| (Beelzebub) Tân brwmstan gwyllt, darperwch fflamllyd Gethern, | |
| (Beelzebub) I frwydro'r CYMRY câs, ei bobl anwylaf, | |
| (1, 1) 26 | Ein penaeth uchel! cyfiawn yw dy gwynfan: |
| (1, 1) 27 | Yr ydym bron â cholli cenedl gyfan! |
| (1, 1) 28 | Nid oes ar wyneb daear bobl mor fradus |
| (1, 1) 29 | A'r CYMRY hyn, na neb mor elyniaethus |
| (1, 1) 30 | I dy lywodraeth di; enciliant wrth y miloedd |
| (1, 1) 31 | O'n byddin fawr, i fyddin fach y nefoedd! |
| (1, 1) 32 | A'u heirf newyddion lawiant mor ddeheuig |
| (1, 1) 33 | Ag engyl bron,—nid oes trwy'r byd eu tebyg: |
| (1, 1) 34 | Nid oes un cythraul trwy holl uffern dywyll |
| (1, 1) 35 | Am eiliad allai yn eu gwyneb sefyll, |