| (Isaac) A shwt ych-chi heddy, Nathanial? | |
| (Isaac) Otw, Mr. Bifan, dewch miwn. | |
| (1, 0) 447 | Wel, wel {yn chwerthin yn iachus} dyma fi yng nghanol gwersyll y gelyn. |
| (1, 0) 448 | Ha, ha, ha. |
| (1, 0) 449 | Shwt ych-chi, Nathanial? |
| (Nathaniel) {Yn sychlyd.} | |
| (Nathaniel) 'Rwy-i o'r gora. | |
| (1, 0) 455 | A shwt ma'r gwaithda yndod 'mlân? |
| (Nathaniel) Fyddwch chi fawr o dro cyn gweld a theimlo hynny. | |
| (1, 0) 458 | 'Rwy'n synnu atoch chi, Nathanial. |
| (1, 0) 459 | 'Rych-chi wedi dod yn f'erbyn i yn y lecshwn 'ma o felltith a drygioni'ch calon. |
| (1, 0) 460 | Ond druan o chi, 'dôs fawr gopath y llwyddwch-chi. |
| (Nathaniel) Dim gopath, iefa? | |
| (Nathaniel) Ho, ho, fe gewn weld! | |
| (1, 0) 464 | Nagos, dim yfflyn o opath. |
| (1, 0) 465 | Fuoch-chi eriod yn ddyn cyhoeddus, fel fi. |
| (Nathaniel) Naddo, diolch i'r mowradd, a 'dwy-i ddim am fod chwaith! | |
| (Nathaniel) Naddo, diolch i'r mowradd, a 'dwy-i ddim am fod chwaith! | |
| (1, 0) 467 | Pam ych-chi'n sefyll y lecshwn 'ma, Nathanial? |
| (1, 0) 468 | Jelosi─ha, ha, ha─jelosi; fe ffaelsoch gita'ch côr─ |
| (Nathaniel) Ffaelu, do fa! | |
| (Nathaniel) Ffaelu, do fa! | |
| (1, 0) 470 | Do. |
| (1, 0) 471 | Côr pwy enillws ym Mhen-yr-Englyn? |
| (Nathaniel) Ych côr chi, ond pwy oedd y beirniad, a ble cysgws-a y noswath cyn y gystadleuath? | |
| (Nathaniel) Ond sôn am ennill pwy enillws yng Ngraig-yr-Eos? | |
| (1, 0) 474 | Y chi─ond pwy enwad ôdd yn cynnal yr eisteddfod? |
| (1, 0) 475 | Ond sôn am ganu, pwy gas y wopor yn Hendrefadog? |
| (Nathaniel) O, chi gas y wopor, ond pwy enillws? | |
| (Tomos) A'r |bassers| led ca ar ol pawb arall. | |
| (1, 0) 479 | Ho, ho; dyna'ch barn chi. |
| (1, 0) 480 | Ta pun, fe enillas-i ddwywaith o dair, a fe'ch maedda chi eto fel |Rural District Councillor|. {Yn estyn rhaglen i NATHANIEL.} |
| (1, 0) 481 | Dyma'n |address| i. |
| (1, 0) 482 | Fe benderfynas ddod â hi mâs cyn y gnelsa chi. |
| (1, 0) 483 | Allwch chi ddim gwêd nawr mod-i wedi cymryd dim byd o'ch program chi, a wy-i am i chitha, os gwelwch chi'n dda, i bito efelychu dim o'n un inna {gyda gwên ddireidus} fel y gnithoch-chi gita'r canu. |
| (Nathaniel) Y fi yn ych efelychu chi, ys clwas-i shwt gownt eriod. | |
| (Nathaniel) Allwch-chi brofi 'na Siencyn? | |
| (1, 0) 486 | Galla'n rhwydd, a dyma'r tyst {gan gyfeirio af ISAAC}. |
| (1, 0) 487 | Isaac, nawr 'rwy-i am i chi gyfadda'r gwir, sawl gwaith y buoch chi'n gwrando ar y slei o dan ffenast Carmal ar 'y nghôr-i'n canu? |
| (Isaac) Y fi! | |
| (Isaac) Gofalwch be 'chi'n wêd, Mr. Bifan, ne fe fynna'r gyfrath arnoch-chi, am slander a |damages|. | |
| (1, 0) 490 | Ddwseni o witha. |
| (1, 0) 492 | O ble cesoch-chi'r syniad o ddwbwl |piano| yn "Worthy is the Lamb ─oddiwrtho-i, Nathanial, odd'wrtho i. |
| (Nathaniel) A ffordd cesoch chitha'r syniad i |portamento| yn "Thanks be lo God." | |
| (Nathaniel) Wrth ddoti dyn i wrando o dan ffenast capal Sion! | |
| (1, 0) 496 | Ha, ha, ha─fe fuws 'na ddyn yn gwrando o dan ffenast ych capal chi, ond nid fi helws-a. |
| (1, 0) 497 | Wyddoch-chi beth wetws-a ar ol dod 'nol? |
| (Nathaniel) Na wn-i a dos dim ots gen-i chwaith. | |
| (Nathaniel) Na wn-i a dos dim ots gen-i chwaith. | |
| (1, 0) 499 | Wel, gofynnwch i Tomos Jones ych cefnocydd politicadd mwya chi. |
| (1, 0) 500 | Dyna'r dyn fuws dan y ffenast. |
| (1, 0) 501 | Beth wetsoch-chi, Tomos, otych-chi'n cofio? |
| (Tomos) A dyma'r diolch 'rwy'n gâl am gisho neud cymwynas â chi! | |
| (Tomos) A dyma'r diolch 'rwy'n gâl am gisho neud cymwynas â chi! | |
| (1, 0) 503 | Wyddoch-chi beth wetws-a, Nathanial─nag odd 'na ddim byd yn ych hen ganu chi! |
| (Nathaniel) {Yn troi yn chwim at TOMOS JONES.} | |
| (1, 0) 517 | Sawl gwaith wy-inna wedi gofyn i ti atal y merched yn llonydd. |
| (1, 0) 519 | Nawr, darllenwch yr |address| yna, a gofalwch na chymrwch-chi ddim |points| odd'wrthi. |
| (Tomos) 'Ryn-ni wedi'i darllan hi'n barod, a 'dos 'na ddim yndi'n werth cymryd. | |
| (Nathaniel) Ma gen-i ddicon o |boints| i'ch maeddu chi'n rhwydd. | |
| (1, 0) 522 | Nagos, fyth yn ych bywyd, Nathanial. |
| (1, 0) 523 | Ma 'mhwyllgor i wedi pwyso petha'n ofalus. |
| (1, 0) 524 | Ma gen-i fantas o 30 o fôts, o leia, yn y petwar capal, a fe gaf y rhan fwya o fôts gwŷr yr eclws. |
| (Nathaniel) Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld! | |
| (Nathaniel) Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld! | |
| (1, 0) 527 | Am wn-i na chaf-fi nhw i gyd, wâth ych-chi wedi bod mor afresymol ynglŷn â'r Datgysylltiad a'r Dadwaddoliad. |
| (Criwr) {Yn uchel.} | |
| (1, 0) 537 | Beth yw hyn, Nathanial! |
| (1, 0) 538 | 'R ych chi wedi bradychu egwyddorion mawr Rhyddid a Chydraddoldeb crefyddol, 'r ych-chi wedi gwerthu'ch henad am saig afiach o fôts. |
| (1, 0) 539 | Ond fe'ch maedda chi, gnaf! |
| (1, 0) 540 | Fe fydd ych hanas chi'n destun drewllyd ar bob aelwyd yn y plwyf, a fe'ch cospir chi'n dragwyddol am fargan yr hen fuwch ddu! |