "Fedri di fynd i'r ffair i werthu wya heb ddweyd ïe?"" |
| (1, 0) 193 | "Medra." |
| (1, 0) 194 | "Dros y bont neu drwy'r caea," ac ymlaen fel yna, a'r gamp oedd peidio dweyd ïe, ond dweyd ïe yr oeddym bob cynnig mewn ffordd rownd-abowt. |
| (Olifer) Wel? | |
| (Olifer) Wel? | |
| (1, 0) 196 | Chwarter canrif yn ôl euthum i'r Senedd yn benderfynol o beidio dweyd ïe wrth gelwydd a thwyll, ond cyn hir gwelais fod yn rhaid í mi ddweyd celwydd diplomatig, a chan mai brawd tagu yw mygu mi euthum ymlaen o'r celwydd diplomatig at y celwydd noeth─does dim trwch papur sidan rhyngddynt. |
| (Myrddin) Rhywbeth tebyg fydd profiad Meredith, ond mi ymgynghorwn â'r oracl. | |
| (1, 0) 203 | Be wyddo ni, dri dyn diwiol, nad oes gan Harri ryw syniad mai mynd i fyny yw dod i lawr? |
| (Myrddin) {Yn frawdol.} | |
| (1, 0) 213 | Ffrind! |
| (1, 0) 214 | Do. |
| (1, 0) 215 | Rargian fawr, fasa f'enw i ddim yn perarogli fel y mae drwy Gymru onibae i chi drwsio f'areithiau a rhoi ambell baragraff bach diwiol fel hyn drwy Wasg Cymru: |
| (1, 0) 216 | "Y Saboth diweddaf yr oedd Syr Tomos Owen yn bresennol ddwywaith yng nghapel Llwynyblawd. |
| (1, 0) 217 | Mor ddymunol yw gweld ein Seneddwyr yn cadw at yr hen ddefodau sy wedi gwneud Cymru y wlad fwyaf crefyddol dan haul." |
| (1, 0) 219 | Dim gair, cofiwch, am y gêm o golff y Sul diweddaf neu chawn ni byth eto fynd i brif wyliau'r Ymneilltuwyr. |
| (1, 0) 221 | Ffarwel i chwi'ch dau─Latimer a Ridley Cymru, mi losgwch fel dwy gannwyll wêr. |
| (Harri) Ffarwel, Olifer. | |
| (Harri) Diolch i chithau, Myrddin, am bob help yn yr etholiad, ond cofiwch nad wy'n rhwymo fy hun wrth neb─Syr Tomos na'r Wasg na'r Weinyddiaeth. | |
| (1, 0) 225 | Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd. |
| (Harri) Beth sydd o'i le arnyn' nhw? | |
| (Harri) Beth sydd o'i le arnyn' nhw? | |
| (1, 0) 227 | Y gwir plaen, rhyw hogyn mawr o freuddwydiwr wyt ti─byrbwyll, penstiff; a fi yw spesialist Ysbryd yr Oes i agor dy lygaid. |
| (Harri) {Yn twymo.} | |
| (1, 0) 231 | Ti a dy bobol gyffredin─nhw sydd wedi lladd pob un fu'n ddigon hurt i geisio gweini arnynt─mi lladdan' dithau at y |rest|─nhw yw'r set fwya anniolchgar tan haul. |
| (1, 0) 232 | Mae awyr y balconi yna'n well na lol fel hyn. |
| (Mabli) Rwyf wedi plethu coron o flodeu i roi ar eich pen. | |
| (1, 0) 255 | Rwy'n pesychu, Mabli, i ti wybod mod i yma. |
| (Mabli) Dim ods o gwbl; rwyf newydd goroni nhad yn frenin. | |
| (Mabli) Dim ods o gwbl; rwyf newydd goroni nhad yn frenin. | |
| (1, 0) 257 | Brenin ar bwy? |
| (Mabli) Ar Mabli. | |
| (Mabli) Ar Mabli. | |
| (1, 0) 259 | Beth yw ei deitl? |
| (Mabli) Y Brenin Harri. | |
| (Mabli) Y Brenin Harri. | |
| (1, 0) 261 | Beth yw ei nymbar─Harri'r Nawfed? |
| (Mabli) Nage─Harri heb ei ail. | |
| (Mabli) Nage─Harri heb ei ail. | |
| (1, 0) 263 | Rwyt ti'n smart o d'oed: beth yw d'oed? |
| (Mabli) Bron yn bymtheg: beth yw'ch oed chi? | |
| (Mabli) Bron yn bymtheg: beth yw'ch oed chi? | |
| (1, 0) 265 | Pymtheg─ers plwc bellach. |
| (Harri) Hen lanc ydi o, Mabli, ac mae o'n drigain a phump os yn ddiwrnod. | |
| (Mabli) Faint sy rhwng pymtheg a thrigain a phump? | |
| (1, 0) 268 | Yr un faint ag sy rhwng afal coch ar y pren ganol haf ac hen afal melyn yng ngwaelod y sach ddiwedd y flwyddyn. |
| (1, 0) 269 | Rwy'n gweld o'r balconi dy fam a dy nain yn dod. |
| (Mabli) Tynnwch y llian yna oddiam danoch. | |
| (1, 0) 273 | Harri, fe anghofiais y rhan bwysicaf o f'araith gynneu wrth ganu ffarwel am byth i fy hen etholwyr: wnei di wrando arni? |
| (Harri) {Dan chwerthin.} | |
| (1, 0) 277 | Annwyl gyd-wladwyr, dyma'r hen Gyrnol yn cadw noswyl, ond ar f'engoch i, nid cyn gwneud diwrnod go lew o waith. |
| (1, 0) 278 | Buoch yn godro fy manc-book am chwarter canrif nes mae bron yn sych gorn; agorais basars a |sales-of-work| a |jumble-sales| wrth yr ugeiniau; mae f'enw, er cynddrwg ydwyf, ar gerrig sylfaen y pedwar enwad; cefais |jobs| i gannoedd o'ch perthnasau; tanysgrifiais at bob tysteb o fewn y deuddeg sir; nid unwaith na dwy y buoch ar fy ngofyn am bres i brynu dannedd gosod a throliau a mulod i etholwyr tlawd. |
| (1, 0) 279 | A dyma'r corn bwyd olaf wedi canu ar yr hen Gyrnol, a'r tipyn enaid oedd ganddo chwarter canrif yn ôl wedi diflannu wrth weini arnoch. |
| (Nan) {Yn brysio i mewn â theligram yn ei llaw.} | |
| (Nan) Mi fasa dyn yn meddwl oddiwrth eich dull mai teligram oddiwrth ysgubwr simneu yw hwn. | |
| (1, 0) 287 | Fachgen, fachgen! |
| (1, 0) 288 | Y Prifweinidog yn dy longyfarch! |
| (Nan) {Yn fywiog a serchog.} | |
| (Nan) Pan fo pawb yng Nghymru yn crafangu am swyddau, mae'n deg i un sydd wedi gwneud cymaint o waith tawel a chi gael ei gydnabod. | |
| (1, 0) 295 | Wel di, Harri, mae hwn {yn dal y teligram} naill ai'n em yn dy goron neu'n hoelen yn dy arch. |
| (Harri) {Yn anesmwyth.} | |
| (Nan) Ei fam, ei fam yw popeth. | |
| (1, 0) 300 | Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai. |
| (Janet) Wel, Harri, mi gest d'ethol yn anrhydeddus. | |
| (Janet) Dyma'r gwas newydd, yntê, wedi dod i sgidiau'r hen was? | |
| (1, 0) 306 | Mae o'n gwisgo sgidiau cryfach na fi─size mwy a lledar gwahanol. |
| (Janet) Fe ddylai Aelod Seneddol heddiw wisgo esgid go drom. | |
| (Janet) Fe ddylai Aelod Seneddol heddiw wisgo esgid go drom. | |
| (1, 0) 308 | Efallai; ond mae cyrn tyner iawn ar draed yr oes yma. |