| (Gwyn) Gwell i chwi gydio yn îy mraich i, Simon Jones. | |
| (Gwyn) Y mae hi dipyn yn dywyll a'r ffordd yn dolciog, | |
| (0, 1) 9 | Diolch, diolch. |
| (0, 1) 10 | 'Dyw'r hen ffenestri yma ddim cyn gliried ag y buont, frawd bach. |
| (0, 1) 11 | Mae pedwar ugain mlynedd wedi tywyllu cryn dipyn arnynt. |
| (Gwyn) Posibl, posibl. | |
| (Gwyn) 'Dyw oedran ddim yn dod wrtho ei hun. | |
| (0, 1) 14 | Nad yw, nad yw. |
| (0, 1) 15 | Dipyn yn hwp-di-hap yw hi arna i yn awr. |
| (0, 1) 16 | Ond bu gen i lygaid unwaith fel llygaid cath. |
| (0, 1) 17 | Pe byddai y nos cyn ddued a bola buwch ddu, fe ffeindiwn y ffordd i'r Ysgol Gân ac i'r Cwrdd Gweddi. |
| (Gwyn) Wel, mae yna "Heading Caled," ys dywed y coliar, o'n blaen heno, Simon Jones. | |
| (Gwyn) Mae rhyw derfysg rhyfedd ynglŷn â'r corau canu yma. | |
| (0, 1) 20 | Pup, pup. |
| (0, 1) 21 | Welais i erioed ffashwn beth: erioed ffashwn beth. |
| (0, 1) 22 | Mae y cyfan yn fflwch-di-fflach, ac yn higgle-di-pigledi. |
| (0, 1) 23 | Ydyw, gwir ddyn byw. |
| (0, 1) 24 | Bawo sut beth! |
| (Gwyn) Ydyw, mae yn dân o Dan i Beerseba. | |
| (Gwyn) Ydyw, mae yn dân o Dan i Beerseba. | |
| (0, 1) 26 | Wn i ddim faint o gythreuliaid sydd yn rhydd ar y ddaear yma, ond rwy'n credu hyn, mai y gwaethaf o'r adar duon i gyd yw "Cythraul y Canu." |
| (0, 1) 27 | Be wedwch chwi, syr? |
| (Gwyn) Un garw yw e. | |
| (Gwyn) Mae e a'i gorn neu'i big yn rhywle o hyd. | |
| (0, 1) 30 | 'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron. |
| (Gwyn) Gwir, gwir, a daeth y côr a'r lle hwn i enwogrwydd. | |
| (Gwyn) Gwir, gwir, a daeth y côr a'r lle hwn i enwogrwydd. | |
| (0, 1) 32 | Ac yr oedd y teiliwr yn arweinydd, syr. |
| (0, 1) 33 | Hynny yw, os y gallech chwi ddygymod â'i ystumiau ef. |
| (0, 1) 34 | Y gwir ag e, fe dynnai'r hen deiliwr ganu allan o byst llydiard, ac fe'i tyn ef eto. |
| (0, 1) 35 | Mae gweled y teiliwr yn arwain côr yn hala rhywbeth trwyddo chwi fel pe tae chwi mewn mashin wynegon. |
| (Gwyn) Ydi, Mae'n enaid i gyd. | |
| (0, 1) 39 | Mae'r hen frest yma'n gyfyng, fachgen. |
| (0, 1) 40 | Gadewch i ni gael anadl, a mygyn cyn myned i mewn. |
| (Gwyn) Ie, mae'n gynnar i'r cyfarfod. | |
| (0, 1) 43 | Ie, ie, a piti garw; fe ddaeth cythraul y canu i fewn i'r côr, ac fe aeth yn ffrwgwd yma fel y gwyddoch. |
| (0, 1) 44 | Ac fe gododd y côr "split" yna o dan arweiniad Telorydd, a byth oddiar cychwyniad y côr "split" mae wedi bod yn "civil war" yma. |
| (0, 1) 45 | Ydi, gwir ddyn byw. |
| (Gwyn) Nid wyf yn gallu cysoni pethau. | |
| (Gwyn) Mae arweinydd yr hên gôr ac arweinydd y cor newydd yn fechgyn rhagorol, a chyn belled ag y gwelaf fi, yn eithaf cyfeillgar â'i gilydd. | |
| (0, 1) 48 | Am Shanko'r Tilwr, arweinydd yr hen gôr, bu dim o'i well ef mewn crys erioed. |
| (0, 1) 49 | Am Telorydd, arweinydd y côr newydd, mae fel y dur, yn ben cerddor ac yn ben arweinydd cor. |
| (Gwyn) Fy marn i yw y cytunai'r arweinyddion, onibai am y dynion sydd tu ôl iddynt. | |
| (Gwyn) Fy marn i yw y cytunai'r arweinyddion, onibai am y dynion sydd tu ôl iddynt. | |
| (0, 1) 51 | Dynion! |
| (0, 1) 52 | Pup, pup. |
| (0, 1) 53 | Dywedwch 'menywod,' os daw cythraul y canu fewn i gôr, ellwch chwi fentro mai ymhlith y sopranos neu yr altos y dechreua â'i antics. |
| (Gwyn) Y nhw yw'r llestri gwannaf. | |
| (Gwyn) Y nhw yw'r llestri gwannaf. | |
| (0, 1) 55 | Mae gennyf bob parch i fenyw, cofiwch chwi. |
| (0, 1) 56 | Menyw oedd mam, a menyw oedd Nansi, fy ngwraig, ac ni fu erioed eu gwell, ond fe wnaeth menyw gawl o'r fusnes gyntaf hynny yn Eden, ac y mae'n gwneuthur cawl o bethau oddiar hynny. |
| (Gwyn) Ha! Ha! | |
| (Gwyn) Ac yn enwedig o gorau canu Simon Jones. | |
| (0, 1) 59 | Yn corddi y cyfan, syr. |
| (Gwyn) Wel, os oes côr i fynd oddiyma i'r Genedlaethol, mae'n rhaid cael trefn ar bethau'n well na hyn. | |
| (Gwyn) Wel, os oes côr i fynd oddiyma i'r Genedlaethol, mae'n rhaid cael trefn ar bethau'n well na hyn. | |
| (0, 1) 61 | Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr. |
| (Gwyn) Da iawn; gŵr da ydych chwi, Simon Jones, | |
| (Gwyn) Da iawn; gŵr da ydych chwi, Simon Jones, | |
| (0, 1) 63 | Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr. |
| (Gwyn) Ha! Ha! | |
| (Gwyn) Chwi ddwedsoch hi nawr, Simon Jones. | |
| (0, 1) 69 | Mae e mor wir â phader, syr. |
| (0, 1) 70 | Mae'r hen Simon yn myned yn hen, ond dim yn rhy hen i sylwi ar y caru yma. |
| (0, 1) 71 | Gwelais y ddau neithiwr ddiweddaf efo'i gilydd ar lwybr y Waun, ac yr oedd e yn ei chofleidio hi'n deidi. |
| (Gwyn) Chredaf fi byth. | |
| (Gwyn) Efallai mai trefnu ynghylch y gymdeithas ddiwylliadol yr oeddynt. | |
| (0, 1) 75 | Pup, pup! |
| (0, 1) 76 | Yn y fan yna 'rych chwì eto, y dyn! |
| (0, 1) 77 | Pan welwch chwi fab a merch yn cerdded ym 'mreichiau ei gilydd, ac yn aros bob rhyw gan llath i gofleidio neu gusanu, mae yna rywbeth yn y gwynt heb law siarad am y Gymdeithas Ddiwylliadol. |
| (0, 1) 78 | Chlywais i erioed sut beth. |
| (Gwyn) Ydyw'r hen bobl yn gwybod am y garwriaeth? | |
| (Gwyn) Ydyw'r hen bobl yn gwybod am y garwriaeth? | |
| (0, 1) 80 | Dim gwec. |
| (0, 1) 81 | Cyn belled ag y gwn i, na neb yn y lle ychwaith. |
| (0, 1) 82 | Maent yn gyfrwys ofnadwy efo'u caru. |
| (Gwyn) Wel, efallai mai Marged Elen fydd yn offeryn i heddychu'r corau. | |
| (Gwyn) Merch fach ragorol yw Marged Elen, onide? | |
| (0, 1) 85 | Un o'r goreuon, fachgen; un o'r goreuon. |
| (0, 1) 86 | Mae Marged Elen yn meddwl yn gyntaf ac yn siarad wedyn. |
| (0, 1) 87 | Mae llawer o'r rhocesi heddiw yn siarad yn gyntaf ac yn meddwl wedyn. |
| (Gwyn) Ydynt, ydynt, os yn meddwl o gwbl. | |
| (Gwyn) Ydynt, ydynt, os yn meddwl o gwbl. | |
| (0, 1) 89 | Rhaid i ni ymddibynnu ar Marged Elen, ynte. |
| (0, 1) 90 | Rhaid i ni dynnu ar y llinyn yna, fachgen. |
| (0, 1) 91 | Cariad ni chwymp ymaith." |
| (Gwyn) Eithaf gwir. | |
| (Gwyn) "Love never faileth." | |
| (0, 1) 95 | Ie, treiwn hi, treiwn hi. |
| (0, 1) 96 | Pwy sy yna? |
| (0, 1) 97 | Fe credais i mod i'n clywed swn. |
| (Gwyn) Do, Wil bach. | |
| (Gwyn) Efe yw ceidwad y porth heno. | |
| (0, 1) 100 | O! |
| (0, 1) 101 | Wil bach, ai ie fe? |
| (0, 1) 102 | Gynneuaist ti y gole yn y festri? |
| (Wil) Do. | |
| (Wil) Dewch i mewn. | |
| (0, 1) 105 | Wel, be sy gennyt ti i ddweud, Wil bach? |
| (0, 1) 106 | Yr wyt yn ŵr da am glecs ynghylch y corau yma. |
| (Wil) Ma hi i fod off yma heno. | |
| (Wil) Off yma heno. | |
| (0, 1) 110 | Be gest ti i feddwl hynny? |
| (0, 1) 111 | Pup, pup. |
| (Wil) Wel, mae Mari Isaac a Martha Jenkins wedi bod yn cerdded o un tŷ i'r llall drwy y dydd, a ma gwallt nhw yn sefyll ar wrych er ys amser. | |
| (Wil) Wel, mae Mari Isaac a Martha Jenkins wedi bod yn cerdded o un tŷ i'r llall drwy y dydd, a ma gwallt nhw yn sefyll ar wrych er ys amser. | |
| (0, 1) 113 | Be ti'n whalu, bachan? |
| (0, 1) 114 | Glywais i erioed sut beth! |
| (0, 1) 115 | Pup, pup. |
| (Wil) Mae Mari Isaac yn dweud os nad yw Telorydd yn cael arwain y Côr Cenedlaethol y bydd yma ddiain o row. | |
| (Wil) Mae Mari Isaac yn dweud os nad yw Telorydd yn cael arwain y Côr Cenedlaethol y bydd yma ddiain o row. | |
| (0, 1) 117 | Pup, pup. |
| (0, 1) 118 | Chlywais i erioed ffashwn beth. |
| (Wil) Martha Jenkins yn dweud os nad yw Shanko yn cael arwain y côr, y bydd "fireworks" yn y cyfarfod heno, | |
| (Wil) Martha Jenkins yn dweud os nad yw Shanko yn cael arwain y côr, y bydd "fireworks" yn y cyfarfod heno, | |
| (0, 1) 120 | Pup, pup. |
| (0, 1) 121 | Chlywais i erioed ffashwn beth. |
| (0, 1) 122 | Erioed ffashiwn beth. |