| (Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser? | |
| (1, 0) 42 | Neith byw yn y wlad mo'r tro i mi o gwbl, a debyg iawn, na i byth ddygymod ag o. |
| (1, 0) 43 | Es i'r gwely ddeg o'r gloch neithiwr, a chysgais tan naw o'r gloch y bore ma, ac wedi'i holl gysgu mae fy mennydd yn glynud wrth esgyrn fy mhen ac felly yn y blaen. |
| (1, 0) 45 | Ac ar ôl cinio es i gysgu wedyn, megis ar ddamwain, ac rwan rwy'n llipa fel hen gadach ac wedi byddaru mewn gair. |
| (Treplieff) Digon gwir, rhaid i chi gael byw yn y dre. | |
| (Medfedenco) Cofiwch adael inni wbod mewn pryd. | |
| (1, 0) 56 | Hynny yw, bydd y ci yn udo trwy'r nos heno eto. |
| (1, 0) 57 | Ches i rioed fyw yn y wlad yn ôl fy ffansi, dyna'r gwir amdani. |
| (1, 0) 58 | Yn yr hen ddyddiau, byddwn yn cael mis o wyliau ac yn dwad yma i orffwys ac felly yn y blaen, ond 'roedd hi mor annifyr yma, 'roedd arna i eisiau mynd o ma ben bore wedyn. |
| (1, 0) 60 | Roedd yn dda gin i gael mynd i ffwrdd, ond 'rwan, wedi imi gadw noswyl, 'does gin i unlle i fynd, mewn gair. |
| (1, 0) 61 | Ond licio neu beidio, rhaid imi fyw yma. |
| (Iago) {Wrth Treplieff.} | |
| (Treplieff) Codir y llen hanner awr wedi wyth pan gyfyd y lleuad. | |
| (1, 0) 73 | Ardderchog. |
| (Treplieff) Os bydd Zarietsnaia yn hwyr, collir yr |effect|, wrth gwrs. | |
| (1, 0) 80 | Dyna drasiedi fy mywyd i. |
| (1, 0) 81 | Pan oeddwn i'n ddyn ifanc, byddwn yn edrych fel pe bawn i wedi cael tropyn, ac felly yn y blaen. |
| (1, 0) 82 | Fyddai'r merched byth yn fy licio i. |
| (1, 0) 84 | Pam y mae fy chwaer mor ddrwg ei hwyl? |
| (Treplieff) Pam? | |
| (1, 0) 92 | Dim perig, wir. |
| (Treplieff) Fedr hi ddim diodde meddwl mai Zarietsnaia, ac nid hi, sydd yn cael tipyn o glod ar |stage| fechan fel hon. | |
| (Treplieff) Mae gynni hi saith mil o bunnoedd yn y banc yn Odessa, 'rwy'n siŵr o hynny, ond gofynnwch iddi am fenthyg arian, a dyna hi'n dechrau crio. | |
| (1, 0) 102 | Rydych chi'n credu na licith hi mo'ch drama. |
| (1, 0) 103 | Byddwch dawel, mae'ch mam yn eich addoli chi. |
| (Treplieff) {Yn pigo blodeuyn ac yn tynnu ei ddail bob yn un.} | |
| (Treplieff) Pan geisiant dynnu gwres o'u darluniau a'u hymadroddion ystrydebol, ceir gwers dila, eiddil, hawdd i'w deall, addas i fywyd beunyddiol y teulu; pan welaf hyn i gyd dro ar ôl tro, y ffurf yn newid ond yr un hen beth ffiaidd yn aros yr un, yr un, yr un hen beth, byddaf yn rhedeg ac yn rhedeg fel y rhedodd Guy de Maupassant o olwg y Tŵr Eiffel rhag ofn i'w hylltra di-chwaeth ei yrru o'i go. | |
| (1, 0) 115 | Ond fedrwn ni ddim gwneud heb y ddrama. |
| (Treplieff) Rhaid cael ffurfiau newydd, heb ffurfiau newydd fedr neb neud dim, byddai'n well rhoi'r gorau iddi hi. | |
| (Treplieff) Dois o'r coleg cyn gorffen fy nghwrs ─ "dan bwys amgylchiadau nad oeddwn yn gyfrifol amdanynt" chwedl gwŷr y wasg, heb dalent, heb geiniog, ac ar fy mhasport "gweithiwr o Cieff", dyna oeddwn i, "Gweithiwr o Cieff" oedd fy nhad hefyd er ei fod yn actor enwog, a phan fyddai'r bobol fawr yn ei pharlwr hi mor fuan â dal sylw arna i, teimlwn eu bod yn fy mesur o'm corun i'm sowdwl ac yn fy nirmygu fel creadur gwael a diddim, ac yr oedd hynny'n rhoi poen imi, wrth gwrs. | |
| (1, 0) 124 | Ar draws popeth sut ddyn ydi'r llenor yna? |
| (1, 0) 125 | 'Dw i ddim yn ei ddallt o, chewch chi ddim gair o'i ben o. |
| (Treplieff) Dyn deallus, syml, eitha clên hefyd, ond bydd yn aml iawn yn y felan. | |
| (Treplieff) 'Dydi o ddim yn ddeugain oed, ond mae'n cael llond i fol o glod y byd, am ei waith o fel llenor, 'dwn i ddim sut i roi'r peth mewn geiriau; mae'n swynol, mae'n llawn talent, ond rywsut, 'does ar neb eisiau darllen Trigorin wedi darllen Tolstoi a Zola. | |
| (1, 0) 128 | 'Rwy'n hoff iawn o lenorion. |
| (1, 0) 129 | Roedd gin i ddau nod unwaith, priodi a bod yn llenor, a ches i'r un o'r ddau. |
| (1, 0) 130 | Mae bod yn llenor bach well na dim, wedi'r cwbl. |
| (Treplieff) {Yn clustfeinio.} | |
| (1, 0) 148 | Mae dagrau yn ei llygad hi, oes wir. |
| (1, 0) 149 | FIX Ha, ha, thâl peth fel na ddim. |
| (Nina) O, dim o gwbl, welwch chi fedra i ddim cael ngwynt. | |
| (Treplieff) Heliwch nhw i gyd yma. | |
| (1, 0) 156 | Mi a i FIX nôl nhw ac felly yn y blaen, y munud yma. |
| (1, 0) 158 | "Dau Filwr ifanc gynt yn Ffrainc". |
| (1, 0) 159 | Ron i'n canu rywbryd ers talwm, a dyma J.P yn deud wrtha i, "Mae gynnoch chi lais nerthol, syr", ac wedi meddwl tipyn dyma fo'n deud wedyn: "ond hen lais go gas ydi o hefyd". |
| (Nina) Mae nhad a'i wraig yn gwrthod gadael imi ddwad yma. | |
| (Treplieff) Chwi gysgodion, sanctaidd, hen, fydd yn lledu eich adenydd dros y llyn liw nos, bwriwch drymder cwsg ar ein hamrantau fel y breuddwydiom am yr hyn a ddigwydd ymhen dau gan mil o flynyddoedd. | |
| (1, 0) 267 | Ond fydd na ddim yn bod ymhen dau gan mil o flynyddoedd. |
| (Treplieff) O'r gorau, gadewch inni freuddwydio am y dim hwnnw. | |
| (Arcadina) Be sy arno fo? | |
| (1, 0) 315 | Irina bach, nid dyna'r ffordd i drin dyn ifanc balch fel y fo. |
| (Arcadina) Ond be ddeudais i? | |
| (Arcadina) Ond be ddeudais i? | |
| (1, 0) 317 | 'Roeddych yn rhy gas o lawer. |
| (Arcadina) Ond mi ddeudodd o ei hun mai tipyn o ddireidi oedd y cwbl, ac mi goeliais innau hynny. | |
| (Arcadina) Ond mi ddeudodd o ei hun mai tipyn o ddireidi oedd y cwbl, ac mi goeliais innau hynny. | |
| (1, 0) 319 | Ond... |
| (Arcadina) Mae'n ymddangos ei fod o wedi cyfansoddi campwaith, os gwelwch chi'n dda. | |
| (Arcadina) Dyna i chi fachgen larts, mae o'n stimiau i gyd. | |
| (1, 0) 323 | Ond ceisio rhoi tipyn o hwyl ichi oedd yr hogyn. |
| (Arcadina) O, aie, felly wir, ond pam y dewisodd o destun mor ddiarth a disgwyl inni wrando ar hen stynt fodern fel yna? | |
| (Nina) Dydd da i chi. | |
| (1, 0) 364 | Bravo, bravo. |
| (Arcadina) Bravo, bravo! | |
| (Nina) O, na, na! | |
| (1, 0) 411 | Da chi, rhoswch. |
| (Nina) Fiw imi aros, Piotr Nicolaiefits. | |
| (Nina) Fiw imi aros, Piotr Nicolaiefits. | |
| (1, 0) 413 | Rhoswch am un awr bach, ac felly yn y blaen. |
| (Nina) {Wedi ystyried. Dan grio.} | |
| (Dorn) Ie, bwystfil o ddyn ydi ei thada hi, rhaid gneud hyna o gyfiawnder iddo fo beth bynnag. | |
| (1, 0) 420 | Mae'n well i ninnau ei throi hi hefyd. |
| (1, 0) 421 | Mae gwayw yn y nghoesau i. |
| (1, 0) 422 | Mae'n damp yma. |
| (Arcadina) Mae nhw fel sglodion, prin y medrwch chi symud. | |
| (Shamraieff) Madam! | |
| (1, 0) 428 | Dacw'r ci'n cyfarth eto. |
| (1, 0) 430 | Da chi, deudwch wrth y gwas am ei ollwng o. |
| (Shamraieff) Thâl hynny ddim, mae arna i ofn i'r lladron fynd i'r sgubor a dwyn yr ŷd. | |
| (2, 0) 530 | Wel? |
| (2, 0) 531 | Ydan ni'n hapus? |
| (2, 0) 532 | 'Rydan wrth yn bodd heddiw 'n tydan ni? |
| (2, 0) 534 | Mae ar ben ei ddigon. |
| (2, 0) 535 | Ein tad, a mam-yng-nghyfraith wedi mynd i rodio a ninnau'n rhydd am dri diwrnod cyfa. |
| (Nina) {Yn eistedd wrth ymyl Arcadina a'i chofleidio.} | |
| (2, 0) 539 | Mae hi'n glysach na rioed heddiw. |
| (Arcadina) A dillad da amdani, ac yn edrych yn ddiddorol. | |
| (Arcadina) Piotr bach! | |
| (2, 0) 566 | Y? |
| (Arcadina) Ydych chi'n cysgu? | |
| (Arcadina) Ydych chi'n cysgu? | |
| (2, 0) 568 | Dim o'r fath beth. |
| (Arcadina) Thâl hyn ddim, rhaid ichi gymyd ffisig. | |
| (Arcadina) Thâl hyn ddim, rhaid ichi gymyd ffisig. | |
| (2, 0) 571 | Mi 'dw i'n ddigon parod i gymyd ffisig, ond cha i ddim gin y doctor. |
| (Dorn) Ffisig, wir, a chithau'n drigain oed! | |
| (Dorn) Ffisig, wir, a chithau'n drigain oed! | |
| (2, 0) 573 | Ond mae ar ddyn trigain oed eisiau byw. |
| (Dorn) {Yn sur.} | |
| (Medfedenco) Mi ddylai Piotr Nicolaiefits roi gorau i smocio. | |
| (2, 0) 582 | Lol. |
| (Dorn) Na, nid lol, mae'r ddiod a baco yn lladd personoliaeth dyn. | |
| (2, 0) 587 | Digon hawdd i chi ymresymu, mi gawsoch chi fyw 'n do? |
| (2, 0) 588 | Ond beth amdana i? |
| (2, 0) 589 | Bûm mewn offis am wyth mlynedd ar hugain heb ddechrau byw, heb brofi dim, wrth gwrs, ac mae arna i eisiau byw, debyg iawn. |
| (2, 0) 590 | 'Rydych chi wedi cael eich gwala ac felly yn ddi-daro; dyna pam 'rydych chi mor hoff o athronyddu; ac mae arna i isio byw; dyna pam y bydda i'n yfed glasiad o sieri amser cinio ac yn smocio sigar ac felly yn y blaen. |
| (Dorn) Rhaid edrych ar fywyd yn fwy difrifol, a gwamalrwydd rhonc ydi cymyd ffisig a chithau'n drigain oed, a chwyno am na chawsoch fwy o hwyl pan oeddych yn ŵr ifanc. | |
| (Dorn) Mi eith hi i lyncu dau lasiad o frandi cyn cinio. | |
| (2, 0) 598 | Fydd yr eneth druan yn cael fawr o bleser yn y byd ma. |
| (Dorn) Lol botas, anrhydeddus syr. | |
| (Dorn) Lol botas, anrhydeddus syr. | |
| (2, 0) 600 | 'Rydych chi'n barnu fel dyn wedi cael digon o bethau da'r byd ma. |
| (Arcadina) Ych, beth a all fod yn fwy diflas na diflastod byw yn y wlad? | |
| (Nina) Ardderchog, 'rwy'n eich dallt chi. | |
| (2, 0) 606 | Wrth gwrs, mae'n well byw yn y dre. |
| (2, 0) 607 | Eistedd yn eich stydi, deud wrth y gwas am beidio â gadael neb ddwad i mewn heb ofyn caniatâd, teliffon, cerbydau yn y stryd, ac felly yn y blaen. |
| (Dorn) {Yn canu.} | |
| (Arcadina) Sut y gwn i? | |
| (2, 0) 622 | Ond y mae gynnoch chi geffylau cerbyd. |
| (Shamraieff) {Yn gyffrous.} | |
| (2, 0) 641 | Y fath hyfdra digywilydd, a'u cipio nhw! |
| (2, 0) 642 | 'Rydw i wedi laru, ac felly yn y blaen. |
| (2, 0) 643 | Dowch â'r ceffylau y munud ma! |
| (Nina) {Wrth Polina.} | |
| (2, 0) 653 | Awn at fy chwaer a chrefwn arni beidio â mynd. |
| (2, 0) 654 | Yntê? |
| (2, 0) 655 | Fedra i ddim diodde'r dyn, rhaid iddo gael bod yn fistar ar bawb. |
| (Nina) {Yn ei ddal i lawr.} | |
| (Nina) Dychrynllyd, dychrynllyd! | |
| (2, 0) 661 | Ie, wir, dychrynllyd iawn, ond eith o ddim i ffwrdd, mi â i ato fo rwan am sgwrs. |
| (Dorn) Ond tydi pobol yn ddiflas, mi ddylid cicio'ch gŵr o'r tŷ; ond mi fydd yr hen frechdan na Piotr Nicolaiefits a'i chwaer yn crefu arno faddau iddyn nhw, mi gewch chi weld. | |
| (Arcadina) Yn wir, Piotr bach, mi ddylech aros gartre. | |
| (3, 0) 919 | Wedi i chi fynd, mi fydd yn annifyr iawn arna i yma. |
| (Arcadina) Faint gwell fydd hi yn y dre? | |
| (Arcadina) Faint gwell fydd hi yn y dre? | |
| (3, 0) 921 | 'Does na ddim neilltuol yno; ond eto, mi fyddan yn gosod carreg sylfaen y Neuadd bentre newydd ac felly yn y blaen, cawn i ond dingyd am awr neu ddwy o'r hen dwll ma, 'r wy'n teimlo fel hen getyn wedi torri a'i daflu ar y domen. |
| (3, 0) 922 | 'Rwy i wedi deud wrthyn nhw am gael y cerbyd yn barod ac mi awn o ma gyda'n gilydd. |
| (Arcadina) {Ar ôl ysbaid byr.} | |
| (Arcadina) 'Rwy'n credu mai cenfigen oedd y rheswm penna, a gorau po gynta y gwêl gynffon Trigorin. | |
| (3, 0) 930 | Sut y medra i ddeud wrthoch chi? |
| (3, 0) 931 | Mae na resymau erill. |
| (3, 0) 932 | Welwch chi, gŵr ifanc ydi o, debyg iawn, yn byw yn y wlad, ym mhen draw'r byd, heb arian, heb safle, heb ragolygon o gwbl. |
| (3, 0) 933 | Mae'n segur ac mae arno gwilydd o'i segurdod. |
| (3, 0) 934 | 'Rwy'n hoff iawn ohono, ac y mae o'n ddigon hoff ohonof innau hefyd, ond y mae o'n tybied, mewn gair, nad oes ar neb ei isio fo, dda gynno ddim byw ar fywyd pobol erill heb ennill ei damaid ei hun, hunan-barch, debyg iawn. |
| (Arcadina) Mae'n biti gin i drosto fo. | |
| (3, 0) 939 | Mi greda i... mai'r peth... gorau... fel pe tae... fyddai ichi roi tipyn o arian iddo. |
| (3, 0) 940 | I ddechrau mi ddylai wisgo yn debycach i Gristion ac felly yn y blaen. |
| (3, 0) 941 | Styriwch y peth, yr un hen gôt sy gynno fo ers tair blynedd, a d'oes gynno fo ddim top côt ar ei elw. |
| (3, 0) 943 | Eitha peth hefyd fyddai iddo fo fynd i weld tipyn ar y byd, i wlad bell, chostiai hyna fawr ichi. |
| (Arcadina) Wel, mi fedra i fforddio prynu dillad iddo fo, ond am fynd i wlad bell... | |
| (3, 0) 952 | Wel, wel, peidiwch â digio. |
| (3, 0) 953 | Mi goelia i hynny. |
| (3, 0) 954 | Gwraig ardderchog, nobl ydych chi. |
| (Arcadina) {Yn ddagrau i gyd.} | |
| (Arcadina) 'Does gin i ddim arian. | |
| (3, 0) 957 | Tae gin i arian, wrth gwrs, mi cai nhw, ond 'r ydw i ar y clwt, 'does gin i ddim ffadan. |
| (3, 0) 958 | Mae pob dimai o mhensiwn yn mynd i'r stiward i'w sgwandro ar drin y tir, magu anifeiliaid a gwenyn, a dim o gwbl yn dŵad i mewn. |
| (3, 0) 959 | Mae'r gwenyn yn marw, y gwartheg yn marw, a cha i ddim ceffylau gynnyn nhw. |
| (Arcadina) Oes, ma gin i arian, ond artist ydw i, cofiwch hyna, rhaid imi wario ffortsiwn ar fy nillad. | |
| (Arcadina) Oes, ma gin i arian, ond artist ydw i, cofiwch hyna, rhaid imi wario ffortsiwn ar fy nillad. | |
| (3, 0) 961 | Gwraig annwyl, dda, ydych chi, 'r wy'n eich parchu chi'n fawr, ydw... o... mae o'n dŵad trosto i eto... |
| (3, 0) 962 | mae mhen i'n ysgafn. |
| (3, 0) 964 | 'Rwy'n teimlo'n sal ac felly yn y blaen. |
| (Arcadina) {Wedi dychryn.} | |
| (Arcadina) Mae o'n wael. | |
| (3, 0) 973 | Dim byd, dim byd. |
| (3, 0) 975 | Mae o wedi mynd heibio rŵan, ac felly yn y blaen. |
| (Treplieff) {Wrth ei fam.} | |
| (Treplieff) Rhaid ichi fynd i orwedd, f'ewyrth bach. | |
| (3, 0) 981 | Rhaid, am funud neu ddau, ond 'r ydw i am fynd i'r dre wedi gorwedd tipyn bach, debyg iawn. |
| (3, 0) 982 | (Cychwyn allan a'i bwys ar ei ffon.) |
| (Medfedenco) {Yn gafael yn ei fraich.} | |
| (3, 0) 986 | Felly'n union, ac yn y nos ar wastad ei gefn. |
| (3, 0) 987 | Diolch yn fawr ichi, ond mi fedra i gerdded fy hun. |
| (Medfedenco) Dowch, dowch, dim lol! | |
| (3, 0) 1184 | Irina annwyl, rhaid inni beidio bod yn hwyr. |
| (3, 0) 1185 | Mi a i i eistedd am funud neu ddau. |
| (Masia) Gall fynd allan i'r ardd, pan fyn, a myfyrio yno. | |
| (4, 0) 1334 | Ble mae fy chwaer? |
| (Dorn) Mae hi wedi mynd i'r stesion i gwarfod Trigorin, mi fydd yma gyda hyn. | |
| (Dorn) Mae hi wedi mynd i'r stesion i gwarfod Trigorin, mi fydd yma gyda hyn. | |
| (4, 0) 1336 | Os oedd gofyn ichi anfon am fy chwaer, rhaid mod i'n ddifrifol o wael. |
| (4, 0) 1338 | Dyma fel y mae hi, 'rwy'n ddifrifol o wael ac eto cha i ddim tropyn o ffisig gennyn nhw. |
| (Dorn) Be liciech chi gael? | |
| (Dorn) Valerian drops, soda, quinine? | |
| (4, 0) 1341 | Dyma chi'n dechrau bwrw drwyddi hi unwaith eto, rêl plâg. |
| (4, 0) 1343 | I mi mae hwn? |
| (Polina) Ie, i chi. | |
| (Polina) Ie, i chi. | |
| (4, 0) 1345 | 'Rwy'n ddiolchgar iawn ichi. |
| (Dorn) {Yn canu.} | |
| (Dorn) 'Mae'r lloer yn nofio'r nefoedd yn y nos.' | |
| (4, 0) 1348 | Mae gin i destun stori i Costia: 'The Man Who Would.' Pan o'n i'n hogyn, breuddwydiwn am fod yn llenor; cheis i ddim bod yn llenor: breuddwydiwn am fod yn areithiwr huawdl, a dyma fi'n siarad fel y gog ar yr un hen nodyn ac felly yn y blaen, felly yn y blaen, mewn gair, mewn gair, ac yn chwys diferud bob tro y codaf ar fy nhraed; breuddwydiwn am briodi, a dyma fi'n hen lanc ar y silff, breuddwydiwn am fyw yn y dre a dyma fi'n pydru ym mherfedd y wlad ac felly yn y blaen. |
| (Dorn) Breuddwydiwn am fod yn J.P. a dyma fi wedi llwyddo. | |
| (4, 0) 1351 | Ie, heb geisio, nelais i rioed at hynny. |
| (Dorn) Cwyno a lladd ar fywyd, a chithau'n drigain oed. | |
| (Dorn) Dydi hyna ddim yn deg, ydi o? | |
| (4, 0) 1354 | 'Rydych chi'n ddyn styfnig. |
| (4, 0) 1355 | Mae arna i eisiau byw, cofiwch hyna. |
| (Dorn) Peidiwch â bod mor wamal, yn ôl deddfau natur mae diwedd i fod ar bob bywyd. | |
| (Dorn) Peidiwch â bod mor wamal, yn ôl deddfau natur mae diwedd i fod ar bob bywyd. | |
| (4, 0) 1357 | Digon hawdd i chi siarad, mi gawsoch chi lond eich bol, 'does ryfedd eich bod mor ddifater. |
| (4, 0) 1358 | Ond mi fydd arnoch chithau ofn marw. |
| (Dorn) Anifail yn unig sydd yn ofn marw, rhaid i ddyn fod yn drech na'r ofn na. | |
| (4, 0) 1363 | Wyth mlynedd ar hugain, os gwelwch chi'n dda. |
| (Dorn) Ond dyma ni'n rhwystr i Constantin ac yntau'n brysur. | |
| (Treplieff) Digon hawdd bod yn athronydd, ar bapur, doctor, ond byw fel athronydd ydi'r gamp. | |
| (4, 0) 1409 | Geneth ardderchog oedd hi. |
| (Dorn) Be? | |
| (Dorn) Be? | |
| (4, 0) 1411 | Geneth ardderchog oedd hi. |
| (4, 0) 1412 | Bu Sorin Esgweiar, J.P. yn ei charu hi ers talwm. |