| (Dug) Antonio yma eisoes! | |
| (Dug) Disgwyliwn, Iddew, bawb am ateb mwyn. | |
| (4, 0) 37 | Rhoddais i'ch gras wybodaeth am fy mwriad; |
| (4, 0) 38 | A myn ein Sabath sanctaidd tyngais lw |
| (4, 0) 39 | Y mynnwn hawlio fforffed fy nghyfamod. |
| (4, 0) 40 | Os gwadu hyn a fynnwch, bydded gwarth |
| (4, 0) 41 | Ar siarter Fenis ac ar freiniau'ch dinas. |
| (4, 0) 42 | Diau yr holwch pam y mynnwn i |
| (4, 0) 43 | Ryw bwys o gelain gnawd, yn lle tair mil |
| (4, 0) 44 | O bunnoedd melyn. Nid atebaf hyn. |
| (4, 0) 45 | Bwriwch mai dyna fy mympwy.—A'ch atebwyd? |
| (4, 0) 46 | Pe blinid cartref dyn gan lygoden fawr |
| (4, 0) 47 | Ac yntau'n dewis rhoi deng mil o bunnoedd |
| (4, 0) 48 | Ameigwenwyno! A atebwyd chwi? |
| (4, 0) 49 | Mae dynion na oddefant fochyn rhwth. |
| (4, 0) 50 | Eraill â'n wallgof,—dim ond gweled cath; |
| (4, 0) 51 | A dyma f' ateb i'ch gofyniad chwi. |
| (4, 0) 52 | Megis nad ocs un rheswm teg i'w roddi |
| (4, 0) 53 | Pam na oddefa'r naill weld mochyn rhwth, |
| (4, 0) 54 | Na'r llall y gath ddiniwed, angenrheidiol, |
| (4, 0) 55 | Ni allaf roddi rheswm, ac ni fynnaf, |
| (4, 0) 56 | (Heblaw casineb pendant a ffieidd-dod |
| (4, 0) 57 | At yr Antonio hwn),—dros yrru ymlaen |
| (4, 0) 58 | Ryw achos coll i'w erbyn: A'ch atebwyd? |
| (Bassanio) Nid ateb ydyw hyn, ddidostur ŵr, | |
| (Bassanio) Nac esgus chwaith dros ddylif dy greulondeb. | |
| (4, 0) 61 | Nid rhaid i'm hateb ryngu bodd i ti. |
| (Bassanio) A ladd pob dyn y pethau a'r nis câr? | |
| (4, 0) 64 | Ai cas gan neb y peth ni fynnai'i ladd? |
| (Bassanio) Ond nid casineb ydyw crud pob tramgwydd. | |
| (4, 0) 67 | A fynnit frathiad ddwywaith gan 'r un sarff? |
| (Bassanio) Yn lle tair mil o bunnoedd, dyma chwech. | |
| (4, 0) 83 | Petai pob punt o blith dy chwe mil punnoedd |
| (4, 0) 84 | Yn chwech o ddarnau a phob darn yn bunt, |
| (4, 0) 85 | Ni fynnwn monynt.—Mynnwn fy nghyfamod. |
| (Dug) Pa fodd y cei drugaredd yn y farn? | |
| (Dug) Pa fodd y cei drugaredd yn y farn? | |
| (4, 0) 87 | Pa farn sy'n fraw i mi na wneuthum ddrwg? |
| (4, 0) 88 | Mae gennych yn cich dinas gaethion lu, |
| (4, 0) 89 | A'r rhain (yn union fel eich cŵn a'ch mulod), |
| (4, 0) 90 | A ddarostyngwch i bob isel swydd |
| (4, 0) 91 | Am ddarfod ichwi eu prynu.—A ddwedaf fi |
| (4, 0) 92 | "Rhyddhewch hwy'n awr i briodi eich aeresau? |
| (4, 0) 93 | Paham y chwysant o dan feichiau? Boed |
| (4, 0) 94 | Eu gw'lâu yn esmwyth, megis chwi; diwaller |
| (4, 0) 95 | Eu harchwaeth â'r un bwydydd". Oni ddwedech |
| (4, 0) 96 | "Ni biau'n caethion".—Dyna f'ateb i. |
| (4, 0) 97 | Y pwys o gnawd a fynnaf ganddo ef, |
| (4, 0) 98 | 'Fi biau hwn. Fe'i prynais, do, yn ddrud. |
| (4, 0) 99 | Ac os gwrthodwch fi, naw wfft i'ch deddf. |
| (4, 0) 100 | Nid erys grym yng nghorff cyfreithiau Fenis. |
| (4, 0) 101 | Tros farn y safaf. Dwedwch—a gaf fi farn? |
| (Dug) O dan fy hawl, gallwn ohirio'r llys | |
| (Bassanio) Paham yr hogi'r gyllell yna'n ddyfal? | |
| (4, 0) 123 | I dorri'r fforffed o'r methdalwr acw. |
| (Bassanio) Nid ar dy wadn ond ar dy wydn enaid | |
| (Bassanio) Â'th lym genfigen.—Ocs un plê a'th gyffwrdd? | |
| (4, 0) 128 | Dim un y gwyddost ti y ffordd i'w wneud. |
| (Gratiano) Y diawl a'th gipio, gorgi anghymodlon! | |
| (Gratiano) Fel nwydau blaidd newynog, gwaedlyd, rheibus. | |
| (4, 0) 140 | Nes tawdd dy ddwrdio'r sêl ar fy nghyfamod, |
| (4, 0) 141 | Ofer it weiddi hyd ddolurio'r 'sgyfaint, |
| (4, 0) 142 | Trwsia dy synnwyr bellach, fachgen glân, |
| (4, 0) 143 | Y mae'n dadfeilio. Safaf ar y ddeddf. |
| (Dug) Mae'r llythyr gan Belario yn cyflwyno | |
| (Portia) | |
| (4, 0) 176 | Shylock, ie. |
| (Portia) Rhyw gyngaws rhyfedd ydyw hwn sydd gennyt, | |
| (Portia) Felly rhaid i'r Iddew drugarhau. | |
| (4, 0) 185 | Yn rhaid? Tan ba orfodaeth, dwedwch im. |
| (Portia) Nid yw trugaredd tan orfodaeth neb. | |
| (Portia) Gyhoeddi barn ar y marsiandwr hwn. | |
| (4, 0) 209 | Boed fy ngweithredoedd ar fy mhen fy hun. |
| (4, 0) 210 | Hawliaf y ddeddf, hyd eithaf ei llythyren. |
| (Portia) Ai methu â thalu'r swm yn ôl y mae? | |
| (Portia) I gnoi'r wladwriaeth. Na, ni ellir hyn. | |
| (4, 0) 226 | Daniel a ddaeth i'r frawdle, ie, Daniel! |
| (4, 0) 227 | O farnwr ifanc, anrhydeddaf di. |
| (Portia) Atolwg, rhowch im weled y cyfamod. | |
| (Portia) | |
| (4, 0) 230 | Ar unwaith, ddoethawr parchus. Dyma fo. |
| (Portia) Shylock, cynigir it dair gwaith y swm. | |
| (Portia) Shylock, cynigir it dair gwaith y swm. | |
| (4, 0) 232 | Mae gennyf lw; llw, llw i'r nef; |
| (4, 0) 233 | A dyngaf fi anudon yn eich llys? |
| (4, 0) 234 | Na wnaf er Fenis. |
| (Portia) Fforffed yw'r cyfamod. | |
| (Portia) Cymer dy arian. Gad im rwygo hwn. | |
| (4, 0) 240 | Pan delir ef yn gyflawn i'r llythyren. |
| (4, 0) 241 | Mae'n eglur iawn mai barnwr teilwng wyt. |
| (4, 0) 242 | Gwyddost y gyfraith, ac fe fu d'esboniad - |
| (4, 0) 243 | Yn gywir iawn. Hawliaf ar bwys y ddeddf, |
| (4, 0) 244 | Yr wyt yn golofn mor urddasol iddi, |
| (4, 0) 245 | — Ymlaen â'r ddedfryd! Canys ar fy llw |
| (4, 0) 246 | Nid oes un rhinwedd fyth yn nhafod dyn |
| (4, 0) 247 | I'm newidi. Safaf ar fy nghyfamod. |
| (Antonio) Erfyniaf innau'n daer ar fod i'r llys | |
| (Portia) Rhaid it ddinoethi'r fron yn awr i'w gyllell. | |
| (4, 0) 252 | O farnwr urddawl! O ŵr ifanc gwych! |
| (Portia) Canys y mae holl amcan grym y ddeddf | |
| (Portia) Sydd yn ddyledus yn yr ysgrif hon. | |
| (4, 0) 256 | Cywir, bob gair, O farnwr doeth a da! |
| (4, 0) 257 | A chymaint hŷn yr ydwyt ti na'th olwg! |
| (Portia) Felly di-noetha di dy fron. | |
| (Portia) Felly di-noetha di dy fron. | |
| (4, 0) 259 | Ie'i fron, |
| (4, 0) 260 | Medd y cyfamod, farnwr, onid e? |
| (4, 0) 261 | "Gerllaw ei galon", onid dyna'r gair? |
| (Portia) Yn union. A oes clorian yma i bwyso | |
| (Portia) Ei gnawd? | |
| (4, 0) 264 | Mae'n barod eisoes gennyf, farnwr. |
| (Portia) Tâl am wasanaeth meddyg, Shylock, erddo, | |
| (Portia) I drin ei glwyf rhag gwaedu i farwolaeth. | |
| (4, 0) 267 | Oes sôn yn y cyfamod am wncud hyn? |
| (Portia) Nac oes, ond beth am hynny? Byddai'n dda | |
| (Portia) Pe gwnaethit gymaint o gymwynasgarwch. | |
| (4, 0) 270 | Ni wclaf air o sôn yn y cyfamod. |
| (Portia) Tydi, farsiandwr, oni ddwedi ddim? | |
| (4, 0) 304 | Ffyddlondeb gwŷr Cristnogol! Mae gennyf ferch,— |
| (4, 0) 305 | Gan Dduw na byddai un o hil Barabas |
| (4, 0) 306 | Yn briod iddi o flaen gŵr o Gristion! |
| (4, 0) 307 | Gwastraff ar amser prin! Ymlaen â'r ddedfryd! |
| (Portia) Ein dedfryd yw: Ti biau'r pwys o gnawd, | |
| (Portia) —Trwy farn y llys, a chaniatâd y gyfraith. | |
| (4, 0) 310 | O farnwr teg! |
| (Portia) Mae'n rhaid it dorri'r cnawd oddi ar ei fron, | |
| (Portia) —Trwy farn y llys a chaniatâd y gyfraith. | |
| (4, 0) 313 | O farnwr doeth! Tyred, ymbaratô. |
| (Portia) Aros am ennyd! Y mae un peth mwy. | |
| (Gratiano) O farnwr teg!—Clyw, Iddew! O farnwr doeth! | |
| (4, 0) 323 | Ai dyna'r gyfraith? |
| (Portia) Darllen hi dy hun. | |
| (Gratiano) O farnwr doeth! Clyw, Iddew! O farnwr doeth! | |
| (4, 0) 328 | Derbyniaf ynteu'i gynnig. Telwch im |
| (4, 0) 329 | Deirgwaith y swm, a gedwch iddo fynd. |
| (Bassanio) Naw mil o bunnoedd. Dyma'r cyfri'n llawn. | |
| (Portia) Pam y petrusa'r Iddew? Mynn dy fforffed. | |
| (4, 0) 346 | Rhowch imi'r tair mil, a gadewch im fynd. |
| (Bassanio) Mae'r arian gen i'n barod. Dyma 'nhw. | |
| (Portia) Cyfiawnder iddo bellach a'i gyfamod! | |
| (4, 0) 350 | Oni chaf hyd yn oed y swm di-log? |
| (Portia) Ni chei di ddim ond y pwys cnawd fforffediwyd, | |
| (Portia) A chymer hwnnw ar boen dy einioes, Iddew. | |
| (4, 0) 353 | Os felly, rhoed y diawl hwyl iddo arno. |
| (4, 0) 354 | Ni thariaf yma i'm holi. |
| (Portia) Eto, arhô! | |
| (Portia) O ran y dref,—ac nid o ran Antonio. | |
| (4, 0) 383 | Na; ewch â'm heinioes. Ewch â'r cyfan. Ewch! |
| (4, 0) 384 | Aethoch â'm tŷ pan aethoch chwi â'r golofn |
| (4, 0) 385 | Sy'n dal fy nhŷ; do, aethoch chwi â'm bywyd |
| (4, 0) 386 | Pan aethoch chwi â'r modd oedd genny' i fyw. |
| (Portia) Antonio, pa drugaredd a roit ti iddo? | |
| (Portia) A wyt ti'n fodlon, Iddew? Beth a ddwedi? | |
| (4, 0) 404 | 'R wy'n fodlon. |
| (Portia) Glerc, tynn allan ffurf o weithred. | |
| (Portia) Glerc, tynn allan ffurf o weithred. | |
| (4, 0) 406 | Atolwg, caniatewch i mi fynd ymaith: |
| (4, 0) 407 | Nid wyf yn dda; danfonwch hi ar f'ôl |
| (4, 0) 408 | Ac fe'i harwyddaf. |