| (Lowri) Mae Syr John wedi gorffen cinio. | |
| (Walter) A gaf i dywallt? | |
| (1, 0) 100 | Aros funud... |
| (1, 0) 101 | Pwy ydy hon? |
| (Walter) Y forwyn fach syr. | |
| (Walter) Dos, rwan. | |
| (1, 0) 106 | Saf fan'na.... |
| (1, 0) 107 | Be ydy d'enw di? |
| (Ann) Ann, syr. | |
| (Ann) Ann Thomas. | |
| (1, 0) 110 | Be ydy d'oed di. |
| (Ann) Deunaw, syr. | |
| (Ann) Deunaw, syr. | |
| (1, 0) 112 | O ble doist ti? |
| (Ann) O Aberffraw, syr. | |
| (Ann) Ffermwr, a chanddo dyddyn go lew, Thomas Williams, ydy nhad i. | |
| (1, 0) 115 | Ydy dy ddwylo di'n lân? |
| (Ann) {Gan ddangos ei dwylo.} | |
| (Ann) Roedden nhw'n lanach bum munud yn ôl. | |
| (1, 0) 118 | Fedri di dywallt te? |
| (Ann) A'i yfed hefyd, syr, pan fedra i fforddio. | |
| (Ann) A'i yfed hefyd, syr, pan fedra i fforddio. | |
| (1, 0) 120 | O'r gore, Walter. |
| (1, 0) 121 | Mi gaiff y forwyn fach yma dywallt te imi... |
| (1, 0) 124 | ... Does dim rhaid iti aros. |
| (Ann) Siwgwr, Syr? | |
| (Ann) Siwgwr, Syr? | |
| (1, 0) 130 | Ydy'r te'n gry? |
| (Ann) Mae o'n sefyll ryw bum munud. | |
| (Ann) Mae o'n sefyll ryw bum munud. | |
| (1, 0) 132 | Un darn, felly... |
| (1, 0) 133 | 'Fedri di sgwennu, Ann? |
| (Ann) Cymraeg a Saesneg, syr. | |
| (Ann) Be' wnawn i yma heb lythyrau? | |
| (1, 0) 136 | Wyt ti'n forwyn? |
| (Ann) Yn fy mlwyddyn gynta, syr. | |
| (Ann) Yn fy mlwyddyn gynta, syr. | |
| (1, 0) 138 | Nid dyna rydw i'n ei ofyn... |
| (1, 0) 139 | Wyt ti'n wyry?... |
| (1, 0) 140 | Fuost ti'n caru yn y gwely? |
| (Ann) {Sioc, yna'n ddig.} | |
| (Ann) Ond pa hawl sy gennych chi i ofyn? | |
| (1, 0) 144 | Peth prin yn dy ddosbarth di. |
| (Ann) {Fel rhew.} | |
| (Ann) Mi alwa i ar Mr. Walter i dywallt i chi, ─ syr. | |
| (1, 0) 147 | Mi ofynnais i ti dywallt. |
| (Ann) Mae gen i'r llestri i'w golchi. | |
| (Ann) Mae gen i'r llestri i'w golchi. | |
| (1, 0) 149 | Dos ymlaen... |
| (1, 0) 151 | ... Wnei di 'mhriodi i, Ann? |
| (1, 0) 153 | Wnei di 'mhriodi i, Ann? |
| (Ann) {Wedi hir edrych arno.} | |
| (Ann) Dyna ofynsoch chi'r tro cynta? | |
| (1, 0) 156 | Ie. |
| (Ann) Roeddwn i'n amau 'mod i'n clywed pethau ac yn gwirioni. | |
| (Ann) Roeddwn i'n amau 'mod i'n clywed pethau ac yn gwirioni. | |
| (1, 0) 158 | Wel?... |
| (1, 0) 159 | Wnei di? |
| (Ann) Tad annwyl! | |
| (Ann) {Mae hi'n chwerthin yn dawel.} | |
| (1, 0) 163 | Pam 'rwyt ti'n chwerthin? |
| (Ann) Mae pethau'n digwydd imi heddiw. | |
| (Ann) Mae pethau'n digwydd imi heddiw. | |
| (1, 0) 165 | Rydw i o ddifri, Ann. |
| (Ann) Gobeithio'ch bod chi. | |
| (Ann) Gobeithio'ch bod chi. | |
| (1, 0) 167 | Rwyt ti'n fy nghredu i? |
| (Ann) Rydw i'n ceisio 'ngore. | |
| (Ann) Rhowch funud neu ddau imi. | |
| (1, 0) 170 | Dyna pam y gyfynnais i─ |
| (Ann) Rydach chi'n reit sobor, syr? | |
| (Ann) Rydach chi'n reit sobor, syr? | |
| (1, 0) 172 | Fûm i erioed yn sobrach er pan wnes i f'ewyllys yn Gibraltar saith mlynedd yn ôl. |
| (Ann) {Dan wenu.} | |
| (Ann) Ewyllys hen lanc? | |
| (1, 0) 176 | Mae darpariaeth ynddi i wraig... |
| (1, 0) 177 | Un unig ydw i, Ann. |
| (Ann) 'Does dim rhaid i chi fod. | |
| (Ann) 'Does dim rhaid i chi fod. | |
| (1, 0) 179 | Rydw i'n hen, 'merch i. |
| (1, 0) 180 | Blwyddyn arall ac mi fydda i'n ddeugain. |
| (Ann) Dyna glep y gegin er pan ddois i yma. | |
| (Ann) Mi fu 'na ddal grotiau y priodech chi cyn eich deugain. | |
| (1, 0) 183 | 'Gân' nhw ddychryn? |
| (Ann) Mi gaiff Richard Walter sioc ei fywyd. | |
| (Ann) Mi gaiff Richard Walter sioc ei fywyd. | |
| (1, 0) 185 | Mae arna i ofn y bydd peth dychryn ar y cynta yn Bath ac yn Baron Hill... cyn iddyn nhw dy weld di. |
| (Ann) A chwerthin go fawr am eich pen chi yn priodi cangen o forwyn weini. | |
| (Ann) A'r gwatwar yn yr |assembly| ym Miwmares! | |
| (1, 0) 188 | 'Fydd arnat ti ofn? |
| (Ann) Mae gwragedd eich dosbarth chi yn fedrus iawn i frifo. | |
| (Ann) Fel tynnu gwaed. | |
| (1, 0) 191 | Mi fyddi di'n un ohonyn nhw. |
| (Ann) 'Ddwedwch chi hynny wrth Mrs. King? | |
| (Ann) 'Ddwedwch chi hynny wrth Mrs. King? | |
| (1, 0) 193 | Mi fydd yn haws sgwennu ati na dweud wrthi. |
| (1, 0) 194 | Tipyn o arglwyddes ydy fy chwaer. |
| (Ann) Syr John, munud o wallgofrwydd ydy hwn. | |
| (Ann) Rydw i wedi cael notis. | |
| (1, 0) 199 | Ddaru ti addo 'mhriodi i, Ann Thomas? |
| (Ann) Do, syr. | |
| (Ann) Do, syr. | |
| (1, 0) 201 | Wyt ti'n tynnu'n ôl? |
| (Ann) Rhoi cyfle i chi i dynnu'n ôl. | |
| (Ann) Rhoi cyfle i chi i dynnu'n ôl. | |
| (1, 0) 203 | Rhaid inni briodi heb fod neb yn gwybod... |
| (1, 0) 204 | Yma yn eglwys y plwy... |
| (1, 0) 205 | Tair wythnos i heddiw... |
| (1, 0) 206 | Am wyth ar gloch y bore... |
| (1, 0) 207 | Leisens arbennig... |
| (1, 0) 208 | Rhoi'r ficer ar ei lw i gau ei geg. |
| (1, 0) 209 | Fedri di fod allan y bore heb i neb yn y cefn amau? |
| (Ann) Bore pobi bara. | |
| (Ann) Tair wythnos i neithiwr mi anghofia i'r burum. | |
| (1, 0) 214 | Fedri di ddilyn dy waith yma am dair wythnos fel cynt? |
| (Ann) Hawdd deffro o freuddwyd a dau droed ar y llawr. | |
| (Ann) Hawdd deffro o freuddwyd a dau droed ar y llawr. | |
| (1, 0) 216 | Nid breuddwyd ydy hyn, Ann. |
| (Ann) Breuddwyd i mi nes mynd am y burum. | |
| (Ann) Tan hynny peidiwch chi â gofyn am fy ngweld. | |
| (1, 0) 219 | Paid dithau â rhedeg i ffwrdd. |
| (Ann) Rhaid imi ofyn maddeuant Mrs. Roberts er mwyn aros. | |
| (Ann) Rhaid imi ofyn maddeuant Mrs. Roberts er mwyn aros. | |
| (1, 0) 221 | Be fu? |
| (Ann) Mymryn o ffrwgwd wedi imi fethu codi llwch. | |
| (Ann) Tendiwch! | |
| (1, 0) 226 | Fedri di reoli tŷ fel hwn? |
| (Ann) Mi fydd gen i Mrs. Roberts. | |
| (Ann) Nid dyna fydd fy mhroblem i. | |
| (1, 0) 229 | Be' fydd dy broblem di? |
| (Ann) Ond chi... | |
| (Ann) Chi! | |
| (1, 0) 232 | Ann bach, rydw i'n methu'n lân â dirnad pam rwyt ti'n fy mentro i. |
| (Ann) Mi fydde'n ffitiach fy mod i'n deud hynny na chi... | |
| (Ann) Chi sy'n mentro. | |
| (1, 0) 235 | Mi wn i pam rydw i'n mentro. |
| (1, 0) 236 | Ond pam yr wyt ti? |
| (Ann) Gofynnwch i Mrs. King. | |
| (Ann) Gofynnwch i Mrs. King. | |
| (1, 0) 238 | I ti rydw i'n gofyn. |
| (Ann) Mi ro i ateb Mrs. King. | |
| (Ann) Chawn i ddim cynnig gwell tawn i'n aros chwarter canrif. | |
| (1, 0) 241 | Dyna'r unig reswm? |
| (Ann) Cwestiwn teg tair wythnos i heno. | |
| (Walter) Mae 'na ddyn yn y drws, syr, yn gofyn am eich gweld chi. | |
| (1, 0) 248 | Gŵr bonheddig? |
| (Walter) Nage, syr. | |
| (Walter) Methodist. | |
| (1, 0) 251 | Clerigwr? |
| (Walter) O nage, syr. | |
| (Walter) Siopwr, groser, ond ei fod o'n prygawthan pregethu hefyd. | |
| (1, 0) 254 | Un o'r pentre? |
| (Walter) O Lanfechell. | |
| (Walter) Dyn dwad, wedi priodi merch i Mr. Broadhead. | |
| (1, 0) 257 | Hwnna? |
| (1, 0) 258 | Mi glywais amdano. |
| (1, 0) 259 | Be sy arno'i eisiau? |
| (Walter) Gofyn am eich gweld chi. | |
| (Walter) Ddwedodd o mo'i neges. | |
| (1, 0) 262 | 'Tyrd a fo yma. |
| (Walter) John Elias, syr. | |
| (Walter) John Elias, syr. | |
| (1, 0) 267 | Pnawn da. |
| (Elias) Pnawn da, Syr John. | |
| (Elias) Pnawn da, Syr John. | |
| (1, 0) 269 | Be alla i ei wneud i chi? |
| (Elias) Mi fuoch chi'n gapten yn llynges ei Fawrhydi yn y rhyfel enbyd yma, Syr John? | |
| (Elias) Mi wyddoch chi'n well na nemor neb am beryglon y môr a helynt llongwyr ynys Môn yn y rhyfel, yn arbennig y llongau masnach y mae llongau rhyfel Napoleon yn eu herlid a'u dal. | |
| (1, 0) 278 | Mae brwydr Traffalgar y llynedd wedi gostwng llawer ar y peryglon hynny. |
| (Elias) Do'n wir, Syr John, ac i chi'r capteiniaid a'r Arglwydd Nelson dan ragluniaeth y nef y mae'r diolch. | |
| (Elias) Ond y mae ambell long ryfel o Ffrainc yn ffroeni o gwmpas moroedd Cymru hyd yn oed rwan. | |
| (1, 0) 282 | Ac weithiau'n dal ysglyfaeth. |
| (1, 0) 283 | Fel yna, welwch chi, mae capteiniaid llynges yn ennill eu bara. |
| (Elias) A'u hysglyfaeth yn dihoeni yng ngharcharau Ffrainc. | |
| (Elias) A'u hysglyfaeth yn dihoeni yng ngharcharau Ffrainc. | |
| (1, 0) 285 | Mae'n drueni amdanyn nhw, ond rhyfel ydy rhyfel. |
| (Elias) Mae nifer ohonyn nhw'n Gymry, Syr John. | |
| (Elias) Mae nifer ohonyn nhw'n Gymry, Syr John. | |
| (1, 0) 287 | Oes rhai o Sir Fôn yma? |
| (Elias) Un o Amlwch, Capten Thomas Owen, perchennog ei long ei hun. | |
| (Elias) Syr John, casglu cronfa i helpu'r Cymry hyn yn Ffrainc i brynu bwyd a chysuron yr ydw innau, a dwad yma i ofyn i chi helpu ydy fy neges i. | |
| (1, 0) 296 | Ydach chi'n nabod rhai ohonyn nhw? |
| (Elias) Rydw i'n nabod Capten Thomas Owen yn dda. | |
| (Elias) Mi fu o am dymor yn Fethodist, ond fe wrthgiliodd. | |
| (1, 0) 299 | A chithau'n casglu iddo fo? |
| (Elias) Mae'n o'n Gymro ac mewn angen. | |
| (Elias) Mae'n o'n Gymro ac mewn angen. | |
| (1, 0) 301 | I'r Cymry rydych chi'n casglu? |
| (Elias) I'r carcharorion rhyfel yn Ffrainc o Fôn ac Arfon a Meirionnydd. | |
| (Elias) Maen nhw'n crefu'n daer. | |
| (1, 0) 305 | Oes gennych chi rywbeth i ddangos iddyn nhw dderbyn yr arian? |
| (Elias) {Gan roi papurau iddo.} | |
| (1, 0) 309 | Sir John Elias! |
| (1, 0) 311 | Pwy ydy hwnnw? |
| (Elias) {Dan wenu.} | |
| (Elias) Anodd i bobl yn Ffrainc ddychmygu am neb llai na marchog sir yn estyn cymorth i drueiniaid rhyfel. | |
| (1, 0) 315 | Yn wir, rydach chi'n rhoi golwg newydd i minna ar y Methodistiaid. |
| (1, 0) 316 | Peth anghyffredin yn eich hanes chi? |
| (Elias) Syr John, mae gennym ni Fethodistiaid esgob o lywydd i Ogledd Cymru yn y Parchedig Mr. | |
| (Elias) Y mae casglu i'r capteiniaid o Gymry yn Ffrainc ac i Gymdeithas y Beiblau drwy'r byd yn rhan o'n dyletswydd ni yn ôl Epistol Pedr ac yn ôl athrawiaeth Mr. Charles. | |
| (1, 0) 321 | Wel, mi gaiff fod yn rhan o 'nyletswydd inne, er nad ydw i ddim yn Fethodist. |
| (1, 0) 322 | Mi ro i ddau gini i chi at yr achos da. |
| (Elias) Bendith y nefoedd arnoch chi, syr, ac ar─roeddwn i ar fin dweud ac ar eich teulu. | |
| (Elias) Ond gŵr dibriod ydach chi. | |
| (1, 0) 325 | Wel ie, hyd yn hyn, hyd yn hyn... |
| (1, 0) 326 | Ond rhoswch rwan, mi fydda i'n eistedd ar y fainc weithiau gyda Mr. Richard Broadhead. |
| (1, 0) 327 | Rydach chi, yn ôl a glywaf i, yn fab yng nghyfraith iddo fo? |
| (Elias) Mi gefais i'r anrhydedd o ennill llaw ei ferch hynaf o. | |
| (Elias) Ond nid o fodd Mr. Broadhead, mae'n ddrwg gen i ddeud. | |
| (1, 0) 330 | Mae hynny'n naturiol. |
| (1, 0) 331 | Mae priodi'n is na'i stad yn beryg go enbyd, yn enwedig i ferch. |
| (Elias) Mi wn ei fod o'n berigl ac yn dramgwydd. | |
| (Elias) Ond chlywais i erioed awgrym o hynny gan fy ngwraig. | |
| (1, 0) 334 | Mi ddalia i naddo. |
| (1, 0) 335 | Rydw i'n ei chofio hi'n eneth fach, yr hyna ohonyn nhw, ffefryn annwyl ei thad, merch fonheddig a gwraig fonheddig. |
| (Elias) Gwraig dduwiol. | |
| (Elias) Gwraig dduwiol. | |
| (1, 0) 337 | Aha? |
| (1, 0) 338 | Chi wnaeth Fethodist ohoni? |
| (Elias) Roedd hi'n Fethodist cyn i mi ei gweld hi. | |
| (Elias) Roedd hi'n Fethodist cyn i mi ei gweld hi. | |
| (1, 0) 340 | Felly nid ei phriodas oedd achos y rhwyg rhyngddi a'i thad? |
| (Elias) Ei chrefydd hi oedd cychwyn y trwbl, mynd i'r seiat. | |
| (Elias) Ei chrefydd hi oedd cychwyn y trwbl, mynd i'r seiat. | |
| (1, 0) 342 | Dewis cwmni isel, gwerinol. |
| (1, 0) 343 | Wedyn priodi i'w chlymu ei hun ynddo. |
| (1, 0) 344 | Druan o'r hen Broadhead, colli cannwyll ei lygad. |
| (1, 0) 345 | A dwyn gwarth arno hefyd. |
| (1, 0) 346 | Hynny yw, yn ei gylch ei hun. |
| (Elias) Mae o'n dechrau maddau iddi hi. | |
| (Elias) Mae o'n dechrau maddau iddi hi. | |
| (1, 0) 348 | Ac i chithau? |
| (1, 0) 349 | Wedi'r cwbl, mae ganddo fab yng nghyfraith reit enwog. |
| (Elias) Wel, mae o'n cyfrannu at y gronfa yma i helpu'r Cymry yn Ffrainc. | |
| (Elias) Wel, mae o'n cyfrannu at y gronfa yma i helpu'r Cymry yn Ffrainc. | |
| (1, 0) 351 | Rydach chi'n swynwr heb eich bath. |
| (1, 0) 352 | Mi ddalia i mai yn y pwlpud y gwelodd Miss Broadhead chi gynta? |
| (Elias) Pregethu ydy fy ngwaith i, fy mywyd i. | |
| (Elias) Mi welodd hithau hynny. | |
| (1, 0) 356 | Mae pwlpud yn berig i ferch! |
| (Elias) Tybed nad ydy plas hen lanc yn berig i ferch? | |
| (Elias) Tybed nad ydy plas hen lanc yn berig i ferch? | |
| (1, 0) 358 | Wel ie, digon posib. |
| (1, 0) 359 | Ond fu 'na rioed ferch a briododd y pwlpud a'r plas. |
| (Elias) Gadael y plas i weini ar y pwlpud, dyna offrwm fy ngwraig i. | |
| (Elias) Gadael y plas i weini ar y pwlpud, dyna offrwm fy ngwraig i. | |
| (1, 0) 361 | Offrwm? |
| (1, 0) 362 | Gair da yn ei le... |
| (1, 0) 363 | Dwedwch i mi, a gobeithio nad ydy'r cwestiwn ddim yn rhy bersonol... gawsoch chi fod priodi mor anghyfartal o ran dosbarth a dygiad i fyny, yn anodd? |
| (Elias) Syr John, os ydy'r briodas o'r ddwy ochr o wirfodd─ | |
| (Elias) Syr John, os ydy'r briodas o'r ddwy ochr o wirfodd─ | |
| (1, 0) 365 | Ie? |
| (Elias) Yna does dim priodi anghyfartal. | |
| (1, 0) 368 | Sir John Elias! Sir John Elias! |
| (1, 0) 369 | Ateb gŵr bonheddig. |
| (1, 0) 370 | Rydych chi'n codi fy nghalon i'n arw... |
| (1, 0) 372 | Fwy nag y tybiwch chi. |
| (1, 0) 373 | Mi ddaethoch chi yma pan oedd eich angen chi... |
| (1, 0) 374 | Faint ddwedais i y rhown i i'r gronfa yma? |
| (Elias) Dau gini, yntê? | |
| (Elias) Dau gini, yntê? | |
| (1, 0) 376 | Mae'ch neges chi heddiw yn haeddu mwy na hynny. |
| (1, 0) 377 | Dywedwn bum punt. |
| (1, 0) 378 | Arhoswch... |
| (1, 0) 380 | Rhaid inni fynd i'r offis.... |
| (1, 0) 382 | Walter, tyrd â het a chot Mr. Elias i'r offis. |
| (1, 0) 383 | Mae gennyn ni fusnes yno... |